Eitem Rhaglen

Cesiadau'n Codi

7.1 – FPL/2020/195 – Caffi Sea Shanty, Lon St Ffraid, Bae Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Mj7sXUAR/fpl2020195?language=cy

 

7.2 – FPL/2019/217 – Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000JsykpUAB/fpl2019217?language=cy

 

7.3 – VAR/2020/66 – Yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAksnUAD/var202066?language=cy

 

Cofnodion:

7.1  FPL/2020/195 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu gan gynnwys ardal wedi'i decio, gwaith cysylltiedig a mesurau lliniaru yng Nghaffi Sea Shanty, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir sy'n eiddo i'r Cyngor. 

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Philip Brown (ymgeisydd) mai’r elfen sydd ychydig yn ddadleuol ynglŷn â’r cynnig yw’r cais i ymestyn yr ardal awyr agored dri medr i'r gorllewin. Nododd y byddai'n canolbwyntio ar hynny a gobeithio y byddai'n rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor:-

 

1.            Bod yr ardal wedi’i decio sy’n cael ei hymestyn yn gymedrol ac yn rhesymegol, mae'n fater o gwblhau yn hytrach nag ymestyn. Mae'n golygu ein bod yn adfer rhywfaint (ond nid y cyfan o bell ffordd ) o'r capasiti rydym wedi'i golli drwy osod byrddau’n bellach oddi wrth ei gilydd.

2.            Mae'r rhan a ddefnyddir o'r twyni tywod mor fach fel ei fod yn dechnegol yn hytrach na ffisegol. Dim ond 2.8 metr ciwbig o dywod pridd y bydd angen ei dynnu â llaw a bydd yn cael ei adleoli ar ochr y twyni sydd wedi erydu.

3.            Mae'r gwaith adeiladu'n cael ei wneud yn gyfan gwbl o bren heb ei beintio. Ni ddefnyddir unrhyw goncrit na cherrig o unrhyw fath fel y bydd modd newid y cynllun i’r cyflwr gwreiddiol unrhyw bryd heb unrhyw effaith.

4.            Bydd modd gosod pum bwrdd newydd ar gyfer pedwar, ac un bwrdd newydd ar gyfer chwech yn yr ardal newydd. Ychwanegiad cymedrol ond defnyddiol iawn i'r cyfleusterau a gynigiwn a lle newydd pleserus a chysgodol i'n cwsmeriaid eistedd yn ddiogel.

5.            Bydd y cynllun yn defnyddio stribed 3m o dir blêr nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Bydd yn troi llwybr mynediad bengaead at wasanaeth yn ardal awyr agored daclus a chwaethus sy'n gweddu i'w hamgylchedd. Mae ein hadeilad presennol yn dangos ein harbenigedd yn hyn o beth.

6.            Yn olaf, rwy’n awyddus i’ch sicrhau NAD 'troed yn y drws' yw hwn. Ni fyddwn yn dod ar eich gofyn ymhen ychydig flynyddoedd yn chwilio am 3m arall. Byddai gwneud hynny'n amhriodol ym mhob agwedd. Nid oes neb yn deall hyn yn fwy na mi.

 

Nid oes rhaid i ni ddweud wrthych ba mor arw y mae ein diwydiant a'n gwlad wedi cael eu heffeithio gan Covid. Ers mis Mawrth y llynedd, bu’r Sea Shanty yn masnachu am saith wythnos yn unig. Rydym wedi benthyca'n helaeth i gadw i fynd a bydd yn rhaid inni barhau i gau am lawer hirach na'r disgwyl yn wreiddiol. Nid oes yr un o'n 71 aelod o staff wedi cael eu diswyddo a gyda'ch cymorth chi, ni fydd hynny’n digwydd. Bydd y cynigion hyn yn ein helpu i ad-dalu benthyciadau, cadw swyddi, dyma ein ffordd fach ni o helpu i ailadeiladu'r economi leol ac ail-lenwi’r coffrau cyhoeddus gwag. Mae'r cynllun o fudd i bawb ac am y rhesymau hyn, gofynnwn am eich cymeradwyaeth ar gyfer y cynllun datblygu economaidd mwyaf rhesymegol a chymedrol hwn, a chredwn ein bod yn haeddu sêl bendith.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod a wnelo’r cais ag estyniad i'r caffi a darparu ardal deciau a fydd yn ymestyn i dwyni tywod gerllaw.  Bydd y cais yn darparu lle eistedd ychwanegol y tu allan i fodloni mesurau cadw pellter cymdeithasol oherwydd y pandemig presennol er mwyn cadw'r busnes a lliniaru refeniw a gollir.  Dywedodd fod yr ardal o fewn ardal perygl llifogydd C2 ac o ran profion polisi TAN 15, nid yw'r datblygiad yn cydymffurfio â'r holl feini prawf gofynnol.  Mae nifer o wrthwynebiadau lleol i'r cais o ran colli twyni tywod ynghyd â phryderon ynghylch peryglon llifogydd.  Nododd fod llythyrau cymorth pellach wedi dod i law yn cefnogi’r cais.  Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach fod y cais wedi'i ohirio yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn ar sail ecolegol, materion lliniaru a'r effaith bosibl ar fadfallod.  Bydd y cais yn golygu y collir rhai o'r twyni tywod.  Nododd fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r datblygwr ynglŷn â'r datblygiad a bod mesurau lliniaru llawn a chynllun ecolegol wedi dod i law a'u bod yn dderbyniol i'r ymgyngoreion statudol.  Mae dyletswydd statudol i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth leol ac mae trafodaethau wedi'u cynnal i fodloni'r ystyriaethau ecolegol hyn.  Mae atodiad wedi'i ddiweddaru i'r adroddiad ecolegol yn cynnwys mesurau monitro a gwella mewn perthynas â’r twyni tywod wrth ymyl y datblygiad sydd hefyd wedi'u cynnwys yn ardal llinell goch safle’r cais sy'n cynnwys symud tywod a thyfiant o fewn yr ardal deciau i wella'r amgylchedd. Mae bwriad i godi ffens i reoli mynediad cyhoeddus i'r twyni gan fod llwybrau ar hyn o bryd drwy'r twyni sy'n niweidio'r cynefin. Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu yr wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad y Swyddog bod cadarnhad wedi dod i law mai'r ymgeisydd yw perchennog yr eiddo cyfagos ac felly ni fydd angen amod 3 yn yr adroddiad.  Gan nad oes gwrthwynebiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ran peryglon llifogydd a mater ecolegol, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.  Fodd bynnag, nid yw'r ymgynghoriad statudol ynglŷn â'r dystysgrif berchnogaeth ddiwygiedig, Asesiad Canlyniadau Llifogydd atodol a Datganiad Iaith Gymraeg yn dod i ben tan 11 Mawrth, 2021 a gofynnodd i'r Swyddogion gael pŵer i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, aelod lleol fod gan Gyngor Cymuned Trearddur bryderon a'u bod yn gwrthwynebu'r cais. Nododd fod yr ymgyngoreion statudol yn cefnogi'r cais ac na fydd unrhyw ddifrod amgylcheddol i'r twyni a chynefin y madfallod.   Mae llifogydd yn bryder yn ardal Bae Trearddur a threfnwyd cyfarfod rhwng Cyngor Cymuned Trearddur a'r Cyngor Sir a'r gobaith yw y gellir trefnu cyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol. Mae problemau traffig yn peri pryder yn yr ardal pan fo nwyddau’n cael eu danfon i siopau cyfagos a'r caffi.   Dywedodd y Cynghorydd  Thomas fod angen gwella'r Gymraeg yn y caffi o ran y bwydlenni, yr arwyddion a'u gwefan.  Nododd ei fod yn cefnogi'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith fod yr adroddiad yn nodi bod gan y Swyddog Ecolegol ac Amgylcheddol bryderon ynghylch colli twyni tywod a'r effaith bosibl ar fadfallod.  Holodd hefyd p’un ai a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi'r cais.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Adran Ddraenio wedi cyflwyno unrhyw wrthwynebiad gan mai dim ond rhan fach o dwyni tywod a gaiff ei symud ac na fydd hynny’n cael effaith andwyol ar lifogydd. Dywedodd fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r datblygwr a'r Swyddog Ecolegol ac Amgylcheddol o ran mesurau lliniaru a bod y rhain yn dderbyniol.  Gan fod rhan o'r twyni tywod ym mherchnogaeth yr awdurdod lleol bydd angen i'r datblygwr brydlesu'r tir hwnnw. 

 

Mynegodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE ac aelod lleol fod pryderon lleol ynglŷn â'r datblygiad a nododd fod Cyngor Cymuned Trearddur yn gwrthwynebu’r cais.  Dywedodd fod problemau parcio ceir yn yr ardal a phryderon ynglŷn â materion llifogydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo'r cais ac eilodd y Cynghorydd R O Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatau'r cais ac ar ôl i’r ymgynghoriad statudol ddod i ben, rhoi pŵer i'r Swyddog weithredu ar y dystysgrif berchnogaeth ddiwygiedig, Asesiad Canlyniadau Llifogydd atodol a Datganiad Iaith Gymraeg

 

7.2  FPL/2019/217 – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir gerllaw Ystâd Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod ar 13 Ionawr, 2021 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle.  Yna cynhaliwyd ymweliad rhithiwr â'r safle ar 20 Ionawr 2021. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021 penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, aelod lleol ei bod yn bwysig nodi bod dogfen ‘Dyfodol Cymru’ wedi'i chyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf a chyfeiriodd at baragraff yn y ddogfen sy'n nodi '.. Wynebwn argyfwng hinsawdd sy'n trawsnewid ein hamgylchedd ac yn cael effaith uniongyrchol ar gymunedau; rydym mewn argyfwng ecolegol, lle mae'r penderfyniadau y mae pobl yn eu gwneud, a'r ffordd y maent yn ymddwyn, yn niweidio cadernid ecosystemau

a rhywogaethau; rydym wedi dioddef effeithiau pandemig iechyd bydeang a rhaid inni ailfywiogi'r economi mewn ffordd gynaliadwy.’  Dywedodd hefyd fod y Cyngor Sir wedi mabwysiadu Cynllun Bioamrywiaeth ym mis Ionawr 2021 sy'n golygu bod yn rhaid i'r awdurdod lleol weithredu o fewn Deddf Amgylcheddol 2016 (Adran 6) a rhaid i'r Awdurdod ystyried yr effeithiau ar yr amgylchedd naturiol. Dywedodd y Cynghorydd  Williams ymhellach ei fod yn credu bod gohebiaeth wedi dod i law gan y datblygwr sy'n nodi nad oes unrhyw safleoedd addas eraill yn Benllech ar gyfer datblygiad o'r fath.  Nododd fod 11 o safleoedd posibl yn ardal Benllech yn y Cynllun Datblygu Lleol.  Parth natur yw'r cais hwn ac mae safleoedd mwy priodol yn Benllech ar gyfer datblygiad o'r fath.  Ni fyddai'n ofynnol cael gorsaf bwmpio pe bai'r safle posibl arall wedi'i ddewis i'w ddatblygu.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Margaret Roberts, aelod lleol ei bod yn gefnogol i dai fforddiadwy ond nid yw'r safle hwn yn addas oherwydd natur y safle a bod dyletswydd ar yr Awdurdod i ddiogelu gwlyptiroedd/tir cors sy'n hanfodol ar gyfer cynefin bywyd gwyllt. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Griffith at adroddiad y Swyddog a gohebiaeth gan yr ymgeisydd y bydd tir y cais yn dirywio ymhellach a holodd a oedd yn bosibl cymryd y tir drosodd i ddiogelu'r gors wlyb.   Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd  Ieuan Williams fod y Cynllun Bioamrywiaeth yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i ddiogelu'r cynefinoedd hyn.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer 17 uned gymysg o dai fforddiadwy ar ran o safle dynodedig lleol mewn ardal AHNE.  Mae'r safle wedi’i ddynodi’n lleol fel dynodiad bywyd gwyllt ac yn y cyfarfod diwethaf cyfeiriwyd at ohebiaeth fod y tir wedi'i esgeuluso dros y blynyddoedd oherwydd diffyg rheolaeth.  Byddai safle’r datblygiad yn mynd â 13.5% o'r safle dynodedig sy’n cael ei ystyried fel y tir salaf.  Byddai angen cynllun rheoli i sicrhau dyfodol y safle sy'n weddill.  Dywedodd ymhellach, tra bod y tir yn parhau i ddirywio, nad oes gan yr awdurdod cynllunio yr awdurdod i fynnu ei fod yn cael ei reoli'n briodol.  Mae'r cais wedi'i gyflwyno fel safle eithriedig ar gyfer tai fforddiadwy ac mae wedi'i asesu a'i ganfod yn dderbyniol yn unol â pholisïau tai. Wrth ddatblygu'r cais nodwyd nifer o safleoedd ond ni chynigiwyd eu mabwysiadu na'u cynnig i gael eu cynnwys yn y CDLl ar y Cyd.  Mae angen tai fforddiadwy yn yr ardal ac nid oes unrhyw safleoedd eraill sy'n cydymffurfio â pholisïau a'r argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Holodd y Cynghorydd Dafydd Roberts a yw'r Cynllun Bioamrywiaeth yn ystyriaeth gynllunio wrth asesu ceisiadau cynllunio.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y Cynllun Bioamrywiaeth yn cael ei ystyried yn Rhan 6 o Ddeddf yr Amgylchedd 2016 wrth ystyried ceisiadau.   Dywedodd y Cynghorydd  Roberts ymhellach y byddai rhan o safle bywyd gwyllt yn cael ei cholli fel rhan o'r cais hwn.  Er yr adroddwyd y byddai'r cynllun rheoli yn diogelu gweddill y tir, cwestiynodd pa sicrwydd y gellir ei roi i sicrhau y caiff y tir ei gynnal a'i gadw ac i sicrhau bioamrywiaeth a diogelu'r bywyd gwyllt ar y safle ac a fydd adroddiad blynyddol yn cael ei baratoi ar reoli'r tir. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cytundeb adran 106 yn sicrhau y gwneir gwaith monitro drwy arolygon llystyfiant. Gellir cynnwys cynllun rheoli a monitro gydag amodau cynllunio ynghlwm wrth unrhyw gymeradwyaeth i'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes bod angen lleol am dai fforddiadwy a bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid cymeradwyo'r cais. Eiliodd y Cynghorydd Eric W Jones y cynnig gan fod angen tai fforddiadwy fel y nodir yn y polisïau cynllunio. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ailddatgan y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais.  Eiliodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cynnig. 

 

Yn dilyn y bleidlais a gyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd:-

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn ddarostyngedig i’r amodau sydd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3  VAR/2020/66 - Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (10) (Sgrin gwydr aneglur) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/134 (Codi 88 fflat) yn hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau aelod lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i wrthod yn y cyfarfod diwethaf yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd lefel annerbyniol o edrych dros yr eiddo cyfagos.  Nododd fod amod cynllunio wedi'i osod fel rhan o'r cais gwreiddiol y dylid codi paneli gwydr aneglur ar falconïau'r llawr cyntaf a'r ail lawr ar ddrychiad gorllewinol y cais sy'n rhan o fflatiau 6 ac 8.  Mae cais nawr i ddileu amod (10) i ddileu'r angen am wydr aneglur.  Rhoddwyd lluniau o'r safle i'r Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf ac mae'r eiddo cyfagos bellach wedi cael caniatâd cynllunio i godi uchder eu garej a byddai hyn yn lleihau unrhyw orderych ymhellach ac yn creu sgrin.  Yr argymhelliad o hyd yw caniatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, ac aelod lleol ei fod wedi cynnig y dylid gwrthod y cais yn y cyfarfod diwethaf, ac nid yw'n cytuno nad oes unrhyw oredrych.  Dywedodd hefyd fod y datblygwr yn gosod gwydr aneglur ar y fflatiau uwchben y ddau fflat yma.   Cynigiodd y Cynghorydd  Robin Williams ailddatgan y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais. Eiliodd y Cynghorydd  K P Hughes y cynnig i wrthod.

 

PENDERFYNWYD ailddatgan y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais.

 

Dogfennau ategol: