Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – FPL/2021/1- Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCVUsUAP/fpl20211?language=cy

 

12.2 – LBC/2021/1- Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCWppUAH/lbc20211?language=cy

 

12.3 – FPL/2020/164 – Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpVUAV/fpl2020164?language=cy

 

Cofnodion:

12.1  FPL/2021/1 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad rhestredig i fod yn 4 fflat llety cymdeithasol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau ym Mhlas Alltran, 3 Turkey Shore Road, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi'i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais yw hwn i adnewyddu'r adeilad presennol yn 4 fflat llety cymdeithasol mewn Adeilad Rhestredig Gradd II.  Mae'r adeilad wedi bod yn wag ac nid yw wedi cael ei ddefnyddio ers nifer o flynyddoedd.  Mae lleoliad yr adeilad o fewn safle amlwg ger porthladd Caergybi.  Nododd fod un llythyr yn gwrthwynebu'r cais wedi dod i lawr ond mae'n dderbyniol o fewn ei gyd-destun ac mae'n dderbyniol i Gyngor Tref Caergybi.  Fodd bynnag, mae'r safle yn rhannol o fewn parth C2 lle nad yw creu unedau preswyl newydd, neu gynnydd yn y ddarpariaeth o unedau preswyl, yn dderbyniol yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi gwrthwynebu'r cais ac mae trafodaethau'n parhau ynglŷn â’r cais. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach mai creu 4 fflat yw'r ddarpariaeth leiaf bosibl yn yr adeilad. Ystyrir bod hwn yn gyfle unigryw i adfer yr adeilad.  Ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol yn amodol ar drafodaethau ffafriol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn lliniaru cynigion cyn rhoi caniatâd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fod angen dod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd ond mae pryderon ynglŷn â thraffig trwm ger y safle. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes fod hwn yn adeilad unigryw a bod angen ei adnewyddu. Cynigiodd y Cynghorydd  Haynes y dylid caniatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau sydd yn yr adroddiad ysgrifenedig unwaith y cytunwyd ar fesurau lliniaru derbyniol i ddelio â gwrthwynebiad Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

12.2  LBC/2021/1 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer addasu adeilad rhestredig sydd wedi’i adael i fod yn 4 fflat llety cymdeithasol, dymchwel rhan o’r adeilad a chodi estyniad yn ei le ynghyd â gwaith allanol a mewnol ym Mhlas Alltran, 3 Turkey Shore Road, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi'i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig gan mai'r awdurdod lleol yw'r ymgeisydd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cyfeirio'r cais at Lywodraeth Cymru am Ganiatâd Adeilad Rhestredig.

 

12.3  FPL/2020/164 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau ynghyd ag addasu ac ehangu ym Mwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Rhys Davies (asiant yr ymgeisydd) fod y cais hwn yn ymwneud â newid defnydd ar gyfer addasu adeilad allanol yn uned wyliau ynghyd ag addasu ac ehangu yn Lleiniog, Penmon, Biwmares.

 

Dywed y pwyllgor mai'r prif ystyriaethau cynllunio yw – a yw'r cais yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol yn y cynllun datblygu lleol ac a yw'r dyluniad yn dderbyniol o ran ei ddyluniad a’i edrychiad o ystyried ei leoliad a’i statws rhestredig mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dynodedig.  

Yn gyntaf, yn yr achos hwn, y brif ystyriaeth yw effaith y datblygiad ar nodweddion a chymeriad yr adeilad rhestredig - erbyn hyn mae'r caniatâd adeilad rhestredig wedi'i gymeradwyo ar gyfer y gwaith - gan Gyngor Sir Ynys Môn fel yr Awdurdod Cynllunio yn ogystal â CADW. Mae'n amlwg ei fod felly'n ddatblygiad derbyniol o safbwynt adeilad rhestredig.  Wrth ystyried materion cynllunio eraill - mater a godir yn aml ar geisiadau tebyg p’un ai a yw'r datblygiad yn gynaliadwy. Yn yr achos hwn, mae adroddiad y pwyllgor yn cadarnhau bod y safle'n agos at safle bws. Mae llwybr uniongyrchol sy'n mynd o Lleiniog i ganol Llangoed. Hefyd, mae'r safle'n agos at Lwybr Arfordir Cymru a llwybrau cyhoeddus eraill sy'n darparu cysylltiadau da ag aneddiadau cyfagos, yr arfordir a chefn gwlad yn ehangach. Felly, mae'r safle mewn lleoliad cynaliadwy o ran mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau ac amwynderau. Rhaid cofio hefyd bod yr adeiladau hyn o bwysigrwydd hanesyddol a heb ganiatâd i gael eu defnyddio fel unedau gwyliau - mae'n debygol y bydd yr adeilad yn dirywio ymhellach. Bydd y cais hwn yn dod ag adeilad presennol yn ôl i ddefnydd ac felly bydd yn diogelu ac yn gwella adeilad rhestredig.  Mae ceisiadau eraill yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ar y safle hwn yn Lleiniog a deallwn fod y Cyngor Cymuned yn pryderu am elfennau eraill o'r datblygiad. Yn gyffredinol, mae angen gwaith sylweddol ar y safle er mwyn sicrhau dyfodol yr adeiladau rhestredig. Mae'r datblygwr yn trafod materion pellach gyda'ch Swyddog a byddem yn fodlon cynnal cyfarfod rhithwir â'r Cyngor Cymuned ac Aelodau Lleol i gyflwyno'r cynlluniau cyffredinol ar gyfer y safle pe bai angen.  Yn y cyfamser, gobeithio y gallwch ganiatáu’r cais hwn heddiw yn unol â'r caniatâd adeilad rhestredig sydd eisoes wedi'i roi. 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, aelod lleol fod y safle hwn yn destun pryder yn lleol a gwnaeth gais i ymweld â’r safle.  Nododd fod y gwaith hwn yn un o sawl gwaith adeiladu ar y safle a bod angen edrych ar y safle yn ei gyfanrwydd.  Nododd bryderon ynghylch peryglon traffig ar y ffordd fynediad a llifogydd posibl.  Nid yw'r ffordd yn ddigonol ar gyfer traffig yn ôl a blaen i'r safle.  Mae'n adeilad rhestredig ac mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ar hyn o bryd mae trafodaethau gyda'r Swyddog Gorfodi a'r datblygwr ynghylch agweddau ar y datblygiad ar y safle. 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid ymweld â'r safle ac eiliodd y Cynghorydd  T Ll Hughes MBE y cynnig.

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais aelod lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

Dogfennau ategol: