Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Gwelliannau Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Dros Dro Gwasanaethau Oedolion gan roi crynodeb o'r cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd ac Aelod Portffolio'r Gwasanaethau Cymdeithasol grynodeb o'r prif ddatblygiadau ers i'r Pwyllgor gael ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Medi, 2010 –

 

           Bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio o fewn y gyllideb ar hyn o bryd a bod Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd ar y trywydd iawn i gau'r flwyddyn ariannol ar sail hyn.

           Ym mis Medi, 2020 fel rhan o fenter genedlaethol Llywodraeth Cymru i gyflwyno cerdyn adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc ledled Cymru, dechreuodd y Gwasanaeth weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Gweithredu dros Blant i ddatblygu cerdyn adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc. Ers hynny mae'r gwaith hwn wedi datblygu fel y nodir yn yr adroddiad ac mae'r Gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i ddatblygu dull unedig o ddylunio cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru ar ffurf ddigidol, cerdyn ac arddwrn. Bydd y cerdyn adnabod yn cael ei lansio'n ffurfiol yr wythnos nesaf.

           Bod dau o'r Cartrefi Grŵp Bychan a sefydlwyd eisoes wedi cyrraedd eu capasiti llawn, bod gwaith yn mynd rhagddo ar y trydydd a bod cynnig wedi'i wneud ar bedwerydd eiddo gan ddefnyddio cyllid ICF i ddarparu llety i blant y mae'r Awdurdod yn gofalu amdanynt.

           Mae'r Gwasanaeth wedi sicrhau cyllid darpariaeth ICF i brynu byngalo ar wahân er mwyn cynnig gwasanaeth gofal dydd gwell i blant ag anghenion cymhleth. Mae eiddo wedi'i nodi ac rydym yn y broses o’i brynu.

           Mae dull "dim drws anghywir" yn cael ei ddatblygu wrth ymateb i les emosiynol ac anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu hamlygu gan y pandemig. Mae hyn yn golygu na fydd teuluoedd, plant a phobl ifanc sy'n ceisio cymorth ar gyfer anghenion iechyd meddwl a lles emosiynol yn cael eu "taflu" o’r naill wasanaeth i’r llall neu'n cael gwybod eu bod yn curo ar y drws anghywir. Lluniwyd cynllun i ddatblygu'r dull hwn ymhellach.

           Comisiynwyd archwiliad annibynnol o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion a bydd yn adrodd ar ganfyddiadau i Banel Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

           Mae tri thîm Adnoddau Cymunedol yn Amlwch, Ysbyty Penrhos Stanley a Llanfairpwll bellach ar waith ac oherwydd cyfyngiadau Covid-19, maent yn cyfarfod yn rhithwir.

           Rhoddir diweddariad sefyllfa ar gyfer y ddau brosiect sy’n ceisio cyflawni'r Strategaeth Anabledd Dysgu Oedolion – mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau dydd allanol a'r ddarpariaeth fewnol. Oherwydd Covid 19 mae'r amserlen gomisiynu ar gyfer y ddarpariaeth a gomisiynir yn allanol wedi llithro.

           Mae'r pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar ddatblygiad y Rhaglen Rhannu Bywydau. Bydd y prosiect sy'n cael ei ariannu gan ICF yn parhau ond bydd yn cael ei ehangu i gefnogi pobl hŷn,

           Mae'r gwaith o ehangu'r hybiau cymunedol wedi'i ohirio yn ystod y pandemig. Mae elfennau o'r gwaith yn parhau’n rhithwir a cheir enghreifftiau yn yr adroddiad. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol, er gwaethaf heriau dyddiol Covid-19, a'r trydydd cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol a ddaeth i rym ar 19 Rhagfyr, 2020 a'r galwadau digynsail ar staff, fod Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd wedi parhau i gyflawni eu dyletswyddau statudol ac fel y tystia'r adroddiad, maent wedi llwyddo i ddatblygu amryw o brosiectau datblygiadol ac arloesol hefyd. Mae'r Gwasanaeth a'r Cyngor yn falch o'u staff.

 

Cyfeiriodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Oedolion at y Gwasanaethau Dydd Anabledd Dysgu gan nodi, er bod canolfannau dydd anabledd dysgu wedi gorfod cau, eu bod wedi parhau i gysylltu â chleientiaid trwy gyfrwng digidol drwy’r cyfnod. O ganlyniad, wrth ddatblygu ei gynllun adfer, bydd y Gwasanaeth yn ceisio adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig i wneud pethau'n wahanol, gan gydnabod y gall technoleg chwarae rhan mewn cefnogi pobl ag anableddau dysgu. Mae hyn yn cyd-fynd â'r adborth a dderbyniwyd gan gleientiaid ac mae'n un o'r pethau cadarnhaol sydd wedi deillio o'r pandemig.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Griffiths wrth adrodd ar waith Panel Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Panel, er gwaethaf Covid-19, wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd dros y chwe mis diwethaf ar ffurf rithwir a bod cyfarfodydd wedi'u trefnu ar gyfer y misoedd nesaf hefyd. Mae'r Panel wedi parhau i dderbyn tystiolaeth o ddatblygiad ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd ac yn y tri chyfarfod a gynhaliwyd rhwng mis Hydref, 2020 a mis Ionawr, 2021 mae'r Panel wedi rhoi sylw i berfformiad y ddau wasanaeth dros Chwarteri 1 a 2 2020/21; trefniadau cartrefi gofal yn ystod Covid-19; cynnydd yn erbyn Cynllun Gwella Gwasanaethau Pobl Hŷn; pwysau’r gaeaf ar Wasanaethau Oedolion a diogelu gan gyfeirio'n benodol at drais domestig. Comisiynwyd archwiliad annibynnol o'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a chynhaliwyd adolygiad Archwilio Mewnol o'r Panel Rhianta Corfforaethol a daeth i'r casgliad y byddai manteision o sicrhau bod y Panel yn cyd-drefnu’n agosach â Phanel Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i bwyntiau a wnaed a chwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor –

 

           Teimlai’r Aelodau fod perfformiad ariannol Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn galonogol hyd yma eleni, ond roeddent yn derbyn y gallai'r ddau wasanaeth wynebu mwy o bwysau wrth symud i'r flwyddyn ariannol newydd wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio a'r galw gynyddu. Yng ngoleuni hyn ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd ynghylch gwydnwch ariannol y gwasanaethau a'r gallu i ymdopi wrth symud ymlaen a ph’un ai a oedd unrhyw arferion da’n deillio o'r pandemig y gellid eu cymryd i liniaru'r pryderon yn hyn o beth.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai pecyn cymorth gwerth £206m ar gael i helpu cynghorau i dalu costau ychwanegol yn sgil delio â'r pandemig ar gyfer chwe mis cyntaf 2021/22, a hynny drwy hawliadau i'r gronfa caledi. Er ei bod yn anodd rhagweld lefel y galw ac felly'r costau tebygol wrth symud ymlaen, mae profiad Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi dangos, wrth i'r cyfyngiadau symud lacio, fod atgyfeiriadau i'r gwasanaeth wedi cynyddu a bod y tanwariant sylweddol a ragwelir yn Chwarteri 1 a 2 y flwyddyn ariannol gyfredol wedi lleihau wrth symud ymlaen i Chwarteri 3 a 4. Wrth ddychwelyd i ryw normalrwydd, efallai y bydd y cyllidebau ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd yn annigonol ac yn arwain at orwariant, felly mae cael cronfeydd wrth gefn yn bwysig.

 

O ran arfer da, mae'r ddibyniaeth gynyddol ar dechnoleg yn ystod y pandemig wedi sicrhau manteision penodol, er enghraifft mae nifer y plant sy'n derbyn gofal sy'n mynychu cyfarfodydd adolygu ac asesu a gynhaliwyd yn rhithwir wedi cynyddu am eu bod yn teimlo’n fwy cyfforddus cyfarfod fel hyn ac wedi arfer â'r dechnoleg. Nod y Gwasanaeth yw manteisio ar hyn drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg, er enghraifft y cymorth a ddarperir i ofalwyr maeth.

 

Yr her wrth symud ymlaen fydd cydnabod effeithiau'r pandemig ar oedolion a phlant a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei baratoi yn unol â hynny i'r cyfnod adfer. Mae rhai o'r prosiectau arloesol y cyfeirir atynt yn yr adroddiad e.e. prosiect iechyd meddwl Dim Drws Anghywir yn gosod y sylfeini ar gyfer adferiad ac mae mesurau lliniaru pellach wedi'u rhoi ar waith drwy sefydlu ac ehangu'r hybiau cymunedol.

 

           Cyfeiriwyd at y cardiau adnabod Gofalwyr Ifanc a gofynnodd y Pwyllgor am eglurder ynghylch y manteision y disgwylir iddynt eu cynnig.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y cerdyn adnabod yn gynllun cenedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygir fel partneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ac awdurdodau lleol i helpu i sefydlu statws pobl ifanc fel gofalwyr a'i gwneud yn haws iddynt gael cymorth yn unol â hynny. Ar sail yr adborth a gafwyd, dywedodd gofalwyr ifanc y byddai'n well ganddynt gael cerdyn adnabod digidol ac felly gyda sêl bendith Llywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, mae Ynys Môn a Gwynedd yn treialu'r opsiwn hwn fel rhan o'r broses o gyflwyno cardiau adnabod Gofalwyr Ifanc ledled Cymru a datblygwyd ap at y diben hwnnw.

 

           Cyfeiriwyd at yr archwiliad annibynnol o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion a'r rhesymau dros ei gomisiynu.

 

     Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd yr archwiliad annibynnol yn cyflawni swyddogaeth cyfaill beirniadol ac yn rhoi dadansoddiad manwl o systemau, prosesau a gweithdrefnau yn y Gwasanaethau i Oedolion er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben a bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n amserol ac yn ymatebol heb eu llesteirio gan fiwrocratiaeth na dyblygu. Bydd yr archwiliad yn rhoi trosolwg manwl i'r Cyngor o faes gwasanaeth sy’n gymhleth a bydd yn darparu argymhellion clir y cytunwyd arnynt o ran meysydd penodol y mae angen i'r Gwasanaeth ganolbwyntio arnynt er mwyn gwella canlyniadau i'r defnyddiwr gwasanaeth.

 

           Gan gyfeirio at y cynllun Dim Drws Anghywir, nododd y Pwyllgor fod y straen ar iechyd meddwl a gofal cymdeithasol i blant yn cael ei gydnabod ac y rhagwelir y bydd cynnydd sylweddol mewn angen dros y misoedd nesaf. Cyfeiriwyd hefyd at dystiolaeth o blant ysgol yn ceisio cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu oherwydd problemau iechyd meddwl. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod y ddarpariaeth bresennol yn ddigonol i allu ymateb i'r angen ychwanegol newydd hwn a bod y cynllun ar gyfer datblygu Dim Drws Anghywir yn ddigonol ac yn galluogi'r Gwasanaeth i symud yn gyflym i ddelio â'r cynnydd posibl yn y galw.

 

Wrth gydnabod heriau'r misoedd nesaf, dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd y Gwasanaeth yn atgyfnerthu ei ddull a'i arfer presennol o ran y berthynas waith dda sydd ganddo ag ysgolion a gyda'r Gwasanaeth Dysgu, yn enwedig o ran teilwra a llunio gwasanaethau i ddiwallu'r angen, ehangu'r gwasanaethau sydd ar gael a defnyddio arian grant yn wahanol i sicrhau bod yr ymateb yn amserol. Cyn y pandemig, roedd y Gwasanaeth wedi comisiynu gwaith ar y cyd â Parabl sy'n rhoi cymorth i unigolion dros 18 oed yng Ngogledd Cymru ag anghenion iechyd meddwl ac, ar sail y dystiolaeth o angen sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig, mae'r Gwasanaeth bellach yn gweithio gyda Parabl i ostwng y trothwy oedran ar gyfer gweld unigolion fel y gall y sefydliad gyfarfod yn rhithwir â phlant a phobl ifanc o dan 18 oed nad ydynt efallai’n yn gymwys i gael ymyrraeth CAHMS ond sydd, serch hynny, angen cymorth. Mae'r Gwasanaeth wedi gweld teuluoedd yn cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am gymorth na fyddent o reidrwydd wedi gwneud hynny oni bai am y pandemig.

 

Penderfynwyd 

 

           Cadarnhau bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon â chyflymder y cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac,

           Argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod cynnydd a chyflymder y gwelliannau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddigonol.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: