Eitem Rhaglen

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - craffu cynnydd ar wireddu'r Cynllun Llesiant

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Ynys Môn. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd a darpariaeth y Cynllun Llesiant gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Dywedodd fod y pandemig wedi arafu cynnydd yr Is-grwpiau sy'n helpu i weithredu gwaith y Bwrdd, ond erbyn hyn mae'r holl Is-grwpiau'n ailedrych ar eu cynlluniau gwaith.  Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi parhau i gyfarfod yn ystod cyfnod y pandemig sy'n dangos ymrwymiad y Bwrdd i'r gwaith. 

 

Rhoddodd Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ddiweddariad am gynnydd yr Is-grwpiau.  Dywedodd fod pob un o'r Is-grwpiau’n cael eu harwain gan aelod o'r Bwrdd.  Cynhaliwyd gweithdy ym mis Medi 2020 i drafod rôl y Bwrdd wrth adfer ar ôl y pandemig. Cytunwyd mai rôl y Bwrdd yw cadw trosolwg o'r gwaith a wneir ar hyn o bryd gan y sefydliadau.  Yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, heriwyd yr Is-grwpiau i adrodd ar eu gwaith o ran eu cynlluniau gwaith a'u cyflawniadau; bydd Arweinydd pob un o’r Is-grwpiau yn rhoi adroddiad diweddaru i gyfarfod llawn nesaf y Bwrdd. Adroddodd y Rheolwr Rhaglen ar bob Is-grŵp fel a ganlyn:-

 

·           Is-grŵp Cartrefi – mae gan yr is-grŵp reolwr prosiect rhan-amser sy'n sicrhau bod y prosiect yn gweithredu’n unol â’r amserlen ac adnoddau disgwyliedig.  Diben yr is-grŵp yw chwilio am gyfleoedd i ddatblygu tai arloesol, sy'n ategu ac nid yn dyblygu'r gwaith sy'n deillio o strategaeth dai Ynys Môn.  Mae un safle ym Maes Mona, Amlwch wedi'i nodi i'w ddatblygu yn y dyfodol agos.

·           Is-grŵp Newid Hinsawdd – dros y misoedd diwethaf mae'r is-grŵp wedi canolbwyntio ar ddiwygio eu cynllun gwaith ers yr oedi oherwydd dechrau'r pandemig.  Cynhaliwyd gweithdy ym mis Ionawr, 2021 i ddenu cynrychiolaeth ehangach o sefydliadau cyhoeddus.  Mae'r is-grŵp wedi nodi bod angen iddynt ystyried sut i ymgysylltu â chymunedau, canolbwyntio ar amcanion hirdymor a nodi rôl pob sefydliad pan fyddant yn wynebu problemau llifogydd. 

·           Is-grŵp Integredig Iechyd a Gofal – mae'r is-grŵp hwn yn enghraifft o arfer da sydd wedi ychwanegu gwerth tuag at gynlluniau cyfredol gyda swyddogion proffesiynol yn gallu rhannu profiadau a chydweithio.  Mae'r Is-grŵp yn parhau i fynd i'r afael ag agweddau penodol fel plant, oedolion, iechyd meddwl, anableddau dysgu a thrawsnewid.  Roedd yr angen i gydweithio, rhannu gwybodaeth a sicrhau mynediad hwylus at wasanaethau yn cael ei gydnabod fel nod cyffredin ar gyfer pob ffrwd waith.

·           Is-grŵp y Gymraeg - Mae Mr Aled Jones Griffith o Goleg Llandrillo a Menai bellach wedi cytuno i arwain yr is-grŵp a fydd yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd yn y cyfarfod ym mis Mawrth.  Bydd yr Is-grŵp yn ystyried ei gynllun gwaith ar gyfer y misoedd nesaf.  Bydd yr Is-grŵp yn edrych ar y defnydd o'r Gymraeg wrth i aelodau o'r cyhoedd gysylltu â sefydliadau cyhoeddus am y tro cyntaf a bwriedir cynnal astudiaeth i ystyried yr iaith a ddefnyddir mewn derbynfeydd gyda'r gobaith o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen at yr Asesiadau Llesiant a'r bwriad yw ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion Ynys Môn o'r 6 ardal llesiant.  Bwriedir iddo weithio'n agos gyda'r Cyngor a phartneriaid eraill er mwyn ymgysylltu'n effeithiol a cheisio osgoi dyblygu.  Yn ogystal â hyn, bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol erbyn mis Mehefin 2021.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Codwyd cwestiynau ynghylch sut y mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn sicrhau nad yw'r gwaith a wneir yn dyblygu'r gwaith a wnaed eisoes gan yr awdurdodau lleol.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rhaglen, o ran yr Is-grwpiau sefydledig, fod cynrychiolydd o'r awdurdodau lleol ar bob un o'r is-grwpiau a bod hyn yn rhoi cyfle i dynnu sylw at unrhyw ddyblygu ffrydiau gwaith y mae'r is-grŵp yn bwriadu ymgymryd â nhw a sicrhau ei fod yn ychwanegu gwerth at y prosiectau arfaethedig. Rhoddodd y Prif Weithredwr enghraifft o'r ffrydiau gwaith o ran nodi tir ar gyfer datblygu tai arloesol sydd wedi deillio o waith yr is-grwpiau;

·           Codwyd cwestiynau ynghylch dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gan fod Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cael ei basio gan y Senedd ar 18 Tachwedd, 2020 a'r Cydbwyllgorau Corfforaethol a sefydlir drwy Gymru.  Ystyriwyd y bydd yn her i awdurdodau lleol fynychu a gweithio o fewn gwahanol sefydliadau sefydledig yn y dyfodol.  Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn mynd i'r afael â rhwymedigaethau statudol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.  Mae hefyd yn bwysig sicrhau cynrychiolaeth gref yn lleol ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o fewn y trefniant rhanbarthol;

·           Codwyd cwestiynau ynghylch rôl y Bwrdd yn ystod y cyfnod adfer yn dilyn y pandemig.  Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod yr Is-grwpiau wedi ailedrych ar eu cynlluniau gwaith.  Roedd y Bwrdd hefyd wedi cynnal gweithdy ym mis Medi 2020 i drafod rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y gwaith adfer.  Disgwylir y bydd sefydliadau unigol yn adrodd i'r Bwrdd i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i adfer cymunedau lleol yn dilyn y pandemig.  Holodd y Cadeirydd a oedd holiaduron pellach i'w dosbarthu o ran yr asesiadau llesiant; soniodd fod cymunedau Ynys Môn eisoes wedi cael cais i gymryd rhan mewn amryw o holiaduron.  Dywedodd fod yr ymateb i'r holiaduron a'r sesiynau ymgysylltu yn ystod cylch olaf yr asesiad llesiant wedi bod yn siomedig.  Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen nad oedd y dull o gasglu tystiolaeth ynglŷn â'r asesiad llesiant y tro hwn wedi'i benderfynu nes ei bod yn glir beth yw’r gofynion a'r disgwyliadau. Trafodir hyn ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r gwaith a wnaed gan yr Is-grŵp Newid Hinsawdd ac a ddylid cynnal trafodaeth ynglŷn â Chynhesu Byd-eang.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod yr Is-grŵp Newid Hinsawdd yn canolbwyntio ar gydweithio rhwng sefydliadau i fynd i'r afael â materion llifogydd.  Mae'r Is-grŵp yn adolygu ei raglen waith i hwyluso gwelliannau i sefydliadau sy'n gweithio yn y cymunedau lleol.  Dywedodd yr Aelodau y dylai'r Pwyllgor hwn gael ei ddiweddaru’n rheolaidd am y gwaith a wneir gan yr Awdurdod i leihau ôl troed carbon.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith yn cael ei wneud ar faterion yn rhanbarthol fel rhan o'r Strategaeth Genedlaethol i leihau ôl troed carbon.   Mae'r Awdurdod yn canolbwyntio ar gynllun strategaeth i leihau newid hinsawdd a lleihau ôl troed carbon o fewn gwasanaethau'r Cyngor a bydd adroddiadau diweddaru rheolaidd ar gael.   Dywedodd fod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno i ganolbwyntio ar faterion llifogydd a rôl ymgysylltu â'r gymuned pan fo cymunedau'n wynebu llifogydd yn eu hardaloedd. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: