Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Polisi a Strategaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb 2019/20 i'w ystyried gan y Pwyllgor. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dyletswyddau penodol i helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni dyletswydd gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010.  Mae'r dyletswyddau penodol hyn yn cynnwys gofyniad i ddatblygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynlluniau Cydraddoldeb Strategol.  Cyfeiriodd at y data yn yr adroddiad - roedd yn galonogol o ran y bobl ifanc y mae'r Awdurdod wedi'u cyflogi a'r ffordd y mae'r Cyngor hefyd wedi gallu cynnal ystod eang o grwpiau oedran ymysg staff y Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth drosolwg o'r adroddiad a’r dull y mae'r Awdurdod yn cyflawni cyfrifoldebau Cydraddoldeb a dyletswyddau cydraddoldeb penodol.  Dywedodd fod yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn ddogfen statudol i fodloni dyletswydd gyffredinol y Ddeddf Cydraddoldebau.  Mae'r adroddiad yn rhoi sylw i’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth, 2020 lle mae'n cyfeirio at ddata cyflogaeth.  Mae gweddill yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o'r datblygiadau hyd at fis Rhagfyr 2020 er mwyn rhoi ffocws mwy diweddar yn ogystal ag ategu Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor.

 

Er ei bod wedi bod yn flwyddyn heriol i'r Awdurdod wrth ddelio â'r pandemig, dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth fod enghreifftiau calonogol a bod y Cyngor a'i bartneriaid wedi cynnal nifer o weithgareddau i hyrwyddo cydraddoldeb a diogelu'r cymunedau mwyaf agored i niwed fel y gwelir ar dudalen 16 yr adroddiad. Mae'r Awdurdod hefyd wedi addasu i heriau'r pandemig gyda staff yn gweithio gartref a chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir. Mae angen i staff addasu i heriau addysgu eu plant gartref a chyfrifoldebau gofal plant 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y cyflawnodd y Cyngor yr amcanion cydraddoldeb yn llwyddiannus.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth yr ystyrir bod amcanion y Cynllun Cydraddoldebau wedi cael sylw gan y Cyngor;

·           Cyfeiriwyd at flaenoriaeth 8.2 yn yr Adroddiad Blynyddol – Mae proses gorfforaethol effeithiol wedi’i sefydlu i sicrhau bod effaith yn cael ei hasesu'n barhaus ar draws gwasanaethau.  Codwyd cwestiynau ynghylch pwy sy'n asesu'r broses gorfforaethol.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth fod asesu ar gyfer effaith ar gydraddoldeb yn broses barhaus y dylid ei hymgorffori wrth ddatblygu cynigion.

·           Cyfeiriwyd at y bylchau addysgol rhwng merched a bechgyn a phlant sy'n derbyn prydau ysgol, yn enwedig yn ystod y pandemig.  Codwyd cwestiynau ynghylch beth yw blaenoriaethau'r Awdurdod i fynd i'r afael â'r bwlch hwn yn y dyfodol.  Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd yn her nodi a dangos tystiolaeth o'r bwlch yn enwedig tra bod plant wedi gorfod derbyn eu haddysg gartref ac i fesur yr effaith y mae wedi'i chael ar ddisgyblion.  Pan fydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgolion, dywedodd y bydd angen eu hasesu i fesur potensial a chyflawniad disgyblion ac i gydbwyso eu lles;

·           Cyfeiriwyd at y ffaith bod 8 blaenoriaeth wedi'u nodi yn yr adroddiad ac mai pwrpas y Ddeddf Cydraddoldebau yw canolbwyntio ar gydraddoldeb a thegwch. Codwyd cwestiynau ynghylch pam mai dim ond 8 blaenoriaeth sydd wedi'u nodi pan fydd yn amlwg bod llawer o flaenoriaethau eraill y mae angen mynd i'r afael â hwy ac y gallai pobl gale eu trin yn annheg.  Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor y bu trafodaethau ynglŷn â'r blaenoriaethau hyn pan gyflwynwyd y Cynllun Strategol Cydraddoldeb i'r Pwyllgor hwn.  Trafodwyd y ddogfen hefyd yn y Cyngor llawn wedi hynny pan esboniwyd gallu gwasanaethau'r Awdurdod i gyflawni blaenoriaethau a nodwyd.  At hynny dywedodd, os yw'r Pwyllgor o'r farn bod angen blaenoriaethu maes penodol yn y Cynllun, yna gellir mynd i'r afael â'r mater. 

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2019/20.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: