Eitem Rhaglen

Newid Hinsawdd

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod yr argyfwng hinsawdd yn berthnasol yn gorfforaethol o fewn pob gwasanaeth ac mai’r targed i’r Cyngor oedd bod yn garbon niwtral erbyn 2030.  Bydd disgwyliadau gan drigolion, cymunedau a busnesau i'r Cyngor gymryd camau penodol i ymateb yn brydlon ac yn effeithiol yn cynyddu.  Er mwyn ymateb yn effeithiol i'r argyfwng hinsawdd, dywedodd y bydd angen arweinyddiaeth, polisïau a newid arferion ynghyd ag atebion ariannol a thechnegol a bydd angen dechrau addasu i ddulliau gwaith yr Awdurdod.

 

Adroddodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Cyngor Sir wedi datgan argyfwng hinsawdd yn y Cyngor llawn a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020 a’i fod wedi ymrwymo y byddai’r Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030.  Mae nifer o Strategaethau Cenedlaethol a Rhanbarthol sydd wedi'u drafftio ers hynny i ymateb i'r heriau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Er bod yr awdurdod wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ymgysylltu a chydweithio â'i holl bartneriaid, ar bob lefel, mae cydnabyddiaeth hefyd bod yr holl ddarpariaeth yn lleol.  Mae'r awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu arweinyddiaeth leol ar yr Ynys, ac i weithredu'n gorfforaethol i sicrhau newidiadau pendant er mwyn gallu newid yn effeithiol i fod yn sefydliad carbon niwtral.  Er bod rhai penderfyniadau a chamau gweithredu o fewn rheolaeth yr awdurdod, bydd angen cymorth ac adnoddau ychwanegol ar eraill gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydgysylltu, datblygu a chyflawni.  Ynghyd â Deddf Newid yn yr Hinsawdd y DU (2008), mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Amgylcheddol (Cymru) 2016 yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gweithredu ar newid hinsawdd a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, gyda phob un yn seiliedig ar strategaethau a fframweithiau.  Cydnabyddir bod Llywodraeth Leol yn hanfodol i sicrhau datgarboneiddio, yn enwedig o ran darparu arweinyddiaeth leol a hyrwyddo atebion cynaliadwy uchelgeisiol a newid ymddygiad. 

 

At hynny, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol wedi'i sefydlu i helpu i arwain, cefnogi, annog a rhoi trosolwg strategol.  Cytunodd Cyngor Partneriaeth Cymru ar sefydlu'r Panel ym mis Mehefin 2020, gyda chynrychiolaeth gan Brif Weithredwyr awdurdodau lleol, CLlLC, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a chynghorwyr perthnasol.  Mae'n adrodd i'r Cyngor Partneriaeth sy'n rhoi cyfeiriad ac arweiniad gwleidyddol i'r gwaith. Cynrychiolir awdurdodau lleol Gogledd Cymru gan Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i :-

 

·           Ddeall eu hôl troed carbon, yn unol â chanllawiau ar gyfer adrodd am allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y sector cyhoeddus;

·           Cytuno i osod ymrwymiadau/addewidion sero net ar gyfer COP26 (a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021);

·           Monitro ac adrodd yn ofalus ar eu hallyriadau carbon ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;

·           Sicrhau bod cynllun gweithredu sero net cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ei le, fel dogfen fyw erbyn mis Mawrth 2021;

·           Gweithio gyda'r Panel Strategaeth Datgarboneiddio newydd 

 

At hynny, dywedwyd nad oes gan yr awdurdod arweinydd corfforaethol (neu wleidyddol) penodol ar hyn o bryd ar gyfer newid hinsawdd.  Er bod rhywfaint o arbenigedd yn bodoli o ran datgarboneiddio o fewn gwasanaethau penodol, mae hyn yn cyd-fynd ag adeiladu a gwelliannau i adeiladau.  Mae awdurdodau eraill wedi dangos eu hymrwymiad i'r maes thematig allweddol hwn drwy neilltuo adnoddau penodol.  Y gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru dros amser yn cydnabod bod yn rhaid i weithgarwch i fynd i'r afael â newid hinsawdd a datgarboneiddio gael ei adlewyrchu a'i gynnwys yn rhan o setliadau blynyddol awdurdodau lleol.  Nid oes dewis arall ond dyrannu cyllid craidd i greu capasiti/arbenigedd penodol i arwain ar ddatblygu a chydlynu camau cychwynnol datblygu a darparu.  Byddai hyn yn cael ei ddefnyddio i dalu costau cyflogi Uwch Reolwr Rhaglen Gorfforaethol ar Newid Hinsawdd am gyfnod o ddwy flynedd, gyda chyllideb weithredol wedi’i chostio a fyddai'n cael ei defnyddio i baratoi llinell sylfaen garbon, fframwaith monitro, dangosfwrdd, llunio cynllun gweithredu, a chaffael hyfforddiant.  Byddai'r swyddog penodedig hefyd yn cydlynu gweithgareddau ar draws gwasanaethau, yn cynrychioli'r awdurdod mewn grwpiau a digwyddiadau rhanbarthol a cenedlaethol perthnasol, yn adrodd ar gynnydd, yn dylanwadu ar weithgareddau gwasanaeth, yn nodi arfer da, ac yn sicrhau bod ymdeimlad o bwrpas, arweinyddiaeth a momentwm.  

 

Croesawodd y Pwyllgor y bwriad i benodi Uwch Reolwr Rhaglen Gorfforaethol ar Newid Hinsawdd gan y bydd yn galluogi'r Awdurdod i symud y rhaglen newid hinsawdd yn ei blaen o fewn y Cyngor.  Cyfeiriwyd at y ffaith y dylai'r Awdurdod fod yn hyrwyddo'r gwaith sydd wedi'i wneud ar hyn o bryd i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac ôl troed carbon fel rhan o gontractau ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol, gyda goleuadau stryd wedi newid i gyfleusterau solar a charbon isel.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y prif bwyntiau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at y contract prydau ysgol a'r angen i'r contractwyr gael gafael ar gynnyrch lleol fel rhan o gontract prydau ysgol.  Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y contract prydau ysgol yn dod i ben a bod y broses gaffael wrthi’n cael ei chynnal mewn perthynas â'r contract prydau ysgol;

·      Cyfeiriwyd at y ffaith bod gwresogi cartref yn defnyddio llawer o ynni. Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd y Cyngor yn mynd i'r afael â gofynion lleihau costau gwresogi cartrefi yn y dyfodol. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod 4 annedd wedi'u hadeiladu yng Nghaergybi sy'n cael eu hystyried yn dai ynni goddefol sy'n strwythurau wedi'u hinswleiddio.  Dywedodd hefyd fod 6 annedd arall wedi'u hadeiladu yng Nghaergeiliog sy'n ffynonellau adeiladu modern a bod gwella capasiti gwresogi anheddau o'r fath yn bwysig i breswylwyr oherwydd costau ynni.  Bydd her i wella'r stoc dai bresennol er mwyn cydymffurfio â'r gofynion ond cafodd grant o £500k ei roi gan Lywodraeth Cymru i wresogi cartrefi â phaneli solar a chyfleusterau ffynhonnell aer.

 

PENDERFYNWYD cefnogi a chymeradwyo:-

 

·      datblygu a gweithredu Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol newydd i alluogi'r awdurdod i newid i fod yn sefydliad carbon niwtral gan 2030;

·      recriwtio Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd Gorfforaethol i arwain y gwaith o ddatblygu a darparu;

·      sefydlu Gweithgor Newid Hinsawdd (gyda chynrychiolaeth wleidyddol) grŵp cynghori, nad yw’n gwneud penderfyniadau i wneud argymhellion a cheisiadau.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: