Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn bodloni'r gofynion statudol, sef bod Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol.  Mae'r adroddiadau'n rhoi trosolwg o waith Byrddau Diogelu Plant Gogledd Cymru ac Oedolion Gogledd Cymru rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020 a'r cynnydd a wnaed i gyflawni amcanion allweddol ar draws y rhanbarth i ddiogelu pobl.  Mae'r adroddiad yn amlinellu'r camau nesaf a'r cynlluniau tymor hir ar gyfer y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.  Dywedodd fod enghreifftiau o arfer da yn cael sylw yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod diogelu yn gofyn am waith partneriaeth effeithiol ac mae Adroddiad Blynyddol 2019/20 yn cydnabod arfer da ar draws y rhanbarth, yn ogystal â meysydd datblygu.  Adlewyrchir y meysydd datblygu hyn yng nghynllun busnes Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar gyfer 2020/21.  Mae'r Byrddau wedi parhau i aeddfedu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bellach maent yn dangos bod cydweithredu a herio effeithiol yn rhan o fusnes bob dydd.  Gall y Byrddau ddangos sut y maent wedi dylanwadu ar yr agenda cenedlaethol ar y Gweithdrefnau Cenedlaethol a Chanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan.   Dywedodd fod Gweithdrefnau Diogelu Cymru wedi'u rhoi ar waith a bod nifer o sesiynau hyfforddi wedi'u cynnal yn rhithwir ar gyfer staff yn y gwasanaethau i blant ac oedolion. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod pryderon yn ystod misoedd cyntaf y pandemig bod atgyfeiriadau o fewn y gwasanaethau i blant wedi gostwng. Roedd y Bwrdd Diogelu yn gallu codi ymwybyddiaeth i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r diffyg o fewn y system. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·           Mynegodd y Cynghorydd R Ll Jones fel Hyrwyddwr Pobl Hŷn fod pryderon ynglŷn â cham-drin pobl oedrannus a holodd sut yr oedd y Bwrdd Diogelu yn diogelu'r henoed.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod ymdrechion yn cael eu gwneud yn lleol i godi ymwybyddiaeth o bob grŵp oedran ac roedd pobl yn cael eu hannog i roi gwybod am bryderon ynghylch unrhyw bobl yr oedd ganddynt bryderon yn eu cylch yn eu cymunedau.  Dywedodd fod hyfforddiant yn cael ei roi i'r holl staff sy'n ymwneud â gofal yr henoed;

·           Cyfeiriwyd at blant sy'n cael eu haddysgu gartref a'r diffyg arolygiad addysgol gan gyrff addysgol.  Codwyd cwestiynau ynghylch sut y mae'r Bwrdd Diogelu yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref/addysg gartref.  Dywedodd y Cadeirydd fod y Comisiynydd Plant wedi codi'r mater yn ddiweddar.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd ynglŷn â chanllawiau newydd ar gyfer addysgu plant gartref.  Dywedodd fod yr Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn gweithio'n agos i rannu unrhyw bryderon ynglŷn â'r plant hyn sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref.  Fodd bynnag, dywedodd fod hwn yn fater cymhleth a bod rhai plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn ffynnu. Er hynny, mae'n bwysig nodi bod diogelu plant hefyd yn fater y mae angen ei fonitro;

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r gwaith a wnaed gan y Bwrdd mewn perthynas â datblygu a chefnogi cydymffurfiaeth â Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod cyrsiau wedi’u cynnal ar-lein ac yn rhithwir.  Dywedodd fod y canllawiau o ran y Gweithdrefnau Diogelu ar gael drwy Ap symudol sy'n hawdd ei ddarllen ac sydd ar gael i'r cyhoedd. 

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth yn Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru 2019/20.

 

CAM GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: