Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddi - Adnoddau Dynol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru gan y Rheolwr Hyfforddiant AD ar ddarpariaeth hyfforddiant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20.
Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD mai ychydig iawn o sesiynau hyfforddi a gynigwyd i Aelodau Etholedig yn ystod chwarter olaf 2019/20 oherwydd y pandemig. Y bwriad yw rhoi Cynllun Datblygu a Hyfforddiant Aelodau diwygiedig at ei gilydd, a fyddai’n cynnwys unrhyw gyfleoedd hyfforddi perthnasol na gyflawnwyd yn ystod 2019/20, hyd at etholiadau 2022.
Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD fod pynciau a’u hamlygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion o fewn y Cyngor wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun Datblygiad drafft, ynghyd ag adborth o Adolygiadau Datblygiad Personol Aelodau unigol.
Nodwyd fod y modiwlau E-Ddysgu ar blatfform Porth Dysgu'r Awdurdod yn parhau i fod ar gael. Amlygwyd bod y modiwlau'n darparu hyblygrwydd ar gyfer hyfforddiant ar-lein, a'u bod ar gael yn rhithiol.
Cyfeiriwyd at ddatblygiad a chyhoeddiad Bwletin dwyieithog i Aelodau Etholedig, sydd â’r nod o ddarparu gwybodaeth am ddigwyddiadau hyfforddi a chyfleoedd datblygiad i Aelodau. Yn dibynnu ar y gwerth tybiedig a'r adborth a gafwyd, cynigiwyd y gallai Bwletin gael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu bob chwarter.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar anghenion hyfforddi Aelodau unigol, fel â ganlyn: -
• Gwnaed cais i sesiynau hyfforddi gael eu cynnal wyneb yn wyneb fel sesiynau grŵp ar MS Teams neu Zoom yn hytrach na chyrchu cyrsiau E-Ddysgu ar-lein yn unigol. Y Rheolwr Hyfforddiant AD i drafod gyda Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
• Amlygodd Aelodau faterion Iechyd Meddwl oedolion a Diogelu fel pynciau posib i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu. Esboniodd y Rheolwr Hyfforddiant AD fod adran benodol ar gyfer Aelodau Etholedig yn mynd i gael ei datblygu ar y Porth Dysgu a fydd yn galluogi mynediad at fodiwlau/gwybodaeth hyfforddi, ynghyd â gwybodaeth ar iechyd a llesiant, yn debyg i beth sydd ar gael ar hyn o bryd i staff.
• Awgrymwyd bod sesiynau hyfforddiant wyneb yn wyneb ar-lein yn cael eu recordio yn y dyfodol er mwyn rhoi hyblygrwydd ac opsiynau chwarae’r fideo. Teimlodd yr Aelodau yn gyffredinol fod gwybodaeth sy’n cael ei chyflwyno’r bersonol yn haws i’w gofio, ac yn rhoi cyfle i ofyn a chael atebion i gwestiynau yn ystod trafodaethau. Dywedodd y Rheolwr Hyfforddiant AD y byddai hyn yn ddibynnol ar ddarparwyr hyfforddiant yn cytuno i ganiatáu i’w sesiynau gael eu recordio.
• Gwnaed cais i adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn, yn rhoi manylion data ystadegol dienw ar y nifer sy'n cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi gorfodol.
Anogwyd yr aelodau i gyflwyno eu hanghenion hyfforddi unigol erbyn diwedd mis Mawrth, fel y gallai unrhyw ofynion gael eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu, i'w cyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis Mai 2021.
PENDERFYNWYD:-
• Dylai Aelodau roi eu mewnbwn ar eu hanghenion hyfforddi ynghyd â hyfforddiant gorfodol erbyn diwedd Mawrth 2021.
• Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i drafod trefniadau ar gyfer cynnal sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb gyda’r Rheolwr Hyfforddiant AD.
• Rheolwr Hyfforddiant AD i baratoi ac anfon holiadur/arolwg i Aelodau, ynghyd â rhestr o’r cyrsiau hyfforddi sydd ar gael.
• Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a Rheolwr Hyfforddiant AD i baratoi adroddiad ar y lefel o hyfforddiant sydd wedi ei gwblhau ar gyfer cyrsiau gorfodol.
• Cyflwyno drafft o’r Cynllun Hyfforddiant a Datblygiad Aelodau ar gyfer 2021/22 i’r Cyngor Llawn i’w gymeradwyo ym Mai 2021.
Dogfennau ategol: