Eitem Rhaglen

Galw Penderfyniad i Mewn: Adroddiad Gwrthwynebu - Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig

Mae cais galw i mewn wedi ei gyflwyno gan y Cynghorwyr Bryan Owen,

R. Llewelyn Jones, Kenneth Hughes, Peter Rogers ac Aled Morris Jones ynglyn â phenderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth, 2021 mewn perthynas ag Adroddiad Gwrthwynebu yng nghyswllt Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni - Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig.

 

Mae’r ddogfennaeth fel a ganlyn  

 

·        Y penderfyniad a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth, 2021

 

·        Y cais galw i mewn

 

·        Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 15 Mawrth, 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais galw i mewn gan Gynghorwyr Bran Owen, R. Llewelyn Jones, Kenneth Hughes, Peter Rogers ac Aled Morris Jones ynghylch penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar y 15fed o Fawrth, 2021 ynglŷn â’r Adroddiad Gwrthwynebiad o ran Moderneiddio Ysgolion yn ardal Llangefni gan gyfeirio at Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig, sef cymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, sef i gynyddu capasiti Ysgol y Graig er mwyn darparu ar gyfer Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu ardaloedd dalgylch Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Cyflwynwyd Rhybudd Penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, cais galw i mewn, a’r adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar y 15fed o Fawrth, 2021 gan gynnwys yr Adroddiad Gwrthwynebiad.

 

Eglurodd Cynghorydd Bryan Owen fel y Prif Aelod Galw i Mewn, y rhesymau am alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar y 15fed o Fawrth 2021 fel y nodwyd yn y ffurflen gais galw i mewn sydd fel a ganlyn - 

 

           Mae’r pendefyniad yn cael ei frysio yn ystod pandemig

           Mae’r cyhoedd yn teimlo nad ydynt wedi cael gwrandawiad teg a’r cwestiwn allweddol a’i cynigwyd yw

           Pryder am werth am arian

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen ei fod yn gwneud y cais galw i mewn ar ran rhieni a Chorff Llywodraethu Ysgol Talwrn sydd yn bryderus am ddyfodol eu cymuned pe bai’r cynnig i gau ysgol y pentref yn cael ei gadarnhau. Cyfeiriodd at yr ysgol fel calon bywyd cymunedol a chymunedau gwledig gan ddarparu’r sylfaen i dwf a ffyniant yr iaith Gymraeg. O ganlyniad dylai fod pob ymdrech yn cael ei wneud i warchod ysgolion mewn cymunedau gwledig. Teimlai cymuned Talwrn gan gynnwys rhieni a llywodraethwyr Ysgol Talwrn yn gryf fod y penderfyniad yn cael ei frysio yn ystod cyfnod ble mae cyfyngiadau pandemig wedi ei gwneud hi’n anodd iddynt ymateb yn briodol. Pwysleisiodd Cynghorydd Owen fod yr ystyriaethau ag arweiniodd at ohiriad y penderfyniad ar y mater hwn yn Mehefin 2020 - sef yr angen i ymateb i’r argyfwng ac i gadw pobl Ynys Môn yn ddiogel - yn parhau i fod yn berthnasol ac felly’n codi cwestiynau ynglŷn a chyfiawnhau bwrw ymlaen ar yr adeg hon. Cyfeiriodd Cynghorydd Owen at gywirdeb y data yn benodol y ffaith bod 5 o blant wedi'u cofnodi fel rhai sydd wedi'u cofrestru ar gyfer darpariaeth feithrinfa pan fod 14 o blant yn mynychu’r Cylch Meithrin mewn gwirionedd. O ran gwerth am arian, cynigodd Cynghorydd Owen y byddai’n gwneud mwy o synnwyr ariannol fod Ysgol Corn Hir yn cael ei hadeiladu gyda capasiti digonol ar gyfer unrhyw orlif o ddisgyblion o Langefni a bod Ysgol Talwrn yn cael ei chadw, yn hytrach na gwario £6m ar estyniad i Ysgol y Graig. Nid oes unrhyw fanylion wedi cael eu darparu chwaith ynglŷn â lleoliad yr estyniad arfaethedig ar gyfer Ysgol y Graig.

 

Rhoddwyd y cyfle i’r Cynghorwyr Kenneth Hughes, R. Llewelyn Jones a Peter Rogers i siarad fel cyd-lofnodwyr y cais galw i mewn, ac mi ailadroddon deimladau'r Cynghorydd Bryan Owen o ran y pryderon ynglŷn â’r effeithiau tymor-hir fyddai cau Ysgol Talwrn yn eu cael ar bentref Talwrn a’i gymuned o siaradwyr Cymraeg. Cyfeiriasant at y diffyg eglurder o ran y data cylch meithrin a’r angen i’r ystyriaethau gynnwys lles cenedlaethau’r dyfodol a rhoi plant wrth wraidd y penderfyniad. Mi wnaethon gytuno a’r farn y byddai adeiladu capasiti digonol yn yr Ysgol Corn Hir newydd yn opsiwn gwell o ran gwerth am arian nag adeiladu estyniad ar Ysgol Y Graig.

 

Siaradodd Mr Robat Idris Davies ar ran cymuned Talwrn i ail-bwysleisio gwrthwynebiad y gymuned i’r cynnig o gau Ysgol Talwrn fel y'i cyfleuir gan y 46 gwrthwynebiad a’i cyflwynwyd mewn ymateb i gyhoeddiad y rhybudd statudol o’r cynnig i gau'r ysgol gan nodi pryderon ynglŷn ag effaith cau’r ysgol ar ysbryd a hunaniaeth y pentref ac os oedd hi’n iawn ystyried mater mor arwyddocaol yng nghanol pandemig. Dywedodd Mr Davies nad oes dadl dda o blaid cau'r ysgol sydd yn ffynnu o ran addysg ac mewn adeilad cadarn ac mai opsiwn mwy synhwyrol fyddai gwneud cais i’r Gronfa Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer moderneiddio'r ysgol. Y teimlad cyffredinol yn y gymuned yw nad yw’r Cyngor yn gwrando ac wedi gwneud ei feddwl o ran dyfodol Ysgol Talwrn.

 

Ymatebodd yr Aelodau Portffolio a’r Swyddogion oedd yn bresennol yn estynedig i’r cais galw i mewn gan gyfeirio at y canlynol –

 

           Fel rhan o’r ymgynghoriad statudol yn Chwefror/Mawrth 2020, ystyriwyd cynnig gwreiddiol y Cyngor ynghyd a nifer o gynigion eraill yn fanwl; cafodd modelau addysgol a awgrymwyd gan y rhanddeiliaid hefyd eu hasesu ac fe ystyriwyd 12 o opsiynau eraill rhesymol yn lle cau Ysgol Talwrn gan gynnwys ffederaleiddio ond fe ganfuwyd nad oeddent yn cyflawni gyrwyr allweddol y Strategaeth Foderneiddio ysgolion presennol nac yn datrys yr heriau sydd yn wynebu'r ddwy ysgol.

           Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennedig y byddai’r Cyngor yn cael estyniad tan y 19eg o Fawrth, 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig a bod y Cyngor wedi gweithredu yn ôl gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018 drwy gydol y broses hon. Mae’r broses wedi cymryd 16 mis ac wedi cynnwys ymgynghoriad gydag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion y ddwy ysgol.

           Bod effaith y cynnig ar genedlaethau’r dyfodol o ran y pum ffordd o weithio wedi cael ei werthuso (cyfeiriai Adran F o’r adroddiad at hyn) ac yn dangos gradd y cydweithredu wrth ddod i benderfyniad a chyfranogiad dinasyddion yn y broses benderfynu.

           Bod y Cyngor yn deall rhwystredigaeth y rhanddeiliaid o ganlyniad i’r sefyllfa pandemig ond yn credu ei fod wedi bod ystyriol ac yn sensitif wrth ddelio gyda’r cyfnod clo ac wedi rhoi amser a chyfle digonol i’r rhanddeiliaid ymateb. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch ymgynghori ar gynnigion yn ystod y pandemig ac mae’r Cyngor wedi eu dilyn yn agos.

           Bod y nifer o wrthwynebiadau a dderbynwyd i’r cynnig yn ystod y cyfnod clo sef 46 yn uwch nac yn y gorffennol. Yn ogystal, derbyniwyd mwy o ymatebion i’r ymgynghoriad yn 2020 (57 ymateb) nac yn 2018 (52 ymateb).

           Bod yr Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg a asesodd effaith bosibl y cynnig ar yr iaith Gymraeg yn yr ysgol ac yn y gymuned wedi dod i’r casgliad y byddai’n cael effaith bositif ar yr iaith. Bydd yr Asesiad Effaith yn parhau yn ddogfen fyw a bydd yn fodd o leddfu pryderon rhanddeiliaid drwy gydol y prosiect.

           Bod data CYBLD 2020 yn dangos fod canran y disgyblion sydd yn siarad y Gymraeg yn rhugl yn y cartref yn uwch yn Ysgol y Graig (73%) nac yn Ysgol Talwrn (40%) a all roi cyfle i’r iaith ffynnu ymysg y plant sydd yn symud o Ysgol Talwrn drwy mwy o ddefnydd gydag ystod ehangach o blant. Mi fyddai’n gyfrifoldeb Tîm Arweinyddiaeth Ysgol y Graig estynedig arfaethedig i hybu’r defnydd anffufiol o’r Gymraeg gan ddisgyblion yn ystod oriau ysgol a byddai disgwyl i’r ysgol hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y dosbarth ac ar y buarth yn unol a Siarter Iaith Gymraeg yr Awdurdod.

           Caiff y ffigyrau ar gyfer presenoldeb y Cylch Meithrin eu seilio ar y ffigyrau a ddarperir i’r Awdurdod bob tymor hydref (gyda’r Cylch Meithrin yn cael ei redeg yn annibynnol i’r Awdurdod) a olygai fod y broses gasglu data yn gyson. Mae’r wybodaeth yma yn dangos fod y nifer o blant sydd yn mynychu’r Cylch Meithrin dros y 5 mlynedd diwethaf yn fwy neu lai’n ddwbl y nifer o blant sydd yna’n mynychu dosbarth derbyn Ysgol Talwrn yn y flwyddyn ganlynol e.e. dros y cyfnod o 2016/17 i 2019/20 mi fynychodd gyfanswm o 34 o blant y Cylch Meithrin a dim ond 18 ohonyn nhw wnaeth yna fynychu Ysgol Talwrn.

           Bod dyraniad cyllid £36m Ysgolion 21ain Ganrif Ynys Môn o dan Fand B ar gyfer costau nid yn unig Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig yn Llangefni, ond hefyd ysgolion yn ardaloedd Seiriol ac Amlwch a byddai gwario mwy ar un ardal yn cael effaith uniongyrchol ar leihau cyllid ar gyfer yr ardaloedd sy’n weddill. Byddai cadw Ysgol Talwrn yn ogystal rhoi estyniad ar Ysgol y Graig neu adeiladu Ysgol Corn Hir fwy i gymryd gweddill disgyblion Llangefni yn cynyddu cost y prosiect o oddeutu £1.4 miliwn i ganiatáu'r addasiadau angenrheidiol i Ysgol Talwrn er mwyn ei bod yn medru cyflawni darpariaethau'r Cwricwlwm newydd yn llawn.

           Bod y Cyngor am wario’r dyraniad Ysgolion 21ain Ganrif £36m ar y sail y byddai'n annoeth ildio buddsoddiad sy'n cael ei ariannu 65% gan Lywodraeth Cymru; os nad yw Ynys Môn yn defnyddio’r cyllid er budd Ynys Môn yna bydd yn cael ei ail-ddyrannu i awdurdodau lleol eraill.

           Bod angen ystyried gwerth am arian ar sail economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. O ran economi, mae cau Ysgol Talwrn yn fwy darbodus na’i chadw yn agored am y byddai hynny yn golygu £1.4m yn ychwanegol i godi ei safon; o ran effeithlonrwydd byddai cau Ysgol Talwrn yn cael gwared â’r costau rhedeg presennol o 40% ac felly’n rhyddhau'r adnoddau hynny i gael eu defnyddio yn fwy effeithlon ar gyfer darparu addysg. O ran effeithiolrwydd byddai cadw Ysgol Talwrn yn agored ddim yn cwrdd â’r gyrwyd ariannol yn Strategaeth Foderneiddio'r Ysgol a ddim ond cyrraedd y gyrwyr eraill gyda chost ychwanegol o £1.4 miliwn ac felly’n ei wneud yn opsiwn llai effeithiol na chau'r ysgol.

           O ran canfod tir ar gyfer yr estyniad arfaethedig ar gyfer Ysgol y Graig, mae’r ysgol bresennol wedi ei hadeiladu ar gyfer dros 300 o ddisgyblion gydag opsiwn i adeiladu estyniad ar y naill ben neu’r llall i ddarparu dau ddosbarth ychwanegol. Fodd bynnag, mae bellach angen saith dosbarth ychwanegol gan wneud y cynllun gwreiddiol yn anymarferol. Byddai defnyddio’r tir presennol sydd o gwmpas yr ysgol yn golygu colli’r cae chwarae a fyddai’n mynd yn erbyn safonau Estyn. Byddai defnyddio tir y maes parcio yn gwaethygu’r problemau parcio presennol ac ni fyddai’n bosibl beth bynnag oherwydd y tanciau storio sydd o dan y maes parcio. Yr opsiwn sydd yn cael ei ystyried ac sydd â thrafodaethau yn ei gylch yn mynd ymlaen ar hyn o bryd yw i brynu tir ger llaw i adeiladu’r estyniad arfaethedig. Byddai'n amhriodol i wneud sylwadau pellach nes bod penderfyniad terfynol ar yr ysgol wedi'i gadarnhau.

 

Fel y llofnodwr galw i mewn arweiniol rhoddwyd gyfle i’r Cynghorydd Bryan Owen i grynhoi.

 

Siaradodd Cynghorydd Dylan Rees a Nicola Roberts, Aelodau Lleol i gadarnhau eu bod yn credu bod y rhesymau dros wneud y cais galw i mewn wedi eu hateb a bod eu barn nhw’n parhau yn ddi-newid o ran cefnogi penderfyniad y Pwyllgor Gwaith fel y ffordd ymlaen fwyaf ymarferol o ran mynd i'r afael â'r her o foderneiddio darpariaeth addysg gynradd yn y rhan hon o Langefni. Cyfeiriodd Cynghorydd Dylan Rees i adroddiad gan Archwilio Cymru wedi’i ddyddio’n Dachwedd, 2020 a oedd yn daparu asesiad o ymateb ac adferiad Covid-19 yr Awdurod, a nododd y bydd parhau i ddarparu rhaglenni a phrosiectau blaenoriaeth allweddol yn y rhaglen drawsnewid yn cyfrannu at wytnwch gwasanaethau.

 

Rhoddwyd y cyfle i Gynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant a Chynghorydd R. G. Parry, OBE, FRAgS Aelod Gweithredol ac Aelod Lleol i roi eu sylwadau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar ac yn ysgrifenedig ac fe nododd yr Aelodau oedd heb lofnodi y cais galw i mewn, eu bod yn fodlon â'r ymatebion a ddarparwyd ac ni chawsant eu perswadio i gefnogi'r galw i mewn.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod gan y Pwyllgor dri opsiwn wrth ddodd i benderfyniad ynglyn â’r galw i mewn, sef:

 

           I wrthod y galw i mewn ac i dderbyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith

           I wrthod penderfyniad y Pwylllgor Gwaith ac ei atgyfeirio yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith gydag argymhelliad y dylid ei ailystyried a / neu ei ddiwygio.

           I wrthod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ac i atgyfeirio y mater i’r Cyngor Llawn gyda’r wybodaeth nad oes gan y Cyngor ddim awdurdodaeth ar y mater hwn ac y bydd felly ond yn medru ei atgyfeirio yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Cynnigodd Cynghorydd Bryan Owen, ac fe’i eilwyd gan Gynghorydd Aled Morris Jones, y dylai’r penderfyniad gael ei atgyfeirio yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith gyda’r argymhelliad y dylai Ysgol Talwrn barhau yn agored. Cynnigodd Cynghorydd Richard Owain Jones welliant i wrthod y galw i mewn ac y dylai penderfyniad y Pwyllgor Gwaith gael ei gymeradwyo, ac fe’i eilwyd gan Cynghorydd Alun Roberts. Yn y bleidlais a ddilynodd cafodd y gwelliant ei gymeradwyo o 10 pleidlais i 2. 

 

Penderfynwyd gwrthod y galw i mewn ac i dderbyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith o’i gyfarfod a gynhaliwyd ar y 15fed o Fawrth, 2021 sef i gymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, sef i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i ddarparu ar gyfer Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu ardaloedd dalgylch Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Felly bydd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar y 15fed o Fawrth, 2021 yn dod i rym ar unwaith.

 

Dogfennau ategol: