Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Cynllun Archwilio Drafft 2021 - Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad Archwilio Allanol a oedd yn cynnwys Cynllun Archwilio arfaethedig ar gyfer blwyddyn archwilio 2020/21 i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd y Cynllun yn nodi'r gwaith y cynigir ei wneud mewn perthynas â'r archwiliad ariannol, y rhaglen archwilio perfformiad ar gyfer y flwyddyn ynghyd â'r rhaglen o waith ardystio grantiau ac amserlen adrodd archwilio.

 

Rhoddodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru grynodeb o gyfrifoldebau'r Archwilydd Allanol o ran archwilio datganiadau ariannol, ac mewn perthynas ag asesu trefniadau'r Cyngor ar gyfer cael gwerth am arian o'r adnoddau y mae'n eu defnyddio. Hefyd i ba raddau y mae'n cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu a chymryd camau i gyflawni ei amcanion llesiant. Cyfeiriodd at y rhaglen archwilio perfformiad ar gyfer 2021/22 a oedd yn cynnwys darnau o waith yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru 2015) (archwiliad o’r Ddeddf) y mae eu manylion i'w cadarnhau; Sicrwydd ac Asesu Risg ynghylch trefniadau i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau a gwaith thematig mewn perthynas â galluoedd trawsnewid ac addasu cynghorau i adeiladu ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Cadarnhaodd y bydd Archwilio Cymru yn parhau i fod yn hyblyg i gyflawni'r gwaith archwilio a nodir yn y cynllun ac mae wedi ymrwymo i sicrhau na fydd y gwaith hwn yn amharu ar y gweithgareddau y mae angen i'r Cyngor eu gwneud i ymateb i heriau parhaus a achosir gan bandemig Covid19.

 

Ymhelaethodd Yvonne Thomas, Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru ar y prif risgiau archwilio o ran y datganiad ariannol a nodwyd yn ystod cam cynllunio'r archwiliad a'r ymateb archwilio arfaethedig wrth ddelio â'r risgiau hynny, a chadarnhaodd fod y risgiau'n berthnasol i bob cyngor yng Nghymru.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol ynglŷn â’r cynllun archwilio arfaethedig

 

           Y trefniadau a fydd yn disodli cyfrifoldebau gwelliannau parhaus yr Archwilydd Allanol na fyddant bellach yn gymwys o ganlyniad i newidiadau sy'n deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Eglurodd Mr Alan Hughes fod Archwilio Cymru, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, wedi ymrwymo i ardystio Adroddiad Gwella a Chynllun y Cyngor a’i fod yn cyflwyno tystysgrifau i'r perwyl hwnnw. Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn gosod dyletswydd ar gynghorau i adolygu ac adrodd ar eu perfformiad drwy hunanasesiad y bydd Archwilio Cymru yn ei archwilio er mwyn cael sicrwydd ynghylch y gwaith a wneir gan gynghorau yng Nghymru. Bydd yn elfen allweddol o'r fframwaith sicrwydd a fydd yn ei dro yn bwydo i mewn i fethodoleg sicrwydd a risg yr Archwiliad Allanol.

 

           Diben a swyddogaethau Cydbwyllgorau Corfforaethol y cyfeirir atynt fel rhan o'r prif risgiau archwilio ariannol a nodir o dan faterion eraill.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol sydd wedi'u cynllunio i alluogi swyddogaethau penodol - datblygu economaidd; trafnidiaeth, cynllunio strategol a gwella addysg - i'w darparu'n strategol ar lefel ranbarthol gan wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau. Mae Cydbwyllgor Corfforaethol Rhanbarthol Gogledd Cymru sy'n cwmpasu pob un o chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru yn rhan o'r trefniadau. Mae'r Cydbwyllgorau Corfforaethol yn endidau corfforaethol yn eu hawl eu hunain a byddant yn gallu cyflogi staff, dal asedau a gosod cyllidebau.

 

Penderfynwyd derbyn y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2021, a nodi ei gynnwys.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: