Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd - Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd y Swyddog Craffu ar y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn cyfeirio at bedwar cyfarfod olaf y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion ac yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Tachwedd 2020 a Mawrth 2021. Nododd fod Gwaith monitro safonau ysgolion unigol wedi hen ennill ei blwyf a’i fod yn parhau i ddatblygu. Yn dilyn trafodaeth ym mis Hydref 2019 ar y rhaglen i fonitro safonau mewn ysgolion unigol, roedd tystiolaeth gref o weithredu ar y penderfyniad i ddatblygu craffu ymhellach. Fodd bynnag, roedd canlyniad y pandemig wedi cael effaith ar y gwaith ar hyn o bryd a bwriad y Panel oedd ailedrych ar yr ymweliadau hyn pan fyddai amodau'n caniatáu. O’r herwydd, byddai angen i'r Panel addasu'r ffordd yr oedd yn gweithio a chraffu ar berfformiad ysgolion unigol. Roedd lle i'r Panel gyflawni'r gwaith hwn yn rhithwir yn y dyfodol.

 

Crybwyllodd y Cadeirydd fod y Panel wedi ystyried y materion a ganlyn: -

 

·         Ymateb y Cyngor i Covid-19 (Rhan 3): Cymorth i Blant sy'n Fregus a Phrosiect Caergybi;

·         Darpariaeth Lles;

·         Adroddiad Cynnydd GwE 2020/21: Cefnogi Ysgolion yn ystod pandemig Covid-19;

·         Y Gymraeg;

·         Ysgolion Arbennig;

·         Camau nesaf;

·         Estyn: cefnogaeth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ymateb i Covid-19;

·         Teithiau dwy Ysgol Uwchradd ar yr Ynys;

·         Diweddariad ar ddatblygiadau Partneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant Gwynedd a Môn;

·         Cefnogaeth ddigidol i ysgolion a datblygiadau cyffredinol ynghylch y Gymraeg.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a gwneud y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·         Sut y gallai’r Panel ddatblygu fel y gellid clywed llais y plentyn / disgyblion. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Gwasanaeth Addysg yn annog disgyblion i fynegi eu barn fel rhan o weithgareddau ac addysg yr ysgol. Nododd fod y Cyngor Ysgol yn rhoi cyfle i ddisgyblion godi materion o bryder ac yn sicrhau bod syniadau / gweledigaeth bosibl y plant yn gwella’r gwaith yr oedd yr ysgolion yn canolbwyntio arno;

·         Gofynnwyd a oedd camau a gymerwyd gan y Panel yn ddigon cadarn ac a oedd faint o waith a wnaed yn briodol ac a oedd angen trosglwyddo materion i'r Pwyllgor Craffu. Ymatebodd y Cadeirydd gan ddweud fod y Swyddogion Addysg yn mynd i’ Panel ynghyd â chynrychiolwyr o GwE. Mynegodd ymhellach fod y cysylltiad â GwE yn fanteisiol i'r Panel er mwyn rhoi sylw i faterion a rhannu gwybodaeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod trafodaethau yn y Panel yn gallu ymwneud â materion a allai fod yn broblem yn y dyfodol gyda sbectrwm addysgol; gallai cynrychiolwyr y Panel herio Swyddogion o'r Gwasanaeth Addysg a GwE. Nododd fod gwahoddiad hefyd wedi'i roi i Estyn i ddod i unrhyw gyfarfod o'r Panel.

·         Gofynnwyd a oedd gan y Panel dystiolaeth ei fod yn ychwanegu gwerth at y gwasanaeth Addysg. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc trwy ddweud y câi gwaith paratoi sylweddol  ei wneud ar gyfer y Panel a bod cofnodion ac adroddiadau ar gael. Nododd fod y Gwasanaeth Addysg wedi elwa o waith y Panel gyda Phenaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu gwahodd gerbron y Panel a bod aelodau’r Panel yn ymweld â’r ysgol. Roedd cefnogaeth GwE ac Estyn hefyd wedi bod yn effeithiol i waith y Panel. Dywedodd y Prif Weithredwr mai cryfderau'r Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion oedd ei fod wedi gallu esblygu o amgylch yr heriau yn y gwasanaeth addysg. Nododd y câi’r Panel ei gydnabod yn arfer da gan Estyn a GwE ac yn genedlaethol. Dywedodd y Prif Weithredwr bod angen i'r Panel ystyried y genhedlaeth o ddisgyblion oedd mewn ysgolion ar hyn o bryd os byddir yn cyhoeddi na fydd unrhyw arholiadau allanol yn cael eu cynnal yn y pum mlynedd nesaf. Byddai angen i'r Panel drafod sut y byddai’n herio'r ysgolion yn eu perfformiad yn hyn o beth. Ymatebodd y Cadeirydd trwy ddweud fod llythyr wedi’i anfon at y Gweinidog Addysg, Mrs Kirsty Williams Aelod o’r Senedd, ar ran y Pwyllgor Craffu i gael eglurhad ynghylch arholiadau TGAU a Safon Uwch disgyblion yn y dyfodol. Darllenodd y Cadeirydd ymateb Mrs Kirsty Williams Aelod o’r Senedd, i'r cyfarfod.

 

Dywedodd Deiliad y Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi cyflwyno heriau cadarn i berfformiad ysgolion ar yr Ynys a’i fod yn amlwg bod safonau ysgolion ar yr Ynys wedi gwella’n sylweddol ac wedi symud ymlaen dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi'r cynnydd hyd yma gyda gwaith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion o safbwynt cyflawni ei raglen waith sy’n cynnwys herio perfformiad ysgolion unigol yn gadarn.

·           Nodi’r meysydd gwaith y rhoddwyd sylw iddynt drwy’r trefniadau newydd a gyflwynwyd wrth gysgodi’r Gwasanaeth Dysgu a GwE.

·           Bod y Pwyllgor Sgriwtini yn cymeradwyo cadernid gwaith monitro’r Panel hyd yma

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: