7.1 – 19C313A – Stâd Pentrefelin a Waenfawr , Caergybi
7.2 – 20C289 – Blaendraeth ger yr Harbwr, Cemaes
7.3 – 42C61G – Y Garafan, Ty’r Ardd, Pentraeth
Cofnodion:
7.1 19C313A - Cais amlinellol i godi 22 annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd ar dir rhwng Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi.
Oherwydd ei fod wedi gwneud datganiad o ddiddordeb yn y cais, gadawodd y Cynghorydd John Griffith y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.
Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod y cais uchod yn dyddio’n ôl i gyfnod yr hen Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a oedd yn bodoli cyn yr etholiad llywodraeth leol ym mis Mai. Gohiriwyd rhoi sylw i’r cais yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor ar 24 Ebrill oherwydd ystyriwyd y gallai penderfynu’r cais cyn yr etholiad fod yn gynhennus yn lleol. Esboniodd y Swyddog bod anhawster yn y cyfarfod hwn oherwydd nad oes cworwm o aelodau o’r hen Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn gwasanaethu ar y Pwyllgor cyfredol i fedru gwneud penderfyniad. ‘Roedd y Swyddog wedi argymell i’r cyn-Bwyllgor ymweld â’r safle, a dyna felly yw’r argymhelliad i’r Pwyllgor yn y cyfarfod heddiw - sef bod Aelodau yn ymweld â’r safle cyn penderfynu’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylai’r Pwyllgor ymweld â’r safle, yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel y gellir ymweld â’r safle o’r newydd.
7.2 20C289 – Cais llawn i osod ‘Cloch Llanw ac Amser’ a ffrâm gynhaliol yn y blaen traeth ger yr Harbwr yng Nghemaes.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor i’w benderfynu oherwydd ei fod yn gais ar dir y mae’r Cyngor yn ei brydlesu gan Stad y Goron. Gohiriwyd y cais yn flaenorol oherwydd bod yr adran wedi cael llythyrau’n gwrthwynebu ac am fod yr Adain Iechyd yr Amgylchedd wedi cyflwyno gwrthwynebiad i’r cais hefyd. Mae’r pwyntiau a godwyd yn y gwrthwynebiadau wedi eu trafod ac wedi eu datrys ers hynny.
Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod y gloch yn arteffact cyhoeddus ac esboniodd ei phwrpas a sut y byddai’n gweithio. Esboniodd bod y cais wedi ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd gwrthwynebiad lleol i’r cynnig ar sail niwsans sŵn posib ac oherwydd bod gan Swyddogion yr Adain Iechyd yr Amgylchedd bryderon tebyg ar y pryd. Mae’r Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wedi gwneud ymchwiliadau pellach ers hynny, yn arbennig felly mewn perthynas â’r lefelau sŵn y gallai’r gloch eu cynhyrchu ac, fel ffordd o oresgyn y broblem, maent yn fodlon rhoi caniatâd cynllunio dros dro yn unig. Mae hynny’n golygu’n ymarferol y byddai caniatâd cynllunio yn cael ei roi am flwyddyn ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, gallai unrhyw faterion niwsans sŵn gael sylw gan y Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd dan ddeddfwriaeth Iechyd Amgylcheddol perthnasol ac, os gwelir bod y gloch wedi achosi niwsans sŵn, ni fyddai’r caniatâd cynllunio yn cael ei adnewyddu. Dyna felly oedd argymhelliad y Swyddog.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo argymhelliad y Swyddog i roi caniatâd cynllunio dros dro ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes a oedd yn ystyried bod hynny’n ffordd resymol iawn o symud ymlaen.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Bydd y caniatâd cynllunio’n parhau am un flwyddyn yn y lle cyntaf. (Ni wnaeth y Cynghorydd W T Hughes fel Aelod Lleol bleidleisio ar y mater).
Dogfennau ategol: