Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21, yn amodol ar archwiliad i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Fel gyda blynyddoedd blaenorol, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod tanwariant yn y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21, ac nad yw'n anarferol pan fo prosiectau cymhleth mawr yn rhan ohoni. Fodd bynnag, mae lefel y tanwariant yn 2020/21 yn sylweddol (43% o'r arian sydd ar gael) ac mae i'w briodoli i effeithiau pandemig Covid 19 a'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyflwynwyd ar ddechrau blwyddyn ariannol 2020/21 a arweiniodd at ohirio gwaith a chynlluniau cyfalaf. Ym mhob achos, sicrhawyd y cyllid ar gyfer prosiectau a chaiff ei gario ymlaen i 2021/22 heb golli adnoddau i'r Cyngor.
Ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ar y rhesymau dros y tanwariant gan gyfeirio at gynlluniau unigol fel y crynhoir yn y tabl ym mharagraff 2.2 o'r adroddiad sy'n dangos lefel y tanwariant ar bob cynllun a sylwadau ar eu statws. Mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar gynnydd, yn enwedig o ran datblygu tai lle mae gofynion cadw pellter cymdeithasol a rheoliadau eraill yn gysylltiedig â Covid wedi amharu ar waith adeiladu a gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd. Er y cyflawnwyd elfen o ddal i fyny yn chwarter olaf 2020/21, nid oedd yn ddigon i wneud iawn am y tri mis a gollwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Mae oedi wrth gwblhau cynigion ar gyfer moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni hefyd wedi cyfrannu at y tanwariant, hefyd yr oedi wrth ddarparu cerbydau gwastraff newydd sydd wedi golygu na phrynwyd y cerbydau fflyd i gyd cyn diwedd y flwyddyn. Mae llawer o'r cynlluniau cyfalaf yn cael eu hariannu gan grantiau ac er gwaethaf y diffyg cynnydd ar rai o'r cynlluniau ni chollwyd unrhyw arian grant ond yn hytrach bydd yn parhau i 2021/22. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yr Awdurdod yn cael ei chyflwyno maes o law i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac wedi hynny i'r Pwyllgor Gwaith a bydd yn adlewyrchu effaith tanwariant y gyllideb gyfalaf ar reolaeth y Cyngor o'i weithgarwch arian parod a benthyca.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, fod y Panel, wrth graffu ar adroddiad alldro'r gyllideb gyfalaf, wedi gofyn, er mwyn hwyluso gwariant cyfalaf, a fyddai’n bosibl cyflwyno amserlen pennu'r gyllideb gyfalaf yn gynt, yn enwedig gan fod llawer o gynnwys y rhaglen gyfalaf yn hysbys ymlaen llaw; byddai dechrau’n gynharach yn caniatáu i dendrau gael eu cytuno'n gynt ac i’r gwaith fynd rhagddo ar adeg wahanol fwy ffafriol o'r flwyddyn a thrwy hynny wella'r tebygolrwydd y bydd prosiectau'n cadw at yr amserlen.
Penderfynwyd –
· Nodi sefyllfa alldro ddrafft Rhaglen Gyfalaf 2020/21 sy’n destun archwiliad, a
· Chymeradwyo cario ymlaen £11.898m i 2021/22 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriant. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei gario ymlaen i 2021/22 fel ym mharagraff 4.3 o Atodiad A yr adroddiad ac yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 o £48.065m.
Dogfennau ategol: