Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1 – 38C185C – Maes Mawr, Llanfechell

13.2 – 38C236A – Tyddyn Paul, Llanfechell

Cofnodion:

13.1 38C185C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gyda hwb hyd at 24.6m o uchder, diamedr rotor hyd at 19.2m ac uchder o 34.2m i flaen y llafn fertigol ar dir ym Maes Mawr, Llanfechell. 

 

Roedd y cais wedi ei adrodd i’r pwyllgor yn wreiddiol oherwydd iddo gael ei benderfynu na fyddai pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio yng nghyswllt datblygiadau tyrbinau gwynt.  Roedd yr ymgeisydd ar y pryd yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Ynys Môn.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd Kenneth Hughes allan o’r cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio arno.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi penderfynu cymeradwyo’r cais ym mis Tachwedd 2012.  Ni ryddhawyd y caniatâd cynllunio ffurfiol tra roedd cwynion ffurfiol yn cael eu hystyried gan Swyddog Monitro’r Cyngor.  Cafwyd her gyfreithiol wedi hynny i’r Uchel Lys ac mae hwnnw’n parhau.  Yn ystod yr uchod, fe apeliodd yr ymgeisydd oherwydd methiant i benderfynu a dilyswyd yr apêl gyda hynny’n golygu bod yr hawl dros y cais yn awr yn gorwedd gyda’r Arolygiaeth Gynllunio a fydd yn gwneud penderfyniad ar y cais.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud bod y cais yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor am nifer o resymau fel oedd i’w weld yn yr adroddiad yn cynnwys er gwybodaeth; i asesu effaith y cyfarwyddyd cynllunio atodol ar ynni gwynt ar y tir a fabwysiadwyd yn Ionawr 2013 ac mewn ymateb i lythyrau a dderbyniwyd yn dilyn y penderfyniad i roi caniatâd cynllunio.  Roedd yr adroddiad yn delio â’r materion hyn mewn manylder.  Gofynnir i’r pwyllgor yn awr ddod i benderfyniad ynglŷn â safle’r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â’r apêl.  Roedd y Swyddogion yn ystyried bod y cynnig yn dderbyniol o ran yr egwyddor o ddatblygu; mwynderau gweledol a phreswyl, fflachiadau cysgodion/golau yn cael ei adlewyrchu, sŵn a’r effaith ar yr AHNE.  Tra bod Swyddogion yn cydnabod y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith yn lleol ac y byddai’n strwythur amlwg nid oeddynt yn barnu bod yr effeithiau hynny yn ormodol.  Argymhelliad gwreiddiol y Swyddog oedd caniatáu a’r argymhelliad yn y cyfarfod hwn yw y dylid hysbysu’r Arolygiaeth Cynllunio nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dymuno gwrthwynebu’r apêl ac os yw’r Arolygiaeth yn bwriadu caniatáu’r apêl, bod yr amodau a geir yn yr adroddiad yn cael eu gosod ar y caniatâd. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w benderfynu oherwydd bod yr hawl i benderfynu bellach yn gorwedd gyda’r Arolygiaeth Gynllunio.  Gofynnir i’r Pwyllgor roi arweiniad ar y safiad sydd i’w gymryd mewn perthynas â’r apêl.  Roedd argymhelliad y Swyddog yn parhau i fod yn un o ganiatáu ond ers hynny fe gafwyd newidiadau drwy’r CCA er nad yw’r rhain yn effeithio ar yr argymhelliad.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd ar y mater hwn, cododd Aelodau’r Pwyllgor y materion a ganlyn a cheisiwyd cael eglurhad pellach arnynt -

 

·        Statws y CCA ac yn benodol y ddarpariaeth yn ymwneud â’r pellter gwahanu rhwng tyrbinau gwynt ac eiddo preswyl ac/neu dwristiaid.  Roedd nifer o gwestiynau ynglŷn â’r pwysoliad ellid ei roi i’r ddarpariaeth hon o ystyried bod hwn a rhai newidiadau ychwanegol a wnaed yn y cyfarfod o’r Cyngor Sir ar 24 Ionawr 2013 pan fabwysiadwyd y CCA, heb fod yn destun ymgynghori cyhoeddus.  Roedd yna gwestiynau hefyd ynglŷn â mynd allan i ymgynghori ar y newidiadau ychwanegol.

·        P’un a oedd y Swyddogion yn fodlon ar y pwynt y byddai’r tyrbin gwynt arfaethedig yn nes at yr eiddo preswyl agosaf na’r 500m y mae’r CCA yn ei argymell fel yr agwedd leol ac a oedd argymell caniatad yn seiliedig ar bellter gwahanu o 312m yn gosod cynsail i’r pellter gael ei leihau yn y CCA.

·        Ceisiodd yr Aelodau gael eglurhad pellach o’u sefyllfa fel Pwyllgor yng nghyswllt yr hyn oedd yn cael ei ddisgwyl ohonynt mewn perthynas â’r cais.  Dywedodd rhai Aelodau eu bod yn ei chael yn anodd dod i gasgliad heb fod yn gwybod am y cefndir ehangach a chyd-destun y cynnig ac roeddynt yn teimlo y dylid gohirio unrhyw ystyriaeth ar yr achos hyd nes y byddent wedi cael gwybodaeth gefndirol bellach.

 

Cafwyd ymateb gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio i’r materion a godwyd ac eglurodd bod yr adroddiad yn delio â mater y pwysoliad y gellir ei roi i’r ddarpariaeth yn y CCA mewn perthynas â phellter gwahanu.  Cafwyd nifer o apeliadau lle mae’r arolygwyr cynllunio wedi dweud mai ychydig iawn o bwys y maent yn ei roi i’r ddarpariaeth o ystyried na fu’r newidiadau yn destun ymgynghori cyhoeddus.  Mae’r Swyddogion wedi asesu’r sefyllfa yn broffesiynol mewn perthynas â’r effeithiau posibl y gallai’r cynnig ei gael ar eiddo cyfagos ac wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth na rhesymau cynllunio ar sail hynny i wrthod y cais.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ymhellach beth oedd sefyllfa’r Pwyllgor Cynllunio a’r hyn a ddisgwylid ohono trwy ddweud bod y CCA wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn fel cyfarwyddyd.  Dywed arolygwyr cynllunio na fu’r newidiadau ychwanegol a wnaed mewn cyfarfod o’r Cyngor ar 24 Ionawr pryd y cafodd yr CCA ei fabwysiadu yn destun ymgynghori cyhoeddus ac roedd yr Arolygiaeth yn credu bod hynny’n ddiffyg.  Felly, rhoddir llai o bwysau gan yr arolygwyr ar y darpariaethau a wnaed gan y newidiadau yng nghyfarfod 24 Ionawr yn cynnwys y ddarpariaeth mewn perthynas â phellteroedd gwahanu.  Nid oes proses arall ar gael i’r CCA oni bai bod y Cyngor yn penderfynu ei fod yn dymuno diwygio’r cyfarwyddyd.  Gan gyfeirio at bellteroedd gwahanu, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol mai rhywbeth i’w ddefnyddio fel cyfarwyddyd yw’r CCA yn hytrach na rhywbeth i’w osod yn ddeddfol a rhaid ystyried pob cais ar ei nodweddion ei hun o fewn ei gyd-destun a’i amgylchedd ei hun.  O safbwynt sefyllfa’r Pwyllgor, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol - pe bai’r Pwyllgor yn dymuno gohirio dod i benderfyniad ar y mater, yna byddai disgwyl iddo nodi pa wybodaeth bellach yr oedd yn dymuno i’r Swyddogion adrodd yn ôl yn ei chylch.  Pe bai Aelodau yn teimlo nad ydynt yn cytuno gyda’r cais, yna mae’n agored iddynt ddod i benderfyniad felly gan roi manylion am y rhesymau cynllunio y mae eu gwrthwynebiad i’r cais yn seiliedig arnynt. 

 

Yn dilyn trafodaeth bellach, dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes iddo bleidleisio yn erbyn  y cais cyn hyn ac roedd yn credu y dylai lynu wrth y sefyllfa honno er mwyn bod yn gyson.  Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yntau yn teimlo'r un ffordd a chynigiodd y dylai sefyllfa’r Pwyllgor ar y cais fod yn un o wrthod h.y. i herio’r apêl.  Eilwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.  Y rhesymau a roddwyd dros benderfyniad y Pwyllgor oedd effaith andwyol y cynnig ar y dirwedd, effeithiau gweledol andwyol, effeithiau ar fwynderau, effeithiau posibl ar iechyd a’i agosrwydd i eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mewn ymateb na fyddai Swyddogion Cynllunio yn gallu amddiffyn y rhesymau hynny mewn apêl.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y gallai’r mater, efallai, gael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf i roi amser i Swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar y rhesymau a roddwyd dros safle’r Pwyllgor ar y mater ac i ganiatáu i’r Pwyllgor ystyried a yw’n dymuno cadarnhau ei benderfyniad.  Roedd yn credu y byddai amserlen yr apêl yn caniatáu i’r Pwyllgor weithredu yn y modd hwnnw.

 

Penderfynwyd –

 

·        Peidio â chymeradwyo argymhelliad y Swyddog i roi gwybod i’r  Arolygiaeth Gynllunio nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dymuno gwrthwynebu’r apêl am y rheswm bod y Pwyllgor yn gwrthod y cais oherwydd ei effeithiau niweidiol ar y dirwedd, ei effeithiau gweledol andwyol, effaithiau ar fwynderau, effeithiau posibl ar iechyd a’i agosrwydd at eiddo.

·        Bod y mater yn cael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf fel y gall Swyddogion adrodd yn ôl ar resymau’r Pwyllgor dros wrthod.

 

13.2 38C236A – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw ai peidio i godi sied amaethyddol i bwrpas storio ar dir yn Tyddyn Paul, Llanfechell.

 

Mae’r ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor nad oedd angen caniatâd blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y datblygiad uchod oherwydd ei fod yn ddatblygiad a ganiateir.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

Dogfennau ategol: