Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 – FPL/2020/164 – Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpVUAV/fpl2020164?language=cy

 

7.2 – FPL/2021/10 – Bron Castell, Llanfairynghornwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgwKXUAZ/fpl202110?language=cy

 

 

Cofnodion:

7.1  FPL/2020/164 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i fod yn llety gwyliau ynghyd ag addasu ac ehangu ym Mwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2021, penderfynwyd bod angen ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 17 Mawrth, 2021.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2021 penderfynwyd gohirio penderfynu ar y cais er mwyn i'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y lleiniau gwelededd o’r mynediad i safle'r cais. 

 

Darllenodd y Cadeirydd ddatganiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod fel a ganlyn:-

 

Dymunodd y Cynghorydd Alun Roberts ddiolch i'r Adrannau Priffyrdd a Chynllunio am ymdrin â materion yn ymwneud â mynediad i'r safle datblygu a nododd fod y cynlluniau diwygiedig yn welliant i'r cynlluniau gwreiddiol a gyflwynwyd.  Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd sy'n arwain at y safle o droad Llangoed sy'n arwain at Benmon.  Mynegodd y Cynghorydd Roberts fod y ffordd yn anaddas i ddefnyddwyr y ffordd ac yn enwedig i gerddwyr sy'n cerdded ar ochr y ffordd.  Mae'r llwybr troed cyhoeddus sy'n arwain ar hyd rhan o'r ffordd mewn cyflwr gwael a hefyd ceir llifogydd yma.  Er ei fod yn derbyn bod y cyfarfod yn ymdrin â'r cais gerbron y Pwyllgor, mae gan ran o'r datblygiad ddau gais cynllunio arall gyda rhyw ran o'r safle o dan faterion gorfodi ar hyn o bryd. Nododd y Cynghorydd Roberts ei fod ef a'r gymuned leol o'r farn y byddai'n well aros am ganlyniad y materion gorfodi ar y safle cyn i'r Pwyllgor wneud penderfyniad ar y cais hwn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Lleol ei fod yn cytuno â'r datganiad gan ei gyd-Aelod Lleol ynglŷn â'r cais hwn.  Nododd fod safle’r cais yn ddatblygiad gwyliau sylweddol ac roedd o'r farn y dylai un cais cyfansawdd fod wedi'i gyflwyno yn hytrach na cheisiadau cam wrth gam tameidiog. Mynegodd y Cynghorydd Jones fod materion diogelwch y briffordd yn peri pryder lleol o ran y datblygiad. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i ohirio yn y cyfarfod diwethaf er mwyn i'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y lleiniau gwelededd o’r mynediad i safle'r cais.  Nododd fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau bod mynediad i'r safle yn dderbyniol o ran y datblygiad ar y safle.  Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau yn dilyn proses gyhoeddusrwydd y cais, ond mynegwyd pryderon lleol drwy'r Aelodau Lleol a gan y Cyngor Cymuned.  Mae llythyr wedi'i gyflwyno gan yr ymgeisydd i gefnogi ei gais.  Dywedodd ymhellach fod safle’r cais wedi'i leoli mewn cefn gwlad agored mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig.  Rhestrir yr adeilad allanol dan sylw gan ei fod yn adeilad cwrtil sydd wedi'i leoli y tu ôl i'r prif Adeilad Rhestredig, Maenordy Lleiniog. Cydnabyddir pryderon y gymuned leol ynghylch gweithgareddau ar y safle gan gynnwys gwaith ar strwythurau y gallai fod angen caniatâd adeilad rhestredig ar eu cyfer. Ymchwilir i'r rhain drwy orfodaeth ond nid oes cadarnhad ar hyn o bryd bod unrhyw achos o dorri rheolau cynllunio ar y safle.  Er ei fod yn derbyn bod ceisiadau eraill yn gysylltiedig â'r safle sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, rhaid ystyried pob cais yn unigol ac yn ôl ei deilyngdod ei hun.  Mae Polisi TWR2 sy'n ymdrin â llety gwyliau yn nodi y caniateir cynigion ar yr amod eu bod o ansawdd uchel o ran dyluniad, cynllun ac edrychiad ac yn cydymffurfio â'r meini prawf polisi perthnasol.  Ystyrir bod y cynnig yn cyd-fynd â darpariaethau Polisi TWR2 a'i fod mewn lleoliad cynaliadwy; nid ystyrir chwaith y bydd y datblygiad yn arwain at effaith annerbyniol ar gymeriad ac edrychiad yr adeilad rhestredig a'r AHNE dynodedig.  Mae caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer y datblygiad hwn wedi'i roi a'r argymhelliad yw cymeradwyo'r cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes fod yr Aelodau Lleol wedi mynegi'r pryderon lleol ynglŷn â'r cais hwn.  Fodd bynnag, roedd pryderon y Pwyllgor yn ymwneud â diogelwch y priffyrdd ac yn bennaf ynghylch a oedd y mynediad i'r safle yn cydymffurfio â'r lleiniau gwelededd gofynnol.  Mae'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth bod y pellteroedd gwelededd yn fwy na'r safonau gofynnol sydd eu hangen.  Nid yw'r Awdurdod Priffyrdd yn gwrthwynebu'r cais a chynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn amodol ar gwblhau'r gwaith o ehangu'r mynediad i'r safle cyn i unrhyw waith arall barhau ar y safle.  Eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol y dylid ehangu'r mynediad i'r safle cyn i unrhyw waith arall barhau ar y safle. 

 

7.2  FPL/2021/10 – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi garej ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon yn y gymuned leol ynghylch graddfa, lleoliad a dyluniad y garej. 

 

Siaradwr Cyhoeddus (Gwrthwynebydd)

 

Dywedodd Ms Alys Haf fod Bron Castell yn eiddo i'w mam a'i bod wedi bod yn gartref i'r teulu ers 1900. Cyfeiriodd at salwch difrifol ei mam yn 2015 a'r hyn a'i cadwodd i fynd oedd y syniad a'r freuddwyd y gallai ddychwelyd i'r cartref lle cafodd ei geni ym Mron Castell, Llanfairynghornwy ac i fod yn agos at ei theulu i gyd yn y pentref.  Dywedodd Ms Alys Haf bod ei theulu, yn dilyn sawl cais cynllunio i adeiladu tŷ a garej ar y safle cyfagos, yn falch fod teulu o Gymry’n cael adeiladu cartref yn y pentref.  Fodd bynnag, sylweddolwyd nad oedd yr ymgeiswyr wedi cydymffurfio â'r cynlluniau a'u bod wedi penderfynu torri eu caniatâd cynllunio.  Roedd yn sioc gweld nid yn unig leoliad y garej, ond maint y garej sydd wedi ei godi mor agos at y patio ym Mron Castell. Mae'n dorcalonnus, yn enwedig gan mai dyma'r unig le yn yr ardd lle gellir lleoli patio oherwydd cynllun y tir; mae lleoliad y garej yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd ac yn taflu cysgod newydd annerbyniol. Y lleoliad hwn oedd yr unig ardal a oedd yn ddigon agored i ganiatáu i olau’r haul ddod i'r ardd ym Mron Castell ond erbyn hyn nid yw’n bosibl ac ni ymgynghorwyd ar hyn.  Nododd fod 5 amod o'r caniatâd gwreiddiol wedi'u torri :-

·      Symudwyd y garej 10 metr yn ôl yn y safle sy'n cael effaith negyddol;

·      Ychwanegwyd llawr, gan ei wneud yn garej deulawr sydd unwaith eto'n cael effaith ar olau'r haul i'r ardd ym Mron Castell;

·      Ychwanegwyd ffenestr fawr yn wynebu'r patio ym Mron Castell sy'n cael effaith andwyol ar breifatrwydd.

·                     Mae'r garej 0.4 metr yn ehangach, sy'n taflu cysgod ac mae'n 0.9 metr;

·                     Mae dwy ffenestr do wedi'u gosod sy'n wynebu Mynydd y Garn.

Dywedodd Ms Alys Haf ymhellach fod y cais cynllunio bellach yn nodi mai eu rheswm dros adleoli'r garej yw cael lle i symud ceir, ond mae'n bwysig nodi bod maint y plot yn ddigon mawr i roi digon o opsiynau ar gyfer lleoliad y garej.  Mae adroddiad y swyddog cynllunio gerbron y Pwyllgor hwn yn argymell tri amod ond nid yw'r amodau hyn yn newid yr effaith ar ei theulu ym Mron Castell. Mae'r garej a godwyd wedi tywyllu'r patio a'r ardd. Mae cyfraith Hawliau Dynol wedi sefydlu hawl unigolion i fwynhau eu heiddo'n dawel heb unrhyw ymyrraeth gan eu cymdogion. Yn dilyn cyfraith achos gellir sefydlu bod hwn yn achos o dresmasu ar breifatrwydd gan amharu ar fwynhad eiddo.

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith a oedd yr ymgeiswyr wedi trafod gyda'r eiddo cyfagos eu bod yn bwriadu ail-leoli'r garej ar dir gerllaw Bron Castell.  Mewn ymateb dywedodd Ms Alys Haf nad oedd yr ymgeiswyr wedi trafod eu bwriad i symud lleoliad y garej ar y safle.  Nododd eu bod wedi dod yn ymwybodol ym mis Gorffennaf 2020 fod lleoliad y garej yn groes i'r cynlluniau a gymeradwywyd. 

Siaradwr Cyhoeddus (ymgeisydd)

Dywedodd Mrs Elen Pritchard eu bod fel teulu yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle i adeiladu cartref newydd ar dir gerllaw Bron Castell, Llanfairynghornwy gyda chefnogaeth y Cynghorydd Llinos Medi Huws, un o'r aelodau lleol a Chyngor Cymuned Cylch y Garn. Fodd bynnag, roedd y rhyddhad a'r llawenydd ar y pryd yn fyrhoedlog pan aeth Ms Pritchard yn ddifrifol wael.  Pan ddaeth hi'n well un o'r pethau cyntaf oedd dechrau gweithio ar eu cartref newydd.  Cam cyntaf y gwaith oedd agor mynedfa newydd o flaen y cae ac agor sylfeini'r tŷ ei hun, a oedd yn golygu cloddio cannoedd o dunelli o dir. Maes o law agorwyd sylfaen ar gyfer y garej. Wrth adolygu'r cynlluniau, sylweddolwyd yn fuan na fyddai lleoliad gwreiddiol yr adeilad yn gadael digon o le i gar basio rhwng y tŷ a'r garej a olygai nad oedd lle addas ar gyfer troi a pharcio car a byddai angen iddo fagio i'r briffordd gyhoeddus islaw i adael y safle.   Penderfynwyd bod ateb syml ac y byddai symud y garej yn ôl o'i safle gwreiddiol yn datrys y broblem.  Mynegodd Mrs Pritchard nad oeddent yn ymwybodol bod angen caniatâd cynllunio pellach ac yn sicr nid oeddent o'r farn y byddai'n destun unrhyw wrthwynebiad gan eu cymdogion ym Mron Castell, na'r rhai a fu mor gefnogol o'r blaen.   Mynegodd ei bod yn sioc derbyn llythyr swyddogol gan Wasanaeth Cynllunio Cyngor Ynys Môn yn datgan bod cwyn wedi ei gwneud yn eu herbyn (gan berchennog a phreswylydd Bron Castell) am leoliad ffenestr nad oedd wedi ei chynnwys yn nyluniad gwreiddiol y garej.  Wrth gwrs, roeddent yn awyddus iawn i weithio gyda'r Awdurdod a chael hyd i ateb addas fel y gwelir yn adroddiad y Swyddog Cynllunio. Yn anffodus, nid dyma ddiwedd y mater pan wnaed cwyn arall ynglŷn â lleoliad y garej y tro hwn. Unwaith eto, roeddent wedi cydymffurfio'n llawn â'r Awdurdod yn egluro'r rhesymu dros newid lleoliad ac am beidio ag ymgynghori â nhw yn y lle cyntaf a chyflwynwyd yr holl ddogfennau angenrheidiol i fodloni'r sefyllfa.

Mynegodd Ms Pritchard ymhellach ei bod yn destun gofid y teimlid maes o law fod eu penderfyniad yn cael effaith andwyol ar annedd eu cymdogion ym Mron Castell. Gyda'r wybodaeth hon, ymdrechwyd i geisio cysylltu â pherchennog Bron Castell rai misoedd yn ôl, yn haf 2020, i geisio trafod y mater yn gyfeillgar. Gwnaed ymdrechion drwy gymydog arall o'r ardal i adael manylion cyswllt gyda'r perchennog ond yn anffodus ni chafwyd ymateb.   Nododd ei bod yn rhyddhad derbyn yr adroddiad diweddar gan y Gwasanaeth Cynllunio sy'n derbyn y rhesymau ymarferol dros symud y garej ac yn cadarnhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r polisïau cynllunio perthnasol ac fel ymgeiswyr byddent yn derbyn ac yn cydymffurfio â'r amodau a nodir yn adroddiad y Swyddog Cynllunio. 

Holodd y Cynghorydd John Griffith p’un ai a oedden nhw, fel ymgeiswyr, wedi ystyried y byddai lleoliad y garej yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos Bron Castell gan fod y garej yn sylweddol fwy o ran maint i'r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol. Cyfeiriodd ymhellach fod y safle datblygu yn ddigon mawr i leoli'r garej ger yr annedd newydd.  Dywedodd Mrs Pritchard y byddai lleoliad gwreiddiol y garej wedi'i leoli ar ffin Bron Castell ond roedd o'r farn nad yw maint y garej yn sylweddol fwy na'r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol; mae lleoliad presennol y garej bellach ymhellach i ffwrdd oddi wrth y ffin ac ni ystyrid y byddai'n cael effaith andwyol ar drigolion Bron Castell ond wrth edrych yn ôl dylid bod wedi ceisio caniatâd cynllunio.  Cytunodd Mrs Pritchard fod maint y plot yn ddigon mawr i leoli'r garej yn nes at yr annedd newydd ond ystyrid bod angen digon o le i geir basio ar y safle. 

Holodd y Cynghorydd Robin Williams a oedd yr ymgeisydd wedi cyflogi adeiladwyr proffesiynol i godi'r annedd a'r garej ar y safle ac a oeddent wedi eu cynghori y byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer ail-leoli'r garej.  Mewn ymateb dywedodd Mrs Pritchard eu bod wedi cyflogi adeiladwyr proffesiynol i adeiladu'r annedd a'r garej ond nad oeddent wedi eu cynghori y byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer ail-leoli'r garej.  Holodd y Cynghorydd Dafydd Roberts a oedd Pensaer wedi cael ei gyflogi i ddylunio'r datblygiad ar y safle.  Dywedodd Mrs Pritchard fod Pensaer wedi cael ei gyflogi pan oedd angen dyluniad ar gyfer y garej newydd mewn perthynas â'r ffenestri a'r rhai yn y to.  Holodd y Cynghorydd Robin Williams am y rheswm pam fod angen ffenestr mor fawr mewn garej sy'n wynebu'r eiddo cyfagos.  Mewn ymateb dywedodd Mrs Pritchard fod angen ffenestr fawr i ganiatáu i olau dydd ddod i mewn i'r garej gan y bydd y garej hefyd yn fan storio o fewn y lle yn y to gan fod trawstiau yn yr atig gyda lle o bosibl ar gyfer ystafell wely os oes angen.

Dywedodd y Cynghorydd Llinos M Huws, Aelod Lleol ei bod wedi cefnogi'r cais am annedd ar y safle yn 2016 er mwyn i'r ymgeiswyr allu codi cartref ond roedd yn bwysig nodi bod y cais hwn yn gais ôl-weithredol ynglŷn â chodi garej ar y tir.  Nododd fod deddfwriaeth gynllunio sy'n diogelu amwynderau pobl ac yn eu galluogi i roi sylwadau ar y broses gynllunio pan fydd datblygiadau o'r fath yn effeithio ar bobl.   Cyfeiriodd at adroddiad y swyddog cynllunio a nododd fod maint y garej yn fwy na'r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol ac mai’r bwriad gwreiddiol oedd ei godi ger sied ym Mron Castell; mae'r garej yn taflu cysgod dros yr eiddo cyfagos; mae ffenestr wedi'i gosod yn y garej sy'n annerbyniol oherwydd ei bod yn edrych dros yr eiddo cyfagos pan fydd unrhyw un yn eistedd yng ngardd Bron Castell. Dywedodd y Cynghorydd Llinos M Huws ymhellach, pan gyflwynir ceisiadau cynllunio ar gyfer apêl, bod preifatrwydd a cholli golau ar eiddo cyfagos yn faterion pwysig sy'n cael eu hystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio ac nid oedd o'r farn bod adroddiad y swyddog cynllunio wedi mynd i'r afael â'r materion hyn.   Dywedodd hefyd y derbynnir bod gan yr ymgeiswyr a thrigolion Bron Castell broblemau iechyd personol ond rhaid ystyried bod y garej wedi'i adeiladu yn y lleoliad anghywir a'i fod yn cael effaith negyddol ar yr eiddo cyfagos.   Mae'r Cyngor Cymuned a thrigolion lleol hefyd yn erbyn y cais ôl-weithredol cyn y cyfarfod hwn. 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith, Aelod Lleol bod newid sylweddol yn y cais a gymeradwywyd yn wreiddiol.  Mae'r garej wedi'i lleoli 10 metr ymhellach yn ôl oddi wrth y lleoliad a gymeradwywyd ac roedd y dimensiynau hefyd wedi newid gan ei fod yn mesur 6.8 metr wrth 6.8 metr o fewn y cwrtil ac mae maint y garej bellach yn wahanol.  Mae'r garej hefyd yn llawer agosach at yr eiddo cyfagos, Bron Castell.    Dywedodd hefyd y dylai'r ymgeisydd fod wedi ystyried bod angen caniatâd cynllunio i newid y cynlluniau gwreiddiol ac nad oeddent wedi ymgynghori â pherchnogion Bron Castell.  Yn ystod yr ymweliad safle rhithwir roedd yn amlwg bod maint y garej yn sylweddol o'i gymharu â maint Bron Castell; bydd y ffenestr a mynediad i'r garej yn cael effaith andwyol ar amwynderau a phreifatrwydd yr eiddo cyfagos.  Ystyrir bod digon o le ar safle’r cais i allu darparu ar gyfer garej na fyddai wedi effeithio ar yr eiddo cyfagos.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffith at bolisi cynllunio PCYFF 2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sef y gwrthodir caniatâd cynllunio os bydd datblygiad yn cael effaith negyddol ar iechyd, diogelwch ac amwynderau trigolion lleol.

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes, Aelod Lleol fod gan y ddau deulu berthnasau sydd wedi byw yng nghymuned Llanfairynghornwy ers nifer o flynyddoedd.  Fodd bynnag, cymeradwywyd y cais cynllunio gwreiddiol yn erbyn argymhelliad y swyddogion cynllunio er mwyn i deulu allu dychwelyd i'r ardal i fyw a magu teulu.  Fodd bynnag, mae'r cais gerbron y Pwyllgor yn gais ôl-weithredol i gadw'r garej nad yw wedi'i adeiladu yn y lleoliad cywir ar y safle.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes nad oedd yn cytuno ag adroddiad y swyddog cynllunio na fyddai lleoliad y garej yn cael effaith andwyol ar gymeriad y dirwedd ddynodedig nac ar amwynderau'r eiddo cyfagos i'r fath raddau er mwyn cyfiawnhau gwrthod y cais.  Dywedodd fod y safle'n ddarn sylweddol o dir a bod digon o le i godi garej heb effeithio ar amwynderau trigolion Bron Castell.   Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod ymweliad rhithwir â'r safle yn dangos cynllun a lleoliad y garej ar y safle.  Wrth ddelio â chais ôl-weithredol, dywedodd fod yn rhaid ystyried y cynnig ar sail ei rinweddau cynllunio ac nad yw'r broses gynllunio'n cosbi ymgeiswyr nad ydynt wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio yn y lle cyntaf.  Mae'r garej ychydig yn fwy na'r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol gyda chynnydd o 0.4m o ran hyd a lled ynghyd â chynnydd o 0.9m i 5.9 metr yn uchder y crib.  Mae'r pellter at ffin Bron Castell hefyd wedi cynyddu 0.3m i 1.9 metr.  Mae newid bach o ran edrychiad y garej sy'n cynnwys atig ar yr ail lawr a ffenestr llawr gwaelod ar y drychiad gogleddol, ffenestr llawr cyntaf ar y drychiad blaen (ochr orllewinol) a dwy ffenestr do ar ochr ddeheuol y to.   Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod amod yn cael ei osod yn adroddiad y Swyddog bod gwydr aneglur i'w roi yn y ffenestr sy'n wynebu'r eiddo cyfagos er mwyn sicrhau nad oes unrhyw oredrych ac y byddai hefyd yn ffenestr nad yw'n agor.  Yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

Mynegodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ei anfodlonrwydd o ran ceisiadau ôl-weithredol a chytunodd â'r Aelod Lleol, y Cynghorydd John Griffith, fod newid sylweddol yn y cais a gymeradwywyd yn wreiddiol.  Mynegodd ei fod yn anghytuno'n llwyr â'r argymhellion yn adroddiad y Swyddog Cynllunio ac eiliodd y cynnig i wrthod y cais. 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, oherwydd ystyriwyd bod y datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos a'i fod yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 2.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais).

 

 

Dogfennau ategol: