Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 – FPL/2020/98 – Cae Prytherch, Llanfairpwll

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgQp8UAF/fpl202098?language=cy

Cofnodion:

11.1      FPL/2020/98 - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw gwaith peirianyddol o greu wyneb caled at ddefnydd storio amaethyddol a defnydd datblygiad a ganiateir fel safle cist car ynghyd â chadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau ar dir yng Nghae Prytherch, Llanfairpwll

 

Bu i’r Cynghorydd Eric Jones ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu ynghylch y cais a gadawodd y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod ac yn pleidleisio ar y mater.

 

Bu i’r Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu ynghylch y cais a gadawodd y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod ac yn pleidleisio ar y mater.

 

Gan fod yr ymgeisydd yn aelod etholedig, gofynnodd y Cadeirydd am gyngor cyfreithiol p’un ai a oedd angen i'r aelodau ddatgan diddordeb.  Mewn ymateb dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad yw'n fuddiant o dan y Cod os yw'r ymgeisydd yn aelod etholedig nac os yw aelod yn aelod o'r un grŵp gwleidyddol neu'n aelod ar gyfer yr un ward etholiadol. 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn aelod etholedig.  Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o Gyfansoddiad.

 

Siaradwr Cyhoeddus (asiant yr ymgeisydd)

 

Dywedodd Ms Sioned Edwards fod a wnelo’r cais dan sylw â chadw gwaith peirianyddol i greu wyneb caled ar y safle er mwyn i'r safle allu cael ei ddefnyddio at ddau ddiben; sef ar gyfer storio amaethyddol ac fel safle sêl cist car. Mae'r cais hefyd yn gofyn am ganiatâd i gadw'r newidiadau a wnaed i'r mynediad. Dylai fod yn glir nad yw'r cais hwn yn golygu newid defnydd o'r tir o gwbl - dim ond gosod yr wyneb caled. Defnyddid y safle arfaethedig ar gyfer sêl cist car, sydd wedi bod yn boblogaidd yn lleol. Yn flaenorol, fe’i defnyddid fel safle sêl cist car am hyd at 14 diwrnod y flwyddyn o dan hawliau datblygu cyffredinol a ganiateir. Gan fod y safle'n tueddu i fod yn wlyb, roedd angen gwella'r safle i fod yn addas i'r diben ac felly darparwyd wyneb caled er mwyn sicrhau bod y safle'n addas ar gyfer y defnyddwyr a'r ymwelwyr, a hefyd i sicrhau nad oedd unrhyw fwd o'r safle yn cael ei gario i'r briffordd gyfagos. Mae creu safle sy'n addas ac yn ddiogel i bob defnyddiwr yn eithriadol o bwysig. Mae adroddiad y Swyddog yn nodi bod cadw'r wyneb caled i ddarparu safle cist car addas i'r diben yn afresymol. Er nad yw'r safle wedi bod yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y pandemig, mae hawliau datblygu dros dro newydd a ganiateir i gefnogi adferiad economaidd o ganlyniad i Coronafeirws bellach yn caniatáu i'r safle gael ei ddefnyddio am hyd at 28 diwrnod mewn blwyddyn. Dyma fyddai bwriad yr ymgeisydd unwaith y bydd canllawiau'r Coronafeirws yn caniatáu hynny. Roedd hyn yn ffordd o arallgyfeirio i'r ymgeisydd, gan ei alluogi i ddarparu arwerthiant cist car mewn lleoliad hygyrch a chynaliadwy ar gyrion Llanfairpwll, gan wneud gwell defnydd o'r safle. Ers diwedd 2019, mae'r ymgeisydd wedi talu ardrethi busnes o dros £6,000 y flwyddyn i'r Cyngor i ddefnyddio'r safle gydag wyneb caled. Mynegwyd pryder nad yw'r sgrinio presennol ar y safle yn ddigonol i liniaru effaith weledol yr wyneb caled. Fodd bynnag, mae'r ymgeisydd eisoes wedi cynnig darparu cynllun tirweddu ehangach a dywedodd y swyddog yn ystod y cais y gellir cyflwyno a chymeradwyo'r cynllun hwn fel rhan o amod cynllunio. Felly, gellir lliniaru'r effaith weledol a byddai'r Cyngor yn gallu rheoli'r cynllun hwn drwy osod amod ar y caniatâd. Cyfeirir yn yr adroddiad at y ffaith bod yr wyneb caled yn cael effaith andwyol ar gymeriad y dirwedd gan ei fod mewn cefn gwlad agored. Er bod y safle y tu allan i'r ffin ddatblygu, mae'n ffinio'n uniongyrchol â'r ffin a'r rhan ddatblygedig o Lanfairpwll ac mae mewn lleoliad cynaliadwy.

 

Mynegodd y Cynghorydd R Meirion Jones, Aelod Lleol ei fod yn cyflwyno sylwadau'r trigolion lleol a'r etholwyr y mae'n eu cynrychioli a hefyd fel aelod o Gyngor Cymuned Llanfairpwll sydd wedi gwrthwynebu'r datblygiad hwn ar y safle.  Nododd fod yr etholaeth dan yr argraff bod Aelod Etholedig yn ceisio manteisio ar y broses gynllunio y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â hi.  Mae'r ymgeisydd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac mae wedi derbyn hyfforddiant ar bolisïau cynllunio.  Dywedodd y Cynghorydd R Meirion Jones ymhellach fod Cyfansoddiad y Cyngor yn cyfeirio at 2.2.3.1.6 y dylai Aelodau Etholedig gynnal y safonau uchaf o ran ymddygiad a moeseg.  Dywedodd hefyd fod y cais hwn wedi ennyn gwrthwynebiad a pheri syndod o fewn y gymuned leol ers haf 2019 gan fod yr ymgeisydd wedi newid y tir yng Nghae Prydderch a oedd yn dir amaethyddol heb ymgynghori â'r Swyddog Cynllunio na chael cymeradwyaeth gynllunio.  Gweithredodd yr awdurdod lleol weithdrefnau gorfodi i roi'r gorau i weithio ar y safle ac i adfer y tir ond apeliodd yr ymgeisydd ar y penderfyniad ar sail yr amser a roddwyd i gydymffurfio â'r hysbysiad ond ni heriodd unrhyw elfen arall o'r Apêl Gorfodi Cynllunio. Roedd yr amser cydymffurfio o fewn tri mis calendr ar ôl y dyddiad y daeth yr hysbysiad i rym gyda'r hysbysiad yn dod i rym ar 17 Chwefror 2020.   Ar ôl derbyn yr apêl, caniataodd yr Arolygiaeth Gynllunio estyniad o'r tri mis calendr i chwe mis ac yn y cyfamser cyflwynwyd cais ôl-weithredol i'r Awdurdod Cynllunio. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R Meirion Jones fod preswylydd lleol wedi cynnal arolwg traffig yn ddiweddar a ddangosodd fod at 88 o gerbydau'n mynd heibio i’r safle o fewn chwarter awr a bod 95 o gerbydau eraill wedi mynd heibio i’r safle yn ystod cyfnod arall o chwarter awr.  Nododd pe bai'r cais hwn yn cael ei gymeradwyo y byddai'n agor y llifddorau i berchnogion tir eraill newid defnydd eu tir yn weithgareddau tebyg i'r cais hwn.  Cyfeiriodd at y cais ôl-weithredol i ehangu'r mynediad i'r safle a bod trigolion lleol o'r farn bod yr edrychiad gweledol yn debyg i fynediad diwydiannol. Dywedodd y Cynghorydd Jones ymhellach ei fod yn anghytuno â'r sylwadau a wnaed gan y siaradwr cyhoeddus bod yr arwerthiannau cist car a gynhaliwyd ar y safle wedi bod yn boblogaidd.  Gofynnodd i'r Pwyllgor wrthod y cais ôl-weithredol gerbron y Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes eu bod yn ymweld yn rhithwir â'r safle oherwydd pryderon lleol fel y nodir yn adroddiad y Swyddog Cynllunio.  Ni chafodd y cynnig i ymweld â'r safle ei eilio.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod hwn yn gais ôl-weithredol ar gyfer cadw gwaith peirianyddol gan greu wyneb caled ar gyfer defnydd storio amaethyddol a defnydd datblygu a ganiateir fel safle sêl cist car ynghyd â chadw'r newidiadau a wnaed i'r fynedfa gerbydau ar dir yng Nghae Prytherch, Llanfairpwll.  Cyfeiriodd at yr ymchwiliad gorfodi a hanes y safle fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog Cynllunio a'r Hysbysiad Gorfodi Cynllunio – Rhesymau dros gyhoeddi'r hysbysiad'. Nid oedd yr Hysbysiad Gorfodi yn cynnwys mynediad i'r safle gan y barnwyd ei fod yn dderbyniol. Yn dilyn yr apeliadau ynghylch cyfnod cydymffurfio'r Hysbysiad Gorfodi o dri mis, estynnodd yr Arolygiaeth Gynllunio y cyfnod i chwe mis a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r tir gael ei adfer i'w ddefnydd blaenorol erbyn mis Rhagfyr 2020.  Yn y cyfamser, cyflwynwyd cais ôl-weithredol i'r Awdurdod Cynllunio i gadw'r gwaith a wnaed ar y safle.  Nododd nad yw'r Adran Orfodi, yn unol â'r trefniadau arferol, yn gorfodi'r hysbysiad gorfodi tra bo cais ôl-weithredol yn cael ei benderfynu.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach nad yw cais ôl-weithredol yn cael ei gosbi o dan y gweithdrefnau cynllunio a bod yr agwedd ar y cais yn cael ei hystyried ar sail ei rinweddau fel y mae gydag unrhyw geisiadau cynllunio eraill.  Mae safle’r caiswedi'i ddefnyddio ar gyfer sêl cist car am hyd at 14 diwrnod y flwyddyn o dan hawliau datblygu cyffredinol a ganiateir.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cyfnod ar gyfer cynnald sêl cist car ar dir o 14 diwrnod i 28 diwrnod y flwyddyn (rhwng 31 Ebrill, 2021 a 3 Ionawr 2022) o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y'i diwygiwyd).

 

Nododd fod angen caniatâd cynllunio i greu wyneb caled i hwyluso'r defnydd o'r tir a'r gwelliannau i'r mynediad i'r safle sy'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor hwn.  Nid oes gwrthwynebiad i'r gwelliant i’r mynediad i'r safle gan yr Awdurdod Priffyrdd oherwydd ystyrir ei fod yn gwella hygyrchedd a diogelwch wrth fynd i mewn ac allan o'r safle; nid yw'r mynediad i'r safle wedi bod yn rhan o'r Hysbysiad Gorfodi.  Fodd bynnag, ystyrir bod yr wyneb caled yn gorddatblygu'r safle ac nid yw'n gwella cymeriad nac edrychiad y safle ac mae graddfa’r datblygiad, o ystyried bod wyneb caled ar y safle cyfan, yn ormodol ar gyfer y defnyddiau y bwriedir eu gwneud ohono.  Yr argymhelliad yw gwrthod cadw'r gwaith peirianyddol i greu wyneb caled ar y safle a chymeradwyo cadw'r newidiadau a wnaed i'r fynedfa i gerbydau i'r safle. 

 

Holodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE a oes tystiolaeth bod y tir yn tueddu i fod yn wlyb fel y mynegwyd gan y siaradwr cyhoeddus.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y tir wedi'i ddynodi'n barth llifogydd C2; mae adroddiad asesu llifogydd wedi'i gyflwyno fel rhan o'r cais a ystyriwyd yn dderbyniol. Holodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE ymhellach a ellir ystyried yr argymhelliad mewn dwy ran gan fod cadw'r newidiadau a wnaed i'r fynedfa i gerbydau yn cael ei ystyried yn dderbyniol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y mynediad wedi'i wella o ran gwelededd a bod yr edrychiad yn dderbyniol ac ystyrir ei fod yn welliant o ran y defnydd o'r mynediad i'r safle.  Ystyrir bod y newidiadau a wnaed i’r mynediad i gerbydau yn rhesymol ac yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol a cenedlaethol.  Dim ond elfen o’r cais yn ymwneud â’r wyneb caled a ystyrir yn annerbyniol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams aelod o'r Pwyllgor ac Aelod Lleol ei fod yn derbyn bod y newidiadau a wnaed i fynediad cerbydau yn welliant o ran gwelededd.  Fodd bynnag, dywedodd fod giât ddiwydiannol sylweddol wedi'i chodi ar y fynedfa i'r safle nad yw'n gydnaws â’r dirwedd na’r ardal ac nid oedd o'r farn bod giât ddiwydiannol o'r fath yn addas ar gyfer cae amaethyddol.  Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gwrthod cadw'r newidiadau a wnaed i’r mynediad i gerbydau a chadw'r gwaith peirianyddol i greu wyneb caled yn unol â pholisïau cynllunio PCYFF 2 a PCYFF 3.

 

Eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig i wrthod y ddwy agwedd ar y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo cadw'r newidiadau a wnaed i fynediad cerbydau i'r safle ac y dylid gwrthod cadw'r gwaith peirianyddol i greu wyneb caled fel yr argymhellir yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cynnig.

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:-

 

Gwrthod cadw'r newidiadau a wnaed i fynediad cerbydau i'r safle a gwrthod cadw'r gwaith peirianyddol i greu wyneb caled :-

 

Cynghorwyr T Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, Ieuan Williams a Robin Williams       CYFANSWM 4

 

Cymeradwyo cadw'r newidiadau a wnaed i fynediad cerbydau i'r safle a gwrthod cadw'r gwaith peirianyddol i greu wyneb caled :-

 

Y Cynghorwyr John Griffith, Glyn Haynes a K P Hughes         CYFANSWM 3

 

Ymatal rhag pleidleisio :  Y Cynghorydd Nicola Roberts          CYFANSWM 1

 

PENDERFYNWYD:-

 

·   Gwrthod cadw'r gwaith peirianyddol i greu wyneb caled ar y safle yn unol ag argymhellion y Swyddog fel yr amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig;

 

·   Gwrthod cadw'r newidiadau a wnaed i fynediad cerbydau i'r safle fel rhai sy'n groes i bolisïau PCYFF 2 a 3 yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais).

 

Dogfennau ategol: