Adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddiant - Adnoddau Dynol ar hyfforddiant Aelodau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y cyfleoedd datblygu i aelodau Etholedig yn ystod 2021/22.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD mai cyfyngedig fu’r cyfleodd hyfforddi dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y pandemig, a bod yr Aelodau wedi derbyn hyfforddiant drwy sesiynau E-Ddysgu a sesiynau briffio.
Nodwyd bod trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Penaethiaid Gwasanaeth ac Arweinyddion Grŵp ynglŷn ag anghenion hyfforddi’r Aelodau, a chyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 16 Mawrth 2021. Canolbwyntir ar yr hyfforddiant canlynol yn ystod 2021/22:-
• Hyfforddiant mandadol
• Hyfforddiant iPad
• Hyfforddiant Deddfwriaethol
• Sesiynau Briffio
Adroddodd y Rheolwr AD ei bod hi’n debygol y bydd y sesiynau hyfforddi / briffio yn parhau i gael eu cynnal dros MS Teams, Zoom, a phlatfform E-Ddysgu’r Awdurdod, y Porth Dysgu, sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Dywedodd bod cymorth mewn perthynas â chael mynediad at hyfforddiant ar-lein / materion TGCh cyffredinol yn dal i fod ar gael i Aelodau drwy’r Tîm Hyfforddi. Mae nodiadau canllaw a fideos hefyd ar gael gan y Tîm i gynorthwyo gyda materion yn ymwneud â mynediad.
Adroddodd y Rheolwr AD bod Llywodraeth Cymru’n ystyried disodli platfform y GIG, a fabwysiadwyd gan y Cyngor, â phlatfform E-Ddysgu cenedlaethol ledled Cymru. Os caiff y newidiadau eu gweithredu, mae’n bosib y caiff modiwlau’r GIG eu trosglwyddo o blatfform y GIG i’r Porth Dysgu cenedlaethol, gan ddarparu dewis ehangach o fodiwlau hyfforddi i Aelodau etholedig.
Gofynnwyd am eglurder ar yr hyfforddiant mandadol i Aelodau’r Pwyllgor Safonau. Ymatebodd y Swyddog Monitro bod yr hyfforddiant ar y Cod Ymarfer yn fandadol i’r holl Aelodau, a’i fod wedi’i gynnwys yn y Cod.
Holwyd a oedd hyfforddiant i Aelodau ar gyllideb y Cyngor? Ymatebodd y Swyddog Monitro y bydd Aelodau newydd yn cael cynnig hyfforddiant ar y modd y mae’r Cyngor yn cael ei ariannu fel rhan o’u hyfforddiant cynefino. Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD bod Aelodau’n cael trosolwg o waith a blaenoriaethau’r Cyngor gan uwch Reolwyr y Cyngor, a bod hyn wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Datblygu Aelodau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y ddarpariaeth hyfforddiant i Gynghorwyr Tref a Chymuned yn y dyfodol. Ymatebodd y Swyddog Monitro bod Un Llais Cymru wedi darparu hyfforddiant yn y gorffennol a’u bod yn arbenigo yn y maes. Dywedodd y bydd sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnig i aelodau’r Cynghorau Tref a Chymuned yn dilyn etholiadau’r Cyngor ym mis Mai 2022 fel rhan o ddyletswydd statudol y Pwyllgor Safonau. Cadarnhawyd mai Un Llais Cymru fyddai’n darparu’r hyfforddiant.
Mae hyfforddiant Cod Ymarfer wedi’i drefnu ar gyfer y ddau Aelod Etholedig newydd o’r Cyngor Sir (yn dilyn yr isetholiad ym Mai 2021). Darperir y rhain gan y Swyddog Monitro a’r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ystod yr wythnosau nesaf.
O ran paratoi tuag at y Cyngor newydd, adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y gallai Aelodau newydd gael eu hethol, ynghyd â phum Aelod ychwanegol (gan y bydd gan y Cyngor bum sedd ychwanegol wedi Mai 2022). Dywedodd y bydd cyfuniad o sesiynau briffio’n cael eu trefnu ar hyfforddiant penodol, dan arweiniad yr Uwch Swyddogion. Bydd y Rhaglen Datblygu Aelodau’n canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth a chymorth i’r Aelodau yn dilyn yr etholiad. Cadarnhawyd y bydd copi o’r rhaglen ddrafft ar gael i aelodau’r Pwyllgor Safonau cyn ei gadarnhau’n derfynol.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Ddatblygu i Aelodau Etholedig a’r ddarpariaeth gysylltiedig ar gyfer 2021/22, fel y manylir yn yr adroddiad, a bod copi’n cael ei rannu â’r Pwyllgor Safonau.
Gweithredu: Dim
Dogfennau ategol: