Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2020/21 i'r Pwyllgor ei ystyried. Amlinellodd yr adroddiad y gwaith Archwilio Mewnol a wnaed yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth, 2021. Ar sail hyn rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg ei barn gyffredinol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframweithiau llywodraethu, trefniadau rheoli risg a rheoli'r Cyngor yn ystod y flwyddyn sydd hefyd yn llywio Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor.

 

Cyn cyflwyno'r adroddiad, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg wrth y Pwyllgor ei bod wedi cael gwybod gan aelod am y posibilrwydd, wrth godi cwestiynau ynghylch y ddau adroddiad Sicrwydd Cyfyngedig sy'n cyd-fynd â'r Adroddiad Blynyddol, y naill mewn perthynas â Pharhad Gwasanaeth TGCh (Gwe-rwydo) a'r llall mewn perthynas ag Adnabod Anfonebau Dyblyg ac Adennill Taliadau Dyblyg, a allai arwain at ddatgelu enw unigolyn/enwau unigolion; gallai trafod yr adroddiadau hefyd ddatgelu gwybodaeth sensitif mewn perthynas â materion busnes y Cyngor. Ar ôl gofyn am gyngor y Swyddog Monitro ac ar ôl trafod y mater gyda'r Cadeirydd ymlaen llaw, cynigiwyd felly y dylid gohirio trafod y ddau adroddiad hynny tan ddiwedd y cyfarfod pan ofynnir i'r Pwyllgor ystyried cynnal sesiwn breifat ac eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod. Cytunodd y Pwyllgor ar y trefniant a gynigiwyd ar gyfer ymdrin â'r ddau adroddiad Sicrwydd Cyfyngedig.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno o dan Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r "prif swyddog archwilio" h.y. y Pennaeth Archwilio a Risg yn achos y Cyngor gyflwyno barn archwilio mewnol flynyddol y gall y sefydliad ei defnyddio i lywio ei Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol. Rhaid i'r farn flynyddol gynnwys barn ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol prosesau rheoli risg, rheoli a llywodraethu’r sefydliad; unrhyw amodau ar y farn honno, ynghyd â’r rheswm dros yr amod; crynodeb o’r gwaith archwilio y seiliwyd y farn arno, yn cynnwys dibyniaeth a roddir ar gyrff sicrwydd eraill; unrhyw faterion y mae’r prif swyddog archwilio’n barnu eu bod yn arbennig o berthnasol wrth baratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol; crynodeb o berfformiad y swyddogaeth archwilio mewnol yn erbyn ei fesurau perfformiad a sylwadau ar gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) a chanlyniadau rhaglen sicrhau ansawdd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg, fel "Prif Swyddog Archwilio" Cyngor Sir Ynys Môn fod gan y sefydliad, yn ei barn hi, fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol am y 12 mis a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021. Er nad yw'r Pennaeth Archwilio a Risg yn ystyried bod unrhyw feysydd sy'n peri pryder sylweddol, mae rhai meysydd yn gofyn am gyflwyno neu wella rheolaethau mewnol er mwyn sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni, ac mae'r rhain yn destun monitro. Nid oes unrhyw amodau i'r farn hon.

 

Daethpwyd i'r farn uchod yn seiliedig ar y gwaith a'r gweithgareddau a wnaed gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ystod y flwyddyn fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac mae'n deillio'n sylweddol o osod cynllun gwaith sy'n seiliedig ar risg y mae'r rheolwyr wedi cytuno arno ac mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi'i gymeradwyo. Dylai ddarparu lefel resymol o sicrwydd, yn amodol ar y cyfyngiadau cynhenid a nodir yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd ar yr adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror, 2021 a gyfeiriodd at ddiwygio blaenoriaethau'r gwasanaeth Archwilio Mewnol i gynnwys y risgiau a'r newidiadau newydd yn sgil effaith Covid-19 a'r darpariaethau dilynol a fyddai'n cael eu gwneud i gael sicrwydd digonol i gefnogi'r farn flynyddol.

 

Yr allwedd i allu cael sicrwydd digonol i lywio'r farn oedd ystyried gwaith archwilio mewnol a ffynonellau barn eraill sy'n cynnwys Archwiliadau Cofrestr Risg Corfforaethol; Adolygiad o drefniadau Ymateb Brys Covid-19; gwaith archwilio arall mewn meysydd allweddol o weithgareddau'r Cyngor a gynhaliwyd o ganlyniad i bryderon a godwyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 a/neu'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth; Gwaith Ardystio Grantiau a sicrwydd Rheoli Argyfwng. Yn achos yr olaf, cwblhaodd y rheolwyr ddau holiadur, un ar lefel strategol ac un ar lefel weithredol. Yr amcan oedd cael sicrwydd llinell gyntaf uniongyrchol gan uwch reolwyr a rheolwyr canol ynghylch sut yr oedd y Cyngor wedi ymdopi â'r heriau a ddaeth yn sgil Covid-19 ac a oedd trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol allweddol wedi dirywio neu wedi'u cynnal. Yn gyffredinol, roedd y canlyniadau'n gadarnhaol gyda'r Cyngor yn gallu cymryd sicrwydd llinell gyntaf rhesymol bod y fframweithiau llywodraethu, trefniadau rheoli risg a rheoli wedi'u cynnal yn ddigonol wrth ymateb i bandemig Covid-19.

 

Er bod yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi manylion sylweddol am waith y flwyddyn, mae'r pwyntiau i'w nodi yn cynnwys y canlynol -

 

·                Roedd Archwilio Mewnol yn gallu rhoi Sicrwydd Rhesymol bod y Cyngor yn rheoli pob un ond dau o risgiau'r gofrestr risg gorfforaethol a adolygwyd yn effeithiol. Er bod archwiliadau Gwytnwch TG a Pharhad Gwasanaeth TG (Gwe-rwydo) wedi arwain at sgôr sicrwydd cyfyngedig pan ailedrychwyd ar faterion/risgiau Gwytnwch TG yn ddiweddarach yn y flwyddyn cynyddwyd y sgôr sicrwydd i Resymol.

·                Adroddwyd mewn dwy ran am ganlyniad adolygiad y gwasanaeth Archwilio Mewnol o drefniadau ymateb brys Covid 19 y Cyngor, a rhoddwyd sgôr sicrwydd Rhesymol i'r ddau ohonynt. Canfuwyd bod y chwe mater/risg a dynnwyd i sylw'r Tîm Ymateb Rheoli Argyfwng i gyd wedi cael sylw pan gawsant eu hadolygu fis yn ddiweddarach.

·                O'r naw archwiliad o feysydd allweddol eraill o weithgareddau'r Cyngor a gwblhawyd yn 2020/21, rhoddwyd sicrwydd Rhesymol i bump am y trefniadau ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol a sicrwydd Cyfyngedig i bedwar. (Gweler Atodiad C)

·                O'r naw archwiliad ardystio grant a gwblhawyd yn ystod 2020/21, rhoddwyd sicrwydd Sylweddol i saith ohonynt ar gyfer eu trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol ac ni chanfuwyd unrhyw risgiau/materion sylweddol nac arwyddocaol.

·                Yn gyffredinol, rhoddwyd sgôr sicrwydd Rhesymol i 78% o'r archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod 2020/21. Derbyniodd pum archwiliad sicrwydd Cyfyngedig - cafodd pedwar ohonynt eu hailystyried yn unol â phrotocol Archwilio Mewnol yn ogystal â dau archwiliad a oedd â sicrwydd Rhesymol - un oherwydd ei fod yn cael ei gydnabod fel risg yn y gofrestr risg gorfforaethol (Ymateb i’r Argyfwng) a'r llall oherwydd bod nifer o faterion/risgiau heb eu datrys (Dyledwyr Amrywiol). Codwyd y sgôr sicrwydd ar gyfer yr holl adroddiadau yr ailedrychwyd arnynt i Resymol.

·                Ni dderbyniwyd yr un archwiliad ‘Ddim’ sicrwydd ac ni chodwyd unrhyw faterion/risgiau Critigol (coch) yn ystod y flwyddyn. Lle nodwyd materion/risg, roedd y rheolwyr yn derbyn pob un ohonynt. Yn ystod 2020/21, mae uwch reolwyr y Cyngor wedi bod yn gefnogol ac yn ymatebol i'r materion a godwyd gan yr Adran Archwilio Mewnol.

 

Wrth gyfeirio at y rhan o'r Adroddiad Blynyddol sy'n ymdrin â materion/risgiau sy'n weddill, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y Pwyllgor wedi cael dadansoddiad manwl o hyn yn ei gyfarfod blaenorol ym mis Ebrill, 2021 a ddangosodd fod cynnydd da wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r holl risgiau/materion a nodwyd yn ystod 2020/21.  Cadarnhaodd nad oes unrhyw faterion sydd â risg neu effaith sylweddol uchel sy'n haeddu cael eu cynnwys yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. O ran perfformiad y gwasanaeth Archwilio Mewnol, mae'r Pennaeth Archwilio a Risg a gefnogir gan yr UDA wedi gwneud pob ymdrech i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau archwilio sydd ar gael yn ystod y pandemig ac mae'r gwasanaeth wedi ymdrechu i ychwanegu gwerth lle bynnag y bo modd. Mae'r gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi sefydlu rhaglen sicrhau ansawdd a gwella er mwyn sicrhau gwelliant parhaus. Mae'r Gwasanaeth wedi perfformio'n dda yn ystod y flwyddyn yn erbyn y targedau y cytunwyd arnynt gyda'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel rhan o'r Strategaeth ar gyfer 2020/21 (Atodiad E) gyda 3 allan o 5 dangosydd yn cyrraedd eu targedau. Nid yw'r gwasanaeth wedi perfformio cystal o ran canran y risgiau gweddilliol coch ac ambr a adolygwyd yn bennaf oherwydd y gostyngiad yn nifer staff y gwasanaeth yn sgil dyrchafiad, secondiad, absenoldeb hirdymor a hefyd argyfwng Covid-19.  Mae gan bob aelod presennol o'r tîm Archwilio Mewnol gymwysterau proffesiynol ac mae'r gwasanaeth wedi buddsoddi'n sylweddol i sicrhau eu bod yn parhau â'u datblygiad proffesiynol. Cafodd cyfanswm o 139 diwrnod ei fuddsoddi mewn hyfforddiant a datblygiad yn ystod 2020/21. O dan Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, mae'n ofynnol i wasanaethau archwilio mewnol fod yn destun asesiad ansawdd allanol bob 5 mlynedd - cafodd Gwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor asesiad allanol ddiwethaf ym mis Mehefin, 2017 a gadarnhaodd fod y Gwasanaeth "yn cydymffurfio'n gyffredinol" â'r PSIAS sef yr asesiad uchaf sydd ar gael i'r asesydd - a disgwylir iddo gael ei asesu nesaf yn 2022.

 

Ymatebodd y Pennaeth Archwilio a Risg i gwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn –

 

·                O ran prynu arbenigedd gan ddarparwr allanol, cadarnhaodd fod yr ymgysylltu â Chyngor Dinas Salford i gynorthwyo gyda’r archwiliad TG yn mynd rhagddo'n dda gyda staff Archwilio Mewnol yn elwa ar arbenigedd archwilwyr TG Salford sy'n arbenigwyr yn y maes. Nid yw'r pandemig wedi amharu ar y gwaith ac mae’r holl bartïon bellach wedi dod yn gyfarwydd â gweithio o bell sydd â'i fanteision ei hun o ran yr arbedion mewn costau ac amser o ystyried y daith yn ôl a blaen o Fanceinion i Ynys Môn y byddai’r archwilwyr wedi’i gwneud yn arferol.

·                O ran hyfforddiant a datblygiad ac yn benodol denu pobl ifanc, mae'r gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi elwa yn y gorffennol ar gynllun lleoliadau Denu Talent sy'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc 16 oed a throsodd dreulio profiad gwaith mewn gwahanol wasanaethau ar draws y Cyngor drwy raglen leoliad 12 wythnos. At hyn, dywedodd Pennaeth y Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, er mwyn darparu'r gefnogaeth a'r profiadau gorau, fod y cynllun Denu Talent yn ei gwneud yn ofynnol i'w gyfranogwyr fod yn gorfforol bresennol yn Swyddfeydd y Cyngor a gan na fu hynny'n bosibl dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y pandemig oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn ofynnol i bobl weithio gartref lle bo hynny'n ymarferol bosibl, cafodd y cynllun ei ohirio yn 2020/21. Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn ail-gyflwyno rhaglen Hyfforddeion Proffesiynol yn ystod mis Medi nesaf a fydd, yn ogystal â darparu cyfleoedd i unigolion ddechrau gyrfa mewn llywodraeth leol, hefyd yn helpu i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yn y Cyngor yn y dyfodol.

·                O ran y pwysau ar Archwilio Mewnol yn 2020/21 o ganlyniad i lai o staff a'r gofynion ychwanegol a grëwyd gan y pandemig ac wrth addasu iddo, cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod rhywfaint o normalrwydd wedi'i adfer a bod y gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi addasu i'r ffyrdd newydd o weithio ac i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael iddo. Roedd hi'n obeithiol, gyda'r tîm brwdfrydig ac ymroddedig sydd ganddo a'r disgwyliad y bydd y tîm yn ôl i'w gapasiti llawn erbyn mis Medi, y bydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gallu cyflawni ei flaenoriaethau a diwallu anghenion sicrwydd y Cyngor.

 

Wrth nodi'r adroddiad a barn flynyddol y Pennaeth Archwilio a Risg cydnabu'r Pwyllgor waith caled Archwilio Mewnol yn 2020/21 gan gydnabod ymdrechion ei staff i gyflawni rhaglen waith archwilio mewnol mewn amgylchiadau heriol, a hefyd eu cyfraniadau wrth gefnogi'r sefydliad yn ehangach yn ei ymateb i argyfwng Covid-19.

 

Adroddiadau Sicrwydd Archwilio Mewnol Cyfyngedig - Parhad Gwasanaeth TGCh (Gwe-rwydo) ac Adnabod Anfonebau Dyblyg ac Adennill Taliadau Dyblyg (Cymerwyd yr adroddiadau hyn ar ddiwedd y cyfarfod mewn sesiwn gaeedig yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgor o dan Adran (100) (A) (A) 4)  o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y wasg a'r cyhoedd o'r drafodaeth ar yr adroddiadau hynny ar y sail ei bod yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraffau 13 a 14 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg adroddiad yr Adolygiad Archwilio Mewnol mewn cysylltiad â Pharhad Gwasanaeth TGCh (Gwe-rwydo)  (a gynhaliwyd gan arbenigwr archwilio TG allanol) a oedd wedi arwain at farn Sicrwydd Cyfyngedig a nodi 4 mater/risg y mae angen i'r rheolwyr rhoi sylw iddynt.  Adroddodd ar gwmpas yr adolygiad ac ymhelaethodd ar ei ganfyddiadau.  Mae'r holl risgiau/materion a nodwyd wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu rheoli cysylltiedig.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cydnabu'r Pwyllgor bwysigrwydd darparu hyfforddiant i staff ar bob lefel o ran diogelwch seiber, yn benodol i gydnabod seiberymosodiadau yn eu holl ffurfiau ac i roi gwybod am weithgarwch maleisus; bod hyfforddiant yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn ystyried bygythiadau newydd/sy'n dod i'r amlwg, a bod hyfforddiant yn cael ei ategu gan atgoffa staff yn rheolaidd o'r angen i fod yn wyliadwrus. Dylid cynnwys Aelodau Etholedig hefyd yn y cyfathrebiadau hynny. Trafododd y Pwyllgor amserlenni'r cynllun gweithredu a phwysleisiodd yr angen am weithredu amserol lle mae diogelwch seiber yn y cwestiwn.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm TG wrth y Pwyllgor fod bygythiadau seiber yn cynyddu o ran amlder a soffistigeiddrwydd;  ffurfiwyd gweithgor Diogelwch Seiber ac argymhellion Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sydd, yn ogystal â gweithredu argymhellion Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, hefyd yn datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â materion seiber a diogelwch data. Er y derbynnir bod ymwybyddiaeth o ddiogelwch seiber yn broses y mae angen ei hatgyfnerthu'n rheolaidd, mae atgoffa staff yn rhy aml yn creu risg y bydd staff yn mynd yn ddifater, felly mae'n rhaid sicrhau'r cydbwysedd cywir wrth atgoffa staff i fod yn ymwybodol o ddiogelwch seiber. Mae'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn y cynllun gweithredu sy'n cael ei ddatblygu gan y gweithgor yn debygol o gael eu gweithredu o fewn amserlen fyrrach na'r amserlen a bennwyd - mae atebion technegol yn atebion cyflym, gall newid prosesau gymryd mwy o amser yn ogystal ag adeiladu diwylliant cryf o ymwybyddiaeth o seiberfwlio. Bydd cwblhau rhannau perthnasol o gynllun gweithredu'r gweithgor yn llwyddiannus yn mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r materion a nodwyd gan yr adolygiad Archwilio Mewnol.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg adroddiad yr adolygiad Archwilio Mewnol mewn cysylltiad ag Adnabod Anfonebau Dyblyg ac adennill Taliadau Dyblyg a oedd hefyd wedi arwain at farn Sicrwydd Cyfyngedig a nodi 6 risg/mater y mae angen i'r rheolwyr rhoi sylw iddynt. Adroddodd ar gwmpas yr adolygiad ac ymhelaethodd ar ei ganfyddiadau gan dynnu sylw at y materion a nodwyd gan ymarfer dadansoddi data'r tîm Archwilio Mewnol a edrychodd ar y taliadau a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill, 2017 a mis Tachwedd 2020.  Mae'r holl risgiau/materion a nodwyd wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu rheoli cysylltiedig.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, diweddarodd y Pwyllgor am y sefyllfa ddiweddaraf o ran adennill taliadau dyblyg a dywedodd fod manylion cyflenwyr wedi'u trosglwyddo i'r tîm Taliadau er mwyn hwyluso ymholiadau pellach lle bo angen.  Fel rhan o'r gwaith o wella trefniadau rheoli'r system, bydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cynnal ymarfer monitro parhaus gan ddefnyddio meddalwedd i nodi taliadau dyblyg posibl a bydd yn darparu adroddiad chwarterol i'r Tîm Taliadau ymchwilio iddo. Bydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ailedrych ar y Materion/Risgiau a godwyd ym mis Medi 2021 a bydd wedyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd y broses weithredu..

 

Wrth ymateb i'r adolygiad archwilio, tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylw at y ffaith bod y taliadau dyblyg a nodwyd yn cyfateb i 0. 04% o werth y taliadau a wnaed dros y 3½ flynedd dan sylw, a'u bod wedi'u nodi nid ar sail sampl ar hap ond yn dilyn ymarfer dadansoddi data, yn cynnwys archwilio’n drylwyr i wybodaeth am daliadau sy'n golygu y bydd y rhan fwyaf o'r taliadau dyblyg a wnaed yn debygol o fod wedi'u cofnodi. Amlinellodd y cyd-destun a'r mathau o wallau talu a all ddigwydd a dywedodd fod gweithdrefnau penodol yn llywodraethu'r broses prynu i daliadau a fyddai, o'i dilyn yn briodol, yn lleihau'r risg o daliadau dyblyg; felly mae diffyg cydymffurfio gweithdrefnol yn ffactor ac mae'n berthnasol i holl staff y gwasanaeth, yn ogystal â’r ffaith bod y gwaith o brosesu anfonebau yn cael ei awtomeiddio’n gynyddol, a all olygu bod manylion anfonebau weithiau'n cael eu camddarllen. Derbyniodd yr adroddiad a'r angen i wella mesurau cadw tŷ ymhellach ac i addysgu staff am bwysigrwydd cadw at bolisïau a gweithdrefnau taliadau; sicrhaodd y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn ceisio adennill taliadau dyblyg lle y'u gwnaed a chadarnhaodd fod y sefyllfa yn hyn o beth wedi symud ymlaen ers i'r adroddiad archwilio gael ei ysgrifennu. Yn ogystal â hyn, mae ailstrwythuro'r adrannau Cyflogres a Thaliadau wedi golygu bod adnoddau ychwanegol yn canolbwyntio ar y tîm Taliadau.

 

Rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg sicrwydd pellach nad yw'r taliadau dyblyg a nodwyd gan yr archwiliad yn anarferol ac y gellir eu priodoli i wallau ac nid camarfer; nid yw taliadau dyblyg yn anghyffredin mewn sefydliadau sector cyhoeddus lle mae nifer yr anfonebau yr ymdrinnir â nhw’n sylweddol.

 

Penderfynwyd 

 

  • Er mwyn derbyn Adroddiad Blynyddol yr Archwiliad Mewnol ar gyfer 2020/21 a nodi bod y Pennaeth Archwilio a Risg, am y 12 mis a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, yn fodlon ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau cyffredinol y Cyngor ar gyfer rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol yn amodol ar gyflwyno a/neu wella rheolaethau mewnol mewn rhai meysydd.
  • Derbyn a nodi'r ddau adroddiad Sicrwydd Cyfyngedig cysylltiedig - Parhad Gwasanaeth TGCh (Gwe-rwydo) ac Adnabod Anfonebau Dyblyg ac Adennill Taliadau Dyblyg.

 

Dogfennau ategol: