(a) Croesawu Mr. Philip Heath, Weightmans LLP i’r cyfarfod.
(b) Cyflwyno adroddiad gan Gyfreithiwr Weightmans ar ran Swyddogion yr Ymddiriedolaeth.
Cofnodion:
· Dywedodd Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol eisoes wedi trafod gwrthdaro diddordeb posib rhwng rôl Swyddogion y Cyngor Sir a’r Ymddiriedolaeth Elusennol ynghyd â rôl yr Aelodau Etholedig fel Aelodau o’r Cyngor Sir ac Ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth. Roedd yn rhagweld y gallai prosiectau mawr ddod i’r ynys yn yr ychydig flynyddoedd nesaf gyda manteision ariannol mawr i gymunedau lleol. Teimlir bod angen trefniadau cadarn er mwyn medru paratoi i weithredu’n briodol a defnyddio’r arian mewn modd pwrpasol.
Mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi penderfynu gofyn am gyngor proffesiynol ynghylch gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth i’r dyfodol ynghyd â chyngor mewn perthynas â gwerthu’r tir yn Rhosgoch. Gwahoddwyd tendrau cystadleuol ar gyfer y ddau fater a rhoddwyd y ddau gontract i Weightmans LLP.
Dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai Mr Heath o Weightmans LLP yn annerch y cyfarfod heddiw ar weinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth ac y bydd adroddiad ar y tir yn Rhosgoch yn cael ei gyflwyno i’r Ymddiriedolaeth gyda hyn.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyfarfod i Mr Heath o Weightmans LLP.
· Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithwyr Weightmans ar ran Swyddogion yr Ymddiriedolaeth.
Dywedodd Mr Heath fod gweithgareddau dydd i ddydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn cael eu gweinyddu gan Gyngor Sir Ynys Môn. Fodd bynnag, gofynnwyd cwestiynau ynghylch y berthynas rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth a gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth.
Wrth i gyfraith Elusennau fynd yn fwyfwy cymhleth ac oherwydd bod rhaid cydymffurfio gyda chanllawiau’r Comisiwn Elusennau, mae’n briodol ystyried gwahanu gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol oddi wrth y Cyngor er mwyn sicrhau cefnogaeth effeithiol i’r Ymddiriedolaeth i’r dyfodol. Ers 1990 mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi cael cyngor a chefnogaeth gan y Comisiwn Elusennau ar rai achlysuron mewn perthynas â materion i’w hystyried gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol ac a oedd y tu allan i arbenigedd y Cyngor. Fodd bynnag mae’r Comisiwn Elusennau wedi adolygu ei ddull rheoleiddiol ac yn fwyfwy i’r dyfodol ni fydd yn gallu darparu cefnogaeth ac ymateb i gwestiynau fel y rheini a godwyd gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn yr un ffordd. Mae’n bwysig ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar gyfer elusennau a weinyddir gan Awdurdodau Lleol. Maent wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau sy’n rhoi cyngor i awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am Elusennau ac mae eu haelodau yn gweithredu fel Ymddiriedolwyr. Y prif fater y mae’r Comisiwn Elusennau yn rhoi sylw iddo yw gwrthdaro diddordeb a theyrngarwch. Yr anhawster o ran yr Ymddiriedolaeth Elusennol yw oherwydd bod Swyddogion y Cyngor yn rhoi cyngor a chefnogaeth i’r Elusen ar hyn o bryd, gall gwahanu’r cyngor a’r gefnogaeth oddi wrth eu rôl yn y Cyngor arwain at honiadau o wrthdaro.
Mae pwysigrwydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol i’r Ynys a maint yr Ymddiriedolaeth yn golygu bod ganddi broffil mawr. Gan hynny, byddai gwahanu gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth oddi wth y Cyngor yn sicrhau na fyddai unrhyw broblemau canfyddiad cyhoeddus yn codi o wrthdaro diddordeb awgrymedig rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth Elusennol ynglŷn â’i gweinyddiaeth.
Byddai gwahanu gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth oddi wrth y Cyngor yn sicrhau y byddai cyngor â chymorth arbenigol addas ar gael i’r Ymddiriedolaeth i’r dyfodol; nid yw’r Cyngor yn codi am weinyddu’r Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd; byddai’r cyngor a’r gefnogaeth yn annibynnol ar y cyngor a’r gefnogaeth a ddarperir i’r Cyngor; byddai gan yr Ymddiriedolaeth fynediad i gyngor proffesiynol a thechnegol priodol heb orfod dibynnu ar gefnogaeth y Comisiwn Elusennau ac ni fyddai unrhyw wrthdaro yn codi mewn perthynas â gweithrediad yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Nodwyd bod angen edrych ar y posibilrwydd o greu pellter rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Cyngor trwy sicrhau ymddiriedolwyr annibynnol.
Roedd Aelodau’r Ymddiriedolaeth yn unfrydol yn eu cefnogaeth i’r egwyddor y dylid gwahanu gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol oddi wrth y Cyngor ond pwysleisiwyd y dylid diogelu asedau a chyfalaf yr Ymddiriedolaeth er budd yr Ynys a chenedlaethau’r dyfodol.
PENDERFYNWYD
· Diolch i Mr. Heath o Weightmans LLP am ei adroddiad.
· Derbyn yr adroddiad mewn egwyddor a disgwyl am adroddiad pellach gan Weightmans LLP gyda hyn.
· Y dylai’r adroddiad pellach gynnwys ystyriaeth o sut y gellid diogelu cyfalaf yr Ymddiriedolaeth Elusennol er budd yr Ynys os bydd Llywodraeth Leol yn cael ei hadrefnu yn y dyfodol.