Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  FPL/2021/10 – Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgwKXUAZ/fpl202110?language=cy

 

7.2  FPL/2020/98 – Cae Prytherch, Llanfairpwll

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgQp8UAF/fpl202098?language=cy

 

7.3  FPL/2021/38 – Gwel y Môr, Bae Trearddur

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCsEOUA1/fpl202138?language=cy

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/10 – Cais ôl weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan ei fod wedi'i alw i mewn gan Aelod Lleol oherwydd pryderon y gymuned leol ynghylch graddfa, lleoliad a dyluniad y garej. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2021, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle cyn penderfynu ar y cais. Cynhaliwyd arolygiad safle rhithwir wedyn ar 21 Ebrill, 2021. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mai 2021, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei fod o'r farn y byddai'r cynnig yn effeithio ar amwynder yr eiddo cyfagos sy'n groes i bolisi cynllunio PCYFF 2.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Llinos Medi, Aelod Lleol, nad oedd gwrthwynebiad i'r annedd sydd wedi'i chymeradwyo ac sy'n cael ei hadeiladu, a bod trigolion Bron Castell yn falch y mai teulu lleol fydd yn byw yno. Mae'r pryderon yn canolbwyntio ar ail-leoli'r garej a'r cynnydd o ran ei raddfa. Gan gyfeirio at adroddiad y Swyddog ar y mater, dywedodd yr Aelod Lleol, er bod yr amodau ar gyfer gwrthod datblygiad arfaethedig o dan faen prawf 7 Polisi CYFF 2 wedi'u rhestru, teimlai nad oedd digon o gydnabyddiaeth o'r effaith andwyol y byddai'r datblygiad dan sylw yn ei chael ar breifatrwydd deiliaid Bron Castell yn ogystal â'i effaith gysgodol. Er bod yr adroddiad yn cydnabod y bydd rhan o'r ardd ym Mron Castell yn cael ei gysgodi rywfaint yn ystod y dydd nid yw'n ystyried bod yr ardd ar lethr, a bod y gwrthwynebydd wedi ceisio cyfleu hynny yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor, ac felly nid yw'n adlewyrchu'r sefyllfa wirioneddol yn llawn. Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi ei bod yn gwerthfawrogi bod yr adroddiad yn cyfeirio at y materion a godwyd gan Aelodau fel ystyriaethau cynllunio dilys ac ychwanegodd fod y mater yn achos tristwch gan fod y cais am annedd wedi'i gymeradwyo gyda chefnogaeth lawn i'r ymgeiswyr fel teulu lleol ond bod ail-leoli'r garej heb ei gymeradwyo wedi cael effaith andwyol ar deulu arall na chafodd y cyfle arferol i leisio'u gwrthwynebiadau oherwydd na ddilynwyd y weithdrefn gynllunio. Gofynnodd i'r Pwyllgor gadw at ei benderfyniad blaenorol i wrthod y cais.    

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i wrthod gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Mai 2021 yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd bod yr Aelodau o'r farn y byddai'r garej fel y mae wedi'i lleoli ar hyn o bryd yn cael effaith andwyol annerbyniol ar amwynderau deiliaid Bron Castell. Mae adroddiad y Swyddog yn ymdrin â'r rheswm dros wrthod y cais ac  o'r farn nad yw effaith y cynnig yn cyfiawnhau gwrthod a bod pryderon am yr effaith ar gymdogion wedi'u lliniaru fel rhan o'r cais. Mae llythyr i gefnogi'r cais wedi'i gyflwyno gan yr ymgeisydd. Argymhelliad y Swyddog o hyd yw cymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith aelod Lleol ac aelod o'r Pwyllgor, wrth gytuno â'r Cynghorydd Llinos Medi, fod gwahaniaethau sylweddol rhwng y garej a gymeradwywyd a'r hyn a adeiladwyd o ran graddfa a lleoliad - yr oedd angen caniatâd cynllunio ychwanegol ar ei gyfer - ond dim ond ar ôl ymyrraeth yr adran Orfodi y ceisiwyd hynny - ni fu ymgynghori chwaith â deiliaid Bron Castell. Roedd y Cynghorydd Griffith o'r farn bod yr ymweliad safle rhithwir yn dangos maint effaith y garej a adleoliwyd ym Mron Castell o ran cysgodi, a cholli preifatrwydd o ganlyniad i agosrwydd y garej at Fron Castell yn ogystal â'r mynd a dod a fyddai'n dilyn. Mae'r plot yn ddigon mawr i ganiatáu i'r garej gael ei lleoli mewn man arall mewn lleoliad mwy addas na fyddai wedi effeithio ar Bron Castell. Barn y Cynghorydd Griffith oedd y byddai'r cynnig, yn rhinwedd ei faint, ei leoliad, ei ddefnydd, ei agosrwydd a'r ffaith ei fod yn edrych dros Bron Castell, yn cael effaith andwyol ar amwynderau deiliaid Bron Castell a bod maen prawf 7 Polisi PCyff 2 yn gymwys ac yn berthnasol yn yr achos hwn. Cynigiodd felly y dylid ailddatgan penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes a oedd hefyd yn credu bod y datblygiad fel y mae, yn cael effaith andwyol ar amwynderau deiliaid Bron Castell ac nad oes angen i'r sefyllfa fod wedi codi.

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, gan y credir y byddai’r cynnig wedi cael effaith ar amwynderau’r eiddo cyfagos yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 2.

 

7.1       FPL/2020/98 - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw gwaith peirianyddol o greu llain galed at ddefnydd storio amaethyddol a defnydd datblygiad a ganiateir fel safle cist car ynghyd â chadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau ar dir yng Nghae Prytherch, Llanfairpwll

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn Aelod Etholedig. Yn ei gyfarfod ar 5 Mai 2021, penderfynodd y Pwyllgor wrthod cadw'r newidiadau a wnaed i fynediad cerbydau i'r safle a chadw'r gwaith peirianyddol i greu arwyneb caled i'w ddefnyddio ar gyfer storio amaethyddol. Mae penderfyniad y Pwyllgor i wrthod cadw'r newidiadau a wnaed i fynediad cerbydau i safle’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac fe'i gwnaed ar y sail eu bod yn cael eu hystyried yn groes i Bolisïau CYFF 2 a 3.

 

Ar ôl datgan cysylltiad personol â’r cais ac un sy’n rhagfarnu, gadawodd y Cynghorwyr Eric Jones a Dafydd Roberts y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Wrth annerch y cyfarfod cyfeiriodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Lleol, at ganlyniadau arolwg traffig a gynhaliwyd gan breswylydd lleol yr oedd wedi sôn amdano yn y cyfarfod blaenorol a welodd 88 o gerbydau'n mynd heibio i safle'r cais mewn cyfnod o 15 munud a 95 cerbyd arall mewn cyfnod dilynol o 15 munud yn yr wythnos cyn cyfarfod y Pwyllgor ar 5 Mai. Credai'r preswylydd lleol fod y cais ac ymddygiad yr ymgeisydd wrth ddiystyru'r weithdrefn gynllunio a bwrw ymlaen yn ei ffordd ei hun yn sarhad ar y Cyngor. Pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai'n debygol o agor y drws i bob ffermwr allu cynnal arwerthiant cist car. Fodd bynnag, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng y cais a'r ffaith ei fod yn cael ei wneud yn ôl-weithredol ac ystyried natur y cynnig beth bynnag fo'r broses. O ran yr argymhelliad i gymeradwyo’r mynediad, dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones ei bod yn debygol y byddai'r rhan fwyaf o gaeau amaethyddol ar yr Ynys a thu hwnt yn elwa o gael mynediad ehangach ond nid yw hynny'n rheswm dros gymeradwyo’r cais hwn nac unrhyw geisiadau tebyg; hefyd fel y nododd un gwrthwynebydd, mae edrychiad diwydiannol i’r fynedfa yn hytrach na mynedfa i gae amaethyddol ar gyrion pentref. Gan gyfeirio at adroddiad y Swyddog ac yn benodol y gymhariaeth a dynnwyd rhwng y gatiau a'r ffensys a godwyd ar safle’r cais a ddisgrifir fel rhai cadarn a mwy na'r giât amaethyddol flaenorol, a'r rhai a ganfuwyd ym maes parcio archfarchnad y Co-op a ffin gefn James Pringle Weavers, dywedodd yr Aelod Lleol nad oedd hyn yn nodweddiadol o’r ardal – mae’r ffens ochr yn ochr â ffin gefn James Pringle Weavers yn gwahanu'r safle oddi wrth y brif reilffordd ac mae'n rhaid iddo fod yn gadarn at y diben hwnnw; ond nid oes ffens ar y rhan o’r safle sy’n  wynebu’r stryd. Nid oes ffens chwaith o flaen archfarchnad y Co-op gyda'r unig ffens sylweddol i'r cefn o amgylch yr ardal parcio ceir. Yn ogystal â hyn, ni allai weld sut y gellid gwneud cymhariaeth ddilys rhwng safleoedd sydd â defnydd gwahanol o ran dosbarth – mae gan archfarchnad y Co-op a James Pringle Weavers ddefnydd manwerthu ond nid felly’r cais. Dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones pe na bai'r Pwyllgor yn gallu derbyn y pwyntiau yr oedd yn eu gwneud yna byddai'n rhaid iddo ofyn am ohirio ymweliad safle; fel arall roedd yn gofyn i'r Pwyllgor wrthod y cais.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch a yw'r gymuned leol yn gwrthwynebu ehangu mynediad neu natur ddiwydiannol y giât a'r ffensys, neu'r ddau, cadarnhaodd y Cynghorydd Meirion Jones fod y gymuned leol yn gwrthwynebu'r holl elfennau a wrthodwyd yn y cyfarfod diwethaf.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i wrthod yn ei gyfanrwydd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf er gwaethaf argymhelliad y Swyddog y dylid cymeradwyo'r newidiadau i fynediad cerbydau i'r safle. Mae adroddiad y Swyddog i'r cyfarfod hwn yn mynd i'r afael â rhesymau'r Pwyllgor dros wrthod yr elfen honno o'r cais ac o'r farn bod y newidiadau i'r mynediad yn dderbyniol. Nid yw'r Awdurdod Priffyrdd ac Adran yr Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu'r newid i’r fynedfa ac maent o'r farn bod lledu’r fynedfa a gosod y giât yn ôl ymhellach yn gwella hygyrchedd a diogelwch i mewn ac allan o'r safle. O ran ymddangosiad gweledol y giât a'r ffens, mae'r adroddiad yn darparu asesiad o nodweddion tebyg yn yr ardal ac yn dod i'r casgliad nad yw giât a ffens y safle’n amhriodol yn eu cyd-destun, ac nid ydynt wedi bod yn rhan o'r hysbysiad gorfodi. Yr argymhelliad o hyd yw gwrthod y gwaith peirianyddol i greu arwyneb caled a chymeradwyo'r newidiadau i fynediad cerbydau i'r safle.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE am eglurhad ynghylch sut y gellid rhannu'r cais yn ddwy elfen a pheidio â delio ag ef fel un cais cyfansawdd. Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, lle mae amgylchiadau'n caniatáu, ei bod yn bosibl rhannu’r argymhelliad; mae'r datblygiad dan sylw’n rhannu'n ddwy elfen wahanol er eu bod yn ffurfio un cais - mae'r elfen arwyneb caled yn gallu sefyll ar ei phen ei hun, fely hefyd y fynedfa a'r giât a’r ffens gysylltiedig. Lle mae un elfen yn dderbyniol a'r llall yn annerbyniol, fel yn yr achos presennol, mae'n bosibl rhannu'r argymhelliad.

 

Credai'r Cynghorydd Robin Williams y byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe bai'r datblygiad wedi'i rannu'n dair elfen – yr arwyneb caled, y fynedfa, a'r ffens a'r giât ar y sail, os yw'r arwynebedd caled i gael ei adfer yn gae amaethyddol yna nid oes angen ffens a giât ar raddfa'r un sydd yno sy'n anghydnaws â'r ardal gyfagos; mae'r gymhariaeth a wnaed â'r ffens y tu ôl i archfarchnad y Co-op a’r un y tu ôl i safle James Pringle Weavers yn amhriodol ac yn anghywir. Pe bai'r datblygiad wedi bod mewn tair rhan byddai wedi bod yn barod i ailystyried a chefnogi'r mynediad lletach ar ei ben ei hun ond gan fod argymhelliad y Swyddog yn cysylltu'r mynediad â'r ffens a'r giât, ni welai unrhyw ddewis ond cynnig y dylid gwrthod y cais yn ei gyfanrwydd am ei fod yn groes i Bolisïau Cynllunio PCYFF 2 a PCYFF 3.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd ynghylch a fyddai'n bosibl dod i benderfyniad ar wahân ar yr wyneb caled, y mynediad, a'r giât a'r ffens, cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod hynny'n bosibl; mae'r argymhelliad wedi'i wneud ar y sail mai barn y Swyddog yw bod y newidiadau i'r fynedfa gan gynnwys y giât a'r ffens yn dderbyniol. Fodd bynnag, os yw'r Pwyllgor o'r farn bod lledu'r fynedfa’n dderbyniol ond nid y giât a'r ffens, yna mae'n bosibl rhannu'r penderfyniad ymhellach na'r hyn a argymhellir gan adroddiad y Swyddog.

 

Yng ngoleuni cyngor y Swyddog dywedodd y Cynghorydd Robin Williams y byddai felly'n hoffi diwygio ei gynnig ar gyfer y canlynol - y dylid gwrthod cadw'r gwaith peirianyddol i greu arwyneb caled ar y safle yn unol ag argymhelliad y Swyddfa, ac y dylid cadw'r newidiadau i'r fynedfa i gerbydau ar wahân i'r giât a'r ffens bresennol y cynigiodd eu gwrthod gydag amod eu bod yn cael eu newid am strwythur sy’n fwy cydnaws â chae amaethyddol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones a chafodd ei basio drwy bleidlais.

 

Penderfynwyd –

 

           Cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod cadw’r gwaith peirianyddol o greu llain galed ar y safle.

           Caniatáu cadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau o ran lledu’r fynedfa.

           Gwrthod cadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau o ran gosod giât a ffens fetel ac argymell eu newid am strwythur sy’n cyd-fynd â chae amaethyddol

 

7.3 FPL/2021/38 – Cais llawn ar gyfer gosod 2 pod glampio ynghyd a chreu mynedfa newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir ger Gwel y Môr, Penrhosfeilw

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd bod safle carafanau teithiol a bythynnod gwyliau gerllaw a dau gwt bugail yn agos at safle'r cais. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mai 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle.  Cynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 19 Mai, 2021.

 

Darllenodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts, Aelod Lleol lythyr gan yr ymgeisydd a'i wraig a bwysleisiodd eu rhinweddau fel teulu lleol sydd â diddordeb angerddol yn y gymuned a'r amgylchedd lleol y maent yn awyddus i'w hyrwyddo a'u diogelu. Eu nod yw dechrau busnes glampio bach sy'n cynnwys dim mwy na dau bod glampio pren a fyddai'n cynnwys uchafswm o ddau berson. Byddai pob pod yn cynnwys ystafell gawod, cegin, gwely a bwrdd a chadeiriau bach. Er mwyn cyd-fynd â’r dirwedd mae pob pod wedi'i adeiladu'n bwrpasol a'u ffitio ag olwynion fel y gellir eu hadleoli'n hawdd y tu allan i'r tymor. Bydd dŵr gwastraff yn mynd i danc gwastad o dan y pod glampio. Mae system o'r enw ffordd laswellt hefyd wedi'i chynnwys yn y dyluniad cyffredinol sy'n dileu'r angen am lain galed ar gyfer parcio. Ychwanegwyd dau bwynt gwefru trydan ac mae rheseli beiciau wedi'u cynnwys i annog teithio cynaliadwy i'r ardal ac oddi mewn i'r ardal. Dechreuwyd plannu gwrychoedd a choed ar hyd ymylon y cae lle mae’r podiau gyda'r nod o sgrinio a chreu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt lleol. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig.

 

Mae'r llythyr yn mynd rhagddo i nodi siom yr ymgeisydd a'i wraig o glywed bod caniatâd cynllunio wedi’i wrthod ar sail tri phwynt - y cyntaf yw nad yw'r cynnig wedi'i leoli'n dda oherwydd nad oes unrhyw safleoedd bws na phalmentydd lleol o fewn pellter cerdded. Mae'r safle wrth ymyl llwybr beicio poblogaidd ac mae dwsinau o feicwyr yn pasio'r eiddo bob awr yn ogystal â nifer fawr o gerddwyr a rhedwyr heb unrhyw broblemau. Mae'r teulu wedi cwblhau sawl arolwg traffig yn ystod oriau'r dydd ym mis Awst 2020 a chanfu fod 108 o gerbydau modur a 12 beic wedi pasio'r safle ar gyfartaledd. Tybir y bydd y nifer hwn yn cynyddu yn y dyfodol oherwydd y buddsoddiad yng nghanolfan ymwelwyr Ynys Lawd ac ar ôl codi cyfyngiadau Covid 19. Ni theimlir y byddai dau gerbyd ychwanegol yn cael unrhyw effaith, yn enwedig pe bai'r ddau yn gerbydau trydan. Yr ail bwynt yw bod angen cysylltu'r podiau â syniad busnes e.e. llyn pysgota fel y gallai pysgotwyr ddefnyddio'r podiau. Nid oes llyn pysgota a byddai creu llyn o'r fath yn mynd yn groes i lawer o'r polisïau cynllunio eraill. Mae marchnad yr ymgeisydd wedi'i hanelu at feicwyr ac o bosibl seryddwyr, nid oes unrhyw lygredd golau ar safle’r cais ac mae’n lle gwych ar gyfer syllu ar y sêr. Mae'r pwynt terfynol yn ymwneud â'r effaith ar gymdogion.  Mae'r ymgeisydd yn pwysleisio y byddai gan bob pod uchafswm defnydd o ddim ond 2 berson i bob un gan eu gwneud yn anaddas i deuluoedd â phlant a lleihau'r tebygolrwydd o unrhyw ymddygiad stwrllyd neu sŵn uchel a fyddai'n achosi effaith negyddol. Ni fyddai unrhyw gyfleusterau fel twb poeth awyr agored neu debyg sy'n nodedig am ymddygiad stwrllyd a sŵn. Mae'r ymgeisydd yn mynegi ei rwystredigaeth o orfod cerdded heibio i gynifer o eiddo o fewn 1.5 milltir i safle'r cais sydd â safleoedd carafanau heb unrhyw gysylltiadau busnes eraill ac mae'n mynegi ei farn bod effaith un garafán wen ar dirwedd ac amgylchedd un garafán wen yn llawer mwy trawiadol na phod pren a'i bod yn llawer llai cynaliadwy. Nod yr ymgeisydd yw creu safle glampio ecogyfeillgar gydag uchafswm o 2 pod a dim ond 2 berson y pod, a fydd yn cyd-fynd â’r dirwedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Robert, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, ei fod yn llwyr gefnogi'r cais a nododd nad oes unrhyw gorff statudol wedi gwrthwynebu'r cynnig er iddo gael ei leoli mewn AHNE. Nid yw Cynghorydd Tirwedd y Cyngor wedi darparu ymateb ac mae'r Cynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol yn argymell cymeradwyo gydag amodau, felly hefyd yr Awdurdod Priffyrdd. Mae ychydig o wersylloedd i'w gweld yn yr ardal yn ogystal â chytiau bugail mewn cae cyfagos. Hefyd, mae llawer o dai wedi codi estyniadau mawr neu wedi'u dymchwel a'u hailadeiladu'n llwyr yn yr ardal sy'n AHNE. Wrth gyfeirio at y prif resymau dros wrthod y cais yn seiliedig ar y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar gyfer Cyfleusterau a Llety Twristiaeth, sef lleoliad y cynnig yr ystyrir ei fod yn ymwthiol heb fawr o sgrinio ac nad yw’n safle a datblygiad o ansawdd uchel, tynnodd sylw at y ffaith er y gallai’r CCA fod yn bwysig, nad ydynt wedi’u mabwysiadu fel y cydnabyddir gan adroddiad y Swyddog. Dywedodd fod dehongli'r CCA yn oddrychol ac yn fater o farn. Cyfeiriodd at y manylion a ddarparwyd yn llythyr yr ymgeisydd am y podiau yr oeddent am eu gosod, sef eu yn bren ac wedi'u gwneud yn bwrpasol a’u bod wedi dechrau’r gwaith plannu i leihau'r effaith weledol yn ogystal â dylunio’r ffordd laswellt nad yw'n weladwy.  Er bod y ffordd heibio i safle'r cais yn cael ei defnyddio'n helaeth, mae'r ymgeiswyr yn ceisio denu cerddwyr, gwylwyr adar, a beicwyr a phobl sydd am syllu ar y sêr ac maent wedi darparu pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan. Cyfeiriodd at amwysedd o ran TAN 18 sy'n nodi y dylai’r “rhan fwyaf” o ddatblygiadau fod mewn ardaloedd datblygu sy'n hygyrch i amrywiaeth o ddulliau teithio sy'n awgrymu y gallai rhai datblygiadau fod yn dderbyniol. Cyfeiriodd ymhellach at geisiadau cynllunio fel rhai gwyn, du neu lwyd a theimlent fod y cais yn yr achos hwn yn ‘llwyd’ sy'n golygu ei fod yn agored i gael ei ddehongli - mae adroddiad y Swyddog yn defnyddio'r geiriau, gallai sy’n awgrymu y gellir ystyried y cais mewn ffordd arall hefyd. O ran effaith y cynnig ar gymdogion agos, nid ydynt wedi gwrthwynebu ac nid oes unrhyw un wedi cyfleu unrhyw wrthwyneb wrtho ef yn bersonol fel Aelod Lleol; mae'r ymgeisydd yn fodlon cadw at unrhyw gyfyngiadau a osodir gan y Pwyllgor ac mae wedi ystyried amwynderau ei gymdogion wrth gyfyngu ar nifer y bobl i bob pod i ddau berson, gan leihau unrhyw effaith o sŵn ac aflonyddwch cyffredinol. Yn ogystal â hyn, mae'r adroddiad yn nodi pe bai'r cais yn dderbyniol y byddai amod yn cyfyngu ar gyfnod gweithredol y safle i’r cyfnod rhwng 2 Mawrth a 31 Hydref o'r un flwyddyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Lleol hefyd, er ei fod yn amheus i ddechrau ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig a'i fod yn cytuno ag argymhelliad y Swyddog  i’w wrthod oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ar ôl gwrando ar ei gyd-Aelod Lleol, bod ei farn wedi newid a chytunodd fod y cais yn "ffiniol". Wrth nodi nad yw Cyngor Cymuned Trearddur yn gefnogol iawn i'r cynnig cadarnhaodd nad oedd yn ei wrthwynebu gan gredu ei fod yn gais gan deulu lleol i greu menter "werdd" ar raddfa fach.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig wedi'i leoli mewn cefn gwlad agored o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar arfordir Ynys Cybi. Er bod Polisi TWR 5 yn caniatáu carafanau teithiol newydd, gwersylla a safleoedd gwersylla amgen dros dro, mae'r meini prawf yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd o'r fath fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, cynllun ac edrychiad a'u bod wedi'u leoli mewn lleoliad anymwthiol sy'n cael ei sgrinio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a/neu lle gellir gosod yr unedau'n dderbyniol o fewn y dirwedd mewn ffordd nad yw'n achosi niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd. Mae'r Swyddog o'r farn bod y datblygiad arfaethedig yn ymwthiol ac felly y byddai'n niweidiol i'r dirwedd agored o amgylch safle'r cais; er bod tirlunio'n cael ei gynnig fel rhan o'r cynllun, mae pryderon, oherwydd y lleoliad agored, y bydd yn cymryd amser hir i’r planhigion sefydlu ac y gallai gymryd blynyddoedd lawer i gael unrhyw effaith. Hefyd, pan nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ystod misoedd y gaeaf disgwylir i bob uned o'r fath gael ei symud o'r safle; er bod y cynnig yn nodi y bydd y podiau'n cael eu symud oddi ar y safle, ni fyddant yn cael eu storio mewn adeilad sy'n bodoli eisoes ond byddant yn cael eu storio yn yr awyr agored a byddant i'w gweld o'r brif briffordd a thu hwnt. Casgliad y Swyddog yw nad yw'r datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel ac nad yw mewn lleoliad cynaliadwy gan ei fod gryn bellter i ffwrdd o'r ganolfan wasanaeth agosaf, ac er nad oes gwrthwynebiad gan ddeiliaid yr eiddo cyfagos, mae'r Swyddog o'r farn y byddai'r cynnig, yn sgil sŵn ac aflonyddwch cyffredinol, yn cael effaith annerbyniol ar yr eiddo preswyl uniongyrchol. Yr argymhelliad felly yw gwrthod y cais.

 

Tynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE sylw at y ffaith bod safle'r cais yn fawr ar gyfer 2 bod ac er ei fod yn dweud nad oedd yn gwrthwynebu'r cais fel y cyfryw byddai'n well ganddo pe gallai unrhyw ganiatâd yn amodol ar gyfyngu nifer y podiau ar y safle i ddau.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, er bod gosod amod i gyfyngu ar nifer y podiau ar y safle yn bosibl, bod yn rhaid ystyried a fyddai'r amod yn ddilys mewn apêl pe bai cais pellach am bodiau ychwanegol.  Unwaith y bydd yr egwyddor o ddatblygu ar y safle yn cael ei derbyn, nid yw'r polisi'n gosod terfyn ar niferoedd a byddai'n rhaid i'r Pwyllgor pe bai'n gwrthod cais pellach am ragor o bodiau, allu dangos y byddai unrhyw unedau ychwanegol yn arwain at effeithiau mwy niweidiol na'r ddau yr oedd wedi'u cymeradwyo.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith bod yn rhaid ystyried lleoliad y cynnig yng nghefn gwlad agored o fewn yr AHNE ac a fyddai'n niweidio harddwch naturiol y dirwedd o'i hamgylch. Roedd yn poeni'n arbennig y byddai cymeradwyo'r cais yn gosod cynsail ar gyfer ceisiadau tebyg ar draws yr Ynys ac wrth gytuno â barn y Swyddog, cynigiodd y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Credai'r Cynghorydd Ieuan Williams fod y cais yn un anodd penderfynu arno ac y gallai fod angen ailedrych ar y CCA (nad yw wedi'i fabwysiadu) yng ngoleuni'r cynnydd mewn podiau glampio yn ogystal â nifer uchel o garafanau sefydlog ar yr Ynys sy'n gysylltiedig ag eiddo y mae llawer ohonynt yn torri rheolau cynllunio. Roedd yn pryderu am effaith gronnol y podiau ac er ei fod wedi bod yn bwriadu cefnogi'r cais i ddechrau, ar ôl meddwl yn ofalus ac oherwydd ei bryderon am ddatblygiad podiau ar hap ar draws yr Ynys, eiliodd gynnig y Cynghorydd John Griffith i wrthod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones, er ei fod yn cytuno bod angen ystyried yr holl o ddatblygiadau o'r fath, fod y cynnig wedi cael ystyriaeth lawn gan yr ymgeiswyr fel y'i cefnogir gan y manylion a ddarparwyd yn llythyr yr ymgeisydd ac ar y sail honno cynigiodd y dylid cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes wrth eilio'r cynnig ei fod yn gyfarwydd iawn â'r safle ac yn credu na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn ymwthiol. Mae safle gwersylla carafanau sydd bron gyferbyn â safle’r cais heb ei sgrinio ac yn weladwy iawn o bell. Cydnabu'r llythyr gan yr ymgeisydd a chredai y byddai'r cynnig o fudd i'r ardal.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, cafodd y cynnig i gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ei basio o 6 pleidlais i 3. Bu i'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE ymatal rhag pleidleisio oherwydd ei fod yn teimlo mai dim ond pe bai'r datblygiad wedi'i gyfyngu i 2 pod y gallai gefnogi'r cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd na fyddai’r cynnig yn arwain at ddatblygiad llety gwyliau anaddas ac ymwthiol yng nghefn gwlad ac na fyddai yn cael effaith ar yr eiddo preswyl cyfagos (Bu i’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE atal ei bleidlais).

 

 (Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais).

Dogfennau ategol: