Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

Cofnodion:

10.1    FPL/2021/47 Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd yn flaenorol dan gais amlinellol rhif 34C716 a chais materion a gadwyd yn ôl rhif RM/2020/9 ar dir ger Pen Bryn, Rhosmeirch

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais ydyw i ddiwygio dyluniad annedd a gymeradwywyd fel annedd marchnad agored o dan bolisïau cynllunio blaenorol. Mae'r cynnig yn groes i Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd lle nodir Rhosmeirch fel clwstwr lle bydd anheddau newydd yn cael eu cymeradwyo ar yr amod bod angen fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig hyd yma er bod y cyfnod cyhoeddusrwydd yn rhedeg tan 23 Mehefin 2021. Mae adroddiad y Swyddog yn nodi'r diwygiadau dylunio arfaethedig ac yn cadarnhau bod y dyluniad diwygiedig o ansawdd uwch na'r caniatâd a gymeradwywyd yn flaenorol ac na fydd yn cael mwy o effaith ar amwynder eiddo preswyl cyfagos na'r ardal ehangach. Gan fod y manylion a gyflwynir gyda'r cais cynllunio yn cael eu hystyried yn dderbyniol ac o ystyried y sefyllfa wrth gefn, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn y dyddiad y daw'r sylwadau i ben.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ar eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn diwedd y cyfnod cyhoeddusrwydd ar 23 Mehefin, 2021.

 

10.2    VAR/2021/14 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (03) (Mannau pasio) (05) (Adar nythu) o ganiatâd cynllunio rhif 29C8J (Addasu adeilad allanol yn 2 uned gwyliau ac annedd) er mwyn cyflwyno manylion ar ôl i'r datblygiad gychwyn a newid amod (03) i'r angen i ddarparu 1 man pasio yn lle 2 man pasio yn Stabl Bach, Llanfaethlu

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn rhannol groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor o addasu'r adeiladau allan yn 2 uned wyliau ac 1 annedd breswyl eisoes wedi'i sefydlu o dan gais cynllunio 29C8J. Er bod y gwaith o addasu  un uned yn annedd breswyl wedi'i gwblhau a'i bod yn cael ei defnyddio, ni chyflawnwyd amod (03) (mannau pasio) ac amod (05) (Adar Sy'n Nythu) cyn i'r datblygiad ddechrau. Fodd bynnag, cynhaliodd Ecolegydd y Cyngor archwiliad o’r adeilad allanol i weld a oedd adar yn nythu ynddo a chadarnhaodd nad oedd yr adeilad allanol a oedd i'w addasu yn cynnwys nythod a ddefnyddir ar hyn o bryd gan adar bridio. Er y gellir cyflawni amod (05) felly o ran elfen breswyl y datblygiad, mae'n dal yn berthnasol i'r adeiladau allanol sy'n weddill nad ydynt wedi'u haddasu eto. Mae'r ymgeisydd wedi cwblhau un man pasio sy’n bodloni’r Adran Briffyrdd sydd hefyd wedi cadarnhau bod un man pasio yn ddigon, sy’n golygu y gellir cyflawni amod (03) hefyd. Er bod rhan o'r cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, mae'r manylion a gyflwynwyd gyda'r cais yn dderbyniol a'r sefyllfa wrth gefn yw bod gwaith cychwynnol perthnasol wedi dechrau ar y caniatâd blaenorol. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: