Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  HHP/2020/253 – Plot H Lleiniog, Penmon

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAFcQUAX/hhp2020253?language=cy

 

12.2  FPL/2020/165 – Adeilad Allanol 1, Lleiniog, Penmon

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpaUAF/fpl2020165?language=cy

 

12.3  VAR/2021/27 – Christ Church, Rhosybol

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I28EkUAJ/var202127?language=cy

 

12.4  FPL/2021/78 - Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OJcVOUA1/fpl202178?language=cy

 

12.5  FPL/2021/71 – Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I2AJgUAN/fpl202171?language=cy

 

12.6  HHP/2021/35 – 54 Pennant, Llangefni

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCnVPUA1/hhp202135?language=cy

Cofnodion:

12.1 HHP/2020/253 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau ym Mhlot H, Lleiniog, Penmon

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol fod y datblygiad wedi bod yn destun llawer o bryder lleol a'i fod felly'n gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle rhithwir â’r cais er mwyn cael gwell gwerthfawrogiad o natur y datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE, ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 FPL/2020/165 – Cais llawn ar gyfer addasu adeilad allanol i fod yn uned gwyliau yn Adeilad Allan1, Lleiniog, Penmon

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, ei fod, fel gyda'r cais blaenorol, yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle rhithwir gan fod y cynnig ar yr un safle a'i fod yn destun pryder lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3 VAR/2021/27 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd gydag adeiladu mynedfa cerbydau newydd) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu lle troi yn Eglwys Crist, Rhosybol, Rhosybol, Amlwch

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw gan Aelod Lleol oherwydd materion priffyrdd ac effaith ar y dirwedd o amgylch yr eglwys.

 

Wrth nodi bod pryder mawr yn lleol am y cais hwn, cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol at ohebiaeth dyddiedig 3 Mawrth, 2021 gan y Parch Kevin Ellis i'r Adran Gynllunio. Darllenodd yr ohebiaeth a oedd yn nodi amheuon yr awdur ynglŷn â'r cais ar y pryd ar y sail bod y gweithredoedd y gwerthiant yn atal unrhyw newidiadau i wal a maint y giât (nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi'i thynnu i lawr), agosrwydd y lle troi arfaethedig at y beddau a thystiolaeth bod plant marw-anedig yn cael eu gosod i orffwys ar ymyl y fynwent. Er bod cais blaenorol yn y cyfarfod heddiw yn ymdrin â phwysigrwydd preifatrwydd, tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at bwysigrwydd parchu'r meirw. Er y cynigir yn awr y dylid hepgor y lle troi, mae'r fynwent yn amgylchynu’r eglwys a chladdedigaethau yn dal i gael eu derbyn. Hoffai i'r Pwyllgor ystyried gwneud yr amodau cynllunio ar y caniatâd yn fwy cadarn, ond yn gyntaf roedd am ofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle rhithwir pellach fel y gall aelodau weld effaith y wal a ddymchwelwyd a gwerthfawrogi pa mor agos yw’r beddau at adeilad yr eglwys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ei fod wedi sylwi wrth basio safle’r cais bod y wal wedi'i thynnu i lawr a bod y lle i gerbydau droi’n gyfyngedig;  felly roedd yn barod i gynnig bod archwiliad safle rhithwir yn cael ei gynnal. Eiliodd y Cynghorydd Ieuan Williams y cynnig.

 

Tynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts sylw at y ffaith bod y pecyn dogfennau’n cynnwys cynllun mynediad arfaethedig sy'n dangos sut y gall Volvo V40 symud i mewn ac allan o'r mynediad.

 

Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig y dylid cynnal arolygiad safle rhithwir gyda chais y dylid tynnu fideo o gar yn symud i mewn ac allan o'r mynediad i safle'r cais os oes modd.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.4 FPL/2021/78 – Cais llawn ar gyfer creu ardal chwarae awyr agored ar dir ym Mharc Gwledig Morglawdd, Caergybi

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ac yn cael ei gynnal a'i gadw ganddo.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod caniatâd i greu ardal chwarae treftadaeth ar y safle ymgeisio wedi'i ddyfarnu yn 2019 ond bod manylion y cynnig a'r cyfarpar a ddarperir wedi newid ers hynny. Derbyniwyd cynllun tirlunio a bydd angen ei ymgorffori o fewn yr amodau sydd i'w hatodi i’r caniatâd os caiff y cynnig ei gymeradwyo. Er nad oes gwrthwynebiad wedi'i godi gan y gymuned leol, mae’r Cynghorydd R. Llewelyn Jones, Aelod Lleol, wedi cyfeirio at faterion traffig yn yr ardal yn ogystal â'r effeithiau ar yr AHNE a'r Awyr Dywyll. Mae egwyddor ardal chwarae wedi cael caniatâd ac er nad yw'r safle ymgeisio wedi'i leoli o fewn yr AHNE, mae'r egwyddor o effeithiau tirwedd yn ystyriaeth berthnasol. Mae'r safle wedi'i leoli gyda phrif ardal y Parc a gan fod y man chwarae i'w ddefnyddio yn ystod oriau'r dydd, nid ystyrir y bydd yn cael effaith annerbyniol ar y dirwedd o'i hamgylch nac ar yr Awyr Dywyll. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.

 

Wrth gynnig bod y cais yn cael ei gymeradwyo, dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes ei fod yn croesawu'n fawr y datblygiad arfaethedig felly hefyd y teuluoedd ifanc yn yr ardal yr oedd wedi siarad â nhw; cafodd ei gynnig ei eilio gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a’r ychwanegiad o amod o ran cynllun tirlunio.

 

12.5 FPL/2021/71 - Cais llawn ar gyfer cadw'r strwythur presennol a pharhau a'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd a gwaith cysylltiedig ar dir ym Mryn Gollen Newydd, Llannerch-y-medd

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, aelod o'r Pwyllgor ac Aelod Lleol, y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir gan ei fod o'r farn y byddai o gymorth i Aelodau gael gwell gwerthfawrogiad o'r datblygiad a'r safle.

 

Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.6 HHP/2021/35 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu  yn 54 Pennant, Llangefni

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor gan Aelod Lleol yn sgil pryderon y byddai'r datblygiad yn achosi colli golau ac y byddai'r cymeriad yn groes i'r ardal leol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol, oherwydd pryderon am raddfa ac addasrwydd y cynnig, fod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad rhithwir â’r safle gan roi sylw arbennig i'r olygfa o ardd gefn 53 Pennant.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

Dogfennau ategol: