Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid

Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid i roi adroddiad llafar.

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid adroddiad llafar ar y materion a drafodwyd yng nghyfarfod y Panel Sgriwtini Cyllid ar 3 Mehefin 2021 fel a ganlyn –

 

           Diweddariad Cyllideb Refeniw Chwarter 4 2020/21

 

Nododd y Panel, ar ôl derbyn cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Adnoddau (Swyddogaeth)/ Swyddog Adran 151, fod tanwariant o £4m ar ddiwedd y flwyddyn a rhoddodd y rhesymau amdano, oedd yn cynnwys llai o alw am rai gwasanaethau yn ystod y cyfyngiadau symud a chymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer costau uwch a cholli incwm oherwydd y pandemig. Nodwyd sefyllfa ariannol yr ysgolion a balansau uwch yn ogystal â'r tanwariant ar gostau addysg ganolog oherwydd bod ysgolion wedi gorfod cau am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Clywodd y Panel fod 3 ysgol bellach mewn diffyg o'i gymharu ag 11 y llynedd.

 

Nododd y Panel hefyd fod gwasanaethau wedi tanwario o £3m; amlinellwyd y gwasanaethau hynny ac esboniwyd pam eu bod wedi tanwario. Cydnabuwyd yr angen i adolygu cyllideb gwasanaethau plant y tu allan i'r sir oherwydd yr arian ychwanegol a ddarparwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a bod llai o alw am leoliadau y tu allan i'r sir wrth i ddarpariaeth gwasanaeth maeth yr Awdurdod ei hun gynyddu. Trafodwyd ochr ariannu busnes y Cyngor gan gynnwys y Dreth Gyngor, y Premiwm Treth Gyngor, ardrethi annomestig a'r Grant Cynnal Refeniw lle'r oedd yr incwm £133k yn is na'r gyllideb. Priodolwyd hyn yn bennaf i’r ffaith bod 200 o ail gartrefi wedi newid o Dreth y Cyngor i ardrethi busnes a bod y Cyngor wedi gorfod ad-dalu'r gwahaniaeth.  Er gwaethaf hyn, mae nifer yr ail gartrefi sy'n talu'r premiwm wedi aros yn gyson sy'n dangos bod nifer yr eiddo yn y categori cartrefi gwag ac ail gartrefi yn cyfateb i'r rhai sy'n newid. Wrth gytuno y byddai'r Panel yn craffu ar yr ymateb i'r ymgynghoriad ar gynyddu premiwm Treth y Cyngor, nodwyd ei bod yn dod yn fwyfwy heriol i bobl ifanc brynu eiddo a bod angen rhyw fath o gynllun i'w helpu. Nododd y Panel hefyd yr ychydig feysydd o orwariant o fewn y Cyngor.

 

Wrth ystyried rhagolygon ariannol yn y dyfodol, nododd y Panel yr ansicrwydd ynghylch setliadau ariannol yn y dyfodol a lefel y galw am rai o wasanaethau'r Cyngor wrth iddo ddod allan o'r pandemig yr oedd yn ei gydnabod fel risgiau. Nodwyd pwysigrwydd cynnal lefel iach o falansau felly i fodloni pwysau posibl ar y galw yn y dyfodol a/neu lai o arian. Wrth orffen craffu ar refeniw yn Chwarter 4 y gyllideb, argymhellodd y Panel y canlynol er sylw'r Pwyllgor –

 

           Nodi perfformiad ariannol yr Awdurdod ar ddiwedd Chwarter 4 2020/21

           Cydnabod yr ansicrwydd mewn perthynas â setliad ariannol 2022/23 a'r posibilrwydd o fwy o alw ar wasanaethau gan gydnabod pwysigrwydd cynnal lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn.

           Craffu ar yr ymateb i'r ymgynghoriad ar gynyddu premiwm Treth y Cyngor maes o law.

 

           Diweddariad Cyllideb Cyfalaf Chwarter 4 2020/21

 

Nododd y Panel, ar ôl derbyn cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Adnoddau (Swyddogaeth)/ Swyddog Adran 151, fod y tanwariant ar raglen gyfalaf 2020/21 yn £25m sy'n uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol ond y mae rhesymau penodol dros hynny, yn enwedig y ffaith bod cynlluniau cyfalaf wedi’u gohirio oherwydd pandemig Covid 19 mewn blwyddyn eithriadol. Sicrhawyd y Panel na fyddai unrhyw gyllid allanol yn cael ei golli o ganlyniad i'r llithriant. Nodwyd hefyd bod pris deunyddiau adeiladu wedi cynyddu a bod rhai o bosibl yn brin gan effeithio ar brosiectau cyfalaf wrth symud ymlaen – hysbyswyd y Panel y bydd y prisiau hynny'n cael eu cynnal lle mae tendrau ar waith. Argymhellodd y Panel y dylid nodi'r gwariant yn erbyn cyllideb gyfalaf 2020/21 yn Chwarter 4.

 

Wrth nodi'r adroddiad yn ôl gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid ar sefyllfa Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Chwarter 4, tynnodd y Cynghorydd Bryan Owen sylw at y ffaith bod bron i 10% o gyllideb y Cyngor bellach yn cael ei gadw mewn cronfeydd wrth gefn; holodd felly a fydd lefel uchel yr Awdurdod o gronfeydd wrth gefn yn effeithio ar ei setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru oherwydd gallai cadw cymaint o arian wrth gefn awgrymu bod yr Awdurdod yn gallu ymdopi â llai. Awgrymodd ymhellach pe na bai'r Awdurdod wedi codi'r Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 yna byddai ganddo ddigon o gronfeydd wrth gefn o hyd a'i bod efallai'n bryd ystyried gwneud defnydd da o'r cronfeydd wrth gefn hynny er budd y trethdalwr drwy wella gwasanaethau neu ddarparu cyfleusterau mewn cymunedau e.e. lleiniau 3G.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y byddai'r Panel Sgriwtini Cyllid yn cefnogi defnyddio cronfeydd wrth gefn pe bai hynny'n cael ei wneud mewn ffordd resymol a'i fod wedi argymell cynnydd is yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid wrth gydnabod y pwynt a godwyd, mai cynnydd Treth Gyngor CSYM ar gyfer 2021/22 oedd yr ail isaf yng Ngogledd Cymru. Er y bydd y cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio ar ryw ffurf a buddsoddiad yn cael ei wneud yn adnoddau'r Ynys, mae angen i'r Awdurdod fod yn wyliadwrus wrth reoli ei gronfeydd wrth gefn oherwydd lefel yr ansicrwydd ynghylch y dyfodol. Bydd y broses o adolygu cyllidebau gwasanaeth yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn a bydd yn rhoi cyfle i wasanaethau drafod eu dyheadau ac ystyried a ellir ymgorffori'r rheini yng nghynlluniau gwariant y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod sefyllfa ariannol gadarnhaol bresennol yr Awdurdod yn deillio o gyllid hwyr gan Lywodraeth Cymru a dderbyniwyd ar ôl i gyllideb 2021/22 gael ei gosod. Mae angen i'r Awdurdod sicrhau ei fod yn gwneud y defnydd gorau o gronfeydd wrth gefn sy'n golygu peidio â'u defnyddio i ariannu gwariant cyfalaf yn unig ond gan ystyried y pwysau ar wasanaethau yn y flwyddyn i ddod a'r angen o bosibl i gefnogi'r gyllideb refeniw yn sgil hynny. Wrth ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn, bydd yn rhaid ystyried prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth i drigolion Ynys Môn ac i'r posibilrwydd hefyd y gallai fod yn ofynnol i'r cronfeydd wrth gefn lenwi bwlch ariannu rhwng setliad llai a'r arbedion y gall yr Awdurdod eu cyflawni.

 

Cafwyd trafodaeth am bremiwm Treth y Cyngor ac a yw'r incwm y mae'n ei gynhyrchu yn cael ei dargedu at y cymunedau hynny lle mae nifer yr ail gartrefi neu gartrefi gwag ar ei uchaf. Gwnaed pwynt bod y premiwm yn gleddyf deufin sy'n effeithio ar bobl leol a allai dderbyn ail eiddo nad ydynt wedyn yn gallu ei waredu ac a allai aros yn wag am gyfnod hir.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y refeniw a gynhyrchir gan bremiwm y Dreth Gyngor yn mynd at y gyllideb a bod elfen yn cael ei dyrannu i gyllideb y Gwasanaeth Tai i helpu pobl ifanc ar draws yr Ynys gyda'u hanghenion tai; nid yw wedi'i dargedu at ardaloedd lle mae nifer yr ail gartrefi a/neu gartrefi gwag yn uchel ond mae ar gael i fodloni hawliadau cymwys lle bynnag ar yr Ynys y cânt eu gwneud. O ran cartrefi gwag, mae perchnogion cartrefi gwag wedi'u heithrio rhag talu'r Dreth Gyngor a'r premiwm am y 6 mis cyntaf ar ôl i'r eiddo ddod yn wag; os yw'r eiddo'n cael ei farchnata'n weithredol, ni fydd y premiwm yn gymwys am 12 mis arall. O dan Bolisi Rhyddhad Dewisol Treth Gyngor y Cyngor, mae gan y Swyddog Adran 151 yr awdurdod i ystyried achosion lle byddai gorfod talu'r Dreth Gyngor a/neu bremiwm yn achosi caledi ariannol ac os yw hawlwyr yn gallu dangos bod hynny'n wir ac na allant waredu'r eiddo, gellir eu heithrio rhag talu'r premiwm. Prin yw’r achosion hynny, diben y premiwm yw cymell pobl i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd drwy eu huwchraddio, eu gwerthu neu eu gosod.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, nodi'r pwyntiau a ddygwyd i sylw'r Pwyllgor a diolch i'r Cynghorydd Dafydd Roberts am yr adborth.

 

DIM CAMAU PELLACH