Eitem Rhaglen

Cyflwyniad gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Derbyn cyflwyniad gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Ms Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor.

 

Diolchodd Ms Whitehead i’r Pwyllgor am ei gwahodd i’r cyfarfod. Rhoddodd grynodeb byr o’r cefndir mewn perthynas â rhoi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru yn 2015, hyd at fis Tachwedd 2020; yn dilyn adolygiad annibynnol gan y rheoleiddwyr, symudwyd y Bwrdd Iechyd i dderbyn ymyriad wedi’i dargedu. Dywedodd bod pedwar thema gyffredinol wedi cael eu nodi i’r Bwrdd Iechyd eu gwella dros gyfnod o amser, sef:-

 

·      Darpariaeth gwasanaeth Iechyd Meddwl (gwasanaethau oedolion a phlant)

·      Cyfeiriad strategol (cynllunio a pherfformiad)

·      Arweinyddiaeth (y gallu i drawsnewid gwasanaeth a diwylliant y Bwrdd)

·      Ymgysylltu (ymgysylltu â phobl Gogledd Cymru, cleifion, staff a sefydliadau partner)

 

Oherwydd bod gan Lywodraeth Cymru brofiad o ymyriad wedi’i dargedu mewn Byrddau Iechyd, ymgorfforir ‘matrics aeddfedrwydd’ yn y dangosyddion gwella a’r hunanarfarniad. Mae sicrhau ansawdd yn thema ar draws y ‘matrics aeddfedrwydd’ ac mae’n berthnasol i’r pedwar thema gyffredinol a nodwyd uchod. Mae’r ‘matrics aeddfedrwydd’ yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd benderfynu ar lefel eu perfformiad, ar raddfa o 0 i 5, mewn perthynas â phrofiad y claf, y gallu i ymateb i’r pandemig covid (profi ac olrhain), brechu, gofal i gleifion a chymorth i gleifion sy’n dioddef o covid hir), amseroedd aros am driniaeth, gofal nas cynlluniwyd (apwyntiadau brys), gwasanaethau iechyd meddwl, a chynaliadwyedd gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol. Mae’n bwysig gallu cynnal y tri phrif safle, sef Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd a Wrecsam Maelor, gan fod y Bwrdd yn wynebu problemau o ran recriwtio a chadw staff. Bydd dull ‘Cryfach Gyda’n Gilydd’ yn cael ei fabwysiadu, sy’n golygu ymgysylltu â staff y Bwrdd Iechyd er mwyn canfod pa heriau y mae staff yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Cyfeiriodd Ms Jo Whitehead at y ‘matrics aeddfedrwydd’ eto a sut mae’r Bwrdd Iechyd wedi rhoi sgôr i’w berfformiad ar raddfa o 0 i 5. Nododd fod y Bwrdd wedi rhoi sgôr gwella o 1 oherwydd yr ystyrir ei fod yn perfformio’n ‘dda yn rhannol’ ond bod angen gwneud mwy o waith i wella’r gwasanaethau a gynigir, a bod hynny’n wir am bedwar nod cyffredinol y Bwrdd Iechyd.  Ychwanegodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod sefydliadau partner annibynnol o’r farn bod angen gwneud mwy o waith mewn perthynas â sefydlogrwydd Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Bwrdd iechyd, caniatáu i staff godi pryderon mewn modd tryloyw, a bod y Bwrdd yn cael ei arwain yn glinigol.

 

Cyfeiriodd hefyd at ofal iechyd meddwl ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a phontio o wasanaethau pediatrig i Wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion ac i Wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn, ynghyd â gwasanaethau ataliol ym maes Iechyd Meddwl. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi nodi bod angen gwneud gwaith sylweddol i wella perfformiad y gwasanaethau hyn. Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn holl bwysig h.y. Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodau lleol, Addysg a’r trydydd sector.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Pwyllgor ofyn cwestiynau ynghylch yr uchod:-

 

·           Fel Pencampwr Pobl Hŷn yr Awdurdod, cyfeiriodd y Cynghorydd R Ll Jones at bryderon mai dim ond unwaith yr wythnos y mae seiciatrydd yn ymweld â chleifion dros 65 oed ar y ward seiciatreg, ond bod seiciatrydd ar gael bob dydd ar gyfer pobl dan 65 oed. Dywedodd hefyd fod tu allan i’r uned seiciatrig yn flêr.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei bod yn derbyn y sylwadau ynghylch ymweliadau unwaith yr wythnos gan y Seiciatrydd ac y byddai’n edrych i mewn i’r mater, yn ogystal â’r sylwadau bod tu allan yr uned yn flêr.

 

·           Cyfeiriwyd at y pedwar maes gwella cyffredinol a nodwyd a gofynnwyd ai’r meysydd hyn a nodwyd fel y meysydd gwasanaeth sydd â’r perfformiad gwaelaf o fewn y Bwrdd Iechyd ac ai’r Bwrdd Iechyd neu Lywodraeth Cymru oedd wedi nodi’r 4 maes fel rhai yr oedd angen eu gwella? Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch a oedd y matrics sgorio yn addas ar gyfer herio perfformiad y gwasanaethau a ddarperir ac a oes angen defnyddio asesiadau cymheiriaid wrth asesu’r gwasanaeth?

 

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod y 4 maes a nodwyd/meysydd gwan oedd angen eu gwella wedi cael eu hamlygu gan Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, sef sefydliadau annibynnol a fu’n monitro gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd. Roedd Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd yn cynghori’r Gweinidog Iechyd mewn perthynas â symud y Bwrdd Iechyd o fesurau arbennig i ymyriad wedi’i dargedu ym mis Tachwedd 2020, a bydd yn parhau i fonitro’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed yn erbyn y matrics aeddfedrwydd. Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd Iechyd yn y broses o benodi sefydliad trydydd parti annibynnol a fydd hefyd yn darparu asesiadau cynnydd i’r Bwrdd er mwyn i’r Bwrdd Iechyd fuddsoddi, yn ôl yr angen, i wella gwasanaethau ar gyfer pobl Gogledd Cymru mewn perthynas â gofal iechyd yn y dyfodol a’r oedi yn y llawdriniaethau oherwydd y pandemig covid.

 

·        Gofynnwyd a oedd y Bwrdd Iechyd yn bwriadu gwella ei weithdrefnau TG mewn perthynas â nodiadau cleifion.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Betsi Cadwaladr bod y Bwrdd Iechyd yn ystyried ei ddarpariaethau digidol er mwyn gwella gwasanaethau a buddsoddi mewn technoleg addas ar gyfer staff ac er budd gofal i gleifion.

 

·           Nodwyd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am gyfran fawr o’r boblogaeth ac am ardaloedd daearyddol mawr; gofynnwyd a fyddai’n briodol rhannu’r Bwrdd Iechyd yn isadrannau llai.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Betsi Cadwaladr mai’r Bwrdd Iechyd yw’r mwyaf yng Nghymru a’i fod ymhlith y mwyaf yn y DU. Dywedodd bod rhaid i’r Bwrdd ystyried y gwasanaethau clinigol a gynigir yn Lloegr ar hyn o bryd a chynnig gwasanaethau o’r fath yng Ngogledd Cymru. Roedd yn derbyn bod gofal personol i gleifion hefyd yn bwysig i’r unigolyn yn ogystal â gwneud yn siŵr bod darpariaeth gofal iechyd ar gael yn lleol i ddarparu gofal i gleifion. Ychwanegodd fod denu’r Ysgol Gwyddorau Meddygol i Ogledd Cymru’n holl bwysig fel bod myfyrwyr lleol yn gallu astudio yn eu hardal leol ac o bosib ymgeisio am swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ôl cymhwyso.

 

·        Holwyd am waith partneriaeth gyda sefydliadau allanol a’r gwelliannau sydd eu hangen yn y ddarpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei bod yn ystyried bod perthynas waith da yn bodoli rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol a bod y Bwrdd a’r awdurdod lleol yn gallu herio ei gilydd ynghylch gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, ac yn benodol, ynghylch dyletswyddau statudol a chyfyngiadau ariannol. Yn ystod y pandemig, roedd angen gwneud newidiadau mewn perthynas â’r gwasanaethau yr oedd y Bwrdd yn eu darparu mewn partneriaeth â sefydliadau partner megis yr awdurdod lleol.

 

·           Wrth i’r Bwrdd Iechyd ganolbwyntio ar wella a chael ei dynnu o fesurau arbennig, gofynnwyd a oes diffyg canolbwyntio ar gleifion tra bod pobl yn disgwyl am lawdriniaeth a chleifion sydd â chanser.

 

Cyfeiriodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at yr heriau yn ystod y pandemig covid a gorfod cynnal ymgynghoriadau rhithwir, ac ar hyn o bryd mae 42,000 o gleifion yn disgwyl am lawdriniaeth. Nododd bod trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru i gynyddu capasiti staffio’r Bwrdd Iechyd i fynd i’r afael â’r ôl-groniad. Ar hyn o bryd, perfformiad y Bwrdd Iechyd yw’r gorau yng Nghymru o ran trin cleifion sydd â chanser.

 

·           Cyfeiriwyd at broblemau recriwtio meddygon teulu ar gyfer meddygfeydd yng Nghaergybi a phryderon cleifion oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng y Bwrdd Iechyd a chleifion y ddwy feddygfa yng Nghaergybi. Fodd bynnag, deallir bod dau feddyg teulu rhan amser wedi cael eu penodi i gychwyn ym mis Awst ac y bydd meddyg teulu llawn amser arall yn cychwyn gweithio yn Hwb Iechyd Cybi ym mis Ionawr. Serch hynny, mynegwyd pryderon ei bod wedi cymryd dwy flynedd i benodi meddygon i’r swyddi hyn.  Nodwyd hefyd bod Ysbyty Penrhos Stanley yn wynebu problemau o ran recriwtio staff nyrsio a bod cynorthwywyr gofal iechyd yn gorfod ymgymryd â dyletswyddau staff nyrsio cymwys. Yn ogystal, mae prinder o Gynorthwywyr Gofal i gynorthwyo cleifion yn eu cartrefi eu hunain.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei bod yn ymwybodol fod cleifion yn disgwyl i gael eu rhyddhau o’r ysbyty ond bod diffyg cyfleusterau gofal ar gyfer cleifion yn y gymuned ac ar gyfer adsefydlu. Ar hyn o bryd, mae’r Bwrdd Iechyd yn ystyried ffyrdd o annog staff sy’n gweithio mewn ysbytai cymunedol, a chynorthwywyr gofal hefyd, i ymgeisio am gynlluniau cadetiaid a phrentisiaethau er mwyn datblygu eu gyrfaoedd nyrsio. Ychwanegodd fod problem genedlaethol o ran recriwtio a chadw meddygon teulu a staff clinigol.