Cyflwyno adroddiad Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg 2020/21.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – yr Adroddiad Blynyddol ar Safonau’r Iaith Gymraeg 2020/21 sydd yn ofyn statudol yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â’r Safonau Iaith Gymraeg a gyflwynwyd o dan Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011.
Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio sydd â chyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg, adroddodd Arweinydd y Cyngor y cynhaliwyd ymarfer ‘siopwr cudd’ gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â safonau iaith Gymraeg yr Awdurdod. Roedd y canlyniad yn un cadarnhaol ac nid oedd unrhyw faterion yn codi yr oedd angen rhoi sylw iddynt. Roedd yn dymuno diolch i’r staff a Fforwm Iaith Gymraeg y Cyngor a Chadeirydd Annibynnol y Fforwm am eu hymrwymiad i ddatblygu’r iaith Gymraeg yn yr Awdurdod. Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y rhaglen ARFer sydd wedi’i thargedu’n benodol i gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle, mewn busnesau ac yn y gymuned. Ychwanegodd bod y pandemig wedi bod yn heriol ac y bu’n rhaid i’r Cyngor newid dulliau gweithio ac addasu’r cyfleoedd a gynigir i staff ddysgu’r iaith Gymraeg.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod 154 o safonau Iaith Gymraeg. Roedd y Cyngor eisoes yn cydymffurfio â nifer sylweddol o’r Safonau a osodwyd arno drwy weithredu ei Gynllun Iaith, ac roedd y cynllun hwn yn mynd tu hwnt i’r Safonau Iaith mewn sawl maes. Mae adran 4 y Safonau Iaith Gymraeg yn cyfeirio at hunanreoleiddio a’r camau gweithredol sydd ar waith gan y Cyngor sy’n sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael lle haeddiannol yn yr Awdurdod. Nododd, er bod yr adroddiad yn un cadarnhaol, y bydd yr Awdurdod yn wynebu heriau yn y dyfodol gan fod mwy o bwyslais ar ddefnyddio technoleg a bydd angen hyfforddi a datblygu staff ymhellach, yn arbennig gan mai ychydig o gyswllt wyneb yn wyneb a geir oherwydd y pandemig. Dywedodd hefyd y bu’r Swyddog Iaith yn cefnogi tri gwasanaeth o fewn y Cyngor i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg ac y rhoddir pwyslais pellach ar gefnogi gwasanaethau rheng flaen eraill. Bydd gofynion ychwanegol ar y Cyngor mewn perthynas â ffrydio cyfarfodydd yn fyw gan roi pwysau ar y gwasanaeth cyfieithu i ddarparu gwasanaeth mewn cyfarfodydd rhithwir.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad, gan wneud y prif bwyntiau a ganlyn:-
· Gofynnwyd a oes unrhyw ddata ychwanegol a fyddai’n ychwanegu gwerth at yr Adroddiad Blynyddol.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr Awdurdod wedi gosod targed mewn perthynas â nifer y siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys ac y bydd yn ddiddorol gweld canlyniad cyfrifiad 2021 pan fydd ar gael mewn ychydig o fisoedd. Bydd angen edrych ar ganlyniad y cyfrifiad hefyd o safbwynt gwahanol gymunedau a faint o bobl sy’n siarad Cymraeg ym mhob ardal. Ychwanegodd bod yr Awdurdod wedi mabwysiadu fformiwla lefel sgiliau mewn perthynas â defnyddio’r iaith Gymraeg wrth hysbysebu swyddi gwag; mae angen sgiliau llafar yn hytrach na sgiliau ysgrifenedig ar gyfer rhai swyddi.
· Dywedodd y Pwyllgor ei bod yn bwysig hyrwyddo’r iaith ac amlygu’r llwybrau gyrfa posib yn y dyfodol yn ysgolion yr Ynys a’r coleg; bydd hyrwyddo cyfleoedd gyrfa yn y Cyngor ac mewn busnesau eraill ar yr Ynys yn caniatáu i bobl ifanc aros yn eu cymunedau lleol.
Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno bod angen i’r Awdurdod hyrwyddo’r ffaith fod y Cyngor yn cynnig cyfleoedd a llwybrau gyrfa da o bobl ifanc. Nododd fod cynrychiolwyr o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymweld â Phrifysgol Bangor a bod cwrs rhagorol yno ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cynllun ‘Denu Talent’ sy’n cynnig gwaith dros yr haf yn y Cyngor i bobl ifanc; bydd cynllun hyfforddeion yn cael ei gynnig maes o law hefyd. Nododd y Prif Weithredwr nad oedd modd cynnal y cynllun ‘Denu Talent’ eleni oherwydd y pandemig, ond roedd yn rhagweld y byddai modd ei gynnig y flwyddyn nesaf.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar y Safonau Iaith Gymraeg ar gyfer 2020/21.
Dogfennau ategol: