Eitem Rhaglen

Adolygiad o'r Gofrestr Diddordebau mewn Cynghorau Tref a Chymuned

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y canfyddiadau cyffredinol wnaethpwyd yn yr adolygiadau gynhaliwyd ym Mawrth, Ebrill a Mai 2021 yn y Cynghorau Tref a Chymuned, fel y nodir yn rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2020-2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar yr arolwg i Gofrestrau Diddordebau Aelodau mewn sampl o’r Cynghorau Tref a Chymuned, i sicrhau cydymffurfiaeth mewn perthynas â’r Cod Ymddygiad. 

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod y Pwyllgor Safonau, yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr 2020, wedi cytuno mai’r Cadeirydd, Is-gadeirydd a’r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fyddai’n penderfynu pa bum Cyngor Tref a Chymuned i’w hadolygu. Cysylltwyd â Chlercod dros y ffôn yn y lle cyntaf, ac yna anfonwyd llythyr eglurhad at Glerc a Chadeirydd y pum Cyngor a ddewiswyd.

 

Cadarnhawyd bod yr adolygiadau wedi cael eu cynnal rhwng mis Mawrth a Mai 2021 gan ddau aelod o’r Pwyllgor Safonau, a bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) hefyd wedi bod yn bresennol.

 

Cafwyd adborth positif gan yr aelodau a gymerodd ran yn y broses adolygu. Teimlwyd hefyd bod Clercod Cynghorau Tref a Chymuned yn awyddus i symud ymlaen ac addasu i’r newidiadau diweddar oherwydd y pandemig, a’u bod nawr yn cynnal cyfarfodydd dros Zoom.  Dywedodd ambell Glerc y byddent yn croesawugrŵp cefnogi cymheiriaidi rannu syniadau ac arfer da, a chafodd y neges hon ei hanfon ymlaen i’r Pwyllgor Safonau.  

 

Mynegwyd yr un peth gan Aelodau’r Pwyllgor Safonau, a’r rhan fwyaf o’r Clercod a Chadeiryddion a oedd yn rhan o’r adolygiadausef eu bod o’r farn bod y profiad wedi bod yn fuddiol.  Diolchodd y Cadeirydd a’r Pwyllgor Safonau i’r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) am ei phroffesiynolrwydd a’i chefnogaeth yn ystod y broses adolygu. Diolchwyd hefyd i Glercod y Cynghorwyr Tref a Chymuned am eu cydweithrediad a’u cyfraniad rhagorol yn ystod yr adolygiadau.

 

Nodwyd y bydd llythyr personol yn cael ei anfon at bob Cyngor a oedd yn rhan o’r adolygiadau, i nodi’r canfyddiadau a darparu cyngor penodol i bob Cyngor. Ni fydd y Pwyllgor Safonau’n cyhoeddi’r llythyrau hyn.

 

Rhennir newyddlen gyda’r canfyddiadau a phwyntiau dysgu cyffredinol a nodwyd yn ystod y broses adolygu â Chlercod y Cynghorau Tref a Chymuned (mae Adroddiad drafft wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 o’r  adroddiad hwn), gyda chais ei fod yn cael ei rannu ag aelodau, a’i gynnwys fel eitem ar yr agenda yn ystod eu cyfarfod nesaf. Ni enwir yr un Cyngor yn yr adroddiad cyffredinol. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad yn Atodiad 1.

  Cadarnhau y caiff yr adroddiad cyffredinol yn Atodiad 1, gyda diwygiadau i’r adranFforwm Clercod”, ei anfon at bob Cyngor Tref a Chymuned, o dan lythyr esboniadol a gynhwysir fel Atodiad 2, gyda chais i drafod yr adroddiad mewn cyfarfod o’r Cynghorau Tref / Cymuned, ynghyd ag anfon copi o’r Cofnodion ymlaen at y Pwyllgor Safonau; a

  Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau gyda manylion yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod

Dogfennau ategol: