Eitem Rhaglen

Datganiad o'r Cyfrifon Drafft 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad o Gyfrifon Drafft cyn iddynt gael eu harchwilio ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Swyddog Cyfrifol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon a thystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae’n ymwneud â hi, ac o incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn. O dan y rheoliadau, rhaid cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2021. Fodd bynnag, mae’r terfynau amser estynedig a gyflwynwyd ar gyfer cyhoeddi cyfrifon 2019/20 er mwyn cydnabod effaith Covid 19 ar awdurdodau lleol a’u staff yn berthnasol i’r broses o gyhoeddi cyfrifon 2020/21 hefyd sy’n golygu bod gan awdurdodau lleol hyd at 31 Awst 2021 i gymeradwyo eu cyfrifon drafft ar gyfer 2020/21 a hyd at 30 Tachwedd 2021 i gyhoeddi eu cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio. Serch hynny, llofnododd y Swyddog Adran 151 gyfrifon drafft yr Awdurdod ar gyfer 2020/21 ar 15 Mehefin 2021 a rhaid diolch i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith wrth gwblhau’r cyfrifon drafft yn gynharach na’r gofyn. Unwaith eto, roedd y broses yn un heriol eleni oherwydd pwysau parhaus delio â Covid 19 a hefyd oherwydd yr angen i roi cyfrif am y cyllid ychwanegol sylweddol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cynghorau yn ystod y pandemig.

 

Paratowyd y Datganiad o Gyfrifon 2020/21 a’i osod allan ar y fformat a bennir gan God Ymarfer Awdurdodau Lleol CIPFA a gofynion rheoliadau ac arferion cyfrifyddu; mae’n ddatganiad a gynhyrchir yn flynyddol i roi gwybodaeth eglur am gyllid y Cyngor i etholwyr, trethdalwyr lleol, Aelodau’r Cyngor, gweithwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb. Mae prif elfennau’r Datganiad o Gyfrifon yn cynnwys y canlynol –

 

·         Yr Adroddiad Naratif sy’n darparu canllaw effeithiol ar y materion mwyaf arwyddocaol yr adroddir arnynt yn y cyfrifon. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y Cyngor yn gyffredinol a’r prif ddylanwadau ar y datganiadau ariannol sydd yn gyswllt rhwng gweithgareddau’r Cyngor a’r heriau a pha effaith y maent yn ei gael ar yr adnoddau ariannol. Yn 2020/21, adroddodd y Cyngor danwariant o £4.204m yn erbyn gweithgarwch a gynlluniwyd o £142.146m (cyllideb net) a chyflawnodd £0.244m o arbedion. Mae’r tabl yn 3.4.1 yn adlewyrchu’r gyllideb derfynol ar gyfer 2020/21 a’r gwir incwm a gwariant yn ei herbyn. Mae effaith y tanwariant yn golygu y bu cynnydd o £4.204m yng nghronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor, i £11.594m, sydd gyfystyr â 7.87% o’i gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22. Roedd tanwariant yn y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ac roedd cyfanswm y gwariant yn £33.129m yn erbyn Cyllideb Gyfalaf o £58.425m ar gyfer 2020/21.

·         Mae’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (tudalen 17 o’r cyfrifon) yn dangos cost darparu gwasanaethau’r Awdurdod yn ystod y flwyddyn yn unol ag arferion cyfrifyddu yn hytrach na’r swm a ariennir drwy drethi a dyna’r rheswm am y ffigwr  o £24.231m. Mae angen gwneud nifer o addasiadau i’r swm a roddir yn erbyn y dreth gyngor ac mae Nodyn 7 yn cynnwys esboniad yn eu cylch (Addasiadau rhwng y sail gyfrifo a’r sail ariannu o dan y rheoliadau). Mae’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr hefyd yn dangos enillion neu golledion mewn perthynas ag asedau a rhwymedigaethau’r awdurdod gan gynnwys rhwymedigaeth pensiwn a newidiadau o ganlyniad i ailbrisio asedau.

·         Mae’r Crynodeb o Symudiadau yng Nghronfeydd Wrth Gefn y Cyngor (tudalen 23 yn y cyfrifon) yn dangos y symudiad yn ystod y flwyddyn yn y gwahanol gronfeydd wrth gefn y mae’r Cyngor yn eu dal sydd wedi cael eu dadansoddi fel cronfeydd wrth gefn y mae modd eu defnyddio (y gellir eu gwario yn y dyfodol) a chronfeydd wrth gefn na ellir eu defnyddio (na ellir eu gwario yn y dyfodol). Cynyddodd Balans y Gronfa Gyffredinol i £11.594m ar ddiwedd y flwyddyn; roedd Balans y Gronfa Wrth Gefn a Glustnodwyd yn £14.079m; roedd Balans y CRT yn £9.743m; roedd y Gronfa Derbyniadau Cyfalaf yn £767k ac roedd Balansau Ysgolion yn £4.015m. Roedd cyfanswm cronfeydd wrth gefn y Cyngor y gellir eu defnyddio, sef £40.198m, yn dangos cynnydd sylweddol o gymharu â chyfanswm y flwyddyn flaenorol. Nid yw hyn yn wahanol iawn i sefyllfa nifer o awdurdodau eraill gan eu bod wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant yn gysylltiedig â Covid-19 a’u bod wedi gwario llai ar ddarparu gwasanaethau oherwydd yr orfodaeth i gau a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd o ganlyniad i’r pandemig. Yn yr un modd, mae ysgolion yr Awdurdod wedi derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru, rhai ohonynt yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, sydd wedi cael eu dwyn ymlaen i 2021/22 a dyna pam y gwelwyd cynnydd ym malansau ysgolion. Disgwylir y bydd ysgolion yn defnyddio’r cyllid hwn eleni gan arwain at ostyngiad yng nghyfanswm gwerth balansau ysgolion.

·         Mae’r Fantolen (tudalen 24 yn y cyfrifon) - yn dangos gwerth yr asedau ym mherchnogaeth y Cyngor a’r hyn sy’n ddyledus ganddo o ran rhwymedigaethau ar 31 Mawrth 2021, er na chynhwyswyd holl asedau’r Cyngor, dim ond y rhai hynny y mae angen eu dangos o dan y Cod. Mae’r Fantolen yn adlewyrchu sefyllfa ariannol da ar ddiwedd 2020/21, gydag asedau net gwerth £164.056m. Mae hyn yn ostyngiad o £24.230m o gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac yn ganlyniad lleihad o £38.484m mewn cronfeydd wrth gefn na ellir eu defnyddio a chynnydd o £14.254m mewn balansau y gellir eu defnyddio gan gynnwys y CRT. Bu i rwymedigaeth pensiwn cyffredinol net y Cyngor gynyddu o £124.520m ar 31 Mawrth 2020 i £176.261m ar 31 Mawrth 2021. Mae’r ffigwr hwn yn seiliedig ar asesiad a gynhaliwyd ar adeg benodol a gall amrywio’n sylweddol, ac er nad yw’n ddiffyg uniongyrchol y mae’n rhaid ei ad-dalu yn awr, mae’n rhwymedigaeth a gafwyd gan yr Awdurdod y bydd rhaid ei ariannu yn yr hirdymor.

·         Mae’r Datganiad Llif Arian yn dangos y newidiadau mewn arian parod ac eitemau sy’n cyfateb i arian parod yn ystod y flwyddyn ariannol wedi eu rhannu yn weithgareddau gweithredol, buddsoddi a chyllido (rhoddir y dadansoddiad yn Nodiadau 28, 29 a 30). Mae balans arian parod ac eitemau sy’n cyfateb i arian parod y Cyngor wedi cynyddu i £28.738m.

·         Mae’r Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol craidd yn darparu gwybodaeth ychwanegol ac yn egluro’r ffigyrau yn y prif ddatganiadau ariannol. Y rhai sydd fwyaf o ddiddordeb i’r trethdalwr yw Nodyn 8 – cronfeydd wrth gefn clustnodedig a’u pwrpas; Nodyn 9 – sefyllfa balansau ysgolion; Nodyn 15 – asedau nad ydynt yn rhai cyfredol – eiddo, peiriannau a chyfarpar; Nodyn 17 – asedau treftadaeth; Nodyn 20 – gwariant cyfalaf a chyllido; Nodyn 24 – Dyledwyr; Nodyn 26 – Credydwyr; Nodyn 27 – Darpariaethau (ar gyfer costau hysbys posib); Nodyn 33 – Lwfansau Aelodau; Nodyn 34 – Cydnabyddiaeth Ariannol i Swyddogion; Nodyn  37 – Incwm o grantiau (gan gynnwys y Grant Cymorth Refeniw); Nodyn 41 – Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol; Nodyn 42 – Rhwymedigaethau wrth Gefn (lle nad yw’r costau posib yn hysbys); Nodyn 48 – Treth Gyngor; Nodyn 49 – Trethi Annomestig a Nodyn 51 – Asiantaeth, lle bu’r Cyngor yn gweithredu fel asiant ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau, gan gynnwys cynlluniau cymorth yn gysylltiedig â Covid 19.

·         Mae Datganiad Ariannol ategol ar wahân wedi’i gynnwys ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai.

·         Bydd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2020/21 (a drafodwyd o dan yr eitem flaenorol) yn dilyn ar ddiwedd y Datganiad o Gyfrifon.

 

Mae’r cyfrifon yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd; cyflwynir y cyfrifon wedi’u harchwilio i gyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cyngor Llawn ym mis Medi er bod yr amserlen ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo cyfrifon ariannol 2020/21 yn ymestyn i ddiwedd mis Tachwedd 2021.

 

Wrth ystyried y datganiadau ariannol, trafodwyd y pwyntiau a ganlyn gan y Pwyllgor –

 

·         Bod y cynnydd yn y ffigwr ar gyfer Dyledwyr (cynnydd o £4m ers 2019/20) yn ogystal â’r ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg, yn cynnwys dyledion Treth Gyngor a rhenti yng nghyd-destun y pandemig, wedi gwaethygu caledi ariannol a phroblemau ariannol yn ôl pob tebyg, gan arwain at effaith bryderus ar les meddyliol.

 

Er bod casglu’r Dreth Gyngor yn bwysig er mwyn cynorthwyo i ariannu gwasanaethau, rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sicrwydd fod yr Awdurdod wedi ceisio bod mor hyblyg â phosib wrth ymdrin â phobl sy’n wynebu caledi ariannol oherwydd Covid 19, gan gynnwys gohirio’r rhandaliadau Treth Gyngor ar gyfer mis Ebrill a Mai 2020 a pheidio â chymryd camau gorfodi yn y llysoedd neu ddilyn y broses adennill dyledion i’r un graddau ag arfer. O ganlyniad, disgynnodd cyfradd casglu Treth Gyngor yr Awdurdod yn 2020/21 o tua 97% i 95.5%. Rhagwelir y bydd effaith lawn dyledion Treth Gyngor yn gysylltiedig â Covid 19 yn dod i’r amlwg eleni a gallai olygu y bydd swm y ddyled y bydd rhaid ei dileu yn uwch. Cyflwynwyd cynllun newydd o’r enw Lle i Anadlu yng Nghymru a Lloegr sy’n ceisio rhoi amser i bobl sy’n wynebu trafferthion ariannol a chyfle iddynt dderbyn cyngor a chreu cynllun i ad-dalu eu dyledion; byddai’r Awdurdod yn annog pawb sy’n wynebu anawsterau wrth dalu eu Treth Gyngor i gymryd camau o’r fath oherwydd, er y bydd yr Awdurdod yn defnyddio’r mesurau sydd ar gael iddo i adennill dyledion Treth Gyngor, mae’n well ganddo weithio gydag unigolion i ddod i gytundeb ynghylch sut i dalu’r ddyled.

 

·         A fydd yr ad-daliadau am ffioedd arholi a dalwyd yn llawn neu’n rhannol gan ysgolion yn ymddangos ar fantolenni 2020/21 neu 2021/22.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) bod y ffigwr yn y cyfrifon yn adlewyrchu’r asesiad gorau o’r hyn y dylai ysgolion fod wedi’i dalu; os oedd y taliad a wnaed gan ysgolion yn uwch, yna byddai’r ad-daliad wedi’i gynnwys fel incwm yn y cyfrifon; os oedd y taliad yn is, yna byddai croniad wedi’i gynnwys am y swm sy’n ddyledus gan ysgolion ar sail asesiad. O dan y polisi mae’n rhaid rhoi cyfrif am wariant yn y flwyddyn y derbyniwyd y gwasanaeth. Os oes ad-daliad yn ddyledus yna byddai hynny wedi cael ei gynnwys yn y cyfrifon ar gyfer 2020/21. Pe byddai’r swm a dalwyd gan ysgolion yn uwch na’r swm dyledus y cytunir arno gyda CBAC, yna rhoddir cyfrif am y gwahaniaeth yng nghyfrifon 2021/22. Yn ogystal, wrth osod cyllideb y Cyngor, roedd cyllideb ddatganoledig ysgolion yn adlewyrchu’r cyllid oedd ei angen ar ysgolion ar y rhagdybiaeth y byddent ar agor drwy gydol y flwyddyn ysgol; felly mae’r cynnydd ym malansau ysgolion yn rhannol oherwydd bod costau ysgolion wedi bod yn llai na’r gyllideb a dderbyniwyd ganddynt oherwydd iddynt fod ar gau am gyfnodau yn ystod y flwyddyn. Nid yw’r Awdurdod wedi ceisio adennill yr elfen o’r gyllideb ddatganoledig ysgolion na chafodd ei defnyddio ac mae hynny wedi ychwanegu at falansau ysgolion.

 

·         A oes goblygiadau i ddiogelwch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn y dyfodol oherwydd y cynnydd yn rhwymedigaethau net y cynllun.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 bod gwerth y Gronfa Bensiwn yn cael ei hasesu mewn dwy ffordd - un ohonynt yw asesiad blynyddol at ddibenion y cyfrifon sy’n seiliedig ar ragdybiaethau penodol y mae’n rhaid i’r Actwari eu defnyddio i’r perwyl hwnnw; y llall yw prisiad o’r gronfa gan yr Actwari bob tair blynedd er mwyn penderfynu ar gyfradd cyfraniadau’r cyflogwr ac mae hynny’n seiliedig ar ragdybiaethau gwahanol. Eglurodd y ffactorau sydd ynghlwm â chyfrifo rhwymedigaethau’r gronfa a rhoddodd sicrwydd, er bod y diffyg yn y gronfa bensiwn yn ymddangos yn sylweddol ar bapur, tra bod y cynllun yn parhau i fod yn weithredol a thra bod cyfraniadau’n dal i gael eu gwneud i’r cynllun, ni fydd y ddyled yn cael ei gwireddu. Dangosodd y prisiad tair blynedd diwethaf gan yr actwari yn 2019 fod y gronfa mewn sefyllfa iach. O safbwynt yr Awdurdod, cyfradd cyfraniadau’r cyflogwr yw’r mater pwysicaf gan ei fod yn cael ei gyllido gan y Cyngor a’i fod felly’n cael effaith ar lefel y Dreth Gyngor.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Cyllid yr adroddwyd yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor Cronfa Bensiwn Gwynedd bod y gronfa werth oddeutu £2.3b.

 

·         Bwriadau’r Cyngor mewn perthynas â chynorthwyo pobl sydd ag angen brys am dŷ o ystyried bod y Cyfrif Refeniw Tai yn dangos cynnydd o 3 uned yn unig yn stoc dai’r Cyngor ers 2019/20, a pha ddefnydd a wnaed mewn gwirionedd o’r adnoddau a glustnodwyd i’r diben hwn os na chawsant eu gwario ar gaffael stoc.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod cynlluniau tymor hir yr Awdurdod ar gyfer stoc tai ychwanegol wedi’u cynnwys yng Nghynllun Busnes 30 Mlynedd y CRT, gyda’r nod o wireddu 200 o unedau ychwanegol yn ystod pum mlynedd gyntaf y Cynllun. Daeth unedau i feddiant y Cyngor cyn mis Mawrth 2020 ond gan nad oeddent mewn sefyllfa i gael eu gosod, nid oeddent yn cael eu dynodi fel stoc. Fodd bynnag, cafodd yr unedau eu gosod ar ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd gan olygu fod mwy na thair uned wedi dod i ddefnydd yn 2020/21. Mae nifer o brosiectau mewn gwahanol ardaloedd ar yr Ynys wedi cael eu cwblhau, neu bron â chael eu cwblhau, ers diwedd mis Mawrth 2021 a byddant yn ychwanegu’n sylweddol at y stoc tai. Mae’r Cynllun Busnes yn seiliedig ar falans y CRT sydd yn £9.7m ar hyn o bryd; yn y tymor hir y bwriad yw gostwng balans y gronfa wrth gefn i £1m gan adael £8.7m i gyllido tai cyngor newydd, ac yn dilyn hynny defnyddir y gallu i fenthyca yn erbyn y CRT i barhau i ddatblygu tai. Mae manylion datblygiadau tai gwirioneddau a datblygiadau tai sydd wedi eu cynllunio, yn ogystal â Chynllun Ariannol y CRT, wedi’u cynnwys yn y Cynllun Busnes. Mae gan yr Awdurdod gynlluniau hefyd i brynu tua 10 i 15 o gyn dai cyngor lle byddai hynny’n diwallu angen am dai a lle nad yw’r gost o ddod â’r unedau i safon sy’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru yn afresymol.

 

·         O ystyried sefyllfa ariannol y Cyngor a risgiau cysylltiedig, yr angen i fonitro cyllid a ddyrennir o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i sicrhau bod Cymru’n derbyn ei hawl a’i haeddiant, gan fod pryder mai San Steffan yn hytrach na Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu faint o arian a ddyrennir ac ymhle y bydd yn cael ei wario. Mae’r gronfa Ffyniant yn cymryd lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, a Chymru oedd un o’r gwledydd a oedd yn derbyn yr arian mwyaf, a bu i Ynys Môn elwa’n sylweddol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y Gronfa Adfywio Cymunedol sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac sy’n seiliedig ar broses gystadleuol, a’r Gronfa Codi’r Gwastad (Levelling Up Fund) sy’n darparu cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith. Cyflwynwyd bid am gyllid sy’n cynnwys nifer o brosiectau o dan y Gronfa Adfywio Cymunedol a disgwylir am y canlyniad. O dan y Gronfa Codi’r Gwastad, nad yw’n derbyn bidiau eto, ni ddynodwyd Ynys Môn yn ardal blaenoriaeth un ond yn hytrach fe’i rhoddwyd yng nghategori 2 ac mae hynny’n bryder.

 

·         A yw’n ddoeth defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i gyllido gwariant refeniw gan nodi bod y Cyngor yn bwriadu gostwng balans y Gronfa Gyffredinol i gyllido unrhyw ddiffyg yn y gyllideb refeniw. Cyfeiriwyd at y ffaith bod Archwilio Cymru wedi nodi mewn gohebiaeth flaenorol nad yw’r gynaliadwy dibynnu ar gronfeydd wrth gefn i gefnogi costau parhaus neu wariant refeniw a gynlluniwyd.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 na fu unrhyw gynlluniau, ac eithrio ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i gydbwyso’r gyllideb refeniw ac mai’r nod yw cyllido’r gyllideb refeniw o’r Cyllid Allanol Cyfun a’r Dreth Gyngor. Ar gyfer 2021/22 mae £300k o’r cronfeydd wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i gydbwyso’r gyllideb. Roedd y sylwadau a wnaed gan Archwilio Cymru yn gysylltiedig â gorwariant yn ystod blynyddoedd ariannol 2017/18 a 2018/19 ac a gyllidwyd wedyn o’r Gronfa Gyffredinol gan ostwng balans y Gronfa i lai nac isafswm lefel y gronfa wrth gefn o 5% (o’r gyllideb refeniw net) a osodwyd gan y Cyngor. Roedd y gyllideb refeniw wedi tanwario yn 2019/20 a 2020/21 gan arwain at gyfanswm presennol Balans y Gronfa Gyffredinol o £11.5m. Mae pryder y bydd y galw am rai gwasanaethau, yn enwedig yn y gwasanaethau Plant ac Oedolion, yn cynyddu wrth i gyfyngiadau Covid 19 lacio, gan arwain at orwariant yn y gyllideb ar gyfer 2021/22 sydd yn seiliedig ar lefel y galw yn ystod blwyddyn arferol. Mae dadl hefyd dros osod isafswm lefel y gronfa wrth gefn uwchlaw 5% yn ystod y blynyddoedd nesaf gan nad oes sicrwydd am ba hyd y pery unrhyw gynnydd yn y galw. Serch hynny, mae lle i ystyried defnyddio rhywfaint o falans y Gronfa Gyffredinol i ariannu prosiectau lle gellir dangos y byddent yn arwain at fuddiannau o ran creu arbedion refeniw a/neu wella perfformiad.

 

·         Mae cyfradd gyflawni’r Rhaglen a’r gyllideb Gyfalaf yn 2020/21, sef 56.7%, wedi gostwng o gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac, o ganlyniad i batrwm o danwariant, a oes angen i’r Cyngor adolygu ei amcanestyniadau ar gyfer y gyllideb gyfalaf a gwariant er mwyn osgoi’r risg o fenthyca heb fod angen a hefyd osgoi codi disgwyliadau nad ydynt wedyn yn cael eu gwireddu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 er bod cyrraedd cyfradd gyflawni o 100% ar y gyllideb a’r rhaglen gyfalaf yn heriol oherwydd natur gymhleth a graddfa fawr rhai o’r prosiectau, roedd blwyddyn ariannol 2020/21 yn un eithriadol gan i gyfyngiadau cysylltiedig â Covid gael effaith sylweddol ar waith cyfalaf yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn ariannol. Ni welwyd y cynnydd disgwyliedig mewn prosiectau eraill megis y Rhaglen Moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni oherwydd oedi wrth gwblhau’r cynigion terfynol a bu oedi hefyd wrth gyflenwi rhai o’r cerbydau fflyd yn gysylltiedig â’r contract gwastraff newydd. Mae’r Panel Sgriwtini Cyllid wedi gofyn i’r cyngor edrych ar amseriad y broses ar gyfer gosod y gyllideb gyfalaf, gyda’r bwriad o wneud hynny’n gynharach, fel bod gwaith yn cael ei amserlennu ar gyfer cyfnod mwy ffafriol yn ystod y flwyddyn a thrwy hynny gynyddu gwariant. Cafodd cyllideb gyfalaf 2021/22 ei hail-broffilio er mwyn rhoi ystyriaeth i’r cynlluniau a oedd wedi llithro yn 2020/21 a chafodd y gwariant yn gysylltiedig â nhw ei gynnwys yn y gyllideb. Felly mae’r gyllideb gyfalaf o £58.425m yn cynnwys llithriad ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn ogystal â chynlluniau a ychwanegwyd ar ôl gosod y gyllideb ac sy’n cael eu hariannu drwy grantiau.

 

Cyn dod â’r cyfarfod i ben, diolchodd y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor i’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifeg a’i thîm am eu gwaith wrth gwblhau’r cyfrifon drafft o fewn yr amserlen ac o dan amgylchiadau heriol.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, penderfynwyd nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft heb eu harchwilio ar gyfer 2020/21.

 

 

 

Dogfennau ategol: