Clerc y CYSAG i ddarparu diweddariad ar yr Ymgynghoriadau a ganlyn gan Lywodraeth Cymru:-
· Cwricwlwm i Gymru – Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac
· Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (canllawiau ynghlwm).
Cofnodion:
Adroddodd yr Ymgynghorydd AG ar Gwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE), a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2022. Nododd y bydd y newidiadau o’r cwricwlwm yn cael goblygiadau enfawr ar ysgolion ym mhob pwnc.
Canolbwyntiodd y trafodaethau ar p’un ai yw’r arweiniad yn ddigon eglur a chadarn ar gyfer athrawon? Amlygodd CYSAG fod athrawon angen cefnogaeth, arweiniad ac adnoddau dwyieithog o safon er mwyn symud ymlaen, ac fe groesawyd penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi mwy o adnoddau i mewn i ddysgu proffesiynol. Nodwyd fod risgiau mewn caniatáu i ysgolion ddewis eu cwricwlwm eu hunain, am na fyddai rhai ysgolion o bosibl yn rhoi sylw dyladwy i AG o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Nodwyd hefyd y bydd rhaid i’r CYSAGau fod yn ddigon agored er mwyn galluogi ysgolion unigol gael eu syniadau eu hunain i’w datblygu.
Yn dilyn cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 16eg o Fehefin 2021, anfonwyd adborth gan Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSGau Cymru i’r CYSAGau ar ffurf cyflwyniad PowerPoint.
Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad o’r sleidiau meddyliau cynnar gan Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru, ac awgrymodd y dylai CYSAG Ynys Môn ystyried eu hymatebion yn unigol cyn darllen adborth Cymdeithas CYSAGau Cymru. Gofynnodd i’r sylwadau ar yr ymgynghoriad gael eu hanfon ymlaen i’r Ymgynghorydd AG erbyn y 9fed o Orffennaf 2021, i’r CYSAG baratoi ymateb swyddogol erbyn y dyddiad cau o’r 16eg o Orffennaf 2021.
Amlygodd Mr Chris Thomas y pwyntiau canlynol o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru mewn ymateb i’r ymgynghoriad :-
• Rhaid rhoi amser digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, fel bod yr arweinyddion yn medru datblygu cwricwlwm sylweddol ac uchelgeisiol.
• Mae hyblygrwydd yn bwysig er mwyn i ysgolion fedru adeiladau ar yr hyn sydd wedi ei ddatblygu yn barod a chael perchnogaeth unigol o’u cwricwlwm.
• Bod angen edrych ar gysylltiadau a bod angen dod a nhw at ei gilydd. Cyfeiriwyd at Ganolfan St Giles yn Wrecsam, sydd â fideo hynod ddiddorol a defnyddiol ar sut i ddefnyddio’r canllawiau a dolenni i’r hwb.
• O ran geirfaoedd, mae rhai geiriau penodol angen eglurhad gwell yn Saesneg e.e. “plurality”, “worldviews” a “cynefin”. Awgrymwyd y byddai defnyddio gair Cymraeg yn y cyfieithiad Saesneg yn pwysleisio ei arwyddocâd.
• Pwysleisiwyd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg.
• Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod angen cyllid canolog i ddatblygu adnoddau AG ar gyfer dysgu proffesiynol mewn fformat digidol a chopi caled.
• Nid oes optio allan o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, na gwersi perthnasoedd ac addysg rywiol (RSE).
Mynychodd Mr Rheinallt Thomas gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru hefyd, ac fe wnaeth ailadrodd beth ddywedodd Mr Chris Thomas, o ran ein bod angen bod yn eglur bod y Maes Llafur Cytûn yn mynd i fod yn wahanol i feysydd llafur y gorffennol. Adroddodd y bydd y Maes Llafur yn cynnwys canllawiau ac amcanion brâs, a rhan ganolog o’r meddwl y tu ôl i'r cwricwlwm yw bod ysgolion yn medru datblygu eu cwricwlwm eu hunain. Amlygodd bwysigrwydd egwyddorion y Fframwaith AG, y bydd yn rhaid i CYSAG Ynys Môn ddod i benderfyniad unigol yn ei gylch pan fydd yn ei ffurf derfynol.
Nodwyd fod yr Eglwys yng Nghymru yn gweithio ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru ar gwricwlwm newydd. Mae’r Eglwys wedi mynegi pryder ynghylch diffyg manylder mewn rhai adnoddau. Mae’r Eglwys eisiau datblygu lens i Gristnogaeth, sydd wedi ei gysylltu â hanes, ac mae hi’n bwysig fod hyn yn cael ei adlewyrchu. Nodwyd ymhellach y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cyflwyno eu hargymhellion eu hunain ar y cwricwlwm.
Adroddodd yr Ymgynghorydd AG y bydd y Panel Gweithredol yn cwrdd y mis hwn i ymateb i’r ymgynghoriad, ac i gyflwyno barn athrawon ar y cwricwlwm.
Adroddodd yr Ymgynghorydd AG ei bod wedi cynnwys y Canllaw a Chod Statudol ar Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb ar yr agenda er gwybodaeth, ac i roi’r opsiwn i’r CYSAG gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.
• Fod yr Ymgynghorydd AG yn anfon y fideo St Giles i aelodau CYSAG
Ynys Môn.
Dogfennau ategol: