Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â’r uchod.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod hi’n ofynnol o fewn Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn paratoi, cyhoeddi a chyflwyno eu Hadroddiad Blynyddol i Lywodraeth Cymru. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithio gyda’i bartneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, gofalwyr a phlant. Mae’n gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gyd-weithio a, ac i ddarparu gwybodaeth i’r awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaeth gofal cymdeithasol. Esboniodd tra bod yr Awdurdod yn cyfrannu oddi fewn i’r Bwrdd Partneriaeth, mae hefyd yn cymryd mantais o’r cyfleoedd sydd wedi dod yn sgil y Bwrdd.
Fe wnaeth y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol adrodd fod y Bwrdd Partneriaeth wedi parhau i gwrdd yn fisol, er bod y pandemig wedi effeithio ar brosiectau’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn parhau i adolygu’r prif egwyddorion o fewn y Ddeddf ac yn sicrhau fod blaenoriaethau’r Bwrdd yn gynaliadwy ac yn cwrdd â'r gofyniad mewn perthynas â gofal a chefnogaeth ar gyfer plant ac oedolion. Nododd mai pwrpas Rhan 9 o’r Ddeddf yw gwella canlyniadau a lles pobl, ynghyd a gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd darpariaeth y gwasanaeth. Felly, gellir disgrifio
amcanion allweddol cydweithredu, partneriaeth ac integreiddio fel a ganlyn:
· Gwella gofal a chefnogaeth, gan sicrhau fod gan bobl fwy o lais a rheolaeth;
· Gwella canlyniadau ac iechyd a lles;
· Darparu gofal a chefnogaeth gydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn;
· Gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau, sgiliau ac arbenigedd.
Dywedodd Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllaw Statudol Rhan 9 wedi’i ddiweddaru yn Ionawr 2020 ac mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn gweithio yn unol â’r Canllaw hwn. Mae’r prif newidiadau yn ymwneud ag aelodaeth ychwanegol, ffocws ychwanegol ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc a ffocws bellach ar integreiddio gwasanaethau. Cyfeiriodd at y gwaith peilot wedi’i ymgymryd gan Gyngor Sir Ynys Môn o ran y ‘gyllideb gyfun’ ac mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r prosiect am ei fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r cynllun ‘cyllideb gyfun’ yn llwyddiannus; disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r cynllun ‘cyllideb gyfun’ i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol eraill fel arfer da. Mae cyfanswm o £3.4m wedi ei dod o gyllid ICF tuag at ariannu 40 prosiect at yr Ynys.
Fe wnaeth y Pwyllgor ystyried yr adroddiad a gwneud y pwyntiau canlynol :-
· Codwyd cwestiynau ynghylch lleoliad y 40 prosiect sydd wedi derbyn cyllid ICF ar yr Ynys. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y darperir y prosiectau ar draws yr Ynys yn ddibynnol ar anghenion penodol e.e. Cartrefi Clyd sydd wedi eu lleoli ble mae adeiladau ar gael o fewn dalgylchoedd ysgolion. Nododd ymhellach fod prosiectau eraill wedi cynnwys y trydydd sector e.e. Mencap Môn (am fod diffyg cefnogaeth i rieni newydd sydd â phlant gydag anghenion addysgol arbennig). Nododd y gallai gynllun peilot o’r fath gael ei gyflwyno ar draws Gogledd Cymru yn y dyfodol. Mae cyllid ICF hefyd wedi cefnogi prosiectau gwasanaethau oedolion ledled yr Ynys;
· Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau mae’r Bwrdd Partneriaeth yn ystyried fod y Tîm Adnoddau Cymunedol yn cyflawni gweledigaeth y Cynllun Gweithredu o integreiddio rhwng y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn rhanbarthol. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod gan y Tîm Adnoddau Cymunedol weledigaeth lefel uchel gyda 3 tîm prosiect wedi’u hymgorffori o fewn yr Awdurdod. Mae cynllun yn ei le i fonitro pa mor effeithiol yw perfformiad y timau. Nododd ymhellach fod grŵp ar y cyd a’r bwrdd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi ei sefydlu fel nad oes rhaid i bobl gysylltu ag ystod o ddarparwyr gwasanaethau ar gyfer y cymorth;
· Cyfeiriwyd at gyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn pan gyfeiriodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr at y mesurau trawsnewid a gwella y mae’r Bwrdd yn eu cymryd yn enwedig o ran Iechyd Meddwl. Codwyd cwestiynau ynglŷn â sut yr oedd y Bwrdd Partneriaeth yn cefnogi’r Bwrdd Iechyd o ran y mesurau trawsnewid. Dywedodd Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol fod cyfarfodydd am gael eu cynnal yn y dyfodol agos gyda’r Bwrdd Iechyd i drafod sut y gallai’r Bwrdd Partneriaeth gefnogi’r mesurau trawsnewid. Nododd ei bod yn hollbwysig nas yw gwaith y Bwrdd Partneriaeth yn amharu ar neu’n dyblygu gwaith y Bwrdd Iechyd;
· Codwyd cwestiynau ynghylch pa ffyrdd y bydd yn rhaid i raglen waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gael ei ddiwygio a’i flaenoriaethu o ganlyniad i covid-19, a pha rôl y bydd yn ei chwarae yn ystod y cyfnod adfer. Mi wnaeth y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol ymateb fod y pandemig wedi effeithio llif gwaith y Bwrdd Partneriaeth ac yn enwedig y rhan fwyaf o’r sefydliadau partner. Mae gwaith wedi ei ddatblygu i gynyddu’r capasiti staffio o fewn Gofal Cymdeithasol ac o fewn Cartrefi Gofal.
PENDERFYNWYD nodi’r gwaith a’r cynnydd yn 2020/21 ar y meysydd gwaith sydd yn cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: