Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod gwaith y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus wedi ei effeithio gan y pandemig ynghyd a blaenoriaethau sefydliadau partner yn gorfod cael eu newid. Fodd bynnag, mae’r sefydliadau partner wedi bod yn gweithio’n agos a'i gilydd i gefnogi’r cymunedau lleol yn ystod yr argyfwng iechyd byd-eang. Nododd fod yr adroddiad wedi’i strwythuro i gyfeirio ar gynnydd gwaith pedwar is-grŵp y Bwrdd. Mae arweinwyr is-grwpiau’r Bwrdd yn aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac maent wedi bod yn gyfrifol am adrodd ar gynnydd yn ystod cyfnod 2020/21. Fe wnaethon nhw adrodd fod y cynydd wedi arafu am fod ymateb i’r argyfwng ac adfer cymunedau lleol wedi cymryd blaenoriaeth. Sefydlodd y Bwrdd bedwar is-grŵp gweithredu :-

 

·           Newid Hinsawdd - bu i’r Is-grŵp gael ei sefydlu i annog cydweithio rhwng sefydliadau cyhoeddus ar liniaru effaith newid hinsawdd, ac yn benodol effaith llifogydd arfordirol a mewndirol ar gymunedau. Cynhaliwyd trafodaethau oddi fewn i’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ynghylch yr angen i weithio’n agos a chymunedau er mwyn cynnal trafodaethau angenrheidiol ynglŷn â beth sy’n bwysig o ran newid hinsawdd a llifogydd yn benodol. Yn ogystal, mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd a Chyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn drafod eu blaenoriaethau o ran newid hinsawdd tra ei bod yn rhaid ystyried bod gan awdurdodau lleol eu blaenoriaethau newid hinsawdd eu hunain a bydd angen sicrhau nad oes dyblygu gwaith a sicrhau fod gwaith yr Is-grŵp Newid Hinsawdd yn ychwanegu gwerth ac yn cefnogi’r rhaglen newid hinsawdd.

 

·         Cartrefi i bobl leol - yn wreiddiol gofynnwyd i’r Is-grŵp sefydlu trefn cydweithio yn y sector tai ac i ddatblygu cartrefi mwy addas a fforddiadwy yn y lleoedd cywir. Mi oedd gan nifer o bartneriaid y Bwrdd gynlluniau eisoes i ddatblygu tai fforddiadwy ond un budd o weithio ar y cyd oedd cyflawni darbodion maint - yn benodol datblygiad tai ar y cyd i leihau costau datblygu ac i alluogi medru canolbwyntio ar ddatblygu tai arloesol. Dywedodd fod yr Is-grŵp Cartrefi wedi ystyried a chytuno fod eu gwaith yn dirwyn i ben am nad oes unrhyw werth pellach y byddent yn medru ei gyfrannu i’r gwaith sydd yn mynd ymlaen mewn datblygu tai gan sefydliadau unigol. Bydd rhaid i’r Bwrdd felly ail-ystyried y flaenoriaeth hon a chytuno ar ffordd ymlaen.

 

·           Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig - profodd gwaith yr Is-Grwp mewn gofal iechyd a chymdeithasol yn allweddol yn ystod y pandemig ac yn enwedig i’r gwaith o adfer cymunedau lleol yn dilyn yr argyfwng. Mae ffyrdd newydd o weithio wedi eu datblygu yn rhithiol sydd wedi bod o fudd i’r timau amlddisgyblaethol. Trefnwyd cyfarfodydd wythnosol rhwng partneriaid yn ystod y cyfnod argyfwng i drafod y gwasanaethau o dan y mwyaf o bwysau a chynnig at ymatebion ar y cyd. Dangoswyd parodrwydd i weithio gyda’i gilydd ac addasu i amgylchiadau gwaith heriol. Mae gwaith nawr wedi ail-ddechrau yn y ffrydiau gwaith canlynol; Iechyd Meddwl, Oedolion a Phlant.

 

·           Yr Iaith Gymraeg - mae’r Is-Grwp a’r Bwrdd yn deall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg i’r cymunedau lleol ar draws Gwynedd ac Ynys Môn ac mae medru byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg a chael mynediad at wasanaethau cymunedol a gweithgareddau yn y Gymraeg yn bwysig. Mae’r pandemig wedi achosi heriau sylweddol i sefydliadau wrth geisio sicrhau parhad gwasanaethau. Mae gwaith yr Is-Grwp wedi cael ei oedi yn ystod 2020/21 am fod staff perthnasol wedi gorfod gwneud gwaith gwahanol neu wedi gorfod newid blaenoriaethau ac felly nid oedd yr Is-Grwp yn medru cyfarfod yn rheolaidd i yrru’r rhaglen waith yn ei blaen. Fodd bynnag, mae’r Is-Grwp wedi ymrwymo i wella’r iaith Gymraeg ac mae’r Bwrdd yn adolygu’r cynnig prosiect gwreiddiol i newid y ffordd mae’r cyhoedd yn cyfathrebu ac unrhyw newidiadau yn rôl yr ardaloedd derbyn. Amcan y prosiect yw annog y defnydd o’r Gymraeg wrth ymgysylltu a sefydliadau cyhoeddus.

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen ymhellach fod rhaid i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, bob 5 mlynedd, fel un o’r gofynion statudol a gyflwynwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015),  baratoi a chyhoeddi asesiad o lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi dechrau ar y broses o adolygu’r Asesiad Llesiant. Nodwyd fod gweithdy wedi ei gynnal ym mis Medi 2020 i drafod y rhaglen adfer o ran y pandemig a thrafodaethau ynghylch llesiant cymunedau lleol yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Penderfynodd y Bwrdd barhau gyda’r ffrydiau gwaith drwy’r Is-grwpiau wrth gynnal trosolwg o faterion a godwyd e.e. twf mewn Twristiaeth, Ail Gartrefi a diweithdra.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ac fe godwyd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Cyfeiriwyd at y broses ymgysylltu a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod diwethaf o asesiadau llesiant. Nodwyd nad oedd y presenoldeb yn y digwyddiadau ymgysylltu hyn a drefnwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dda iawn. Codwyd cwestiynau ynghylch sut oedd y Bwrdd yn bwriadu hyrwyddo a chynyddu diddordeb y cyhoedd i fynychu’r digwyddiadau hyn yn y dyfodol ac os oes tystiolaeth fod preswylwyr yr Ynys wedi cael budd o weithgareddau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cyfeiriwyd hefyd at rôl y Bwrdd yn yr ymateb i’r pandemig. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod y Bwrdd wedi dysgu gwersi o’r rownd ddiwethaf o asesiadau llesiant. Bydd ystyriaeth hefyd yn cael ei roi i beth mae sefydliadau partner wedi ei gyflawni, yn enwedig yn ystod y pandemig. Nododd fod y gwaith a gynhaliwyd gan Medrwn Môn mewn partneriaeth â’r Awdurdod hwn i ymgysylltu â’r cymunedau lleol yn ystod y pandemig yn mynd i gyfrannu tuag at yr asesiadau. Dywedodd ymhellach ei bod yn bwysig fod ymgysylltiad gyda phob grŵp o breswylwyr yn hollbwysig o fewn y cymunedau lleol. Nodwyd hefyd o safbwynt rhanbarthol, y cyfeiriwyd at y cydweithio rhwng y pedwar Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus i gefnogi ymgysylltiad a’r potensial i gomisiynu ymgysylltiad gyda grwpiau anoddach i’w cyrraedd neu na glywir ganddynt yn aml, sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod y Bwrdd yn ymgysylltu, cefnogi a datblygu blaenoriaethau’r sefydliadau partner ar draws sbectrwm y gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau hyn.

·           Cyfeirwyd at y mapio Newid Hinsawdd o’r arfordiroedd sydd mewn perygl o gael eu herydu ac fe godwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r Bwrdd am fynd i’r afael a’r mater. Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod rhaid ystyried nad oes cefnogaeth ariannol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'i fod wedi ei sefydlu fel rhan o’r Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol er mwyn sicrhau cydweithio rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau. Nododd mai rôl y bwrdd yw ymateb i faterion sy’n codi fel newid hinsawdd ac erydiad yr arfordir a bydd gofyniad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fuddsoddi arian sylweddol er mwyn mynd i’r afael â’r mater.

·           Codwyd cwestiynau ynghylch pa mor effeithiol yw’r Bwrdd ac os oes angen adolygu strwythur y Bwrdd a'i bod yn ymddangos fod dyblygu o ran y gwasanaethau a ddarperir. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen fod Pwyllgorau Sgriwtini y ddau awdurdod lleol yn cael Adroddiad Blynyddol gan y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus a hefyd y cyfle i graffu  trefniadau llywodraethu'r Bwrdd yn flynyddol. Nododd fod y Bwrdd wedi sefydlu nifer o Is-grwpiau ar ddechrau sefydliad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ond mae’r is-grwpiau hyn wedi cael eu lleihau os credir nad oeddent yn ychwanegu unrhyw werth i’r mater yr oeddent wedi ei sefydlu i fynd i’r afael ag ef.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnydd y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus.

 

GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: