Eitem Rhaglen

Cyfrifon Terfynol Drafft 2020/21 a defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a oedd yn cynnwys y prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 ynghyd â manylion balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor ac argymhellion ar gyfer eu defnyddio.  

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Deilydd y Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2020/21 a Thaflen Falansau ddrafft hyd at 31 Mawrth, 2021.  Darparwyd gwybodaeth fanwl am falansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor yn ogystal ac mae’r adroddiad yn nodi sut y bwriedir defnyddio’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau sydd, ym marn broffesiynol Swyddog Adran 151 y Cyngor, ar y lefel angenrheidiol i gwrdd ag unrhyw risgiau  ariannol a wynebir gan y Cyngor, i gwrdd ag unrhyw ymrwymiadau cyllido presennol ac mae’n cymryd i ystyriaeth unrhyw gyfyngiadau penodol ar ddefnydd y cyllid e.e. cyfyngiadau a osodir gan amodau grant. Gall lefel y risg a wynebir gan y Cyngor newid a chedwir golwg ar lefelau'r balansau cyffredinol a’r cronfeydd wrth gefn clustnodedig a’u hadolygu dros y misoedd nesaf. Nid yw’r ffigyrau a gyflwynwyd wedi cael eu harchwilio eto a gallant newid oherwydd y broses archwilio.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddogion 151 gynghori bod y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) drafft yn crynhoi’r gost o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor yn unol â’r gofynion cyfrifo statudol a’i fod yn cynnwys costau na chodir Treth Cyngor amdanynt sydd yn egluro’r ffigwr o £24.231m. Mae’r costau sydd yn cynnwys costau dibrisiant ac addasiadau ar gyfer pensiwn yn cael eu canslo allan cyn penderfynu ar y sefyllfa derfynol mewn perthynas â’r balansau, cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, balans y cyfrif CRT a balansau ysgolion. O ganlyniad, nid oes modd tynnu cymhariaeth uniongyrchol rhwng y CIES a’r adroddiadau alldro a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ym Mehefin, 2021.

 

Roedd Balans Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2021 yn £11.593m, sydd yn

cyfateb i 7.86% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi

pennu isafswm o 5% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer Balans y Gronfa Gyffredinol a byddai

hyn yn cyfateb i £7.37m. O’r herwydd, mae Balans y Gronfa Gyffredinol £4.223m yn uwch

na’r lleiafswm. Fel arfer, byddai’r Swyddog 151 yn argymell cynnal y lefelau hyn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, fodd bynnag yng ngoleuni’r ansicrwydd ynglŷn ag effaith y pandemig ar y galw am wasanaethau’r Cyngor yn 2021/22; parhad y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru neu fel arall ac effaith y cyfyngiadau parhaus a’r cyfyngiadau cadw pellter ar allu’r Cyngor i gynhyrchu incwm drwy wasanaethau penodol, ystyrir ei bod yn synhwyrol cynyddu lleiafswm balans y gronfa  gyffredinol yn 2021/22 ac efallai yn 2022/23 hyd nes bydd effeithiau’r pandemig yn fwy eglur. Ym marn broffesiynol y Swyddog 151 byddai lleiafswm o £9m (6.1% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22) yn ddigonol i liniaru’r risgiau hyn.

 

Cyn y pandemig, roedd y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo mewn egwyddor i drosglwyddo

cyfran o’r balansau cyffredinol i greu cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwasanaethau. Uchafswm y

gronfa wrth gefn ar gyfer pob gwasanaeth fyddai 2.5% o gyllideb refeniw net y

Gwasanaeth neu £75,000, pa un bynnag yw’r uchaf, a byddai’r cyfraniad blynyddol i

gronfa wrth gefn y gwasanaeth neu o’r gronfa yn gysylltiedig â pherfformiad ariannol yn

ystod y flwyddyn h.y. os yw Gwasanaeth yn tanwario yn ystod y flwyddyn yna caniateir

iddynt gadw’r tanwariant hyd at lefel y cap a defnyddio’r arian ar gyfer prosiectau

gwasanaeth penodol a byddai unrhyw orwariant, ac eithrio gorwariant  sydd yn deillio o gynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau,  yn cael ei gyllido o gronfa wrth gefn y Gwasanaeth. Ar sail yr alldro 2020/21 a gweithredu’r cap ar lefel cronfeydd wrth gefn, byddai cronfa wrth gefn pob gwasanaeth fel ac yr amlinellir yn Nhabl 3 yn yr adroddiad (ac felly £1.376m fyddai cyfanswm y cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwasanaethau) a byddant yn cael eu defnyddio at y dibenion a argymhellir ym mharagraff 5.6 yn yr adroddiad. Ar ôl ystyried yr angen i gynnal lefel sylfaenol Balsns y Gronfa Gyffredinol ar £9m a defnyddio £1.376m fel cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwasanaethau, byddai hyn yn gadael £1.217m i’w ryddhau ar gyfer prosiectau unwaith ac am byth – gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ryddhau’r swm hwn i gyllido prosiectau penodol.

 

Mae gan y Cyngor Gronfeydd Wrth Gefn Clustnodedig er mwyn lliniaru risgiau posibl yn y

dyfodol, cwrdd â chynnydd yn y galw am rai gwasanaethau, cyllido prosiectau cyfalaf yn y

dyfodol, cyllido gwelliannau mewn prosesau busnes a darparu gwasanaethau nad ydynt

yn cael eu cyllido yn y gyllideb refeniw flynyddol, ac i ddal grantiau a dderbyniwyd ond

sydd heb eu gwario, ynghyd â chyfraniadau eraill. Dangosir y cronfeydd wrth gefn newydd

a grëwyd yn 2020/21 yn Nhabl 4 a gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith roi cymeradwyaeth ffurfiol i

greu’r cronfeydd wrth gefn newydd hyn sydd werth cyfanswm o £5,181,646. Mae Atodiad

4 yn cynnwys rhestr lawn o’r holl Gronfeydd Wrth Gefn Clustnodedig ond maent yn cael eu

crynhoi o dan y gwahanol gategorïau yn Nhabl 5 yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Deilydd y Portffolio Cyllid ei fod yn meddwl ei bod hi’n bwysig amlygu hefyd er bod llai o bobl yn mynd i’r ysbyty a llai o farwolaethau, nad ydi Covid 19 wedi diflannu a bod ei effaith i’w weld o hyd. Mae’r Cyngor yn wynebu cyfnod ansicr i’r dyfodol yn enwedig o safbwynt ariannol yn cynnwys beth fydd y setliad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23; a fydd Llywodraeth Cymru’n parhau i ddarparu cymorth ariannol mewn perthynas â Covid ac os felly am ba hyd a hefyd pa un ai a fydd lefel y dyfarniad cyflog i staff yn uwch na’r swm a neilltuwyd yn y gyllideb.  Hefyd, bydd gan y Cyngor gostau cronnus o ganlyniad i waith cynnal a chadw cynyddol ar ei ffyrdd ac yn ei ysgolion, ei ganolfannau hamdden a’i lyfrgelloedd.  Dyma rai o’r heriau ariannol a wynebir gan y Cyngor ac y dylai’r cyhoedd fod yn ymwybodol ohonynt.  Wrth gynnig yr argymhellion, dywedodd y Deilydd Portffolio ei fod yn cynnig newid geiriad argymhelliad rhif 6 i gynnwys y geiriau “mewn egwyddor”.

 

Bu i Aelodau’r Pwyllgor gwaith gydnabod yr ansicrwydd a’r risgiau i’r dyfodol a chytuno o’r herwydd mai priodol fyddai defnyddio cronfeydd wrth gefn yn ofalus a chadw digon o gronfeydd wrth gefn i sicrhau y gall y Cyngor ddelio â’r heriau ariannol y mae’n eu hwynebu. Holwyd ynglŷn ag effaith y pandemig ar gyfnodau adennill dyledion. Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 bod cyfnodau adennill dyledion yn cael eu hadolygu’n rheolaidd ac er nad oedd yn gallu darparu ffigurau pendant gan nad oedd yr wybodaeth wrth law, cadarnhaodd bod ôl-ddyledion Treth y Cyngor wedi cynyddu i £3.8m wrth i fwy o bobl gymryd mwy o amser i dalu.  Fe wnaeth y Cyngor ohirio’r ddau randaliad cyntaf yn 2020/21 felly nid yw’r cynnydd mewn ôl-ddyledion yn annisgwyl nac yn unigryw i Ynys Môn gan fod pob cyngor yng Nghymru wedi adrodd eu bod mewn sefyllfa debyg. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod casgliadau Treth Cyngor fel risg posib ac mae wedi darparu £768,625 i Ynys Môn i ddelio â’r cynnydd a ragwelir yn lefel y ddyled Treth Cyngor ac mae’n bosib y bydd yn rhaid dileu’r ddyled. Cedwir yr arian mewn cronfa wrth gefn a bydd yn cael ei ryddhau i’r cyfrif refeniw yn ôl yr angen i liniaru effaith y golled hon mewn incwm Treth Cyngor.

 

Penderfynwyd

 

·         Nodi’r prif ddatganiadau ariannol (heb eu harchwilio) ar gyfer 2020/21.

·         Nodi’r sefyllfa o ran y balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a chymeradwyo creu’r cronfeydd wrth gefn a nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad yn gwneud cyfanswm o £5,181,646.

·         Nodi’r sefyllfa o ran balansau ysgolion.

·         Cymeradwyo cynyddu isafswm Balans y Gronfa Gyffredinol i £9m. Adolygir y swm eto wrth osod cyllideb refeniw 2022/23.

·         Cymeradwyo creu Cronfeydd Gwasanaeth gwerth cyfanswm o £1.376m yn unol â Thabl 3, Atodiad 1 yr adroddiad.

·         Awdurdodi mewn egwyddor, defnyddio hyd at £3.471m (£1.217m o falans y Gronfa Gyffredinol a £2.254m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig nad ymrwymwyd) i gyllido prosiectau penodol sydd wedi’u cynllunio i gwrdd â’r risgiau a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r holl brosiectau newydd cyn iddynt gychwyn.

 

 

Dogfennau ategol: