Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 i’w ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Llinos Medi, Cadeirydd a Deilydd y Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, bod gofyniad statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i adrodd i’r Cyngor yn flynyddol ar ddarpariaeth a pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn honno. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gweithgarwch yn ystod y flwyddyn yn ogystal ag amlinellu’r ffocws ar gyfer gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.  Er mai adroddiad y Cyfarwyddwr yw hwn fe ddylai’r Cyngor feddiannu’r adroddiad ar y cyd gan ei fod yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r llwyddiannau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn. 

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at yr heriau digynsail a wynebwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020/21 o ganlyniad i’r pandemig Covid ac at ymdrechion staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a gafodd eu cefnogi gan gydweithwyr mewnol y Cyngor a sefydliadau partner allanol i sicrhau bod pobl Ynys Môn yn aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Yn yr un modd, mae gofalwyr maeth yr Awdurdod wedi gweithio’n galed iawn i wneud yn siŵr bod y plant sydd dan eu gofal yn ddiogel ac mae’n rhaid diolch iddynt am eu hymrwymiad gwerthfawr.  Yn ystod y pandemig Covid 19, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i gwrdd â’u dyletswyddau statudol ac wedi gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW), y Bwrdd Iechyd a sefydliadau partner eraill ac roedd y Gwasanaeth Plant ac Oedolion yn destun arolwg sicrwydd gan CIW a gafodd adborth cadarnhaol. Fe wnaeth y CIW hefyd ymweld â dau gartref grŵp bach yn ystod y flwyddyn ac roedd yr adborth yn dilyn yr ymweliadau hyn hefyd yn galonogol. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn yn rhan o drafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol i wneud yn siŵr bod gan ddinasyddion Ynys Môn lais ynglŷn â phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy.  Mae’r pandemig wedi arwain at newidiadau i drefniadau gweithio drwy gynnal sesiynau cyswllt a rhyngweithio ar-lein a chynnal cyfarfodydd o bell; fodd bynnag mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wneud pethau’n wahanol er mwyn ymateb yn well i anghenion pobl wrth iddynt newid.

 

Wrth amlygu’r pwyntiau allweddol o ran y Gwasanaeth Oedolion a'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at y newid a fu tuag at sianeli digidol er enghraifft y neuaddau pentref rhithiol a gafodd eu sefydlu; yr eiddo a brynwyd yng nghanol tref Llangefni i ddarparu hwb ar gyfer Menter Môn ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu sydd ymysg dim ond un o’r enghreifftiau o gydweithio sydd wedi bod yn bwysig iawn yn ystod 2020/21 wrth ymateb i’r pandemig; y gwaith gydag ysgolion a’r Gwasanaeth Dysgu i adnabod plant bregus a threfnu darpariaeth briodol, ac at gymeradwyo 9 aelwyd maethu prif lif a 14 aelwyd person cysylltiedig (teulu neu ffrindiau) yn ystod y flwyddyn.  Mae’r rhain yn rhoi blas ar y math o weithgareddau amrywiol a gyflawnwyd ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2020/21. Er gwaetha’r pandemig Covid 19 a’r heriau ariannol cynyddol, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i wneud cynnydd yn ystod y flwyddyn a chyflawni eu rhwymedigaethau statudol yn ogystal.

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 8 Gorffennaf ac adroddodd y Rheolwr Sgriwtini ar sylwadau’r Pwyllgor. Wrth ystyried yr adroddiad nododd y Pwyllgor bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn oherwydd Covid 19 ond er hynny mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cynnal ei holl waith statudol ac wedi gweithio i ddatblygu gwasanaethau yn ogystal.  Clywodd y Pwyllgor am effaith y gwaith partneriaeth effeithiol wrth ymateb i Covid 19 ac wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol; gan nodi’n benodol y cydweithio a fu rhwng y Gwasanaeth Tai a’r Gwasanaeth Dysgu. Trafododdy Pwyllgor y cynnydd yn y galw am gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a all arwain at bwysau ariannol ychwanegol.  Cyfeiriwyd yn benodol at yr ansicrwydd ynglŷn â’r grantiau gan Lywodraeth Cymru megis y Gronfa Gofal Integredig. Bu i’r Pwyllgor gydnabod cyfraniad staff ar draws swyddogaethau’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y pandemig a mynegi’i ddiolch am eu hymdrechion. Ar ôl ystyried yr adroddiad roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon ei fod yn adlewyrchiad teg o berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 20201/21 a’i flaenoriaethau ar gyfer gwella, a phenderfynodd argymell yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Bu i aelodau’r Pwyllgor Gwaith ategu eu diolch i staff y Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith wrth ymateb i heriau’r flwyddyn anodd a fu ac yn benodol o ran cynnal gwasanaethau statudol drwy gydol y cyfnod hwn. Cydnabuwyd y cynnydd sylweddol a waned gan y Gwasanaethau Cymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf ac yn benodol y cartrefi grwp bach a llwyddiant yr ymgyrch i recriwtio gofalwyr maeth a’r buddion i’r plant sydd dan ofal yr Awdurdod.  Mewn perthynas â gofal maeth a mabwysiadu holwyd ynglŷn ag effaith y pandemig ar fabwysiadu a p’un ai a oedd unrhyw ofalwyr maeth wedi gadael neu dynnu’n ôl o’r broses cymeradwyo gofalwyr maeth. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol bod mwyafrif y gofalwyr maeth yn dal i faethu a bod y rhai sydd wedi gadael wedi gwneud hynny am resymau penodol. Mae gofalwyr maeth prif lif (cyffredinol), rheiny heb gyswllt teuluol â’r plant y maent yn eu maethu, yn dueddol o aros yn ofalwyr maeth ac mae gan yr Awdurdod berthynas agos â hwy; er bod rhai gofalwyr maeth yn dewis ymddeol mae nifer yn dewis parhau i fod yn ofalwyr maeth ymhell wedi’r oedran ymddeol arferol. Mewn perthynas â mabwysiadu er bod rhai achosion wedi’u gohirio mae’r broses fabwysiadu wedi parhau yn ystod y pandemig gan fod gwrandawiadau llys wedi cael eu cynnal ar-lein; cafwyd adborth cadarnhaol gan y llysoedd ynglŷn â’r modd y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymateb ac addasu.  Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu cefnogi’n dda gan ymgynghorwyr cyfreithiol y Cyngor yn ystod achosion llys. Mae gwaith ar y gweill yn genedlaethol i gasglu barn am y modd y mae’r prosesau hyn wedi gweithredu yn ystod y pandemig. 

 

Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth i ben drwy ddatgan bod gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol yn haeddu cydnabyddiaeth gyhoeddus am eu gwaith a’u cyfraniad yn ystod y  pandemig a bod y Pwyllgor Gwaith yn gwerthfawrogi popeth y maent wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr fel adlewyrchiad cywir o effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2020/21.  

 

 

Dogfennau ategol: