Eitem Rhaglen

Adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21

Cyflwyno adroddiad blynyddol drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd drafft o Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020/21 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Cynhyrchir yr adroddiad yn unol â'r gofyniad statudol ac mae’n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd ynghylch y perfformiad a'r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cyngor yn ogystal ag amlinellu'r blaenoriaethau gwella ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Wrth gyflwyno’r adroddiad pwysleisiodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn adlewyrchiad o beth mae Gwasanaethau Cymdeithasol wedi llwyddo ei gyflawni wrth weithio ar y cyd â gwasanaethau eraill y Cyngor, aelodau etholedig, ac asiantaethau cefnogol i ddarparu’r ystod o swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020/21; mae’n darparu trosolwg o beth sydd wedi ei gyflawni dros y deuddeg mis diwethaf o ran gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ac mae’n nodi’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y flwyddyn ddiwethaf fel un o’r blynyddoedd mwyaf heriol  i’r Gwasanaethau Cymdeithasol o ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws; rhaid diolch yn arbennig i holl staff Gwasanaethau Cymdeithasol am eu hymdrech a’u gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol hwn a diolch hefyd i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod am ymateb i’r heriau a ddaeth yn sgil addasu i ffordd wahanol iawn o weithio.

Yn ystod y flwyddyn mi wnaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol gynnal cyswllt rheolaidd a chydweithwyr o Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) ac mi fu i Wasanaethau Plant a Theuluoedd a Gwasnaethau Oedolion fod yn destun arolygiad sicrwydd diweddar gan CIW, ac mi oedd canlyniad y ddau yn gadarnhaol a bydd y manylion yn cael eu nodi mewn llythyr adolygiad ffurfiol a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos. Mi fu i’r CIW hefyd gynnal ymweliadau i ddau Gartref Clyd y Gwasanaeth, ac mi oedd yr adborth yn gadarnhaol o’r ymweliadau hyn hefyd. Wrth i anghenion pobl esblygu a newid, rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gwasanaeth edrych ar y ffordd y mae'n darparu gwasanaethau wrth symud ymlaen - proses sydd wedi'i ddwysáu gan y pandemig sydd wedi arwain at newid cyflym yn y ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud ac mae hyn wedi ysgogi cyflwyniad nifer o arferion gwaith arloesol.

Fel ymarferwyr proffesiynol, mae'r Cyngor a Swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol yn chwarae eu rhan wrth gyfrannu at ddeialog a thrafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn sicrhau bod lleisiau ac anghenion trigolion Ynys Môn yn cael eu clywed pan wneir penderfyniadau ar y lefelau hynny.

Wrth dynnu sylw at rai o’r nifer o ddatblygiadau yng Ngwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd yn ystod y flwyddyn, cyfeiriodd Cyfarwyddwr Gwasnaethau Cymdeithasol at y symud tuag at lwyfannau digidol a’r defnydd o dechnoleg i ymgysylltu â nifer o grwpiau cleientiaid gan gynnwys datblygu neuadd y pentref digidol a’r ddarpariaeth o wasanaethau ar-lein i gefnogi pobl â dementia a’u gofalwyr; mae technoleg hefyd wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu gweithgareddau hamdden a diddordebau arbennig gan gynnwys sesiynau yoga a chlwb gwau; mae’r Gwasanaeth wedi medru darparu’r dechnoleg angenrheidiol i gleientiaid a'u cefnogi yn ei ddefnyddio. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod profi i fod yn hynod werthfawr ac mae Gwasnaethau Cymdeithasol wedi gweithio’n agos yn ystod y cyfnod hwn â Medrwn Môn, Menter Môn a gyda Mencap Môn ac wedi cefnogi’r olaf i agor Hwb yng nghanol Llangefni ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau dysgu. Mae’r nifer o gleiantiaid Taliadau Uniongyrchol wedi cynyddu a gyda chyfyngiadau Covid wedi arwain at gau nifer o ganolfannau/hybiau cymunedol, mae cleientiaid wedi defnyddio eu taliadau yn wahanol i brynu nwyddau neu wasanaethau sy’n cefnogi eu lles.

O ran Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, mae’r ymgyrch i recriwtio gofalwyr maeth wedi parhau yn llwyddiannus er y pandemig gyda 9 cartref maeth cyffredinol wedi’u cymeradwyo a 14 cartref person cysylltiedig (teulu a ffrindiau) wedi’u cymeradwyo. Agorwyd dau Gartref Clyd ar Ynys Môn ac mae’r rhain wedi darparu cartref i dri pherson ifanc a fyddai fel arall wedi gorfod parhau mewn lleoliadau gofal tu allan i’r Sir. Mae’r Prosiect Adtrac sydd yn cynnig cefnogaeth gyda gwaith a/neu hyfforddiant i bobl ifanc di-waith wedi helpu nifer o bobl ifanc yn ystod y flwyddyn yng nghanol cyfyngiadau  Covid.

 

Fe wnaeth Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol gloi drwy ddweud mai'r brif neges i’w chymryd o’r adroddiad blynyddol yw bod Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i gwrdd â’i holl ddyletswyddau statudol yn ystod y flwyddyn wrth barhau i wneud cynnydd yn ei waith datblygu o ran newid y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu fel eu bod yn cyd-fynd ag anghenion a dymuniadau cleientiaid. Mae’r flwyddyn wedi dangos gwerth gwaith mewn partneriaeth ac mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn yn parhau i fod yn ymrwymedig gyda’u partneriaid mewnol o fewn y Cyngor, gyda’r Gwasanaethau Tai ac Addysg yn bartneriaid allweddol, ac yn ehangach o fewn y trydydd sector, ysgolion lleol a’r Bwrdd Iechyd.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol at yr her o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol statudol yn dilyn effaith Covid 19 ac mi wnaeth hi longyfarch Cyfarwyddwr Gwasanaethu Cymdeithasol am yr arweiniad iddo ei ddarparu yn ystod y flwyddyn a’r staff am eu hymdrechion a’u gwaith caled sydd wedi sicrhau parhad y ddarpariaeth o wasanaethau cymdeithasol hanfodol i’r unigolion mwyaf bregus o fewn y gymuned. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwmpasu ystod o swyddogaethau ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau llawer o bobl ac mae eu cyfraniad yn ystod y pandemig yr un mor haeddiannol o gydnabyddiaeth gyhoeddus fel gwasanaeth allweddol.

 

Fe wnaeth y Pwyllgor gydnabod cyfraniad gwerthfawr gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r ymateb i’r pandemig  a llwyddiant y Gwasanaeth wrth gynnal darpariaeth statudol drwy gydol y cyfnod. Tynnodd y Cadeirydd sylw ar yr ystadegau ar ddechrau’r adroddiad sy’n cyfleu mewn ffigyrau pwy mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn wedi eu cefnogi yn ystod y flwyddyn gan gynnwys 3,084 o gysylltiadau gydag oedolion a 3,843 o gysylltiadau gyda phlant a’u teuluoedd. Wrth ystyried yr adroddiad ymhellach, fe gododd y Pwyllgor y materion canlynol -

 

Y rhesymau dros y cynnydd yn y nifer o gleientiaid Taliadau Uniongyrchol. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod hyblygrwydd Taliadau Uniongyrchol wedi bod yn fanteisiol yn ystod y cyfnod hwn am fod pobl a fyddai fel arall wedi mynychu canolfannau cymunedol wedi defnyddio’r taliadau mewn ffyrdd gwahanol er mwyn cyflawni’r canlyniadau y maent yn eu dymuno. Mae cynnydd mewn hyder yn y broses a’r system hefyd wedi chwarae rhan, ynghyd ag argaeledd mwy o adnoddau i gefnogi’r defnydd o Daliadau Uniongyrchol. Gall y cynnydd mewn Taliadau Uniongyrchol hefyd fod o ganlyniad i argymhellion ar lafar gyda chleientiaid yn trosglwyddo eu profiadau cadarnhaol o Daliad Uniongyrchol i eraill.

·      P’un a yw'r pandemig wedi newid blaenoriaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol wrth symud ymlaen. Cynghorodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol tra bod y weledigaeth o ran beth mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol eisiau ei gyflawni o ran amcanion gwella yn parhau'r un peth, mae’n debygol iawn y bydd yr amserlen ar gyfer nifer o brosiectau wedi newid oherwydd y pandemig gyda rhai wedi eu symud ymlaen er mwyn cwrdd ag anghenion pobl ac eraill wedi eu gwthio’n ôl. Bydd sylw yn parhau i gael ei roi i’r gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu ynghyd a sut y byddent yn cael eu darparu gyda mwy o ffocws ar y defnydd o dechnoleg ddigidol i wella hygyrchedd a chyfranogiad. Yn dilyn adolygiad o Wasanaethau Oedolion, bydd mwy o ystyriaeth yn cael ei roi i foderneiddio’r gwasanaethau hyn gyda golwg ar wneud darpariaeth gwasanaethau yn fwy effeithlon ac effeithiol. Rhai i’r Gwasanaeth hefyd fod yn ystyriol o anghenion ei weithlu, a’u hymdrechion yn ystod y pandemig sydd heb gael eu cydnabod cymaint â gwasanaethau allweddol eraill, ond oedd yn hanfodol i lwyddiant y Gwasanaeth Iechyd wrth reoli’r heriau a ddaeth yn sgil Covid 19. Bydd y Gwasanaeth yn parhau i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc y gofalir amdanynt gan yr Awdurdod gan gynnwys drwy gynyddu nifer o ofalwyr maeth yr Awdurdod Lleol a drwy ehangu Cartrefi Grŵp Bychan. 

·      P'un a yw'r pandemig wedi arwain at gynnydd neu ostyngiad yn nifer y bobl sy'n ceisio cefnogaeth. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, tra bod y galw am Wasanaethau Cymdeithasol wedi cynyddu’n gyffredinol yn y blynyddoedd diweddar, gwelwyd lleihad yn y nifer o atgyfeiriadau a dderbyniwyd ar ddechrau’r pandemig a chyfyngiadau perthnasol. Gwrthdrowyd y patrwm hwnnw ar ddiwedd y cyfnod cloi cyntaf pan ddechreuodd atgyfeiriadau gynyddu ac ers hynny maent wedi cynyddu'n sylweddol. Mae’r Gwasanaeth yn edrych ar sut y bydd yn rheoli’r cynnydd yn y galw ac yn obeithiol y bydd cadarnhad fod cyllid ICF am barhau am y bod hwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu ymyriadau sy’n helpu atal dwysâd mewn anghenion ac yr angen am Wasanaethau Cymdeithasol statudol. Mewn ymateb i gwestiwn pellach am weithio mewn partneriaeth a’r Cyngor yn ystod y cyfnod hwn - yn benodol Addysg - cadarnhaodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cymdeithasol fod y cydweithredu rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Dysgu wrth ymateb i Covid 19 wedi bod yn strategol ac yn weithredol ac wedi cynnwys rhannu gwybodaeth, cynnydd mewn cysylltiad ag ysgolion a gweithredu cydgysylltiedig sydd wedi bod o gymorth o ran adnabod plant a all fod yn wynebu risg a darparu cymorth a darpariaeth hanfodol iddyn nhw a’u teuluoedd yn ystod cyfnod y pandemig. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y ddau wasanaeth wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd fel tîm ac fe roddodd esiampl o brosiect yn ardal Caergybi sy’n ffocysu ar ymgysylltu a phlant sydd wedi cael ei gydnabod gan Estyn.

·      P'un a gyrhaeddodd y Prosiect Adtrac ei dargedau ar gyfer helpu pobl ifanc i gael gwaith neu hyfforddiant ac a oes risg i barhad y gefnogaeth nawr bod cyllid Adtrac wedi dod i ben. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw’r data yn cyfleu darlun llawn yn benodol o ran y gefnogaeth sylweddol a ddarperir mewn rhai sefyllfaoedd i helpu pobl ifanc sydd heb adael eu cartref i ail-fagu hyder, ail-ymgysylltu ac i gyrraedd lle gwell yn feddyliol. Mae adborth ar lafar gan bobl ifanc a'u teuluoedd sydd wedi cael eu cefnogi gan Adtrac yn dangos darlun llawnach o’r gwahaniaeth mae’r cymorth gan Adtrac wedi ei wneud i’r unigolion hynny. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth feincnodi’r data yn erbyn data cynghorau yn genedlaethol ei fod yn fodlon â gwaith tîm Adtrac Ynys Môn a bod ei ffigurau o ran pobl ifanc yn rhagori o’u cymharu â llawer cyngor mwy yng Nghymru. O ran cyllid, gwnaed cais ar y cyd am adnoddau i alluogi'r prosiect i barhau sydd wedi pasio'r ddau gam cyntaf; fodd bynnag, pe na bai hynny'n llwyddiannus, mae'r Gwasanaeth wedi ffurfio cynllun atodol a fyddai'n caniatáu i elfennau o gefnogaeth Adtrac barhau i gael eu darparu'n fewnol.

·      Yr heriau a’r risgiau sy’n wynebu’r Gwasanaethau Cymdeithasol wrth symud ymlaen.  Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaethau Cymdeithasol  yn dechrau gweld yr effeithiau iechyd o Covid hir, yn benodol yn y Gwasanaethau Oedolion ac mae’r mater o bwy a sut  y bydd yr anghenion hynny yn cael eu cwrdd yn her; mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phartneriaid yn y Bwrdd Iechyd ac yn rhanbarthol i ddeall anghenion unigolion sy’n byw gyda’r cyflwr newydd hwn. Er bod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn sefydlog o ran arian i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, mae’r ansicrwydd o ran cyllid tymor-hir, yn enwedig y grant ICF y mae llawer o waith y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddibynnol arno, yn risg ac yn bryder; mae ymdrechion yn cael eu gwneud yn genedlaethol i gael eglurder ar y mater a disgwylir datganiad gan Lywodraeth Cymru yn fuan. Mae disgwyl i bwysau galw gynyddu a bydd hynny yn her ac er bod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol gynlluniau yn eu lle i reoli’r galw yn 2021/22 bydd rhaid ystyried rheoli gofyn yn 2022/23 a thu hwnt. Gan ystyried yr holl ymdrechion wrth ymateb i’r pandemig, bydd sicrhau lles y gweithlu yn flaenoriaeth, ynghyd a recriwtio a chadw staff, sydd yn y gorffennol wedi bod yn her i’r sector gofal cymdeithasol.

 

Wedi diolch i Gyfarwyddwr Gwasanaethu Cymdeithasol am ei gyflwyniad a’i ymatebion ac am waith y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy gydol y pandemig, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - 

 

·         Dderbyn a nodi adroddiad drafft Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2022/21 ac i argymell yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith. 

 

·         Cadarnhau fod y pwyllgor yn fodlon fod yr adroddiad yn -

·         Dangos sefyllfa bresennol y Cyngor o ran darparu Gwasanaethau Cymdeithasol.

·         Rhoi adlewyrchiad cywir o’i flaenoriaethau gwella ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

·         Adlewyrchu atebolrwydd a chyfrifoldeb y Cyngor o ran ei Wasanaethau Cymdeithasol.

NI ARGYMHELLWYD UNRHYW WEITHRED BELLACH. 

 

Dogfennau ategol: