Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – FPL/2021/56 – Cae Llechwen, Llangristiolus, Bodorgan

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I1tpMUAR/fpl202156?language=cy

 

12.2 – FPL/2019/338 – Cerrig, Penmon

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000IxyHqUAJ/fpl2019338?language=cy

 

Cofnodion:

12.1  FPL/2021/56 - Cais llawn am estyniad i'r annedd, creu anecs, ymestyn y cwrtil a dargyfeirio’r llwybr cyhoeddus yng Nghae Llechwen, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol gan yr ystyrir na fyddai'r cynnig yn cael effaith negyddol ar yr ardal nac ar unrhyw anheddau cyfagos.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai annedd unllawr yw'r eiddo presennol ac mai cais yw hwn i godi estyniad deulawr i'r brif annedd.  Mae'r cais yn cyfeirio at y ffaith y codir estyniad i'r annedd bresennol ac y crëir anecs, fodd bynnag, mae'r estyniad yn amlwg o raddfa annedd newydd a bwriad yr ymgeisydd yw symud o Rhostrehwfa i Gae Llechwen i barhau i redeg y fferm a gofalu am berthynas oedrannus.  Mae gan yr annedd bresennol arwynebedd llawr o 93.81 metr sgwâr tra bydd gan yr estyniad arfaethedig arwynebedd llawr o tua 185.23 metr sgwâr.  At hyn, dywedodd fod safle’r cais mewn ardal o gefn gwlad agored lle mae datblygiadau newydd yn groes i bolisïau cynllunio.  Fodd bynnag, mae eithriadau i'r polisïau hyn os oes angen anheddau i gynnal menter cefn gwlad. Byddai angen tystiolaeth i ddangos y cydymffurfir â pholisïau cynllunio o'r fath a'u bod yn bodloni'r eithriadau ar gyfer anheddau mentrau gwledig. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd a’r Aelod Lleol, Eric W Jones, gefndir a hanes teuluol yr ymgeisydd ac anghenion y teulu am annedd o'r fath yng Nghae Llechwen rhag gorfod teithio bob dydd yn ôl a blaen i'r fferm.  Roedd o'r farn y byddai'r estyniad i'r annedd yn gydnaws â'r ardal gan nad oes cymdogion yn agos at y safle ac na fyddai'n cael effaith negyddol ar unrhyw eiddo preswyl.  Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. 

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes nad oedd yn cytuno ag argymhellion y Swyddogion gan nad oedd yn ymwybodol fod cyfyngiadau na chanllawiau o ran maint estyniad.  Nododd na fyddai'r estyniadau'n cael unrhyw effaith andwyol ar anheddau cyfagos a dywedodd y dylid cefnogi teuluoedd ifanc fel y rhain. Eiliodd y Cynghorydd Hughes y cynnig i’w gymeradwyo.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith y byddai'r cais yn golygu annedd newydd yng nghefn gwlad a chynigiodd y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, os ystyrir bod yr estyniad i'r annedd yn hanfodol, bod prosesau perthnasol i gael caniatâd cynllunio drwy'r polisïau cynllunio perthnasol.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod polisïau cynllunio yn gwrthwynebu adeiladu annedd yng nghefn gwlad, ond fod eithriadau os oes angen i berson fyw ar y safle a'i fod yn bodloni'r eithriadau ar gyfer anheddau mentrau gwledig.

 

Eiliodd y Cynghorydd Roberts y cynnig i wrthod.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

12.2  FPL/2019/338 - Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o'r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y ffin yng Ngherrig, Penmon

 

          Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelodau Lleol.

 

 Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, oherwydd pryderon lleol a goblygiadau amgylcheddol, ei fod wedi gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad rhithwir â safle’r cais er mwyn cael gwell dealltwriaeth o oblygiadau cymeradwyo'r cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad rhithwir â’r safle hwn.  Eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad rhithwir â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

 

Dogfennau ategol: