Cyflwyno adroddiad y Prif Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol oedd yn nodi perfformiad yr Awdurdod o ran Iechyd a Diogelwch yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2020 a 31 Mawrth, 2021 i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod yr adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno ar ffurf a bennir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) sydd wedi datblygu fframwaith a chanllawiau ar gyfer cynhyrchu adroddiadau perfformiad iechyd a diogelwch blynyddol. Ni fwriadwyd i'r fframwaith fod yn ddadansoddiad cynhwysfawr o iechyd a diogelwch ond dylai helpu i nodi ymrwymiad, gallu a chyfeiriad y broses rheoli iechyd a diogelwch galwedigaethol. Dyma brif bwyntiau’r adroddiad –
· Mae argyfwng Covid 19 wedi cael lle amlwg yn y gwaith a wnaed gan y Cyngor yn ystod 2020/21. Trwy ffurfio'r Tîm Ymateb Rheoli Argyfwng (EMRT) i oruchwylio'r ymateb corfforaethol i bandemig y Coronafeirws a'r holl weithgareddau a’r gwaith cysylltiedig wrth ymateb i’r pandemig, roedd yn bosibl gweithredu mesurau rheoli risg tynn i fynd i'r afael â'r risg iechyd.
· Roedd cyflwyno cynlluniau ac asesiadau risg i'r EMRT cyn caniatáu i waith gael ei wneud yn sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn modd mor ddiogel â phosibl. Ni ddylid diystyru faint o waith a wnaed i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaethau. Yn ystod y flwyddyn y cyfeiria'r adroddiad ati, datblygwyd fformatau asesu risg newydd, canllawiau newydd a chynlluniau gweithredu newydd i fynd i'r afael â'r risg o Covid 19 fel yr esbonir yn fanylach yn adran 9 o'r adroddiad. Cafodd cyfanswm o 482 o asesiadau risg ac adolygiadau eu cynnal yn ystod y flwyddyn a cheir dadansoddiad ohonynt yn Nhabl 15. Mae'r broses asesu risg yn broses barhaus, gydag asesiadau risg yn cael eu hadolygu’n gyson i sicrhau y datblygir asesiadau risg cyfredol a newydd.
· Ni weithredwyd y Cynllun Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar gyfer 2020/21 oherwydd yr angen i fynd i'r afael â'r gofynion uniongyrchol oedd yn deillio o argyfwng Covid 19. Mae'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu o'r cynllun wedi'u hymgorffori yng nghynllun 2021/22 gan gydnabod y risgiau ychwanegol a’r gofynion o ran byw, gweithio a darparu gwasanaethau mewn byd Covid 19. Gwnaed rhai newidiadau i'r cynllun i gydnabod bod angen o bosibl ychwanegu materion a allai godi yn ystod yr argyfwng parhaus.
· Mae'r adroddiad yn cynnwys cymharu data ar gyfer damweiniau a digwyddiadau a adroddwyd yn ystod 2020/21 a’r data ar gyfer digwyddiadau gweithwyr yn unig gyda'r un data ar gyfer 2018/19 a 2019/20. Ar gyfer y ddau gategori bu gostyngiad sylweddol yn nifer y digwyddiadau yn 2020/21 (gweler Tablau 1 i 6) o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r gostyngiad yn nifer y gwasanaethau oedd yn gweithredu a’r ffaith bod llai o weithgareddau o dan gyfyngiadau Covid 19. Mae'r ffigurau'n dangos cynnydd mewn digwyddiadau ar gyfer ail a thrydydd chwarter y flwyddyn sy'n adlewyrchu'r cyfnodau pan ail-agorodd ysgolion sydd, yn y gorffennol, i gyfri am y nifer uchaf o ddigwyddiadau fesul gwasanaeth.
· Cafodd y pandemig parhaus effaith sylweddol hefyd ar ddarparu hyfforddiant yn ystod 2020/21 gyda sesiynau ystafell ddosbarth yn cael eu hatal a hyfforddiant yn symud ar-lein lle y bo'n ymarferol. Serch hynny, llwyddwyd i gynnal cyfanswm o 13 o sesiynau iechyd a diogelwch corfforaethol a chymerodd cyfanswm o 81 ran ynddynt; roedd y rhain yn cynnwys sesiynau ystafell ddosbarth gyda chapasiti cyfyngedig lle cynhelid asesiad risg yn gysylltiedig â Covid ar eu cyfer ymlaen llaw. Mae Tabl 7 yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r sesiynau iechyd a diogelwch corfforaethol a gynhaliwyd a’r niferoedd yn bresennol ac mae Tabl 8 yn dangos nifer y modiwlau E-Ddysgu iechyd a diogelwch corfforaethol a gwblhawyd. Yn ogystal â'r ddarpariaeth hyfforddiant corfforaethol, parhaodd cyrsiau iechyd a diogelwch ac E-Ddysgu i gael eu trefnu o amgylch y cyfyngiadau parhaus ar gyfer y sector gofal cymdeithasol (gweler Tablau 9 a 10).
· Mae iechyd a lles staff wedi bod yn flaenoriaethau allweddol yn ystod y pandemig ac mae sawl menter wedi'u cyflwyno yn 2020/21 gan gynnwys tudalen Llesiant Gweithio o Gartref. Ers hynny mae hyn wedi datblygu’n adran Iechyd a Lles ac mae bellach yn cynnwys nifer o dudalennau ar themâu iechyd a lles penodol a chofrestrwyd 1,343 o ddefnyddwyr ym mis olaf 2020/21. Mae Tabl 12 yn yr adroddiad yn dangos nifer y sesiynau iechyd a lles corfforaethol a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer y cyrsiau a gofnodwyd a'r nifer yn bresennol, tra bod Tabl 13 yn darparu'r un data ar gyfer sesiynau iechyd a lles gofal cymdeithasol; Mae Tabl 14 yn rhoi gwybodaeth am nifer y modiwlau E-Ddysgu iechyd a lles a gwblhawyd.
· Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi gwneud rhywfaint o waith rhagweithiol yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â Covid 19 gan gynnwys archwilio chwe ysgol yn Ynys Môn i asesu mesurau rheoli Covid; ni chododd unrhyw faterion o bwys. Yn Ionawr 2020 cwblhawyd y dasg o gydymffurfio â Hysbysiad Gwella a gyflwynwyd gan yr HSE ym mis Rhagfyr 2018 mewn perthynas ag achos Syndrom Dirgryniad Llaw-Braich (HAVS) a derbyniwyd llythyr cadarnhau. Mae gwaith wedi parhau i fonitro'r mesurau rheoli a weithredwyd o ganlyniad i'r Hysbysiad Gwella sy'n cynnwys cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Prif Weithredwr, Pennaeth Gwasanaethau Tai, y Swyddog Iechyd a Diogelwch Tai ac Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.
· Gellir ystyried y ffordd y rheolodd yr EMRT argyfwng Covid-19 yn llwyddiant allweddol yn ystod y flwyddyn yn ogystal â’r cyflenwadau parhaus o gyfarpar diogelu personol a ddosbarthwyd. Dylid ystyried y capasiti ar gyfer y math o adroddiadau sy'n cynhyrchu'r Adroddiadau Sefyllfa wythnosol sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i uwch reolwyr am gapasiti staff, y gwaith a wnaed a meysydd pryder posibl wrth fonitro perfformiad iechyd a diogelwch y Cyngor yn y dyfodol. Yn yr un modd, gallai’r ffordd gyflym ac effeithlon y cafodd y Porth Dysgu ei addasu fel dull o ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant penodol ar risgiau a mesurau rheoli Covid-19, helpu i ddarparu mynediad at hyfforddiant a gwybodaeth am bynciau iechyd a diogelwch eraill.
Diolchodd y Pwyllgor i'r Swyddog am yr adroddiad a chododd y pwyntiau canlynol am y wybodaeth a gyflwynwyd –
· Materion yn ymwneud â darparu hyfforddiant a phresenoldeb mewn hyfforddiant, yn enwedig y cymhlethdodau o ran darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ystod pandemig Covid. Eglurodd y Cynghorydd Iechyd Corfforaethol, pan oedd angen hyfforddiant gloywi, eu bod wedi ceisio gwneud hynny'n ddiogel yn hytrach na chynnal digwyddiadau hyfforddi lle’r oedd cyfranogwyr yn bresennol fel grŵp, e.e. mae tystysgrifau hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn para tair blynedd cyn y bydd yn rhaid eu hadnewyddu. Dim ond yn ystod y misoedd diwethaf y mae ail-gyflwyno hyfforddiant yn bersonol wedi'i ystyried wrth i’r cyfyngiadau ganiatáu hynny, fel arall mae'r Adran Adnoddau Dynol wedi llwyddo i addasu rhan fawr o'r sesiynau hyfforddi i fod yn rhai rhithwir.
· Goblygiadau iechyd a lles gweithio o bell a threulio mwy o amser ar y sgrin a ph’un ai a yw'r rhain yn cael mwy o sylw yn y Cynllun Gweithredu Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod lles gweithwyr yn ystyriaeth ers dechrau'r pandemig pan ddaeth trefniadau gweithio o gartref yn orfodol. Mae modiwl hyfforddi ar-lein i alluogi staff gynnal eu hasesiad Offer Sgrin Arddangos (DSE) eu hunain ar gael ac mae'n helpu staff i nodi'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i sicrhau bod eu man gwaith a’u gweithfan gartref yn addas; mae'n ofynnol i bob aelod o staff mewn swyddi sy’n cynnwys defnyddio offer sgrin arddangos yn rheolaidd gwblhau'r modiwl. Roedd hon yn agwedd ar y gweithle a oedd yn cael ei hystyried cyn y pandemig ond sydd bellach yn cael mwy o sylw oherwydd Covid-19 ac sydd wedi cael ei chydnabod fel risg sylweddol. Os oedd staff yn canfod problemau ar ôl cynnal yr asesiad DSE, câi offer ychwanegol ei ddarparu iddynt i'w galluogi i weithio'n ddiogel gartref.
· Yr oedi wrth gydymffurfio â'r Hysbysiad Gwella a gyflwynwyd gan yr HSE mewn perthynas â'r achos HAVS a'r sefyllfa bresennol. Eglurodd y Cynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod yr achos yn un hanesyddol ac fe'i hysbyswyd i'r HSE am ei fod yn cynnwys cyflwr galwedigaethol (syndrom dirgryniad braich llaw) y gellir adrodd arno o dan RIDDOR; yn dilyn arolygiad gan yr HSE, cyflwynwyd hysbysiad gwella gydag amserlen o chwe mis i gydymffurfio ag ef. Y rheswm am yr oedi oedd yr amser a gymerwyd i ddilysu'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Cyngor a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda swyddogion y Cyngor; unwaith y cwblhawyd y broses honno a bod yr HSE yn fodlon, cynhaliwyd cyfarfod cwblhau i adolygu'r dogfennau a derbyniwyd llythyr cadarnhau maes o law. Mae'r mesurau rheoli presennol sydd yn eu lle yn bodloni amod yr HSE o ran yr hyn yr oedd angen ei wneud, ac mae'r sefyllfa'n destun monitro mewnol parhaus gan Swyddogion y Cyngor a hefyd y Prif Weithredwr.
Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar gyfer 2020/21 a chymeradwyo'r argymhelliad ynddo y dylai'r Cyngor ddilyn y cynllun strategol ar gyfer rheoli Iechyd a Diogelwch a gweithredu'r Cynllun Gweithredu Iechyd a Diogelwch Corfforaethol gan gydnabod hefyd, oherwydd sefyllfa barhaus Covid 19, y gallai'r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Iechyd a Diogelwch Corfforaethol gael eu gohirio neu eu disodli gan gamau gweithredu mwy brys i fynd i'r afael â risg Covid 19.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL
Dogfennau ategol: