Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Adolygiad Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020/21 i'r Pwyllgor ei ystyried. Paratoir yr adroddiad i gydymffurfio â'r rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a gyda Chynllun Dirprwyo Rheoli Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2020/21 ac mae'n un o driawd o adroddiadau rheoli trysorlys a gyhoeddir yn unol â'r gofynion adrodd sylfaenol ar gyfer 2020/21. Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o weithgareddau benthyca a buddsoddi'r Cyngor yn ystod y flwyddyn ac yn amlygu perfformiad yn erbyn y Dangosyddion Darbodus a bennwyd gan y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 Swyddog at y prif bwyntiau hyn -

 

·         Y ffactorau allanol sydd wedi dylanwadu ar weithgarwch a phenderfyniadau rheoli'r trysorlys yn ystod y flwyddyn gan gynnwys symudiadau cyfradd llog, cyflwr economi'r DU a'r effaith sylweddol y mae pandemig Covid wedi'i chael arnynt yn ogystal â chwblhau’n rhannol broses drafod Brexit gyda'r cytundeb terfynol ar gytundeb masnach.

·         Y ffactorau mewnol sy'n pennu sefyllfa alldro rheoli'r trysorlys sy'n cynnwys y canlynol:

 

·         Gwariant cyfalaf a chyllido - mae'r tabl yn 3.1 yn dangos y gwariant cyfalaf gwirioneddol a sut y cafodd hyn ei ariannu. Roedd gwariant cyfalaf gwirioneddol y Gronfa Gyffredinol a ariannwyd drwy fenthyca yn sylweddol is na'r hyn a amcangyfrifwyd (£20m yn erbyn £39m a amcangyfrifwyd) oherwydd y tanwariant mawr ar y prosiectau cyfalaf a restrir yn 3.1 ac roedd llawer ohonynt wedi'u gohirio o ganlyniad i gyfyngiadau Covid 19.

·         Cronfeydd wrth gefn a balansau arian parod - mae balansau arian parod y Cyngor yn cynnwys adnoddau refeniw a chyfalaf a chyllid llif arian. Nodir adnoddau arian craidd y Cyngor yn nhabl 3.2 yr adroddiad ac maent yn cynnwys Cronfa wrth gefn cyffredinol Cronfa’r Cyngor; mae'r ffigurau cyn-archwilio dros dro yn dangos bod y Gronfa Gyffredinol wedi cynyddu o £7.060m ar 31 Mawrth, 2020 i £11.594m ar 31 Mawrth 2021. Cyfanswm darpariaethau a chronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio gan y Cyngor oedd £45.245m ar 31 Mawrth, 2021 (cynnydd ar y swm o £31.124 ar 31 Mawrth, 2020).

·         Benthyca gros a'r Gofyniad Cyllido Cyfalaf (GCC) - Mae'r GCC yn adlewyrchu cyfanswm angen sylfaenol y Cyngor i fenthyca i ariannu ei wariant cyfalaf ac mae'n fesur o sefyllfa’r Cyngor o ran dyledion. Mae'n deillio o weithgarwch cyfalaf y Cyngor  a'r adnoddau a ddefnyddir i dalu am y gwariant cyfalaf. Mae'n cynrychioli gwariant cyfalaf 2020/21 a ariennir drwy fenthyca a gwariant cyfalaf blynyddoedd blaenorol a ariannwyd gan fenthyciadau nad yw wedi'i dalu hyd yma gan refeniw neu adnoddau  eraill. Er mwyn sicrhau bod lefelau benthyca'n ddarbodus yn y tymor canolig ac y benthycir at ddibenion cyfalaf yn unig, fe ddylai’r Cyngor sicrhau nad yw ei fenthyca allanol gros, ac eithrio yn y tymor byr, yn uwch na chyfanswm y gofyniad cyllido cyfalaf yn y flwyddyn flaenorol ynghyd ag amcangyfrifon unrhyw ofynion cyllido cyfalaf ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a’r ddwy flynedd ariannol nesaf  Mae'r benthyca gros o £124.5m ar 31 Mawrth, 2021 yn llai na'r CCG ragwelir ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

·         Benthyca mewnol – ar ddechrau’r flwyddyn, roedd y sefyllfa fenthyca fewnol, lle mae’r Cyngor yn defnyddio ei arian wrth gefn ei hun i ariannu gwariant cyfalaf, wedi’i orgyllido o £2.3m. Trwy ad-dalu’r benthyciad tymor byr o £10m gan y PWLB a gymerwyd ym mis Mawrth 2020, fel arian wrth gefn wrth wynebu argyfwng Covid 19, a gan na chymerwyd unrhyw fenthyciadau newydd arall yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21, roedd y sefyllfa fenthyca fewnol ar 31 Mawrth 2021 wedi’i thanariannu o £12.1m. (CCG minws y sefyllfa fenthyca gros).

·         Ad-dalu dyledion – Aeddfedodd tri benthyciad PWLB yn ystod y flwyddyn fel y nodir ym mharagraff 3.5 o'r adroddiad. Nid oes unrhyw fenthyciadau tymor byr heb eu talu.

·           Buddsoddiadau – Bu gostyngiad mewn enillion ar fuddsoddiadau, a oedd wedi bod yn isel yn 2019/20, i bron i sero yn 2020/21. Ar sail y balansau cyfartalog o £43.7m cafwyd llog o £0.035m ar gyfradd llog cyfartalog o 0.079 yn erbyn cyllideb lle gosodwyd llog ar £0.053m. Cyfrannodd buddsoddiadau cyfyngedig mewn Awdurdodau Lleol eraill, a’r ffaith bod cyfraddau llog wedi disgyn yn is na’r hyn a ragwelwyd pan gynhyrchwyd y gyllideb, at y gostyngiad hwn yn y llog a dderbyniwyd. Cafodd y rhagolwg ar gyfer cyfraddau llog yn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 ei annilysu gan bandemig Covid a arweiniodd at dorri Cyfradd y Banc i lawr i 0.1% i wrthsefyll effaith y cyfyngiadau symud ar rannau helaeth o'r economi. Roedd rhai o adneuon y Cyngor mewn cyfrifon adneuo nad oes angen rhoi rhybudd ar gyfer tynnu arian allan, tra bod un benthyciad i awdurdod lleol arall.

·         Yn unol â Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020/21, ni chafodd unrhyw ddyledion eu haildrefnu yn ystod y flwyddyn gan fod y gwahaniaeth o 1% ar gyfartaledd rhwng cyfraddau benthyca newydd y PWLB a chyfraddau ad-dalu cynamserol yn golygu nad oedd yn werth aildrefnu. Yn ystod y flwyddyn, ni chymerodd y Cyngor fenthyg mwy nag yr oedd ei angen, na chyn bod angen, dim ond er mwyn elwa ar fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycwyd. Roedd y gweithgaredd buddsoddi yn ystod y flwyddyn yn cydymffurfio â’r strategaeth a gymeradwywyd ac nid oedd gan y Cyngor unrhyw anawsterau hylifedd. Pan fydd y Cyngor yn buddsoddi ei arian dros ben, yr elfen bwysicaf yw diogelwch y buddsoddiad, ac yna hylifedd ac yna’r cynnyrch. Y strategaeth ar fuddsoddi arian dros ben fyddai benthyca yn y tymor byr gydag awdurdodau lleol eraill i sicrhau'r enillion mwyaf posibl mewn ffordd ddiogel.

·         Yn ystod 2020/21 cydymffurfiodd y Cyngor â'i ofynion deddfwriaethol a rheoliadol. Amlinellir y data allweddol ar gyfer y dangosyddion darbodus a’r dangosyddion trysorlys gwirioneddol, sy’n nodi effaith y gweithgareddau gwariant cyfalaf yn ystod y flwyddyn, gyda chymaryddion yn y tabl ym mharagraff 6.1 o'r adroddiad. Roedd gwariant cyfalaf yn is na'r hyn a ragwelwyd ar adeg cynhyrchu'r dangosyddion Darbodus oherwydd tanwariant ar brosiectau cyfalaf; yn yr un modd, roedd y CCG yn sylweddol is na'r hyn a rhagwelwyd wrth gytuno ar y Dangosyddion Darbodus oherwydd y tanwariant ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gan leihau lefel y benthyciadau heb gymorth oedd ei hangen yn 2020/21. Nid aethpwyd tu hwnt i’r Terfyn Benthyca Awdurdodedig (£183m) na’r Terfyn Gweithredol (£178m) yn ystod y flwyddyn, gyda swm y ddyled allanol yn cyrraedd £139.2m yn unig ar ei huchaf. Roedd y costau cyllido fel cyfran o’r llif refeniw net ar gyfer y Gronfa Gyffredinol (4.80%) yn agos iawn at y cyfanswm a ragwelwyd (5.15%) sy'n golygu bod y dangosydd hwn wedi perfformio yn ôl y disgwyl a hefyd yn unol â'r flwyddyn flaenorol. Roedd y costau cyllido fel cyfran o’r llif refeniw ar gyfer y CCG (16.34%) yn is na’r cyfanswm a ragwelwyd (17.16%) oherwydd bod y costau cyllido yn is a’r llif refeniw net, hefyd yn is na’r disgwyl ar adeg cynhyrchu’r dangosydd arfaethedig ar gyfer 2020/21

·         Roedd perfformiad rheoli trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn yn unol â'r strategaeth risg isel, enillion isel ar fuddsoddiadau a dull cynlluniedig o fenthyca er mwyn lleihau taliadau llog. Mae perfformiad yn erbyn y strategaeth yn ystyried y ffactorau economaidd allanol ac yn cael ei hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau mai'r strategaeth yw'r un fwyaf priodol o hyd.

·         Cymeradwyodd y Cyngor Ddatganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021/22 ym mis Mawrth, 2021; ni ddisgwylir i'r strategaeth newid yn sylweddol cyn belled â bod Cyfradd y Banc yn parhau ar ei lefel isel bresennol; fodd bynnag, bydd y Cyngor yn cael ei arwain gan y Cynghorwyr Trysorlys wrth wneud penderfyniadau ynghylch ble a phryd i fuddsoddi a/neu fenthyca. Rhagwelir y bydd angen i'r Cyngor gynyddu ei fenthyciadau yn ystod y tair blynedd nesaf i ariannu ei raglen gyfalaf a fydd yn ei dro yn effeithio ar y Gronfa Gyffredinol gyda mwy o Ddarpariaeth Isafswm Refeniw yn cael ei chodi i gyllido'r costau ariannu cyfalaf.

 

Wrth ystyried yr adroddiad cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol –

 

·         Eglurder ynghylch yr arfer o fuddsoddi gyda chynghorau eraill, yn benodol p’un ai a wneir hynny ar sail pa mor deilwng yw’r cyngor i dderbyn credyd a ph’un ai a oes ffi weinyddol ar gyfer y broses. Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y broses fel arfer yn cael ei chynnal drwy frocer a bod yr awdurdod benthyca’n talu’r ffi. Mewn achosion lle mae gan y Cyngor gysylltiad neu berthynas wedi’i sefydlu â'r awdurdod benthyca, e.e. mewn achos lle'r oedd Cyngor Ynys Môn yn buddsoddi gyda chyngor arall yng Ngogledd Cymru, trefnwyd y buddsoddiad cychwynnol drwy frocer ond cafodd y buddsoddiad ei drefnu wedyn heb wasanaeth broceriaeth. Er bod y sector awdurdodau lleol yn cael ei ystyried yn lle diogel ar gyfer buddsoddi yn gyffredinol, mae'r Cyngor yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar y cynghorau y mae'n buddsoddi gyda nhw, er enghraifft, drwy archwilio eu cyfrifon; hefyd mae cynghorau sydd mewn trafferthion ariannol yn hysbys yn gyffredinol o fewn y sector ac mae'r Cyngor hefyd yn derbyn arweiniad gan ei Gynghorwyr Trysorlys ynglŷn â’r cynghorau sy'n ariannol gadarn ac felly'n ddiogel i fuddsoddi gyda nhw, a'r rhai nad ydynt.

·         P'un ai yng ngoleuni'r cynnydd sylweddol ym malansau ysgolion yn 2020/21 a’r feirniadaeth yn y gorffennol ar ysgolion am gael balansau a ystyrir yn ormodol, dylai Penaethiaid a chyrff llywodraethu bellach fod yn ceisio gwario'r arian dros ben ar gynlluniau addas neu ystyried a ddylent gadw eu balansau fel arian "diwrnod glawog" i liniaru unrhyw bwysau ariannol a allai godi yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod balansau ysgolion wedi lleihau'n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i ysgolion ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i wneud iawn am ddiffygion yn y gyllideb. Nid yw'r cynnydd ym malansau ysgolion yn unigryw i Ynys Môn a gellir ei briodoli i dri ffactor. Yn gyntaf, y cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn hwyr yn y flwyddyn ariannol i alluogi ysgolion i helpu disgyblion i ddal i fyny â'u haddysg a fydd yn cael ei wario gan ysgolion yn y flwyddyn ariannol hon. Yn ail, y gostyngiad yng ngwariant ysgolion yn 2020/21 yn sgil cyfnodau o gau oherwydd y cyfyngiadau symud yn ystod y flwyddyn gyda'r Awdurdod yn penderfynu peidio ag adfachu'r cyllid nas defnyddiwyd o'r gyllideb ysgolion ddirprwyedig. Y trydydd ffactor sy'n berthnasol i ysgolion uwchradd yw'r taliad y mae'r ysgolion wedi'i wneud i fwrdd arholi CBAC sy'n sylweddol is na'r taliad a fyddai wedi bod yn ddyledus pe bai'r arholiadau'n cael eu cynnal fel arfer. Y cyngor i ysgolion fyddai, er y gellir gwario balansau ar brosiectau penodol sydd o fudd i'r ysgol, ei bod hefyd yn fuddiol sicrhau bod balansau ar gael i'w defnyddio i bontio'r bwlch mewn blwyddyn pan fydd niferoedd disgyblion yn gostwng a'r cyllid yn sgil hynny. Yn ogystal â hyn, pe bai arwyddion y byddai cyllidebau'n gostwng yn y tymor hir a fyddai’n golygu bod angen gwneud arbedion, yna byddai'n well i ysgolion weithredu'r arbedion hynny'n gynt mewn ffordd gynlluniedig yn hytrach nag yn hwyrach pan fydd yn rhaid ei wneud, gan wanhau sefyllfa ariannol yr ysgol.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd y rhagolygon diweddaraf ynghylch cyfraddau llog gan Link Assets Services yn Nhabl 7.5 yr adroddiad yn adlewyrchu'r chwyddiant yn y gyfradd llog, a'r goblygiadau i reolwyr trysorlys os cynyddir y gyfradd llog i wrthsefyll pwysau chwyddiant.  Yn ogystal â hyn, awgrymwyd, o ystyried bod cyfraddau llog ar lefelau hanesyddol isel, y gallai fod yn ddoeth i ni ystyried benthyca nawr yn barod am yr adeg pan fo angen cyfalaf, yn enwedig os gellir cyflymu gwariant cyfalaf sydd wedi gostwng yn gyson is na'r gyllideb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 mai meddylfryd Banc Lloegr yw bod y cynnydd mewn chwyddiant yn un dros dro a'i fod yn cael ei yrru gan alw cronedig wrth i gyfyngiadau gael eu codi ac y bydd yn lleihau wrth i'r galw fynd yn is ac wrth i fywyd ddod yn ôl i drefn. Y farn hirdymor yw y bydd y gyfradd chwyddiant yn dychwelyd i dan 2% ac nad oes angen cynnydd tymor byr yn y gyfradd llog. Er y gallai'r farn newid os bydd chwyddiant yn parhau i godi, nid oes awydd uniongyrchol i gyfynguj ar wariant defnyddwyr wrth i'r economi geisio gwella. O ran a ddylid benthyca i fanteisio ar gyfraddau llog isel ai peidio â chyflymu gwariant cyfalaf, byddai hynny'n bosibl pe bai'r capasiti a'r cynlluniau ar gael; gallai rhuthro i gyflwyno cynlluniau am fod arian ar gael ac oherwydd ei fod yn rhad i'w fenthyca olygu bod y Cyngor yn wynebu dyledion ar gyfer cynlluniau nad ydynt yn unol â'i flaenoriaethau a thrwy hynny’n cyfyngu ar fenthyca yn y dyfodol pan fydd cynlluniau y mae'r Cyngor yn dymuno gwario arnynt sy'n cyflawni ei amcanion corfforaethol.

 

Penderfynwyd –

 

·         Nodi y bydd y ffigurau alldro yn adroddiad rheoli blynyddol y trysorlys ar gyfer 2020/21 yn parhau'n rhai dros dro nes i'r archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2020/21 gael ei gwblhau a'i gymeradwyo; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol sy’n deillio o’r ffigurau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.

·         Nodi’r dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro ar gyfer 2020/21 yn yr adroddiad hwn.

·         Derbyn adroddiad rheoli blynyddol y trysorlys ar gyfer 2020/21 ac anfon yr adroddiad ymlaen i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith heb sylwadau pellach.

 

Dogfennau ategol: