Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1, 2021/2022 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Deilydd y Portffolio Busnes Corfforaethol. Hwn yw’r cerdyn sgorio cyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 a chaiff ei ystyried o fewn y cyd-destun sydd yn cydnabod yr heriau ehangach oedd ar ofyn y Cyngor yn Chwarter 1 yn sgil effaith y pandemig. Ar ddiwedd Ch1 mae’n galonogol bod mwyafrif y dangosyddion perfformiad sy’n cael eu monitro, 85%, yn dal i berfformio’n dda yn erbyn eu targedau neu o fewn 5% i’w targedau. Cyfeiriodd at y ffaith bod y gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi bod dan bwysau sylweddol yn ystod y pandemig a nodwyd bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau i’w gweithredu o ran diogelwch bwyd a blaenoriaethu busnesau newydd. Hyd yma, ni dderbyniwyd cadarnhad ar y modd y dylid blaenoriaethu arolygon wedi’r pandemig o bersbectif cenedlaethol ac felly argymhellir bod y dangosydd hwn yn cael ei dynnu o’r Cerdyn Sgorio ar gyfer y flwyddyn 2021/22 a’i fonitro’n fewnol. Mae’r dangosydd perfformiad mewn perthynas ag ymatebion ysgrifenedig i gwynion cyn pen 15 diwrnod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i fod yn GOCH. Eglurodd y Deilydd Portffolio bod ymatebion llafar wedi cael eu rhoi oddi mewn i’r targed penodol ond bod ymatebion ysgrifenedig i gwynion yn ddibynnol ar ymatebion gan sefydliadau allanol. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio at ddangosydd 35 - canran yr holl geisiadau cynllunio a benderfynwyd mewn pryd - sydd yn GOCH, gyda chanran o 73% yn erbyn targed o 82%. Nododd bod materion yn ymwneud â chapasiti wedi effeithio ar y gwasanaeth yn yr Adran Gynllunio a’u bod wedi’u nodi yn yr adroddiad. Fodd bynnag, dywedodd bod gwelliannau wedi bod yn y Tîm Gorfodi yn yr Adran Gynllunio.
Aeth y Deilydd Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol ymlaen i gyfeirio at ddangosydd 32 - canran y gwastraff a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio - sydd yn GOCH, gyda pherfformiad o 64.55% yn erbyn targed o 70% ar gyfer y chwarter hwn. Mae’r perfformiad yn is na’r 67.07% a welwyd yn Ch1 2020/21 a’r 72.79% a welwyd yn Ch1 2019/20. Y pandemig yw un o’r rhesymau dros y gostyngiadau gan fod llai o bobl wedi gallu defnyddio’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref a’r cynnydd mewn gwastraff cartref bin du oherwydd bod mwy o bobl yn gweithio o’r cartref. Mae’r ffactorau eraill yn cynnwys anawsterau o ran dod o hyd i allfeydd i ailgylchu rhai defnyddiau fel y nodir yn yr adroddiad. Nodwyd bod awdurdodau lleol eraill yn wynebu’r un problemau o ran ailgylchu gwastraff penodol. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio hefyd at y ffaith bod gostyngiad wedi bod yn nifer y tunelli o wastraff gwyrdd a gesglir yn dilyn cyflwyno tâl am gasglu Gwastraff Gwyrdd yn Ebrill 2021. I liniaru’r tanberfformiad presennol, mae Grŵp Llywio newydd wedi cael ei sefydlu gyda chynrychiolwyr o CLlLC a WRAP Cymru gyda’r nod o werthuso’r arferion gwaith presennol a dod o hyd i ffyrdd o wella perfformiad a gweithio tuag at y targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru erbyn 2025. Roedd y Deilydd Portffolio o’r farn y dylid penodi aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’r Grŵp Llywio.
Dywedoddy Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod mesurau lliniaru wedi cael eu trafod yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2021.Dywedodd hefyd bod gweithdy wedi’i gynnal ar gyfer yr Aelodau Etholedig ar 13 Gorffennaf, 2021, a’u bod wedi cytuno yn ystod y gweithdy hwnnw i gyflwyno dau ddangosydd newydd i’r cerdyn sgorio ar gyfer blwyddyn adrodd 2021/22 – boddhad cwsmeriaid â system deleffon y Cyngor a rheoli newid hinsawdd.
Dywedodd yr Arweinydd bod yr adroddiad Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Ch1 wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 13 Medi, 2021 a bod y Pwyllgor wedi ystyried y camau lliniarol a nodwyd yn yr adroddiad. Nododd bod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno i enwebu cynrychiolydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’r Grwp Llywio newydd i edrych ar y materion yn ymwneud â gwastraff gwyrdd ac ailgylchu. Dywedodd hefyd bod y Pwyllgor Sgriwtini wedi nodi bod angen monitro’r ffigurau presenoldeb.
FelDeilydd y Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo roedd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS yn dymuno egluro bod ffigurau gwastraff gwyrdd ledled Gogledd Cymru wedi’u heffeithio gan y pandemig a bod yr unig awdurdodau sy’n casglu gwastraff biniau du’n fisol wedi gweld cynnydd mewn ffigurau casglu gwastraff. Nododd y byddai fel Deilydd Portffolio yn croesawu cael cynrychiolydd o’r Pwyllgor Sgriwtini ar y Grwp Llywio newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Richard A Dew, Deilydd y Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod y materion yn ymwneud â chapasiti yn yr Adran Gynllunio wedi bod yn ffactor mewn perthynas â phenderfynu ar geisiadau cynllunio mewn pryd sydd yn GOCH, 73% yn erbyn targed o 82%. Nododd bod y gwasanaeth wedi’i effeithio gan faterion capasiti yn yr Adran Gynllunio sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad. Fodd bynnag, dywedodd bod gwelliant sylweddol wedi bod yn y Tîm Gorfodi yn yr Adran Gynllunio wrth ddelio â cheisiadau gorfodi. Mae’r dangosydd wedi cynyddu o 74% i 91% ac roedd yn dymuno diolch i’r Tîm Gorfodi am eu llwyddiant yn hyn o beth.
PENDERFYNWYD:-
· derbynadroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch1 2021/2022, a
nodi’rmeysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau
gwelliannaui’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad;
· enwebucynrychiolydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i fod yn aelod o’r Grŵp Llywio a sefydlwyd yn ddiweddar, sydd yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a WRAP Cymru, i archwilio materion yn ymwneud ag ailgylchu a gwastraff gwyrdd.
Dogfennau ategol: