Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2021/22

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod y Cyngor wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2021/22 gyda swm net gwariant y gwasanaethau o £147.420m.  Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragamcenir ar gyfer 2021/22 yw tanwariant o £2.540m.  Fodd bynnag, dywedodd y Deilydd Portffolio er y rhagwelir tanwariant yn y gyllideb eleni y rhagwelir bwlch cyllido sylweddol yn 2022/23.  Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod yr adroddiad yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethu’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1, 30 Mehefin, 2021. Nododd ei bod hi’n anodd darogan beth fydd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn gan nad oes sicrwydd ynglŷn â’r pwysau a fydd yn wynebu’r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant ac nid yw’n glir eto pryd y bydd rhai o wasanaethau’r Cyngor yn dychwelyd i normalrwydd a beth fydd y costau ychwanegol o ran darparu’r gwasanaethau hynny.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd yn rhyddhau cyllid ychwanegol ar gyfer yr incwm a gollwyd, ond ni roddwyd ystyriaeth i hyn yn y rhagolwg. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i ddweud y gallai’r costau dros y gaeaf effeithio ar yr amcangyfrifiadau alldro ar gyfer yr awdurdod priffyrdd ynghyd â’r pwysau ar ysbytai gyda phobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty a mynd ar ofyn gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog 151 bod disgwyl cynnydd mewn chwyddiant ac y bydd hyn yn effeithio ar gostau’r Cyngor. Nid yw’r codiad cyflog i staff wedi’i gytuno eto ac ar hyn o bryd mae codiad o 1.75% wedi’i gynnig. Dywedodd y Cyfarwyddwr bod arian wedi’i glustnodi yn y gyllideb. Nododd bod tuedd o hyd i drosglwyddo tai i ardrethi busnes a bod modd ôl-ddyddio ad-daliadau hyd at ddwy/dair blynedd sydd yn rhoi ychwaneg o bwysau ar gyllideb y Cyngor.  Nododd bod cyflwyno’r prosiect Cartrefi Clyd, y cynnydd mewn Gofalwyr Maeth a lleoli disgyblion yn all-sirol a chyflwyniad y contract cinio ysgol newydd wedi cyfrannu at y tanwariant.  Mae cyflwyno tâl am wastraff gwyrdd wedi cynyddu’r gyllideb yn ôl y disgwyl.  Nododd hefyd bod y ffaith bod staff yn gweithio o’r cartref a bod mwy o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol wedi lleihau costau teithio ac offer swyddfa a chostau ynni.

 

Adroddodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Cyllid bod y Panel o’r farn ei bod hi’n rhy gynnar dod i unrhyw gasgliadau ynglŷn â pherfformiad gwasanaethau ar sail data Ch1 oherwydd y gallai llawer newid dros y misoedd nesaf.  Mae’r elfennau sy’n debygol o gynhyrchu arbedion yn ystod y flwyddyn yn cynnwys lleoliadau all-sirol; incwm gwastraff gwyrdd. Nododd bod y Panel o’r farn bod angen monitro’r pwysau cyllidebol ar gyllideb y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.   Mynegwyd pryder ynglŷn â chyflwr ffyrdd a phriffyrdd a’r angen i gwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol ar ein ffyrdd eleni.

 

Roedd y Cynghorydd Jones yn dymuno nodi’r gwaith calonogol a gyflawnwyd gan yr Adran Plant a Theuluoedd mewn perthynas â phlant mewn gofal. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa hon yn ddibynnol ar gymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r golled incwm sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r coronafeirws;

·      Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C;

·      Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH;

·      Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD.

 

Dogfennau ategol: