Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog 151 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a oedd yn cynnwys y gofyniad ar y Cyngor i sefydlu system gadarn ar gyfer monitro a rheoli ei gyllideb refeniw ac elfen allweddol o’r system honno yw’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
Adroddodd Deilydd y Portffolio Cyllid bod y Cynllun yn nodi strategaeth cyllideb y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac yn nodi’r rhagdybiaethau a fydd yn cael eu cynnwys yn y broses o osod y gyllideb yn flynyddol. Dywedodd ei bod hi’n anodd darogan sefyllfa ariannol y Cyngor ac yn enwedig y setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Ategodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylwadau’r Deilydd Portffolio ei bod hi’n anodd darogan sefyllfa ariannol y Cyngor ac y disgwylir y bydd LlC ond yn darparu setliad ariannol i’r awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn nesaf pan fydd yn cyhoeddi’r setliad dros dro yn hwyrach eleni a’i bod hi’n anodd iawn penderfynu beth fydd y bwlch cyllido posib ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn ystyried yr holl newidiadau y gwyddys amdanynt y mae’n rhaid eu hymgorffori yn y gyllideb sylfaenol ar gyfer 2022/23, ac mae’n gwneud rhagdybiaethau mewn perthynas â’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gyllideb refeniw’r Cyngor (cynnydd o ran costau cyflog, cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, pensiynau, cynnydd mewn costau ynni, chwyddiant cyffredinol ac ati). Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 at y prif bwysau cyllidebol a’r risgiau a wynebir gan y Cyngor sef y Codiadau Cyflog (Cyflogau staff nad ydynt yn athrawon) gyda chynnig o gynnydd o 1.75% ar hyn o bryd; Codiadau Cyflog (Cyflogau Athrawon); y cynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol i ariannu’r cynnydd mewn gofal cymdeithasol; Gwasanaethau Plant - cynnydd posib yn nifer y plant a gaiff eu rhoi mewn gofal; Gwasanaethau Oedolion (yr henoed, iechyd meddwl, anableddau dysgu at ati) - cynnydd yn y galw am wasanaeth; Ffioedd Gofal Nyrsio a Phreswyl i’r Henoed; Lleoliadau Ysgol All-sirol; y Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor (wrth i’r cynllun ffyrlo ddirwyn i ben fe all effeithio ar nifer y bobl a fydd yn gwneud cais am gymorth â’u taliadau Treth Cyngor).
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 at Dabl 3 yn yr adroddiad sy’n adlewyrchu effaith y Newidiadau Cyllid Allanol Cyfun (AEF) a Threth Cyngor 2022/23 ar gyllid y Cyngor. Byddai gostyngiad yn y Cyllid Allanol Cyfun yn 2022/22 yn gofyn am gynnydd o rhwng 4% a 5% yn y Dreth Cyngor dim ond er mwyn cynnal y gyllideb bresennol mewn termau arian parod. Er mwyn llenwi’r bwlch cyllido ar gyfer 2022/23 yn llawn, byddai angen cynnydd o 5% yn y Cyllid Allanol Cyfun, ynghyd â chynnydd o 3% yn y Dreth Cyngor, i gyllido’r gwariant net ychwanegol yn llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones bod y pandemig, y cynllun ffyrlo a Brexit wedi achosi pwysau ariannol sylweddol a bod disgwyl i chwyddiant gynyddu i 4%. Roedd y Cynghorydd Jones yn dymuno gwybod faint o doriadau ariannol yr oedd yr Awdurdod wedi’i gwneud ers 2013. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 drwy ddweud bod y broses flynyddol o osod y gyllideb yn galluogi’r Cyngor i ddarparu ychwaneg o adnoddau i wasanaethau sydd dan bwysau megis Gwasanaethau Plant ac Oedolion. Nododd bod yr Awdurdod wedi llwyddo i gyflawni arbedion tybiedig gwerth £24.6m ers 2013. Mae’r toriadau ariannol yn bennaf wedi digwydd ym maes Priffyrdd, Eiddo, Gwastraff, Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Hamdden a Datblygiad Economaidd a bydd yn anodd sicrhau parhad rhai gwasanaethau os byddwn yn wynebu ychwaneg o doriadau yn y dyfodol.
Holodd yr Arweinydd pa un ai a oedd y Cyngor mewn gwell sefyllfa nag yr oedd dair blynedd yn ôl mewn perthynas â’i sefyllfa ariannol. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod cronfeydd ariannol wrth gefn y Cyngor wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf a bod y Cyngor mewn gwell sefyllfa yn ariannol o ganlyniad.
PENDERFYNWYD:-
· Bod y Cyngor yn rhoi system gadarn ar waith i fonitro a rheoli ei gyllideb refeniw ac elfen allweddol o’r system honno yw Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Mae’r cynllun yn amlinellu strategaeth cyllideb y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac mae’n nodi’r rhagdybiaethau fydd yn cael eu cynnwys yn y broses flynyddol o osod y gyllideb;
· Nodi cynnwys y cynllun, cymeradwyo’r rhagdybiaethau a wnaed ac ystyried sut i bontio’r bwlch cyllidol a nodir yn yr adroddiad fel rhan o’r broses ar gyfer gosod cyllideb refeniw 2022/23, fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Dogfennau ategol: