Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

Cofnodion:

7.1 FPL/2019/338 – Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o'r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y terfyn yn Cerrig, Penmon

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Gorffennaf 2021, penderfynwyd bod angen ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 21 Gorffennaf, 2021.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y Swyddog Achos Cynllunio wedi cadarnhau yn ystod yr ymweliad rhithwir â’r safle fod cynlluniau diwygiedig wedi'u derbyn mewn cysylltiad â'r cais. Argymhellir felly y dylid gohirio gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais er mwyn caniatáu i'r cynlluniau diwygiedig gael eu hystyried a chynnal ymgynghoriad pellach.

 

Penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.2 FPL/2020/165 – Cais llawn ar gyfer addasu’r adeilad allanol i fod yn uned wyliau ynghyd â thorri tair coeden sydd wedi’u gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed a phlannu coed yn eu lle yn Adeilad Allan 1, Lleiniog, Penmon

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Gohiriwyd penderfynu ar y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 7 Gorffennaf 2021 er mwyn disgwyl i gynlluniau diwygiedig gael eu derbyn i ddangos y gwaith cynllunio oedd angen ei wneud o ganlyniad i'r bwriad i symud 3 coeden sydd wedi'u gwarchod ar hyn o bryd gan orchymyn cadw coed. Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig ar 7 Gorffennaf, 2021 ac yn dilyn hynny cyhoeddwyd ymgynghoriadau diwygiedig a hysbyswyd cymdogion gyda'r dyddiad diweddaraf ar gyfer cyflwyno sylwadau ar 29 Gorffennaf, 2021.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Rhys Davies, Cadnant Planning i gefnogi'r cais gan dynnu sylw at y ffaith bod Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer addasu'r adeilad allanol yn uned wyliau eisoes wedi'i roi a bod adroddiad y Swyddog yn cadarnhau bod yr egwyddor o addasu adeiladau allanol yn llety gwyliau wedi'i sefydlu o dan bolisi TWR2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae'r cais yn cydymffurfio â'r meini prawf a gyflwynir o dan Bolisi TWR 2 gan ei fod yn defnyddio safle addas a ddatblygwyd yn flaenorol; mae'n briodol o ran maint ac nid yw'n niweidio cymeriad preswyl yr ardal yn sylweddol. Mae'r cais hefyd mewn lleoliad cynaliadwy sydd o fewn pellter cerdded i safle bysiau a phentref Llangoed ar droed neu ar feic. Ystyrir bod y mynediad o'r briffordd sy'n arwain at Benmon yn dderbyniol gyda mân welliannau yn ogystal â'r cynlluniau o safbwynt treftadaeth. Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â'r hyn a allai fod yn fanteision economaidd i'r ardal o ddatblygiad o'r fath, yn enwedig gan nad yw'r datblygwr yn lleol. Mewn ymateb i'r Pennaeth Gwasanaeth, mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau bod Amos Leisure hyd yma wedi buddsoddi £4m ar draws tri safle yn Ynys Môn a'i fod yn cyflogi pedwar aelod lleol o staff yn uniongyrchol. Hefyd, mae'r cwmni'n cyflogi wyth is-gontractwr lleol yn llawn amser ac yn defnyddio tri ar ddeg o gontractwyr lleol eraill i wneud gwahanol agweddau ar waith adeiladu. Mae deunyddiau hefyd yn dod o ffynonellau lleol. Er bod cyfraniad y cais i dwristiaeth wedi'i nodi yn yr adroddiad, mae'r manteision economaidd ehangach y bydd y cynnig yn eu creu'n lleol hyd yn oed yn fwy. Bydd cymeradwyo'r cais yn sicrhau swyddi a chontract ychwanegol i fusnesau lleol. Y gobaith yw, ar ôl cyfarfod ar y safle, y bydd y Cyngor Cymuned a’r Aelodau Lleol yn glir ynghylch pa elfennau o'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddynt ac nad oes unrhyw faterion gorfodi. Mae'r gwaith ar y safle yn cael ei gwblhau i safon uchel iawn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, i gadarnhau, yn dilyn ymdrech ar y cyd gan bawb a oedd yn gysylltiedig i fynd i'r afael â'r pryderon lleol ynglŷn â'r datblygiad arfaethedig, ei fod yn falch o allu dweud bod y pryderon hynny bellach wedi'u lleddfu, gan gynnwys y fynedfa a fu'n destun pryder arbennig iddo. Drwy ddeialog a chydweithrediad helaeth, gwnaed diwygiadau sydd wedi datrys yr hyn y teimlai y gallai fod wedi bod yn broblem bosibl ac felly nid oedd bellach yn gwrthwynebu'r datblygiad. Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, sydd hefyd yn Aelod Lleol, ei fod yn cytuno'n llwyr â'r Cynghorydd Alun Roberts a'i fod wedi gwerthfawrogi gallu ymweld â'r safle a bod hynny wedi lleddfu pryderon lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio'r Amgylchedd Adeiledig a Naturiol na dderbyniwyd unrhyw sylwadau hyd yma ynglŷn â'r cynlluniau diwygiedig mewn cysylltiad â thynnu'r coed sy’n cael eu gwarchod a’r gwaith plannu yn eu lle er nad yw'r cyfnod i dderbyn sylwadau’n dod i ben tan 29 Gorffennaf. Rhoddwyd caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer addasu’r adeilad allanol yn uned wyliau fis diwethaf o dan bwerau dirprwyedig. O ran dylunio, mae natur fodern yr estyniad to gwastad yng nghefn yr adeilad dan sylw yn fodd i wahaniaethu rhwng elfennau hanesyddol a chyfoes yr adeilad ac mae gosod to llechi ar y sied gerrig wrth ochr yr adeilad yn adlewyrchiad o'r ffurfiau hanesyddol. Hefyd, bydd yr holl ffensys i brif ddrychiad yr adeilad yn cael eu cadw. Mae'r Swyddog o'r farn bod y newidiadau a'r estyniad yn cydymffurfio â'r gofynion polisi o ran y meini prawf ar gyfer addasu adeiladau allanol yn unedau gwyliau o safbwynt dylunio a chadw cymeriad yr adeilad rhestredig o fewn cwrtil Lleiniog. Ni fydd yr addasiadau chwaith yn effeithio ar gymeriad neu leoliad arbennig prif adeilad rhestredig Lleiniog ei hun; yn hytrach, bydd yr addasiadau'n sicrhau dyfodol hirdymor yr adeilad dan sylw. Gan gyfeirio at yr amodau cynllunio arfaethedig, tynnodd y Swyddog sylw at y ffaith bod amodau (05) a (06) bron yn union yr un fath, argymhellir dileu amod (06) ac y dylid ychwanegu'r ddau gynllun a restrir ynddo at y rhestr o gynlluniau yn amod (05).

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams MBE, ac eiliodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gan ddileu amod (06) fel yr amlinellwyd.

 

Penderfynwyd dirprwyo’r cam o gymeradwyo’r cais i’r Swyddogion ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad a’r adroddiad gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad, ynghyd â dileu amod 6 fel yr amlinellwyd.

 

7.3 VAR/2021/27 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu cylch troi yn Eglwys Crist, Rhos-y-bol, Amlwch

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn gan yr Aelod Lleol oherwydd materion priffyrdd a’r effaith ar y dirwedd o amgylch yr eglwys. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 2 Mehefin 2021, penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle. Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 16 Mehefin, 2021.

 

Darllenodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad i'r Pwyllgor gan yr ymgeisydd, Mr William Morris oedd yn amlinellu barn yr ymgeisydd nad oes angen cylch troi er mwyn gallu troi cerbyd o fewn y safle a bod hyn wedi'i ddangos mewn fideo a wnaed ar y safle gan y Swyddog Achos Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol a ddangosodd fod yr ymgeisydd yn symud ei gerbyd o fewn y safle yn rhwydd a bod digon o le. Mae hyn yn foddhaol gan Wasanaeth Priffyrdd y Cyngor. Â'r ymgeisydd ymlaen i ddweud ei fod wedi edrych ar y tai yn agos at yr eglwys yn Rhos-y-bol a bod gan o leiaf 10 ohonynt lonydd lle’n amhosibl i gerbyd droi. Mae'n ailadrodd bod troi cerbyd o fewn ei lôn ei hun yn bosibl ac nad oes angen cylch troi i wneud hynny. Os oes rhaid gosod cylch troi ar y safle fel un o ofynion y Pwyllgor, yna dyma'r tro cyntaf i Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion Cyngor Ynys Môn bennu'r gofyniad hwn, y tro cyntaf o bosibl i Awdurdod Cynllunio Cymru osod gofyniad o'r fath. Mae Mr Morris yn nodi nad yw'r Aelod Lleol yn cytuno y dylai'r eglwys erioed fod wedi cael caniatâd cynllunio i addasu’r adeilad ac mae'n cyfeirio at y gŵyn a wnaed i'r Gwasanaeth Cynllunio gan yr Aelod Lleol nad oedd sail iddi ac na thorrwyd caniatâd cynllunio. Dylid nodi hefyd bod adeilad yr eglwys wrthi'n cael ei ddatblygu'n gartref i'r ymgeisydd a'i deulu a bod swm sylweddol o arian wedi'i wario arno. Yn ystod y gwaith, mae’r holl adborth gan ymwelwyr â'r fynwent wedi bod yn gadarnhaol. Mae'r rhan fwyaf wedi dweud ei bod yn wych bod rhywun yn gwneud yr ymdrech i adfer yr adeilad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a fyddai fel arall wedi dymchwel yn fuan. Mae'r ymgeisydd yn gofyn i'r Pwyllgor ganiatáu'r newidiadau i'r caniatâd cynllunio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol fod y cais gwreiddiol yn cynnwys cylch troi oherwydd cydnabuwyd nad oedd digon o le o fewn y safle i gerbyd droi ynddo. Yn y fideo sy'n dangos hyn, dangosir bod rhan isaf car yr ymgeisydd (Vauxhall Astra) yn crafu yn erbyn y cerrig terfyn; dywedodd wrth y Pwyllgor felly nad yw hwn yn lle addas i greu man parcio am nad oes digon o le ar gael o fewn cwrtil yr eglwys i gerbyd droi fel y profir gan y fideo. Hefyd, mae cerrig beddau yn agos at yr ardal lle bydd y cerbydau’n troi.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod penderfyniad y cais wedi'i ohirio yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Gorffennaf 2021 oherwydd bod cynllun diwygiedig wedi’i dderbyn ac am nad oedd cyfnod hysbysu'r cymdogion wedi dod i ben. Er mwyn caniatáu digon o amser i gymdogion wneud sylwadau, cytunwyd y dylid cyflwyno'r cais i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, derbyniwyd 8 llythyr gwrthwynebu oedd yn codi'r pwyntiau a gofnodwyd yn yr adroddiad. Y prif fater o ran y cais yw a ph’un ai oes angen i'r ymgeisydd ddarparu cylch troi fel rhan o'r cais cynllunio er budd diogelwch priffyrdd, yr egwyddor o newid defnydd yr eglwys yn annedd breswyl sydd eisoes wedi'i sefydlu gan y caniatâd cynllunio presennol. Cais ydyw i hepgor darparu cylch troi ar ôl iddo ddod yn amlwg wrth glirio'r gordyfiant ar y safle nad oes angen cylch troi er mwyn gallu troi cerbyd o fewn y safle. Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon â'r cynllun mynediad diwygiedig. Felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd (Traffig a Pharcio) fod yr Awdurdod Priffyrdd yn derbyn y cynllun diwygiedig a oedd yn dangos yr hyn a elwir yn ddadansoddiad o symudiadau cerbydau (swept path) h.y. y llwybr y mae cerbyd yn ei gymryd pan nad yw'n symud mewn llinell syth nes ei fod yn gorfod troi a ddangosodd ei bod yn bosibl troi o fewn y safle. Mae'r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon â'r dystiolaeth a'r wybodaeth a ddarparwyd ac nad oes angen cylch troi.

 

Yna dangoswyd y fideo o'r ymgeisydd yn symud y cerbyd o fewn safle'r cais i'r Pwyllgor.

 

Credai'r Cynghorydd Ieuan Williams fod y dystiolaeth yn dangos pa mor anodd yw troi’r cerbyd o fewn y lle sydd ar gael yn ogystal â pha mor agos yw'r man troi at y cerrig beddau agosaf; mae'r fideo'n dangos cerbyd yr ymgeisydd yn dod i gysylltiad â'r cerrig ochr yn ochr â'r terfyn wrth iddo droi. Tynnodd sylw at ystyriaeth bellach gan fod yr ymgeisydd wedi dweud ei fod yn datblygu'r eglwys fel cartref teuluol sy'n ei gwneud yn debygol y bydd mwy nag un cerbyd sy'n golygu y bydd yn rhaid iddynt fagio i’r briffordd. Ei farn ef oedd nad yw'r safle yn ardal addas ar gyfer parcio ac y dylid ail-gynnwys cylch troi yn y cynllun mynediad; cynigiodd felly y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Griffith at y fideo fel un sy'n dangos cerbydau wedi'u parcio ar hyd y palmant drws nesaf i adeilad yr eglwys gan achosi rhwystr i gerddwyr, pramiau a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo, credai y byddai angen darpariaeth rheoleiddio traffig i wahardd cerbydau rhag parcio ar y palmant. Cynigiodd y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; wrth eilio'r cynnig dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod yn ei chael hi’n anodd penderfynu gan ei fod wedi cymeradwyo'r cais yn wreiddiol gyda chylch troi a nawr yn cael cais i gymeradwyo cael gwared ar gylch troi.  Cyfeiriodd at nifer o achosion lle mae ceir yn troi allan i'r briffordd o'u heiddo ac felly, ar y cyfan, derbyniodd nad oes angen cylch troi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ieuan Williams am farn broffesiynol yr Uwch Beiriannydd (Traffig a Pharcio) ynglŷn â bagio i'r briffordd brysur rhwng Amlwch a Llannerch-y-medd; cadarnhaodd y Swyddog na fyddai'n argymell hynny.

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiwyd dros wrthod y cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog, o 4 pleidlais i 2.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan y barnwyd bod angen cylch troi er budd diogelwch y briffordd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rheswm a roddwyd dros wrthod y cais)

 

Dogfennau ategol: