12.1 FPL/2021/92 – Graianbwll, Llanddaniel
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OK4VsUAL/fpl202192?language=cy
12.2 FPL/2021/147 – Ysgol Henblas, Llangristiolus
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKlv8UAD/fpl2021147?language=cy
12.3 FPL/2021/86 - The Old Abbey & Abbey Lodge, Ffordd Ravenspoint, Bae Trearddur
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OJvQMUA1/fpl202186?language=cy
12.4 FPL/2020/215 – Lôn Lwyd, Pentraeth
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NACNJUA5/fpl2020215?language=cy
12.5 HHP/2021/166 – 21 Stâd Ravenspoint, Bae Trearddur
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKNlXUAX/hhp2021166?language=cy
12.6 FPL/2021/111 – Fferm Penmynydd, Caergeiliog
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKKzQUAX/fpl2021111?language=en_GB
12.7 MAO/2021/21 – Sŵn y Gwynt, Caergybi
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKtRCUA1/mao202121?language=cy
12.8 FPL/2021/112 – Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKKzgUAH/fpl2021112?language=cy
12.9 FPL/2020/234 - 8 Stâd Ddiwydiannol Mona, Mona
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAnonUAD/fpl2020234?language=cy
12.10 FPL/2019/251/EIA – Cae Mawr, Llanerchymedd
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Jt7imUAB/fpl2019251eia?language=cy
Cofnodion:
12.1 FPL/2021/92 – Cais llawn i godi adeilad amaethyddol newydd ar gyfer storio ac ŵyna ar dir ger Graianbwll, Llanddaniel
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod yr Aelod Lleol wedi bod mewn cysylltiad â hi i gadarnhau, er ei fod wedi galw'r cais i mewn oherwydd pryderon lleol, ei fod o'r farn bod adroddiad y Swyddog yn deg a bod y cais bellach yn dderbyniol wrth ychwanegu'r ddau amod tirlunio fel yr amlinellwyd.
Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio mai barn y Swyddog yw bod y safle'n addas ar gyfer y sied amaethyddol fel y cynigiwyd, sydd mewn lleoliad isel gyda bryniau'n codi/gostwng o'r ddau gyfeiriad. O ystyried y lleoliad, rhaid i’r gwaith sgrinio presennol a'r sgrinio ychwanegol fod yn unol â’r amodau yn y cais a wnaed gan y Cynghorydd Tirwedd a'r Cynghorydd Ecolegol ar gyfer y mesurau lliniaru ychwanegol. Ystyrir mai bach iawn yw'r effeithiau gweledol. Hefyd ystyrir bod dyluniad a lliw'r sied arfaethedig yn dderbyniol ac felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Eric Jones, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2021/147 – Cais llawn ar gyfer tynnu’r adeilad ystafell ddosbarth symudol presennol, gosod adeilad ystafell ddosbarth symudol newydd, codi ffens ynghyd â gwaith tirlunio caled arall yn Ysgol Henblas, Llangristiolus
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw'r ymgeisydd a'r perchennog tir.
Adroddodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio y bydd yr ystafell ddosbarth newydd arfaethedig yn cael ei gosod yn yr un lleoliad â'r ystafell ddosbarth bresennol ond y bydd yr ôl troed ychydig yn fwy. Bydd yr uchder yn dal i fod tua 3.6m er mwyn i’r ystafell ddosbarth newydd integreiddio â’i hamgylchedd. Eir i'r afael â phryderon preifatrwydd a godwyd gan berchennog yr eiddo cyfagos drwy godi ffens rhwyll 2m o uchder ar hyd ffin orllewinol buarth yr ysgol a fydd yn diogelu preifatrwydd tir yr ysgol a'r eiddo cyfagos. Mae Dŵr Cymru bellach wedi cadarnhau cymeradwyaeth amodol ac mae Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylwadau ar y cais. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais yn amodol na chodir unrhyw faterion newydd cyn i'r cyfnod ymgynghori a chyhoeddusrwydd ddod i ben ar 29 Gorffennaf 2021.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd dirprwyo’r cam o gymeradwyo’r cais i’r Swyddogion ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad a’r adroddiad gyda’r amodau cynlluniau a gynhwysir yn yr adroddiad ac ar yr amod hefyd na chodir unrhyw faterion newydd cyn y daw’r cyfnod cyhoeddusrwydd i ben.
12.3 FPL/2021/86 - Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau, ail-adeiladu wal gerrig ar y terfyn ynghyd â chodi giât gysylltiedig yn The Old Abbey ac Abbey Lodge, Lôn Ravenspoint, Trearddur
Hysbyswyd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno hysbysiad i Gyngor Ynys Môn fel y perchennog tir.
Adroddodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio fod y cais yn gofyn am ganiatâd ôl-weithredol ar gyfer lledu’r fynedfa i gerbydau; ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau o ganlyniad i'r cyhoeddusrwydd a roddwyd i'r cais. Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig ac o ran dylunio ystyrir bod y cynnig yn adlewyrchu nodweddion yr ardal leol ac yn gwella cymeriad ac edrychiad y safle yn unol â gofynion Polisi CYFF 2 a Pholisi CYFF 3. Felly, argymhellir cymeradwyo.
Cynigiodd y Cynghorydd Ieuan Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a nodir yn yr adroddiad.
12.4 FPL/2020/215 – Cais llawn ar gyfer codi 23 o dai newydd (yn cynnwys 4 o fflatiau) ynghyd â chreu dwy fynedfa newydd a datblygiad cysylltiedig ar dir ger Lôn Lwyd, Pentraeth
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gwnaed cais gan y Cynghorydd Margaret Roberts, Aelod Lleol i'r Pwyllgor i gynnal ymweliad rhithwir â’r safle fel y gall aelodau bwyso a mesur y cais yn well o fewn ei gyd-destun ac er tegwch i bryderon lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cynnal ymweliad rhithwir â’r safle.
Penderfynwyd y dylid cynnal ymweliad rhithwir â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.5 HHP/2021/166 – Cais ôl-weithredol ar gyfer ail-leoli a chadw’r anecs ar dir y tu cefn i 21 Stâd Ravenspoint, Trearddur
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch gorddatblygu.
Adroddodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio fod yr ymgeisydd, cyn cyflwyno'r cais cynllunio presennol a ysgogwyd gan ymchwiliad gorfodaeth, wedi bod yn trafod gyda chymdogion ac wedi cytuno i ail-leoli adeilad yr anecs yn nes at y prif annedd ac ymhellach oddi wrth y terfyn yng nghefn yr eiddo cyfagos. Mae'r ymgeisydd hefyd wedi cadarnhau y bydd llystyfiant ar hyd terfyn cefn y safle’n cael ei gadw ac y bydd blodau, ffens a threlis ychwanegol. Mae'r adroddiad yn ymdrin â'r gwrthwynebiadau a godwyd o ran gorddatblygu, yr effaith ar breifatrwydd ac ar amwynder ac ar y cyfan, ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn i'r cyfnod cyhoeddusrwydd ddod i ben ar 30 Gorffennaf 2021.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd dirprwyo cymeradwyo’r cais i’r Swyddogion ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad a’r adroddiad gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ac ar yr amod hefyd na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn y daw’r cyfnod cyhoeddusrwydd i ben.
12.6 FPL/2021/111 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn safle cabannau gwyliau, gosod 30 adeilad caban gwyliau, codi adeilad derbynfa, gwaith peirianyddol i greu llyn, adeiladu lonydd preifat, adeiladu ardaloedd parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Fferm Penmynydd, Caergeiliog
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi'i alw i mewn gan Aelod Lleol.
Siaradwyr Cyhoeddus
Siaradodd Mr Neil Oldham, yr ymgeisydd, i gefnogi'r cais gan ddweud mai ei nod oedd darparu datblygiad o ansawdd uchel ac un sy'n edrych fel petai wedi bod ar y safle erioed. Bydd plannu dros 5,000 o lwyni a choed yn sicrhau na fydd y datblygiad arfaethedig yn cael llawer o effaith weledol ac amgylcheddol ar yr ardal gyfagos. Pwysleisiodd Mr Oldham ei bod yn bwysig iddo fel un sydd wedi byw ar Ynys Môn am amser hir ac sy'n angerddol am yr Ynys fod y datblygiad yn ategu’r ardal wledig ac nad yw'n ymdebygu i ddatblygiadau eraill gyda rhesi diddiwedd o garafanau gwyn. Roedd yn awyddus i'r safle gynnig cyflogaeth yn uniongyrchol a thrwy annog ymwelwyr i ddefnyddio a mwynhau'r cyfleusterau mewn pentrefi cyfagos a'r ardal ehangach. Dylai'r math hwn o gynllun gydbwyso'r awydd i bobl ymweld â'r ardal a hefyd sicrhau manteision i'r gymuned leol ac osgoi effaith o ail gartrefi. Cydnabu y bu apêl ar y safle a bod yr Arolygydd Cynllunio yn gwbl fodlon ar bob sail ac eithrio cynaliadwyedd a bod dulliau teithio ar gael ar wahân i geir.
Wrth gefnogi'r cais, dywedodd Mr Jamie Bradshaw ei fod ef a Mr Oldham yn teimlo bod ffactorau arwyddocaol a gwybodaeth newydd sydd o blaid cymeradwyo’r cais. Tra bo'r safle’r cais mewn lleoliad gwledig, mae wedi’i leoli rhwng Caergeiliog, Bodedern a Llanfihangel yn Nhywyn sydd i gyd o fewn pellter cerdded. O ran beicio, mae nifer o aneddiadau yn ogystal ag atyniadau a chyfleusterau o fewn pellter beicio hawdd, gan gynnwys y Fali, Caergybi yn ogystal â mynediad i lonydd beicio hirach gan gynnwys tair lôn ar y rhwydwaith beicio cenedlaethol. Mae'r cynnig yn cynnwys llogi beiciau ar y safle.
Mae'r A5 sy'n pasio'r safle eisoes yn cael ei defnyddio'n helaeth fel llwybr beicio ac fe'i dangosir ar Gynllun Teithio Llesol yr Awdurdod fel llwybr cerdded a beicio cyfun dynodedig wedi'i gynllunio. Mae'r ymgeisydd yn hapus i gyfrannu at welliannau os oes angen. Mae'r safle hefyd o fewn pellter cerdded hawdd i lwybr bws rhif 4 sy'n cysylltu Caergybi a Llangefni ac â gorsafoedd rheilffordd gan hwyluso teithiau ar hyd a lled yr Ynys. Cynigir gwasanaeth bws mini ar y safle i gludo ymwelwyr yn ôl a blaen i orsafoedd rheilffordd ac atyniadau a chyfleusterau lleol. Darperir gwybodaeth gadarn a manwl am yr uchod fel rhan o'r cais nad ymchwiliwyd yn fanwl iddi yn adroddiad y Swyddog. Mae hyn yn cynnwys Cynllun Teithio manwl y gellid ei orfodi a'i reoli gan amod.
Cyfeiriodd Mr Bradshaw at y bwriad i gynnwys cyfleusterau ar y safle i gynnwys siop fach a chaffi mewn ymateb i sylwadau gan yr Arolygydd y gallai'r safle fod yn fwy hunangynhwysol. Er nad oedd yr Arolygydd wedi’i hargyhoeddi bod y safle'n hygyrch, mae'n amlwg nad oedd hyn yn rhoi darlun llawn o wir hygyrchedd y safle ac nad oedd yn elwa ar yr wybodaeth newydd a gyflwynir heddiw. Mae llawer o safleoedd newydd mewn lleoliad gwledig tebyg wedi'u cymeradwyo gan yr Awdurdod, er enghraifft Cartio Môn, Bryn Ednyfed ger Caergeiliog a Dronwy, Llanfachraeth. Felly, gofynnir yn barchus i'r Pwyllgor gefnogi'r cais.
Roedd y Cynghorydd Kenneth Hughes, aelod o'r Pwyllgor ac Aelod Lleol am wybod pam fod yr ymgeisydd o'r farn bod y safle'n gynaliadwy a beth sydd wedi newid o'r adeg y penderfynwyd ar yr apêl; y rhesymeg dros gael siop a chaffi ar y safle os mai'r nod yw annog defnyddwyr y safle i fwynhau'r manteision a'r cyfleusterau a ddarperir gan bentrefi cyfagos a'r ardal ehangach, a pherthnasedd Map Teithio Llesol yr Awdurdod i'r cais.
Eglurodd Mr Jamie Bradshaw fod gwybodaeth newydd ar gael i'r Awdurdod Cynllunio ar ffurf Cynllun Teithio manwl sy'n canolbwyntio'n benodol ar fater cynaliadwyedd ac yn dangos bod y safle'n gynaliadwy. Dywedodd Mr Bradshaw ei fod ef a Mr Oldham yn teimlo, ar adeg yr arolygiad, nad oedd gan yr Arolygydd ddealltwriaeth briodol o amgylchiadau'r safle a'r ardal – roedd yr ymweliad safle yn fyr ac nid oedd yn elwa ar yr un wybodaeth leol ag sydd gan bobl sydd ar yr Ynys yn rheolaidd. Teimlir bod y cais o fewn pellter cerdded a beicio i siopau a chyfleusterau ac y bydd yn elwa ar lwybr bws rhif 4 sy’n mynd heibio i'r safle na fyddai o reidrwydd wedi bod ym meddwl yr Arolygydd wrth wneud ei phenderfyniad. Ychwanegodd Mr Oldham fod y safle ar y ffin rhwng Bodedern a Chaergeiliog a bod yr Arolygydd Cynllunio wrth gynnal ei hymweliad safle wedi mynd i Gaergeiliog sydd â llai o gyfleusterau na Bodedern neu ymhellach i ffwrdd yn y Fali.
Cynigir cynnwys siop a chaffi ar y safle mewn ymateb i sylw'r Arolygydd y gallai'r safle fod yn fwy hunangynhwysol - y syniad yw y byddai defnyddwyr y safle yn gallu prynu manion heb orfod defnyddio car i adael y safle, er enghraifft i gael peint o lefrith. Er mai'r dewis fyddai peidio â chael siop a chaffi ar y safle, cânt eu cynnwys i wella cynaliadwyedd y safle a byddant yn cyflogi pobl leol. Pwysleisiodd Mr Oldham nad oedd am fod yn berchennog caffi nac yn geidwad siop ond fod y cyfleusterau hyn yn ateb sylwadau'r Arolygydd am gadw pobl ar y safle. Roedd yn bwysig iddo ef yn bersonol y dylai'r cais gefnogi busnesau lleol a'r gymuned ehangach sydd ar y cyfan yn cefnogi'r cais, gan gynnwys y Cyngor Cymuned.
Eglurodd Mr Bradshaw fod yr Awdurdod, fel awdurdodau lleol eraill, o dan Ddeddf Teithio Llesol Cymru, yn ceisio gwella'r cysylltiadau drwy'r ardal; mae'r A5 sy'n mynd heibio i safle'r cais yn un o'r llwybrau teithio llesol arfaethedig. Yn ddelfrydol bydd hwn, er ei fod eisoes yn cael ei ddefnyddio fel llwybr o’r fath, yn cael ei uwchraddio i lwybr cerdded a beicio cyfun cydnabyddedig. Nid oedd y map llwybrau ar gael i'r Arolygydd ar adeg yr apêl gan nad oedd wedi'i gynhyrchu – byddai'r ymgeisydd yn hapus i gyfrannu at y llwybr drwy wneud gwelliannau rhwng safle'r cais a'r llwybr. Cadarnhaodd Mr Oldham ei fod yn credu y byddai'n gaffaeliad mawr i'r safle ac y bydd yn ychwanegu at y llwybr troed sy'n mynd i Fodedern.
Mynegodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE bryderon am ddiogelwch cerddwyr gan ddyfynnu damwain angheuol ar y ffordd o Dalar i Fodedern. Gofynnodd am eglurder ynghylch y llwybrau troed sydd ar gael o Gaergeiliog i safle’r cais ac o’r fan honno ymlaen i Fodedern a RAF y Fali.
Eglurodd Mr Jamie Bradshaw mai'r unig lwybr lle nad oes llwybr troed yw wrth y safle bysiau wrth Gyffordd 4 ger Caergeiliog lle mae bwlch yn narpariaeth llwybrau troed ond i bob cyfeiriad arall mae llwybrau troed o safle’r cais drwy gyffordd yr A55 i'r gogledd i Fodedern ac ymhellach ymlaen i faes awyr RAF y Fali a'r Cymoedd.
Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod safle’r cais y tu ôl i safle Botha a bod ganddo ei fynediad ei hun i'r ffordd sy'n arwain o'r A55 tuag at Fodedern. O ran ymgyngoreion, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn bellach wedi ymateb gan ddweud bod angen amodau i reoli adar ar y safle; yn yr un modd mae'r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi ymateb i gadarnhau nad oes unrhyw risg y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar y Gymraeg. Hyd yma, ni chafwyd ymateb ffurfiol gan y Cyngor Cymuned. Gwrthodwyd cais am gynnig tebyg gan y Cyngor o dan y cyfeirnod cais FPL/2018/2 a gwrthodwyd yr apêl ddilynol ym mis Chwefror, 2020 ar y sail nad ystyrid bod y datblygiad arfaethedig mewn lleoliad cynaliadwy gan nad oes llawer o wasanaethau lleol na thrafnidiaeth gyhoeddus i’w ddisgrifio fel safle hygyrch o safbwynt ddulliau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, ond yn hytrach yn dibynnu’n ormodol ar ddefnyddio ceir preifat. Gwnaed rhai newidiadau i'r cais drwy gyflwyno adeilad derbynfa a chaffi a siop ar y safle yn ogystal â chyfleuster llogi beiciau. Fodd bynnag, mae cynnwys yr elfennau manwerthu hyn i wneud y datblygiad yn fwy hunangynhwysol yn atgyfnerthu barn y Cyngor bod y datblygiad arfaethedig wedi'i leoli mewn lleoliad anghynaliadwy. Yn ogystal â hyn, ers i'r apêl ar gais cynllunio FPL/2018/2 gael ei gwrthod, mae'r CCA ar Gyfleusterau a Llety Twristiaeth wedi'u mabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor a rhestrir y ffactorau a gaiff eu hasesu wrth benderfynu p’un ai a yw datblygiad o ansawdd uchel ai peidio. Un o’r ystyriaethau sy’n cael eu cynnwys yw bod safleoedd mewn lleoliad cynaliadwy sy'n rhoi mwy o bwys ar y gwrthwynebiadau ar sail cynaliadwyedd. Er gwaethaf y newidiadau a wnaed i'r cais, dywedodd y Swyddog nad yw'r sefyllfa o ran cynllunio wedi newid yn sylweddol ac felly ystyrir o hyd bod y datblygiad arfaethedig mewn lleoliad anghynaliadwy sy'n golygu ei fod yn dibynnu ar ddefnyddio ceir preifat. O ganlyniad, yr argymhelliad yw gwrthod y cais.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes nad oedd o’r un farn â’r Swyddog ar sail polisi. Mae canllawiau polisi cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd datblygu twristiaeth i'r economi gwledig cyn belled â bod datblygiadau mewn lleoliad addas. Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn credu bod y cynnig yn addas gan ei fod yn teimlo ei fod mewn ardal gynaliadwy. Mae'r CDLl ar y Cyd yn nodi y dylai datblygiadau newydd fod mewn lleoliad anymwthiol sy'n golygu eu bod yn cael eu sgrinio'n dda gan nodweddion tirwedd presennol heb ormod o nodweddion nad ydynt yn naturiol. Mae safle’r cais yn addas ar gyfer y math hwn o ddatblygiad; nid oedd gan yr Arolygydd Cynllunio unrhyw bryderon ar y pwynt hwn ac roedd yn anghytuno â safbwynt y Swyddog ar y pryd gan ddod i'r casgliad yn hytrach fod y datblygiad yn briodol yn ei leoliad ac na fyddai'n cael effaith niweidiol ar gymeriad nac edrychiad yr ardal wledig gyfagos. Credai'r Cynghorydd Hughes fod y Swyddogion wedi colli cyfle i gefnogi cais gan wybod pa mor bwysig yw twristiaeth i economi cefn gwlad; yn syml, mae hyn yn deillio o wahaniaeth barn, oherwydd ychydig fisoedd yn ôl, roedd y Pwyllgor yn unfrydol fod y safle hwn yn lleoliad cynaliadwy; byddai dweud fel arall yn awr yn adlewyrchu’n wael arnom, felly mae'n ddyletswydd ar bawb i gefnogi'r cais. Cynigiodd y dylid cymeradwyo'r cais ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Eric Jones.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylai'r Pwyllgor gynnal ymweliad rhithwir â’r safle o ystyried effaith weledol bosibl y datblygiad, yn enwedig o'r A55 a'r effeithiau sy'n deillio o hynny ar yr ardal wledig gyfagos. Cafodd y cynnig ar gyfer ymweliad safle ei eilio gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE. Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiwyd dros gynnal ymweliad rhithwir â’r safle.
Penderfynwyd cynnal ymweliad rhithwir â’r safle am y rheswm a roddwyd.
12.7 MAO/2021/21 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi’i ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2018/4 er mwyn diwygio geiriad amod 8 (Dŵr prysur yn unig i gysylltu â’r garthffos gyhoeddus) er mwyn galluogi dŵr wyneb i gysylltu â’r garthffos gyhoeddus yn Sŵn y Gwynt, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw'r ymgeisydd a'r perchennog tir.
Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod caniatâd cynllunio ar gyfer codi 4 annedd un person wedi'i roi ar y safle a bod y cais a gyflwynir bellach yn gofyn am ddiwygio amod (08) y caniatâd fel bod dŵr wyneb a dŵr budr y safle yn cael eu gollwng i'r system garthffosydd cyhoeddus. Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau nad oes ganddo wrthwynebiad i'r bwriad i ddiwygio amod (08); yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.
Holodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE ai Llys y Gwynt oedd enw cywir y safle yn hytrach na Sŵn y Gwynt. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio, pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo, y byddai manylion yr enw'n cael eu cadarnhau cyn i'r caniatâd gael ei ryddhau.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.
12.8 FPL/2021/112 – Cais llawn ar gyfer codi ffensys diogelwch yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw'r ymgeisydd a'r perchennog tir.
Ar ôl datgan diddordeb ac un sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Adroddodd Rheolwr Cynllunio'r Amgylchedd Adeiledig a Naturiol fod hwn yn gais ar gyfer codi ffensys diogelwch 2.15m o uchder ar hyd blaen ac ochrau tiroedd yr ysgol gyda gatiau mynediad. Ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol o ran graddfa, dyluniad ac edrychiad ac felly ni fydd yn cael effaith negyddol ar gymeriad ac edrychiad yr adeilad presennol nac ar eiddo cyfagos; yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.
12.9 FPL/2020/234 – Cais llawn i godi warws cynhyrchu bwyd, estyniad i’r adeilad presennol er mwyn creu ardal halltu, codi tanc Gwaith Trin Elifion, tanc cydbwyso a strwythurau cysylltiedig (rhannol ôl-weithredol mewn perthynas â sylfeini), creu pyllau gwanhau, codi adeilad i gynnwys unedau DAF, addasu pwyntiau mynediad presennol ynghyd â newidiadau i’r parcio presennol, dad-fabwysiadu’r briffordd sydd eisoes wedi’i mabwysiadu, ynghyd â thirlunio a gwaith cysylltiedig yn 8 Stad Ddiwydiannol Mona, Mona
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cynnwys tir sy'n eiddo i'r Cyngor.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Sioned Edwards, Cadnant Planning i gefnogi'r cais gan ddweud mai'r datblygiad arfaethedig yw’r ail gam yn natblygiad y gwaith llaeth a chaws ar ôl rhoi caniatâd ar gyfer y cam cyntaf yn 2019.Unwaith y bydd yn weithredol, hwn fydd y safle cynhyrchu caws mwyaf modern a chynaliadwy yn Ewrop gyda'r ail gam yn eu galluogi i gynhyrchu mwy o gaws, o 2,500 tunnell y flwyddyn i 7,800 tunnell y flwyddyn. Ar ôl ei gwblhau bydd y gwaith yn defnyddio 80 miliwn litr o laeth o 35 o ffermydd Cymru i greu 7,800 tunnell o gaws premiwm o'r ansawdd uchaf. Roedd ehangu'r gwaith yn rhan o'r cynnig cychwynnol, a chyflwynwyd cynlluniau dangosol ar gyfer yr ail gam fel rhan o'r cais gwreiddiol. Bydd trosiant y gwaith yn codi i £25m erbyn 2022 a bydd yn sefydlu safonau newydd ar gyfer y diwydiant. Pan ddechreuir cynhyrchu caws ym mis Medi, 2021, bydd capasiti cychwynnol ar gyfer 22 miliwn litr o laeth y flwyddyn gyda buddsoddiad cychwynnol o £15m a £12m arall ar gyfer yr ail gam. Bydd y cam cyntaf yn creu hyd at 30 o swyddi llawn amser a bydd 34 o swyddi llawn amser pellach yn dilyn gyda'r ail gam. Erbyn diwedd 2021, disgwylir i'r busnes fod wedi tyfu i ddarparu dros 100 o swyddi. Mae'r fenter hefyd yn ceisio datblygu sgiliau pobl ifanc a dod yn gyflogwr lleol allweddol ar Ynys Môn. Mae'r cwmni'n awyddus i ddatblygu pob rhan o'r gweithlu ac mae'n gweithio'n agos gyda Chanolfan Technoleg Bwyd Coleg Menai; bydd y ganolfan hon yn defnyddio'r safle fel lleoliad ar gyfer cyfleoedd addysg, hyfforddiant a datblygu i rai o'i myfyrwyr a'i chyrsiau. Ers cyhoeddi adroddiad y Swyddog, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau ei bod yn derbyn y cais yn amodol ar gyflwyno adroddiad ar wrthdrawiadau adar diwygiedig. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch trwyddedau safleoedd ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt hefyd gyda Chynghorydd Ecoleg y Cyngor ynghylch gwelliannau bioamrywiaeth mewn cysylltiad â'r cais a hefyd i alluogi camau pellach i ddatblygu'r safle. Gofynnir i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cais fel buddsoddiad sylweddol ar yr Ynys sy’n sicrhau manteision ar ffurf cyflogaeth i bobl leol, cyfleoedd addysgol a hyfforddiant i bobl ifanc a phris teg am laeth i ffermwyr Cymru.
Mewn perthynas ag ymateb yr ymgynghorai, adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn fodlon â'r cais ac wedi argymell amod; mae Cynghorydd Tirwedd y Cyngor hefyd yn gefnogol yn amodol ar amod i warchod coed ar y safle ac mae Cyngor Cymuned Bodffordd wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw wrthwynebiadau i'r cais. Mae'r cais yn cynrychioli ail gam y fenter a fydd yn galluogi i’r safle gynhyrchu mwy o gaws; mae egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ar leoliad yr ystâd ddiwydiannol ac fe'i cefnogir o ran y buddsoddiad mewn swyddi a gynigir. Disgwylir rhagor o wybodaeth am faterion ecoleg a bioamrywiaeth ac yn amodol ar dderbyn y wybodaeth hon, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio ynddo ac yn amodol hefyd ar dderbyn ymatebion i'r ymgynghoriad a oedd yn weddill ac unrhyw amodau cynllunio ychwanegol yn dilyn hynny.
12.10 FPL/2019/251/EIA – Cais llawn ar gyfer codi uned dofednod buarth (cynhyrchu wyau) ynghyd â storfa dail, biniau bwydo a gwaith cysylltiedig yng Nghae Mawr, Llannerch-y-medd
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Asesiad o'r Effaith ar yr Amgylchedd yn cyd-fynd ag ef a gan ei fod hefyd wedi’i alw i mewn gan Aelod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith, Aelod Lleol hefyd, o ystyried maint y datblygiad arfaethedig, ei leoliad yng nghefn gwlad agored a phryderon lleol ynghylch effeithiau posibl ar sŵn, arogleuon a thraffig, y dylai'r Pwyllgor gynnal ymweliad rhithwir â’r safle. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Robin Williams.
Penderfynwyd cynnal ymweliad rhithwir â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
Dogfennau ategol: