Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Linos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi’r cynnydd hyd yma o fewn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, ynghyd â chrynodeb o’r pynciau y rhoddodd y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol sylw iddynt yn y pedwar cyfarfod a gynhaliwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2021.
Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at yr ymgyrch recriwtio Gofalwyr Maeth, sy’n dal i fynd rhagddo, ac sydd wedi cynyddu nifer gofalwyr maeth yr Awdurdod, yn ogystal â sicrhau bod mwy o blant yn derbyn eu gofal ar Ynys Môn ac yn parhau i fod yn rhan o’u teuluoedd estynedig a’u cymunedau lleol. Mae ymgyrch recriwitio wedi’i thargedu arall ar lefel ranbarthol wedi’i chynllunio ar gyfer 2021/22. Mae dau o Gartrefi Clyd y Cyngor (cartrefi grŵp bach) wedi agor ac yn gweithredu’n llawn, ac mae trydydd Cartref Clyd a fydd yn darparu egwyl byr i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu wedi’i gwblhau a chais cofrestru wedi’i gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru ar ei gyfer. Mae pedwerydd cartref clyd ar y gweill erbyn hyn. Dyluniwyd cardiau adnabod Gofalwyr Ifanc ac maent yn cael eu cyflwyno. Yn y Gwasanaethau Oedolion, mae gwaith cynllunio ar gyfer darpariaeth tai gofal ychwanegol yn parhau i fynd rhagddo. Mae’r pandemig Covid 19 wedi cael effaith ar y rhaglen Cysylltu Bywydau sy’n cynorthwyo pobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr a bwriedir adolygu’r rhaglen ym mis Rhagfyr. Yn yr un modd, bydd mwy o gyfleoedd i bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio – mae sesiynau cymorth unigol wedi ailgychwyn mewn rhai achosion. Mae gwaith wedi’i wneud i sefydlu tri Thîm Adnoddau Cymunedol yn ystod y flwyddyn. Gwnaed cynnydd sylweddol yn ystod dau chwarter cyntaf y flwyddyn i ddatblygu’r Prototeip WCCIS (System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru) ar yr Ynys – mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ychwanegol. Er bod y Strategaeth Cyfleoedd Dydd ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu mewn lle, ni chynhelir ymgynghoriad ffurfiol ar ddatblygu ystod ehangach o gyfleoedd dydd o ansawdd uchel ar gyfer unigolion yn eu cymunedau tan y gwanwyn, 2022.
Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd er gwaethaf heriau a chyfyngiadau’r pandemig. Mae’r Panel yn parhau i dderbyn tystiolaeth o welliannau a datblygiadau yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion, gan roi sicrwydd ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma, ac mae canfyddiadau gwiriad sicrwydd awdurdodau lleol AGC ar gyfer Ynys Môn yn cadarnhau hynny hefyd.
Cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol mewn perthynas â’r adroddiad a gyflwynwyd –
· Tra’n croesawu’r ffaith fod y Strategaeth Cyfleoedd Dysgu ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu wedi’i gwblhau, mynegodd y Pwyllgor beth siom na fydd yr ymgynghoriad ar ddatblygu ystod ehangach o gyfleoedd dydd ar gyfer unigolion yn cymryd lle tan y gwanwyn, 2022. Yn ogystal â dymuno gwybod beth oedd y rhesymau am yr oedi, gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ynghylch y math o opsiynau cymunedol sy’n cael eu hystyried yn y cyfamser.
Eglurodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod y darparwyr llai yn arbennig wedi dweud y byddai’n heriol iddynt gymryd rhan ac ymateb yn llawn i ymgynghoriad ar hyn o bryd oherwydd Covid-19; roedd yn cydnabod bod rhaid i’r amgylchiadau fod yn iawn ar gyfer cynnal ymgynghoriad, er enghraifft gallu sicrhau bod darpariaeth eirioli ar gael fel bod pob unigolyn yn cael dweud ei ddweud. Roedd y ffaith bod People Too, sydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflawni rhaglenni trawsnewid, ynghlwm â’r gwaith yn golygu bod yr Awdurdod eisiau clywed eu hadborth er mwyn cadarnhau ei fod ar y trywydd cywir ac, yn ogystal, roedd angen rhagor o amser i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a benodwyd yn ddiweddar gael cyfrannu. Oherwydd y rhesymau hynny, barnwyd y byddai gohirio’r ymgynghoriad tan y gwanwyn, 2022, yn decach i bawb. Roedd gwasanaethau cymunedol ar gael, ac maent yn parhau i fod ar gael, a gwnaed penderfyniadau er mwyn diwallu anghenion penodol unigolion, gan gynnwys trefnu lleoliadau lle bo hynny’n briodol. Bu’r cymorth a ddarparwyd gan grwpiau yn y sector gwirfoddol yn werthfawr ac mae nifer ohonynt wedi addasu i ddarparu gwahanol fathau o gyfleoedd. Mae teuluoedd a defnyddwyr gwasanaeth eu hunain wedi ymateb yn gadarnhaol hefyd.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Hŷn, yn hytrach na darparu’r un ddarpariaeth i bawb drwy ganolfan ofal dydd ganolog, mae’r Gwasanaeth wedi ceisio deall anghenion unigol pobl a theilwra cyfleoedd yn y gymuned yn unol â hynny yn mewn ffordd sydd yn fuddiol iddynt ac sy’n ehangu eu diddordebau a’u galluoedd e.e. cyfleoedd gyda’r Bad Achub yng Nghaergybi neu waith garddio; dyma’r model y mae’r Gwasanaeth yn ceisio’i chyflawni ac y mae’n gobeithio ei hymestyn ledled yr Ynys.
Yn sgil yr uchod, roedd y Pwyllgor eisiau gwybod a yw’r pandemig wedi arwain at gynnydd mewn anghenion iechyd meddwl a sut mae’r Gwasanaeth wedi ymateb. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Hŷn bod y niferoedd yn cael eu monitro’n ofalus a bod y ddarpariaeth wedi canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd yn yr awyr agored e.e. cerdded, beicio, campio a chanŵio, er mwyn helpu unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl i ganolbwyntio ar rywbeth arall ac i edrych tuag allan. Bu’n broses greadigol ac mae defnyddwyr gwasanaeth wedi gwerthfawrogi’n fawr.
· Cyfeiriwyd at brinder gofalwyr cartref ac roedd y Pwyllgor eisiau gwybod pa fath o gamau y mae’r Gwasanaeth yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater.
Roedd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod bod y pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa ond, serch hynny, roedd problemau yn bodoli o ran recriwtio gofalwyr cartref cyn Covid-19 ac maent wedi cael eu nodi fel risg. Sefydlwyd cysylltiadau â Choleg Llandrillo Menai i hyrwyddo cyfleoedd ymysg myfyrwyr a chynhaliwyd ymgyrch recriwtio yn ystod y gaeaf, 2020. Mae prinder cyffredinol o ofalwyr wedi cael ei amlygu fel risg a her gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r Awdurdod yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â’r sector annibynnol er mwyn monitro gwydnwch ac i sefydlu faint o gymorth sydd ei angen ar y sector. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod ymgyrch recriwtio yn cychwyn yr wythnos hon fel cydnabyddiaeth o’r her genedlaethol i ddenu staff i’r sector gofal. Ar lefel broffesiynol, roedd yn awyddus i edrych ar y math o gontractau a ddarperir er mwyn ceisio gwneud y gwaith yn fwy deniadol ac yn fwy sefydlog, yn ogystal â chodi proffil y gwaith ar lefel genedlaethol trwy gydweithio â phartneriaid ar draws Cymru, a thynnu sylw at y gwahaniaeth gwirioneddol y gall gofalwyr ei wneud i fywydau unigolion. Mae hyn yn golygu bod angen cydnabod hefyd bod angen i waith staff yn y sector cyhoeddus, sydd wedi cael ei amlygu gan y pandemig, gael ei gydnabod a’i wobrwyo’n briodol,
· Cyfeiriwyd hefyd at dai grŵp bach y Cyngor (Cartrefi Clyd), ac yn benodol sut yr ariannwyd yr eiddo a brynwyd ac a oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfran o’r cyllid.
Eglurodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol mai’r bwriad gwreiddiol oedd defnyddio tai o stoc dai’r Cyngor. Fodd bynnag, nid oedd hynny’n bosib oherwydd safonau AGC mewn perthynas â’r amgylchedd corfforol a maint ystafelloedd. Bu’r Awdurdod yn ffodus i fedru sicrhau grantiau o’r Gronfa Gofal Canolradd, sef grantiau a ddyrennir i’r rhanbarth ac sy’n cael eu dyrannu trwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r Awdurdod wedi prynu 3 eiddo hyd yma, sydd yn rhan o’r stoc dai ac felly’n ychwanegu gwerth at y stoc. Maent yn arbed arian a fyddai wedi cael ei wario ar leoliadau all-sirol costus ac, yn ogystal, gellir darparu’r gofal gorau posib i blant yng ngofal yr Awdurdod mewn amgylchedd cyfarwydd yn eu cymunedau.
Penderfynwyd –
· Cadarnhau bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.
· Argymell i’r Pwyllgor Gwaith bod cynnydd a chyflymder y gwelliannau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddigonol.
Dogfennau ategol: