Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sy'n cynnwys Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol fod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn rhoi gwerthusiad o ba mor dda y cyflawnodd y Cyngor yn erbyn ei dri amcan llesiant allweddol yn ystod 2020/21 fel yr adlewyrchir yn y data dangosyddion perfformiad a'r dadansoddiad a geir ynddo mewn blwyddyn heriol iawn oherwydd y pandemig byd-eang. Er mai prif nod y Cyngor oedd cadw ei weithlu a phobl Ynys Môn yn ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod anodd hwn a sicrhau bod gwasanaethau statudol yn cael eu cynnal - manylir ar y camau penodol a gymerwyd i'r perwyl hwn yn yr adroddiad - llwyddodd y Cyngor hefyd i wneud cynnydd mewn nifer o feysydd ar draws gwasanaethau gan ddatblygu mentrau a phrosiectau arfaethedig fel y disgrifir yn adrannau naratif yr adroddiad. Llwyddodd y Cyngor i gyflawni cymaint ag y gwnaeth oherwydd ymdrechion diflino a gwaith caled ei staff, ei bartneriaid a'r rhai sydd wedi'u contractio i ymgymryd â gwaith ar ei gyfer, ac er ei fod yn galonogol nodi cynnydd y rhaglen brechlynnau atgyfnerthu, disgwylir y bydd y Cyngor yn dal i wynebu heriau pellach wrth iddo ddechrau ar gyfnod y gaeaf sy'n draddodiadol anodd.
Cadarnhaodd Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ei bod yn statudol ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn. 2020/21 yw’r flwyddyn olaf y mae angen gwneud hyn gan fod trefniadau newydd ar gyfer adrodd ar berfformiad yn cael eu cyflwyno o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021. Er ei bod wedi bod yn dasg heriol i geisio adlewyrchu ehangder y gweithgarwch sydd wedi digwydd mewn blwyddyn eithriadol, y gobaith yw y bydd yr adroddiad blynyddol yn rhoi adlewyrchiad teg o berfformiad dros y cyfnod.
Cyflwynodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor ar 18 Hydref, 2021 y cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2020/21 iddo a lle cydnabuwyd ac y diolchwyd am gyfraniad staff tuag at yr ymdrech pandemig a thuag at sicrhau parhad gwasanaethau hanfodol ar adeg anodd iawn. Wrth ystyried yr adroddiad, roedd y Pwyllgor wedi mynegi rhywfaint o bryder ynghylch y cynnydd yn y gyfradd Covid ar Ynys Môn ac yn ehangach yng Nghymru; roedd y Pwyllgor eisiau gwybod yn benodol sut yr oedd y pandemig parhaus wedi effeithio ar y sector busnes a gofynnodd am wybodaeth am nifer y busnesau ar Ynys Môn a oedd wedi dod i ben o ganlyniad y pandemig. Roedd y Pwyllgor wedi argymell bod yr adroddiad yn mynd gerbron y Pwyllgor Gwaith i gael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi wedyn erbyn y dyddiad cau ar 31 Hydref.
Tynnodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant sylw at welliant i baragraff olaf adran Addysg a Sgiliau'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar dudalen 14 lle mae'n cyfeirio at gau pob adeilad ysgol am ran gyntaf y flwyddyn oherwydd y pandemig coronafeirws, ond nid dyna a ddigwyddodd i bob pwrpas; bydd y frawddeg fel y'i diwygiwyd a fydd yn cael ei hadlewyrchu yn y fersiwn sydd i'w chyflwyno i'r Cyngor Llawn ar 26 Hydref, 2021 yn darllen fel hyn - yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn roedd ysgolion yn gweithredu o dan amodau brys oherwydd pandemig y Coronafeirws. Darparwyd canolfannau gofal ar gyfer plant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol, a pharatowyd gwersi a gweithgareddau ar-lein i bob myfyriwr eu gwneud gartref.
Gan gyfeirio at gais y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am ddata ynghylch busnesau sydd wedi cau, eglurodd y Prif Weithredwr fod e-bost wedi'i ddosbarthu i aelodau'r Pwyllgor i esbonio bod y data diweddaraf a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi'i ryddhau ym mis Tachwedd, 2020 ac mae'n ymwneud â newidiadau a ddigwyddodd yn 2019. Nid yw gwybodaeth am gyfnod y pandemig wedi'i choladu a'i rhyddhau eto ac er nad yw'r SYG wedi nodi pryd y bydd y data ar gyfer 2020 ar gael, unwaith y cyhoeddir y ffigurau byddant yn cael eu rhannu ag aelodau etholedig.
Penderfynwyd argymell i Gyngor Sir Ynys Môn fod Adroddiad Perfformiad 2020/21 yn adlewyrchiad cywir o waith yr Awdurdod dros y cyfnod ac y dylid ei gyhoeddi erbyn y dyddiad cau statudol ar 31 Hydref.
Dogfennau ategol: