Eitem Rhaglen

Diweddariad o'r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cynnwys cynnydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Arweinydd a Deilydd y Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr adroddiad yn dyst i lwyddiant penderfyniadau a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith ers 2017 i gefnogi’r gwasanaeth â chyllid pellach. Dywedodd bod yr ymgyrch barhaus i recriwtio Gofalwyr Maeth wedi cynyddu gofalwyr maeth yr Awdurdod a galluogi i fwy o blant dderbyn gofal ar Ynys Môn ac aros yn rhan o’u teulu estynedig a’u cymuned leol. Dywedodd hefyd bod awdurdodau lleol eraill nawr yn edrych ar gyflwyno model tebyg i’r un a gyflwynwyd gan yr Awdurdod hwn. Mae ymgyrch recriwtio wedi’i thargedu ar y gweill yn rhanbarthol yn 2021/22 ynghyd ag ymgyrch genedlaethol. Mae Cartrefi Clyd y Cyngor ar agor ac yn gwbl weithredol, bydd cartref arall ar gael i gynnig egwyl i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu ac mae’r cofrestriad wedi’i gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru. Aeth y deilydd portffolio ymlaen i ddweud bod cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparu gwasanaethau mewn ffordd drawsnewidiol wedi’i lansio’n ffurfiol yng Ngwynedd a Môn; mae’r prosiectau hyn yn cael eu monitro gan Medrwn Môn a Mantell Gwynedd. 

 

Mewn perthynas â Gwasanaethau Oedolion mae’r gwaith o gynllunio ar gyfer darpariaeth tai gofal ychwanegol newydd yn parhau. Mae’r pandemig Covid 19 wedi effeithio ar y rhaglen Cysylltu Bywydau i gefnogi pobl sydd yn byw â dementia a’u gofalwyr ac mae adolygiad o’r rhaglen ar y gweill ym mis Rhagfyr a bydd y cyfleoedd i bobl ag anghenion iechyd meddwl yn cynyddu wrth i’r cyfyngiadau Covid19 gael eu llacio - mae sesiynau cefnogaeth unigol wedi ailgychwyn mewn rhai achosion. Ymgymerwyd â gwaith i sefydlu tri Thîm Adnodau Cymunedol yn ystod y flwyddyn. Mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn y ddau chwarter cyntaf o’r flwyddyn o ran datblygiad y Prototeip WCCIS ar yr Ynys. Mae’r Strategaeth Cyfleoedd Dydd Anableddau Dysgu Oedolion ar waith, fodd bynnag ni

fydd yr ymgynghoriad ffurfiol ar ddatblygiad ystod ehangach o gyfleoedd dyddiau o

ansawdd uchel ar gyfer unigolion a’u cymunedau yn cael ei gynnal tan Gwanwyn 2022.

Yn y cyfamser, mae opsiynau cymunedol yn cael eu harchwilio ar draws yr Ynys. Cyfeiriodd at arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru a gynhaliwyd rhwng 14 – 18 Mehefin, 2021 fel y nodwyd yn yr adroddiad a rhoddodd sicrwydd bod gwasanaethau rhagorol wedi’u darparu yn ystod y pandemig.  Mae’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi recriwtio Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol newydd a Phennaeth Gwasanaeth Oedolion newydd yn ystod y cyfnod hwn ac roedd yn dymuno manteisio  ar y cyfle i ddiolch Mrs Iola Richards, y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro,  am ei gwaith a chroesawodd Mr Arwel Owen a benodwyd yn ddiweddar fel Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. 

 

Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd yn rheolaidd er gwaetha’r heriau a’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r pandemeig. Mae’r Panel yn dal i dderbyn tystiolaeth o’r gwelliannau a’r datblygiadau i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion. Mae’r Panel wedi bod yn rhan o’r Ymweliadau Laming, ac wedi trafod Ymateb y Gwasanaethau Cymdeithasol i Covid-19, y Tîm Adnoddau Cymunedol, y Berthynas Waith rhwng y Gwasanaethau Tai a’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adolygiad  Diagnostig Annibynnol o’r Gwasanaethau Oedolion, Archwiliad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru, y Tîm Teuluoedd Gwydn/IFSS a’r Adroddiad Blynyddol ar Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21. 

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn dymuno diolch i’r Pwyllgor Gwaith am eu cefnogaeth mewn perthynas â’r pecyn o welliannau gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac y mae bellach yn amlwg bod yr adnoddau a gyflwynwyd i wasanaethau ac a arweiniodd at welliannau yn golygu bod yr Awdurdod yn darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i drigolion yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon gyda chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

 

Dogfennau ategol: