Cyflwyno adroddiad cynnydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd ar waith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.
Dywedodd y Cadeirydd y penderfynwyd cyflwyno rhaglen dros dro yn ystod y pandemig gyda’r ffocws cychwynnol ar graffu ar ymateb y Gwasanaeth Dysgu i’r pandemig Covid 19 a’r trefniadau a roddwyd ar waith yn ystod y cyfnod argyfwng. Mae'r gwaith o fonitro safonau ysgolion unigol wedi'i hen sefydlu, ac mae'n parhau i ddatblygu. Nododd fod diweddariad ar yr Iaith Gymraeg o fewn System Addysg Ynys Môn wedi ei roi gan yr Uwch Reolwr Cynradd i’r Panel. Cyfeiriwyd hefyd at Gynllun Strategol Cymru mewn Addysg sy'n gynllun 10 mlynedd gyda 7 canlyniad a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cadeirydd ymhellach at yr Hunanwerthuso a wnaed o waith y Panel a nodwyd bod gwaith y Panel wedi cael effaith gadarnhaol iawn ac wedi dal ysgolion yn atebol, herio a chynorthwyo yn eu datblygiad a'u gwelliant parhaus. O ran y meysydd i'w datblygu ymhellach, teimlwyd nad oedd dilyniant digonol yn digwydd yn dilyn Aelodau'r Panel yn ymweld ag ysgolion unigol. Awgrymwyd y dylid trefnu ymweliad dilynol oddeutu chwe mis ar ôl yr ymweliad gwreiddiol i weld a oes unrhyw ddatblygiadau neu welliannau wedi'u rhoi ar waith.
Dywedodd y Cadeirydd ymhellach bod adroddiad ar lafar wedi ei gyflwyno i’r Panel ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gan ffocysu ar oblygiadau'r ddeddf yn lleol. Amlinellwyd y prif newidiadau sef bod yr oedran bellach wedi ymestyn o 0-25 oed, a bod cyfnod o 7 wythnos i benderfynu a oes gan unigolyn Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n llawer cynt na gofynion y ddeddf flaenorol. Cyfeiriwyd at y gwaith arloesol sef bod gan y Cyngor system Cynllun Datblygiad Personol, gyda phob ysgol ar yr ynys a mynediad at y system, sy’n golygu fod y data yn gyfredol ac yn fyw. Nodwyd mai Ynys Môn a Gwynedd yw’r unig siroedd yng Nghymru sydd â system o’r fath ac felly’n arwain y ffordd o ran hynny. Nododd y Cadeirydd fod llythyr wedi ei anfon at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryderon fod diffyg Seicolegwyr Cymraeg o Ogledd Cymru yn cael eu hyfforddi ar hyn o bryd, a fydd yn arwain ar ddiffyg staff yn y blynyddoedd i ddod. Ymhellach, derbyniodd y Panel fewnbwn gan ddau Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac fe nodwyd y pwyntiau a godwyd yn ystod eu cyflwyniad o fewn yr adroddiad. Nodwyd y bydd y Panel yn derbyn diweddariadau rheolaidd i fonitro'r cynnydd yn erbyn gofynion y Ddeddf.
Dywedodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod y Panel wedi derbyn adroddiadau pwysig o ran y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Iaith Gymraeg o fewn System Addysg Ynys Môn yn ddiweddar. Dymunodd ddiolch i’r Panel am eu gwaith ond mae blaenoriaethau addysg yn parhau i newid yn enwedig yn ystod y pandemig. Heriodd y Deilydd Portffolio y Panel i ddangos sut y mae wedi datblygu ers ei sefydlu dros 8 mlynedd yn ôl. Ymatebodd y Cadeirydd ei fod yn gyntaf yn ystyried bod y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi perswadio’r Penaethiaid eu bod yn ffrindiau beirniadol yn hytrach na grŵp sydd yno i feirniadu’r addysg o fewn ysgolion. Fodd bynnag, mae bodolaeth y Panel yn profi bod atebolrwydd a strwythur clir o ran adrodd ac mae'n bwysig bod y Panel yn parhau i herio'r ysgolion i wella safonau yn ysgolion yr Ynys.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y prif bwyntiau canlynol:-
· Soniwyd a oes angen adolygu blaenoriaethau'r Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion yn dilyn ei waith i wella’r safonau o fewn ysgolion ac yn enwedig yn ystod y pandemig. Mae'r pandemig wedi codi materion ynghylch anghenion lles disgyblion sy'n gorfod derbyn eu haddysg yn ddigidol gartref. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau ac Ieuenctid ei bod yn hollbwysig fod gwaith y Panel yn parhau i anelu at ragoriaeth o fewn ysgolion. Nododd mai’r flaenoriaeth yw medru fforddio’r addysg orau ar gyfer disgyblion yr Ynys;
· Nodwyd mai'r nod yw gweld ysgolion yr Ynys yn cyflawni rhagoriaeth. Codwyd cwestiynau ynghylch pa weithdrefnau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob ysgol yn Ynys Môn yn cael ei chydnabod gan Estyn fel un sy’n cyrraedd ‘Gwyrdd’ ac nad oes unrhyw ysgol yn cael ei hystyried fel ‘Coch’. Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn cytuno mai'r nod yw gweld ysgolion Ynys Môn yn cyflawni rhagoriaeth ond pwysleisiodd y bydd y diffiniad o ragoriaeth gan Estyn yn golygu bod angen i'r Cyngor ddangos y bydd yn gallu arwain siroedd eraill;
· Nodwyd bod y Panel wedi ystyried bod llesiant y disgyblion yn hollbwysig ac yn enwedig bod angen gwrando ar ‘lais y plentyn’;
· Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd y Gwasanaeth Addysg yn cael ymweliad gan Estyn yn y dyfodol agos ac fe gwestiynodd a fydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion yn cael ei ystyried yn arweinydd sector o ran rhagoriaeth mewn ysgolion. Mynegodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y gwasanaethau addysg yn anelu at gyrraedd rhagoriaeth o fewn ysgolion Ynys Môn. Nododd fod cynrychiolwyr Estyn wedi cwrdd â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion i drafod y gwaith a gyflawnwyd o ran gwella ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ymhellach ei bod yn hanfodol fod rhaglen waith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion yn parhau. Nododd fod angen ailddechrau'r ymweliadau â'r ysgolion i adolygu'r gwaith a gyflawnir yn yr ysgolion ac i adrodd yn ôl i'r Panel ar feysydd gwaith penodol y mae angen mynd i'r afael â hwy;
· Cyfeiriwyd hefyd at Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sy'n gynllun 10 mlynedd gyda 7 canlyniad a amlinellwyd yn yr adroddiad. Codwyd cwestiynau ynghylch a oedd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion i dderbyn adroddiad cynnydd ar y canlyniadau o ran y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Ymatebodd y Cadeirydd y bydd canlyniadau’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael eu trafod mewn cyfarfod o'r Panel yn y dyfodol;
· Nodwyd bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar addysg ac yn enwedig ar ddisgyblion ym Mlynyddoedd 10, 11, 12 a 13 gydag addysg TGAU a Lefel A wedi ei effeithio. Mynegwyd ei bod yn hanfodol mesur lefelau addysg disgyblion a bod disgyblion yn cael cefnogaeth mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion yn eu haddysg a sicrhau eu bod yn llwyddo yn eu harholiadau os ydynt am ddigwydd yr haf nesaf.
PENDERFYNWYD nodi’r:-
· Cynnydd hyd yn hyn o ran y gwaith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion o ran cyflawni ei raglen waith sy'n cynnwys herio perfformiad ysgolion unigol;
· Meysydd gwaith y rhoddwyd sylw iddynt drwy’r trefniadau newydd a wnaed o ganlyniad i’r pandemig Covid-19;
· Cadernid gwaith monitro'r Panel hyd yma.
GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: