Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol - Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Archwilio Allanol ar ganlyniad asesiad o gynaliadwyedd ariannol Cyngor Sir Ynys Môn i'r Pwyllgor ei ystyried. Cynhaliwyd yr asesiad gan fod cynaliadwyedd ariannol yn parhau i fod yn risg i gynghorau roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau. Roedd asesiad 2020/21 yr Archwiliad Allanol ar gynaliadwyedd ariannol cynghorau mewn dau gam: Roedd Cam 1 yn asesiad sylfaenol o effaith gychwynnol Covid-19 ar sefyllfa ariannol cynghorau lleol ac yn dilyn hynny cyhoeddwyd adroddiad cryno cenedlaethol ynghylch cynaliadwyedd ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i bandemig Covid 19. Mae'r adroddiad uchod yn cwblhau Cam 2 gwaith asesu cynaliadwyedd ariannol Archwilio Allanol yn ystod 2020/21 fel rhan o'r adroddiad lleol sy'n cael ei lunio ar gyfer pob un o'r 22 prif gyngor yng Nghymru.

 

Dywedodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru fod casgliad yr asesiad yn gyffredinol yn gadarnhaol ond bod nifer o heriau'n parhau. Cyfeiriodd at y prif ganfyddiadau fel a ganlyn –

 

·         Mae gan y Cyngor ddealltwriaeth dda o'i sefyllfa ariannol ac ar hyn o bryd mae'n darparu gwasanaethau o fewn y gyllideb gyffredinol, ond erys sawl her ariannol - mae effaith uniongyrchol Covid19 ar gynaliadwyedd ariannol y Cyngor wedi'i lliniaru gan gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Cyngor yn wynebu tua £6.2 miliwn o wariant ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 a chollir £2.4 miliwn o incwm yn ystod 2020/21. Bydd y Cyngor wedi mynd i £0.1 miliwn o wariant ychwanegol a cholli incwm nad yw wedi'i gwmpasu gan gyllid ychwanegol.

·         Mae cynyddu cyllidebau gwasanaethau a arweinir gan y galw wedi galluogi'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau o fewn y gyllideb gyfan, ond erys sawl her ariannol – mae Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer Tir ac Adeiladau ar gyfer 2015-2020 yn hen ac mae angen ei ddiweddaru. Yn yr un modd â chynghorau eraill yng Nghymru, prin yw'r mynediad sydd gan y Cyngor at gyllid cyfalaf gan leihau ei allu i fuddsoddi cyfalaf;  bydd anawsterau wrth ragweld gydag unrhyw sicrwydd beth fydd lefelau Ariannu Allanol Cyfun yn y dyfodol cyn cyhoeddi'r setliad drafft ym mis Rhagfyr, yn arwain at fwlch cyllido cyfanredol sylweddol yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig

·         Mae strategaeth ariannol y Cyngor wedi adfer y gronfa gyffredinol i lefel darged, ond mae'r Cyngor yn parhau i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso'r gyllideb, nid yw hyn yn gynaliadwy – cynyddodd lefel y Cyngor o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy i £29.7m erbyn diwedd 2020/21 sef 20.6% o gost net gwasanaethau. Defnyddiodd y Cyngor £300,000 o gronfeydd wrth gefn i ariannu cyllideb 2021/22 a oedd yn caniatáu gostyngiad o 0.75% yn y Dreth Gyngor. Nid yw ariannu ymrwymiad sylfaenol o ffynonellau ariannu untro yn gynaliadwy ac mae'n arwain at bwysau ariannu heb eu datrys mewn cyllidebau yn y dyfodol.

·         Mae'r Cyngor wedi darparu gwasanaethau o fewn y gyllideb yn 2019/20 a 2020/21 ar ôl diffygion yn y ddwy flynedd flaenorol

·         Bydd nodi a chyflawni arbedion yn fwy heriol wrth symud ymlaen – cyflawnodd y Cyngor 86% o'r arbedion arfaethedig yng nghyllideb 2019/21 (£2.2m o £2.56m) a 79% o'r arbedion arfaethedig yng nghyllideb 2020/21 (£244k o £307k). Mae Arddangosyn 7 yn dangos arbedion a gynlluniwyd gan y Cyngor yn ystod 2016/17 i 2020/21 yn erbyn arbedion gwirioneddol. Mae arbedion a gynlluniwyd ond nas cyflawnwyd mewn blwyddyn yn ychwanegu at y pwysau i sicrhau arbedion yn y blynyddoedd dilynol.

·         Mae hylifedd y Cyngor ar ôl cyfnod o ddirywiad wedi sefydlogi'n ddiweddar.

·         Mae'r adroddiad yn cynnwys un cynnig ar gyfer gwella mewn perthynas â diweddaru a chymeradwyo Cynllun Rheoli Asedau'r Cyngor.

 

Wrth ymateb i'r adroddiad, croesawodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yr adroddiad fel un a oedd yn gefnogol i drefniadau rheoli ariannol y Cyngor a diolchodd i Archwilio Cymru am y sylwadau a'r dadansoddiad. Cytunodd fod y buddsoddiad ychwanegol y mae'r Cyngor wedi'i wneud mewn gwasanaethau a arweinir gan y galw yn adlewyrchu cyllidebau'r gwasanaethau hynny'n fwy cywir ac yn sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn well â'u hanghenion sy'n golygu bod y cyllidebau hynny bellach yn fwy cadarn. Fodd bynnag, gall y sefyllfa newid yn dibynnu ar lefel y galw yn y dyfodol wrth i'r Cyngor barhau i ddod allan o’r pandemig a allai olygu y bydd yn rhaid adolygu'r cyllidebau hynny. Fel gyda llawer o gynghorau eraill yng Nghymru, mae sefyllfa ariannol Ynys Môn wedi gwella i raddau helaeth oherwydd y cymorth ariannol a roddwyd i ddelio â Covid 19 gan Lywodraeth Cymru mewn blwyddyn eithriadol; fodd bynnag, disgwylir y bydd y galw ar wasanaethau'r Cyngor yn cynyddu o ganlyniad i'r pandemig gan ychwanegu at gostau'r Cyngor. Codwyd hyn fel risg gyda'r Pwyllgor Gwaith a aeth ati i gymeradwyo’r cam o gynyddu isafswm lefel balansau'r Gronfa Gyffredinol i fod yn uwch na'r 5% o feincnod y gyllideb refeniw net i £9m ar gyfer 2021/22 er mwyn lliniaru effaith unrhyw gynnydd sylweddol mewn costau i'r Cyngor a allai arwain at orwario posibl. Cydnabu'r Swyddog Adran 151 y pwynt a wnaed gan Archwilio Allanol, sef nad oedd y Cyngor bob amser yn llwyddo i gyflawni'r arbedion arfaethedig yn llawn; yn unol ag argymhelliad blaenorol gan Archwilio Allanol, mae'r Cyngor yn ystyried gosod targed arbedion yn uwch na’r hyn sydd ei angen i gyflawni cyllideb gytbwys fel bod ganddo warged i ddisgyn yn ôl arno.  Er bod y dyfodol yn parhau i fod yn ansicr, y gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi syniad o beth fydd lefel y cyllid llywodraeth leol dros gyfnod hirdymor yn hytrach na'r drefn bresennol o bennu cyllid blynyddol. O ran unig argymhelliad yr adroddiad, mae diweddaru'r Cynllun Rheoli Asedau mewn golwg gyda gwaith pellach fydd angen ei wneud i sicrhau bod y Cynllun yn cyd-fynd â Strategaeth Gyfalaf y Cyngor.

 

Wrth ystyried cynnwys asesiad Archwilio Allanol, gwnaeth y Pwyllgor y pwyntiau canlynol –

 

·         Wrth nodi bod cyflawni'r holl arbedion a nodwyd o flwyddyn i flwyddyn yn dod yn her gynyddol, yn enwedig os yw gostyngiadau mewn gwasanaethau i'w hosgoi, roedd y Pwyllgor eisiau gwybod a oedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru mewn sefyllfa debyg. Dywedodd Mr Alan Hughes, Archwilio Cymru wrth gadarnhau bod hon yn broblem sy'n wynebu pob awdurdod lleol yng Nghymru a thu hwnt, yn enwedig ar ôl cyfnod hir o lymder, ei fod yn derbyn bod yr amgylchedd ariannol y mae awdurdodau lleol yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd yn heriol iawn.

·         Gan gyfeirio at gyfraniad gofalwyr drwy gydol y pandemig, nododd y Pwyllgor fod codiad cyflog o 3% wedi'i argymell ar gyfer gweithwyr gofal iechyd.  Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r cynnydd tebygol mewn cyflogau i weithwyr y sector gofal a'r goblygiadau posibl o ran costau i'r Cyngor.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod anghenion gofal ar Ynys Môn yn cael eu diwallu mewn dwy ffordd – gan staff gofal y Cyngor ei hun a gan staff yn y sector gofal annibynnol o dan gontract i'r Cyngor. Ar gyfer 2021/22, y cynnig ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu y Cyngor yw codiad cyflog o 1.75%. Nid yw'r Undebau ar hyn o bryd wedi'i dderbyn a thynnwyd sylw at y cynnig uwch a wnaed i weithwyr y sector iechyd a'r angen am degwch rhwng y ddau sector. Gan esbonio bod gan y Cyngor ddau brif gytundeb a ddefnyddir i bennu cyflogau ac amodau – yr un ar gyfer staff addysgu a'r staff eraill nad ydynt yn addysgu, dywedodd y Swyddog Adran 151 nad yw'r Cyngor yn gallu gwahaniaethu rhwng categorïau o weithwyr nad ydynt yn addysgu pan ddaw'n fater o godiadau cyflog, a hefyd, nad yw'n benderfyniad i'r Cyngor yn unig – pennir dyfarniad cyflog staff nad yw'n addysgu drwy gytundeb ledled Cymru a Lloegr. Yn ogystal â hyn, mae dau fesur cyflog, Cyflog Byw Cenedlaethol y Llywodraeth a'r Cyflog Byw Go Iawn a argymhellir gan y Sefydliad Cyflog Byw. Er bod y Cyngor yn talu uwchlaw'r Cyflog Byw Go Iawn, mae darparwyr y sector gofal annibynnol yn gyffredinol yn talu llai na'r Cyflog Byw Go Iawn er mai mater i bob darparwr annibynnol yw pennu cyfraddau cyflog eu staff. Mae galwadau i gydnabod cyfraniad gweithwyr gofal yn ariannol yn ystod y pandemig yn debygol o gael eu gwneud, ac os bydd darparwyr y sector gofal annibynnol yn penderfynu cynyddu eu cyflog i staff hyd at y Cyflog Byw Go Iawn (cynnydd o tua £1 y flwyddyn) a throsglwyddo'r gost i'r Cyngor yn y ffioedd y mae'r Cyngor yn eu talu i ddarparwyr, yna amcangyfrifir y byddai hynny'n golygu cost ychwanegol o tua £750,000 i'r Cyngor. Byddai'r Cyngor yn ei chael yn anodd ei ariannu heb gymorth ychwanegol yn y setliad gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, drwy gynyddu'r Dreth Gyngor o 2%.

 

·         Gan gyfeirio at yr argymhelliad y dylid diweddaru Cynllun Rheoli Asedau'r Cyngor, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o arwyddocâd y Cynllun yng nghyd-destun cynaliadwyedd ariannol y Cyngor. Eglurodd Mr Alan Hughes, Archwilio Cymru y bydd dyheadau'r Cyngor ar gyfer ei asedau yn debygol o fod wedi newid ers ffurfio'r Cynllun Asedau presennol, felly mae ei ddiweddaru yn rhoi cyfle i'r Cyngor ailystyried ei sylfaen asedau a chysylltu'r Cynllun â'i uchelgeisiau yn erbyn yr hyn sy'n fforddiadwy.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod angen i'r Cynllun Asedau nodi rhestr o asedau, cyflwr, addasrwydd ac anghenion buddsoddi cyfredol y Cyngor; mater i'r Pwyllgor Gwaith wedyn yw pennu strategaeth sy'n seiliedig ar faint o'r asedau hynny y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd effeithlon a chost-effeithiol. Efallai nad oes angen yr holl asedau sydd gan y Cyngor i fodloni amcanion y gwasanaeth a hefyd nad yw’n fforddiadwy gwneud hynny o ystyried y cyfyngiadau ar gyllid cyfalaf a chost uchel cynnal a chadw. Mae'r Cynllun Rheoli Asedau, trwy ddarparu trosolwg o'r asedau eiddo cyffredinol a ddelir gan y Cyngor a'u cost, yn bwydo i mewn i'r Strategaeth Gyfalaf sy'n nodi argaeledd adnoddau a'u dyraniad at ddibenion cyfalaf. Cymhlethdod ychwanegol yw targedau lleihau carbon. Bydd angen buddsoddiad sylweddol arnynt a gallai hynny olygu gorfod cael gwared ar asedau na ellir eu haddasu neu eu trawsnewid yn adeiladau carbon niwtral.

 

·         Gan gyfeirio at sylwadau Archwilio Allanol bod defnydd o gronfeydd wrth gefn i helpu i ariannu'r gyllideb refeniw yn anghynaliadwy, roedd y Pwyllgor am wybod a yw system bresennol y Cyngor felly'n risg ac a oes angen ei newid. Cadarnhaodd Mr Alan Hughes, Archwilio Cymru fod y Cyngor wedi defnyddio £300,000 o gronfeydd wrth gefn i ariannu cyllideb 2021/22; dywedodd y byddai hynny wedi bod yn destun mwy o bryder 2 i 3 blynedd yn ôl pan oedd cyllideb y Cyngor wedi gorwario a’i gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy wedi gostwng yn sylweddol. Er nad yw'n bryder uniongyrchol ar hyn o bryd gan nad yw'r ffigur yn uchel, nid yw defnyddio cronfeydd wrth gefn fel hyn yn ddoeth gan y bydd yn rhaid gwneud yr arbediad yn y flwyddyn ganlynol pan gaiff ei ychwanegu at arbedion y flwyddyn honno a thrwy hynny gynyddu'r pwysau ariannol ar y Cyngor.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod Aelodau Etholedig wedi cael gwybod nad yw defnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu'r gyllideb refeniw yn strategaeth gynaliadwy yn y tymor hir. Fodd bynnag, tynnwyd £300,000 o'r cronfeydd wrth gefn i ariannu cyllideb 2021/22 yng nghyd-destun gwell sefyllfa wrth gefn gyffredinol a hefyd gan wybod y byddai arbedion a fyddai'n bodloni'r diffyg o £300k (contract prydau ysgol) ar gael yn 2021/22. Er y bydd y Cyngor yn asesu'r sefyllfa ar gyfer 2022/23, y strategaeth yw na fydd cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn cael eu defnyddio i ariannu'r gyllideb refeniw oni bai nad oes opsiwn arall ar gael. Cynghorir y Pwyllgor Gwaith ar gynnig cyllideb ar gyfer 2022/23 y gellir ei chydbwyso heb orfod troi at ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad Archwilio Allanol ar gynaliadwyedd ariannol Cyngor Sir Ynys Môn a nodi ei gynnwys.

Dogfennau ategol: