Eitem Rhaglen

Ymgynghoriad ar lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail-gartrefi

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi canlyniadau ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar y bwriad i gynyddu premiwm y dreth gyngor ar eiddo a feddiennir o bryd i'w gilydd (ail gartrefi) i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod y pŵer i godi'r premiwm wedi dod i rym ar 1 Ebrill, 2017 a bod y Cyngor wedi gosod y premiwm i ddechrau ar 25%; yn dilyn ymgynghoriad ym mis Chwefror, 2019, penderfynodd y Cyngor gynyddu'r premiwm i'w lefel bresennol o 35% o 1 Ebrill, 2019. Ar 1 Medi, 2021, mae 2,670 o eiddo yn gorfod talu’r premiwm o 35%. Ar hyn o bryd mae 10 awdurdod lleol yng Nghymru gan gynnwys Ynys Môn yn defnyddio'r premiwm, sy'n amrywio o 25% (2 awdurdod), 35% (Ynys Môn), 50% (5 awdurdod) a 100% (2 awdurdod). Er nad yw'r defnydd y dylid ei wneud o'r refeniw a gynhyrchir gan y premiwm wedi'i nodi yn y ddeddfwriaeth, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y bwriedir ei ddefnyddio fel dull o sicrhau bod cartrefi gwag hirdymor yn cael eu hail-ddefnyddio ac i helpu awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a thrwy hynny wella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

 

Yn Rhagfyr 2020 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gynnal ymgynghoriad llawn ar ei fwriad i gynyddu premiwm ail gartrefi i 50%; agorodd yr ymgynghoriad ar 14 Mehefin, 2021 a daeth i ben ar 6 Awst, 2021 a chafwyd cyfanswm o 1,434 o ymatebion. Darperir gwybodaeth am leoliad yr ymatebwyr ac a oeddent yn berchnogion ail gartref, uned hunanarlwyo neu dalwyr y dreth gyngor yn unig yn adran 2 o'r adroddiad (paragraffau 2.3 a 2.4) fel y mae gwybodaeth am y safbwyntiau a fynegwyd ynghylch effaith ail gartrefi ar gymunedau lleol, yr economi lleol a'r Gymraeg (paragraffau 2.5 a 2.6) yn ogystal â lefel y premiwm a ph’un ai y dylid ei gynyddu ai peidio ac os felly i ba lefel y dylid ei godi (paragraffau 2.7 a 2.8). Amlinellir yr ymateb o ran barn pobl ynghylch sut y dylid defnyddio'r incwm o'r premiwm ym mharagraff 2.9. Ceir crynodeb o'r holl bwyntiau cyffredinol a godwyd yn yr ymgynghoriad yn Nhabl 3 yr adroddiad.

 

Roedd y rhan fwyaf o drigolion Ynys Môn a ymatebodd i'r ymgynghoriad o'r farn bod y nifer bresennol o ail gartrefi ar yr Ynys yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol a'r Gymraeg ac i raddau llai, ar yr economi leol. Roeddent hefyd o'r farn bod y nifer uchel o ail gartrefi yn codi prisiau tai ac yn eu gwneud yn anfforddiadwy i bobl leol. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn cefnogi cynnydd yn y premiwm ar ail gartrefi gyda 45% o blaid cynyddu'r premiwm i 100%. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr am weld y Cyngor yn defnyddio unrhyw arian ychwanegol a gynhyrchir i helpu pobl leol i brynu neu rentu eu cartref cyntaf.

 

Mae Adran 3 yr adroddiad yn nodi effaith ariannol cynyddu'r premiwm tra bod adrannau 4 a 5 yn amlinellu'r manteision a'r risgiau cysylltiedig. Bydd codi'r premiwm yn creu incwm ychwanegol i'r Cyngor, ond bydd y lefel yn dibynnu ar sut mae perchnogion ail gartrefi yn ymateb i'r cynnydd. Gall lefel yr incwm ychwanegol a gynhyrchir fod yn is os bydd perchnogion ail gartrefi yn defnyddio'r bylchau presennol er mwyn osgoi talu'r premiwm uwch (mae paragraff 3.8 yn cyfeirio). Mae perygl hefyd y bydd cynnydd sylweddol yn y premiwm yn golygu bod nifer fawr o eiddo'n cael eu hail-ddynodi'n llety hunanarlwyo ac yn destun ardrethi Annomestig yn hytrach na'r Dreth Gyngor (mae paragraff 1.6 yn amlinellu'r broses ar gyfer ail-ddynodi eiddo drwy Asiantaeth y Swyddfa Brisio). Byddai hyn yn arwain at ostyngiad untro yn incwm y Dreth Gyngor yn 2022/23 ond byddai'n cael ei wrthbwyso gan gynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru yn 2023/24 oherwydd sut mae'r dull ariannu'n gweithio (esbonnir hyn ym mharagraff 3.10). At hynny, mae codi'r premiwm yn sylweddol yn caniatáu i'r Cyngor ymateb i sylwadau Llywodraeth Cymru nad yw'r Cyngor yn defnyddio'n llawn y pwerau a roddwyd iddo i fynd i’r afael â’r broblem a byddai’n sbarduno Llywodraeth Cymru i ymateb i gau’r bylchau a newid deddfau a pholisïau cynllunio. Byddai angen mwy o adnoddau gweinyddol pe bai'r premiwm yn cael ei gynyddu i ddelio â mwy o lwyth gwaith a ddeuai yn sgil hynny a hefyd i ganiatáu i fwy o adnoddau gael eu cyfeirio at nodi'r rhai sy'n osgoi talu'r premiwm.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod premiwm Treth y Cyngor, yn ei farn ef, yn arf heb lawer o fin a bod ganddo amheuon gwirioneddol ynghylch ei effeithiolrwydd wrth fynd i'r afael â mater ail gartrefi, yn enwedig gan fod nifer cynyddol o berchnogion ail gartrefi wedi bod yn manteisio ar fylchau presennol i ailddosbarthu eu heiddo fel busnesau nad ydynt yn gorfod talu’r Dreth Gyngor ond sy'n cael rhyddhad o ardrethi busnes hefyd. Credai fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau mwy radical i fynd i'r afael â'r mater mewn ffordd nad yw’n effeithio ar dwristiaeth, sy'n ddiwydiant pwysig a gwerthfawr yn Ynys Môn, ond a fyddai'n atal twf ail gartrefi sy'n cael effaith andwyol ar gymunedau ar yr Ynys ac ar yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, a’i fod yn batrwm sydd hefyd yn cael ei ailadrodd mewn ardaloedd lle nad yw twristiaeth yn amlwg drwy'r holl AirBnbs.  Yn ei farn ef, roedd angen i Lywodraeth Cymru ystyried diwygio rheolau cynllunio neu ganiatáu i awdurdodau cynllunio lleol wneud hynny, fel y byddai'n rhaid i unrhyw un sydd am newid eiddo yn eu perchnogaeth neu a osodir i fod yn gartref gwyliau wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd. Ymhlith yr opsiynau eraill y gellid eu hystyried hefyd fyddai codi trethi ar gartrefi a ddefnyddir fel busnesau neu ar yr incwm a geir, codi TAW ar eiddo a osodir fel cartrefi gwyliau neu gyflwyno treth twristiaeth/cyrchfan yng Nghymru yn yr un modd ag a godir mewn llawer o wledydd eraill. Nid yw'r pŵer a roddir i awdurdodau lleol yng Nghymru i godi premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi yn cael yr effaith a ddymunir o ran lleihau nifer yr ail gartrefi ac nid oes tystiolaeth ar gael ar hyn o bryd i ddangos y byddai codi'r lefel premiwm i 100% yn effeithiol yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hynny sydd wedi dewis gwneud hynny; mae'n debygol y bydd mwy o ail gartrefi'n cael eu newid i fod yn ddefnydd busnes ac yn osgoi talu'r premiwm (a'r Dreth Gyngor) yn gyfan gwbl. Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Gyllid ei fod yn ffafrio ac felly'n argymell dull graddol a fyddai'n gweld lefel y premiwm yn cael ei gynyddu'n raddol fel yr adlewyrchir yn y cynigion yn yr adroddiad. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, gan siarad fel Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, ei fod yntau hefyd yn cefnogi codi premiwm Treth y Cyngor i 50% gyda'r bwriad o'i godi ymhellach i 75% ac i 100% yn y blynyddoedd dilynol. Roedd yn seilio ei sylwadau ar lawer o drafodaethau yr oedd wedi bod yn rhan ohonynt ar y pwnc hwn dros y blynyddoedd. Cymharodd Ynys Môn fel un o chwe awdurdod lleol y gorllewin i'r Brenin Canute oedd yn ceisio atal y llanw, ond yn ofer, wrth iddo droi’n tsunami yn ddiweddar, a mynd rownd mewn cylchoedd yn ceisio dod o hyd i ateb i'r broblem pan fo'r atebion yn nwylo Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd y pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru godi premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi hyd at 100% yn ôl yn 2014 ond ni chafodd y bwlch sy'n caniatáu i berchnogion ail gartrefi ailgynllunio eu heiddo at ddibenion busnes a throsglwyddo i'r system ardrethi busnes ei gau ar yr un pryd. Er i Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru wneud datganiad ar 6 Gorffennaf, 2021 ei bod yn bwriadu cymryd sylw o'r 12 argymhelliad a wnaed gan Dr Simon Brooks yn ei adroddiad ar ail gartrefi gyda "dull tair elfen" a byddai'n cyhoeddi Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg yr hydref hwn, nid yw'r rhain wedi dod i'r amlwg eto. Cododd Cyngor Sir Ynys Môn bremiwm o 25% ar ail gartrefi yn 2017 gan ei godi i 35% yn 2019, ac mae'n un o ddim ond tri awdurdod yng Nghymru sy'n codi premiwm o 100% ar gartrefi gwag. Mae Gwasanaeth Tai'r Cyngor wedi elwa ar y swm o £350k y flwyddyn o'r premiwm sydd wedi helpu i roi grantiau i brynwyr tro cyntaf gyda 37 o geisiadau llwyddiannus y llynedd, a hefyd i gefnogi adnewyddu tai. Roedd hyn yn anad dim wedi dylanwadu ar ei benderfyniad i beidio â chefnogi cynyddu'r premiwm i 100% yn syth gan y gallai hynny annog mwy o berchnogion ail gartref i geisio osgoi ei dalu ac os na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei haddewidion ar gyfer gweithredu, byddai'n gadael y Cyngor heb ddim i syrthio'n ôl arno. Mae prisiau tai yn genedlaethol wedi cynyddu'n sylweddol gan olygu bod prynu cartref allan o gyrraedd llawer o bobl ifanc; felly mae mynd i'r afael â'r mater yn gofyn am bolisi cenedlaethol yn hytrach na chamau tameidiog.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant ei fod yn cefnogi codi lefel y premiwm i 100% i ddechrau oherwydd ei fod yn credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud ac oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i gydnabod mater ail gartrefi fel problem. Er bod hyn wedi'i gydnabod ers hynny ychydig iawn o newid a fu ar y mater ac roedd yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau yn enwedig i atal y weithred o newid dosbarth cartrefi, gydag ail gartrefi’n cael eu hail-ddynodi'n wyliau a'u trosglwyddo i ardrethi busnes sy'n hawlio rhyddhad ardrethi busnes yn y broses. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig nodi bod y cynigion a gyflwynwyd fel rhan o'r adroddiad i'r cyfarfod heddiw yn gyfaddawd sy'n adlewyrchu'r gwahanol safbwyntiau a fynegwyd fel rhan o'r ymgynghoriad.

 

Wrth ddiolch i'r Swyddog am yr adroddiad a'r Aelodau Portffolio am eu safbwyntiau, tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith bod y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn ar adegau blaenorol.

 

  Penderfynwyd –

 

·         Argymell i'r Cyngor gynyddu'r premiwm ar eiddo sydd wedi'u dodrefnu'n sylweddol ond sydd ddim yn cael eu hystyried yn unig neu’n brif breswylfa'r trethdalwr (ail gartrefi) i 50% o 1 Ebrill 2022/23.

·         Rhoi gwybod yn ffurfiol i’r trethdalwyr – trethdalwyr sy’n gorfod talu’r premiwm - o fwriad y Cyngor i gynyddu'r premiwm i 50%, cyn gynted â phosibl. Fel hyn, bydd modd iddynt wneud trefniadau amgen os nad ydynt yn dymuno talu'r premiwm uwch.

 

·         Bod y Pwyllgor Gwaith yn ailddatgan eu bwriad i:

 

·           Gynyddu'r premiwm ar eiddo sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol ond nad yw'n cael ei ystyried yn unig neu'n brif breswylfa'r trethdalwr (ail gartrefi), i 75% o fis Ebrill 2023 a 100% o fis Ebrill 2024;

·           Barhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny y gallant i ganiatau’r Cyngor reoli nifer yr ail gartrefi ar yr Ynys;

·           Barhau i ofyn i Lywodraeth Cymru newid y ddeddfwriaeth bresennol er mwyn sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad treth addas, naill ai drwy’r Dreth Gyngor neu drwy Drethi Busnes.

 

·         Bod cyllid yn cael ei ryddhau o'r incwm ychwanegol a wneir, er mwyn cyflogi dau aelod ychwanegol o staff yn nhîm y Dreth Gyngor o Ionawr 2022 i ymdrin â'r llwyth gwaith cynyddol (apeliadau, adfer ac ati). Bydd y cyllid, hefyd, yn fodd i'r Tîm fod yn fwy rhagweithiol wrth nodi achosion o osgoi treth. Yn seiliedig ar raddfeydd cyflog 2021/22, byddai swm o £65k yn ddigon i dalu cyflogau a'r costau cysylltiedig.

·           Bod y Pwyllgor Gwaith yn penderfynu sut i ddefnyddio'r incwm ychwanegol a bod y cynigion yn cael eu cynnwys yn rhan o gynigion cyllideb refeniw 2022/23, gyda’r mwafrif o’r cyllid ychwanegol yn cael ei gyfeirio at gyllido cynlluniau i helpu pobl leol i brynu cartrefi eu hunain ac i hyrwyddo’r economi leol.

 

Dogfennau ategol: