12.1 – FPL/2021/220 - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn /, Llangefni
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O2kh1UAB/fpl2021220?language=cy
12.2 – FPL/2021/163 – Canolfan Ucheldre, Caergybi
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKxRLUA1/fpl2021163?language=cy
12.3 – LBC/2021/24 – Canolfan Ucheldre, Caergybi
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OLC9KUAX/lbc202124?language=cy
12.4 – FPL/2201/108 - Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKKltUAH/fpl2021108?language=cy
12.5 – FPL/2021/106 – Neuadd, Cemaes
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKHJzUAP/fpl2021106?language=cy
Cofnodion:
12.1 FPL/2021/220 – Cais llawn i gadw’r adeilad parod am gyfnod dros dro hyd at fis Mawrth 2022 i gartrefu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau i’w defnyddio gan ddisgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i’r Cyngor.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais ar gyfer cadw adeilad parod ar y tir tan fis Mawrth 2022 oherwydd bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol helaeth ar do Canolfan Addysg y Bont. Dywedodd y byddai angen dileu Amod 1 yn adroddiad y swyddog gan fod y cais am gyfnod dros dro yn unig.
Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod Amod 1 yn cael ei ddileu.
12.2 FPL/2021/163 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ymestyn yr adeilad rhestredig ynghyd â gwaith tirlunio yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor yn berchen ar ran o’r safle.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cais ar gyfer estyniad ochr i greu siop/cyntedd, codi estyniad cefn er mwyn creu gweithdy celf, stiwdio ddawns, cyfleusterau storio a newid ar gyfer Canolfan Ucheldre, sydd yn adeilad rhestredig, addasu’r gosodiad mewnol ynghyd â dymchwel rhai waliau mewnol a gwneud gwaith tirlunio meddal a chaled. Nododd yr ystyrir na fyddai’r estyniad yn gorbwyso cymeriad neu edrychiad yr adeilad presennol. Nodwyd hefyd y cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig ar 17 Medi 2021 a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 14 Hydref 2021.
Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffiths.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r hawl i’r swyddog weithredu trwy gymeradwyo’r cais yn unol â’r argymhelliad ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.
12.3 LBC/2021/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau, ynghyd ag addasiadau mewnol ac allanol i’r adeilad yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor yn berchen ar ran o’r safle.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cais ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2021/108 – Cais llawn ar gyfer troi’r adeilad allanol yn annedd fforddiadwy ynghyd a’i addasu a’i ymestyn yn Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Siaradwr Cyhoeddus
Dywedodd Mr Rhys Davies, a oedd yn siarad o blaid y cais, fod y cais ar gyfer trosi adeilad allan yn dŷ fforddiadwy gyda dwy ystafell wely ddwbl ac un ystafell wely sengl – ac nad oedd hynny yn ddim mwy nag oedd yn angenrheidiol i ddiwallu anghenion y teulu. Y polisi allweddol yn yr achos hwn yw Polisi TAI 7, ac mae’r polisi hwn yn caniatáu defnyddio hen adeiladau amaethyddol fel tai fforddiadwy. Wedi dweud hynny, ni wneir llawer o ddefnydd o’r agwedd hon o’r polisi – gan mai dewis cyntaf y rhan fwyaf o bobl yw trosi’r math yma o adeilad ar gyfer defnydd masnachol – fel arfer fel unedau gwyliau. Fodd bynnag, mae’r achos hwn yn eithriad, gan mai dewis cyntaf yr ymgeisydd yw creu annedd fforddiadwy ar ei gyfer ef a’i deulu.
Mae’r adroddiad pwyllgor yn cadarnhau bod rhaid ystyried 5 maen prawf o dan Bolisi TAI 7:
Yn gyntaf, rhaid cael tystiolaeth i ddangos nad yw defnydd cyflogaeth o’r adeilad yn hyfyw. Ar ôl gofyn am gyngor cyn cyflwyno cais, cynghorwyd yr ymgeisydd i roi’r adeilad ar y farchnad ar gyfer defnydd masnachol. Yn amlwg nid oedd yr ymgeisydd yn dymuno gwerthu na rhentu’r adeilad fel uned fasnachol nac fel llety gwyliau er mwyn cydymffurfio â’r maen prawf. Cafodd yr adeilad ei roi ar y farchnad i’w rentu am tua blwyddyn a derbyniwyd 9 ymholiad. Serch hynny, nid oedd yr adeilad a’r lleoliad yn addas i unrhyw un yn y diwedd. Y lleoliad oedd y broblem yn hytrach na’r pris. Felly, rydym o’r farn bod y maen prawf cyntaf wedi cael ei fodloni. Mae’r adroddiad pwyllgor yn nodi bod Prif Swyddog Prisio’r Awdurdod wedi adolygu’r wybodaeth farchnata ac iddo ddod i’r casgliad bod y pris rhent o £700 y mis yn ormodol ac yn afrealistig.
Mae’r adroddiad yn gwneud cymhariaeth ag unedau diwydiannol yng Nghaergybi – ond nid oes unrhyw gymhariaeth ag uned sy’n debycach i’r adeilad hwn – yr hen felin ym Mhencraig, Llangefni. Yn yr achos hwnnw, bu’r Cyngor ei hun yn marchnata’r hen adeilad, sydd ag arwynebedd llawr llai, am bris o £7,500 y flwyddyn. Mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno’r wybodaeth hon fel rhan o’r cais ond nid yw adroddiad y swyddog yn cyfeirio at hynny. Felly, ystyrir bod y broses farchnata wedi’i chwblhau mewn modd derbyniol i gydymffurfio â’r polisi.
Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio â’r ail faen prawf, sydd yn hynod o bwysig. Mae o ar y gofrestr Tai Teg – mae o angen tŷ fforddiadwy ac mae angen i’r ymgeisydd fyw’n agosach at deulu sy’n byw yn Fedw Uchaf ei hun, ac y mae angen gofal a chymorth arnynt. Yn amlwg, felly, mae’r ymgeisydd yn cydymffurfio â’r agwedd bwysig hon o’r polisi a chadarnhawyd fod angen tŷ fforddiadwy arno a bod ganddo gysylltiadau lleol priodol â’r ardal.
Mae’r adroddiad yn cadarnhau hefyd bod y cais yn cydymffurfio â maen prawf 3 y polisi ac mae’n cadarnhau bod yr adeilad yn strwythurol gadarn.
Mae maen prawf 4 yn datgan na fydd angen addasiadau helaeth i alluogi’r datblygiad – ac mae’r adroddiad yn datgan na ddylai unrhyw ychwanegiad fod yn ddyhead gan yr ymgeisydd i ychwanegu moethusrwydd. Yn yr achos hwn, bydd tŷ 80 metr2 o faint yn unig yn cael ei greu, sydd yn rhesymol ac yn unol ag anghenion maint tŷ fforddiadwy. Nid oes moethusrwydd yn y cais – dim ond dyhead i greu tŷ a all ddarparu to addas dros ben yr ymgeisydd a’i blant.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais ar gyfer troi adeilad allan yn dŷ fforddiadwy ynghyd ag addasu ac ymestyn. Er bod polisïau cynllunio sy’n cefnogi datblygiadau o’r fath, dywedodd nad yw’r cynnig yn bodloni holl feini prawf y polisi perthnasol – TAI 7. Mae polisi TAI 7 yn ymwneud â throsi adeiladau traddodiadol yng nghefn gwlad agored ar gyfer defnydd preswyl os oes tystiolaeth nad yw defnydd cyflogaeth o’r adeilad yn hyfyw. Mae gwybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos iddo gael ei farchnata ar gyfer defnydd masnachol am rent o £700 y mis am gyfnod o 12 mis. Adolygwyd y wybodaeth farchnata a daethpwyd i’r casgliad, o ystyried lleoliad y safle, cyflwr yr adeilad a diffyg gwasanaethau, bod y pris rhent yn ormodol ac yn afrealistig. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio yr ystyrir hefyd bod yr estyniad arfaethedig yn ormodol ac yn annerbyniol gan y byddai gyfystyr â chynnydd o 74% yn arwynebedd llawr yr adeilad. Yr argymhelliad yw gwrthod y cais gan nad yw’n bodloni’r holl feini prawf angenrheidiol.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, fod y cynnig ar gyfer trosi adeilad allan gan nad yw’r ymgeisydd yn gallu fforddio tŷ ar y farchnad agored gan fod prisiau tai yn yr ardal yn ormodol ac nid ydynt yn fforddiadwy i’r ymgeisydd. Mae’r ymgeisydd yn dymuno byw yn agos at ei fam oedrannus er mwyn ei helpu ar y fferm. Mae’r polisïau cynllunio yn nodi bod rhaid darparu tystiolaeth i ddangos nad yw defnydd cyflogaeth o’r adeilad yn hyfyw. Mae’r ymgeisydd wedi rhoi’r adeilad ar y farchnad ar gyfer defnydd cyflogaeth ond nid yw’r safle mewn lleoliad realistig ar gyfer hynny. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts i’r Pwyllgor gefnogi’r cais gan fod tystiolaeth fod angen i’r ymgeisydd roi cymorth i’w deulu sy’n byw ar y safle.
Holodd y Cynghorydd Vaughan Hughes, fel Aelod Lleol, am sylwadau’r Swyddog bod y cais yn ormodol ac yn foethus o fewn ei gyd-destun. Ychwanegodd fod y cynnig yn cydymffurfio â’r mwyafrif o’r meini prawf cynllunio yn yr achos hwn. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y dylid cyfyngu addasiadau o’r fath i’r hyn sydd yn hollol angenrheidiol yn unig. Yn yr achos hwn, mae’r estyniadau’n darparu ar gyfer ystafelloedd byw ac ystafelloedd gwely ychwanegol. Ystyrir nad yw’r adeilad yn addas i greu annedd heb adeiladu estyniadau helaeth, fel yn achos y cynlluniau a gyflwynwyd.
Dywedodd y Cynghorydd John Griffith ei fod yn ystyried bod rhaid i’r Pwyllgor fod yn gyson wrth gymeradwyo ceisiadau o’r fath, a chyfeiriodd at gais blaenorol a wrthodwyd gan y Pwyllgor yn ardal Llanddaniel oherwydd yr ystyriwyd bod yr estyniadau arfaethedig yn ormodol o ystyried yr adeilad gwreiddiol. Dywedodd y byddai’r cynnig yn arwain at gynnydd o 74% yn arwynebedd llawr yr adeilad.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y swyddog. Eiliwyd y cynnig i wrthod gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
Cynigiodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd ei fod o’r farn y dylid ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun ac oherwydd bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd 8 aelod o blaid y cynnig i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog a phleidleisiodd 2 aelod yn erbyn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi TAI3, nad oes unrhyw ddefnydd cyflogaeth arall i’r adeilad ac nad yw’r addasiadau yn sylweddol.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais.)
12.5 FPL/2021/106 – Cais llawn ar gyfer cadw cwt pren i ddal peiriant gwerthu llefrith (Dosbarth Defnydd A1) ynghyd â llain galed a lle parcio, addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith tirlunio cysylltiedig yn Neuadd, Cemaes
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd A M Jones, Aelod Lleol, am ymweliad safle er mwyn i’r Pwyllgor weld pa mor addas yw’r safle ym mhentref Cemaes.
Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones, Aelod Lleol, y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn gweld y safle. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.
Dogfennau ategol: