Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro'r Cerdyn Sgorio – Chwarter 2, 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Monitro Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2021/22.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol, bod y mwyafrif (70%) o’r dangosyddion perfformiad Iechyd Corfforaethol sy’n cael eu monitro yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau (statws RAG Gwyrdd neu Felyn). Er bod y perfformiad mewn perthynas â phresenoldeb yn y gwaith yn dangos bod 4.09 diwrnod wedi eu colli oherwydd absenoldeb am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn (CALl), a’i fod yn Ambr ar ddiwedd Chwarter 2, mae’r targed a osodwyd ar gyfer y flwyddyn yn fwy heriol a byddai’r perfformiad wedi cael statws gwyrdd oni bai bod y targed wedi cael ei newid. Dywedodd ei fod yn falch o’r perfformiad gan i’r cyfnod fod yn un heriol oherwydd y pandemig. Cyfeiriodd hefyd at y ffigyrau ar gyfer salwch tymor hir sydd wedi gostwng yn ystod y tair blynedd diwethaf. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at Ddangosydd 32 hefyd – Canran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio - sydd yn GOCH gyda pherfformiad o 60.88% yn erbyn targed o 70% ar gyfer y chwarter. Mae’r pandemig yn parhau i gael effaith ar ddeunyddiau sy’n cael eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio ar draws Cymru ac yn ystod Chwarter 1 sefydlwyd Grŵp Llywio i oruchwylio’r materion hyn. Mae’r Grŵp Llywio’n cynnwys cynrychiolwyr o WRAP Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac aelod etholedig o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Ar hyn o bryd, mae’r Grŵp yn dadansoddi’r data sydd ar gael ac yn datblygu opsiynau ar y ffordd orau i gyrraedd y targed o 70% erbyn 2025. Blaenoriaeth gyntaf y Cyngor yw cyrraedd y targed ailgylchu presennol o 64% yn 2021/22.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod yr adroddiad Chwarter 2 yn dangos fod dau o dri dangosydd perfformiad llesiant yr Awdurdod wedi’u cyflawni. Fodd bynnag, bydd mesurau lliniaru a roddwyd ar waith gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, dywedodd yr Is-gadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi trafod Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 ac y mynegwyd pryderon ynghylch y dirywiad ym mherfformiad y ganran o wastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio – yn benodol y gostyngiad yn y tunelli o wastraff gwyrdd a gasglwyd o gymharu â’r un cyfnod yn 2020/21. Mynegodd y Pwyllgor bryder hefyd ynghylch ymatebolrwydd system ffôn y Cyngor a’r oblygiadau i foddhad y cwsmer wrth iddynt gysylltu â’r Cyngor. Cyfeiriodd y Pwyllgor hefyd at alw cynyddol a phwysau yn y Gwasanaethau Plant ar drothwy cyfnod y Gaeaf, ynghyd â risg parhaus y pandemig. Serch hynny, ar ôl ystyried adroddiad y cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 2 2021/22 a’r diweddariadau a roddwyd gan Swyddogion, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dderbyn yr adroddiad, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac argymell y mesurau lliniaru fel y’u hamlinellwyd i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch i staff y Cyngor am eu gwaith parhaus yn ystod cyfnod heriol y pandemig gan fod y dangosyddion perfformiad yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau yng ngwasanaethau’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch2 2021/22, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a nodir yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: