Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/145 - Cais llawn ar gyfer gosod 2 gwt bugail yn Rhosydd, Brynteg

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn ar gais Aelod Lleol.

 

Yn ei gyfarfod ar 1 Medi 2021, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Medi 2021. Yn y cyfarfod ar 6 Hydref 2021, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd bod y cynllun yn ffinio â safle carafanau statig ac na fydd yn cael effaith weledol niweidiol oherwydd ei leoliad rhwng safle carafanau a sied amaethyddol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Margaret Roberts, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, at ei sylwadau yn y cyfarfod blaenorol ynghylch agosatrwydd y cynnig at safle carafanau mawr, ond yn wahanol i’r safle carafanau, ni fyddai’r cytiau bugail i’w gweld o unrhyw olygfannau. Nid oedd yn credu y byddai rhoi caniatâd yn yr achos hwn yn gosod cynsail a fyddai’n arwain at gynnydd mawr mewn ceisiadau o’r fath, neu ganiatáu i bawb roi cwt bugail yn eu gerddi cefn, fel yr awgrymwyd yn y cyfarfod diwethaf. O ystyried nifer y carafanau yn yr ardal, nid yw ychwanegu dau gwt bugail yn debygol o wneud gwahaniaeth, yn enwedig gan eu bod yn llawer llai na’r carafanau drws nesaf. Gofynnodd i’r Pwyllgor lynu at y penderfyniad a wnaethpwyd y mis diwethaf i gymeradwyo’r cais.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio bod y Swyddog yn dal i argymhell gwrthod y cais oherwydd yr ystyrir nad yw’r cynnig yn cyd-fynd â’r diffiniad o ddatblygiad o ansawdd uchel gan ei fod yn ddatblygiad ar ei ben ei hun o fewn cwrtil preswyl, ac felly nid yw’n cydymffurfio â darpariaethau’r cynllun datblygu a fabwysiadwyd nac ystyriaethau perthnasol eraill a nodir yn yr adroddiad. Bydd lleoliad cymharol wledig y safle’n golygu mai cludiant preifat fydd y prif ddull teithio ar ôl i westeion gyrraedd y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ieuan Williams bod y Pwyllgor yn ail-gadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais am y rheswm a nodwyd yn y cyfarfod diwethaf, sef y bernir bod y cais yn cydymffurfio â Pholisi TWR3. Yn ogystal, mae polisi Strategol PS14, sydd yn nodi sut fydd y Cyngor yn cefnogi datblygu diwydiant twristiaeth leol fydd yn fwrlwm trwy gydol y flwyddyn, yn datgan ym mharagraff 3 y bydd hynny’n cynnwys trwy “reoli a gwella’r ddarpariaeth o lety twristiaeth o ansawdd uchel heb wasanaeth ar ffurf bythynnod a fflatiau hunan arlwyo, meysydd gwersylla, gwersylla moethus amgen [a fyddai’n cynnwys cytiau bugail], carafanau sefydlog neu deithiol neu barciau sialé”. Roedd yn credu felly bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi ac, gan ei fod wedi ei leoli mewn ardal lle mae yna nifer o barciau carafanau, nid yw’r datblygiad yn anaddas nac yn anghyson. Eiliwyd y cynnig i ail-gadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd ailgadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd ac i awdurdodi Swyddogion i osod amodau priodol ar y caniatâd.

 

7.2 FPL/2021/106 – Cais llawn ar gyfer cadw cwt pren i gynnwys peiriant gwerthu llefrith (Dosbarth Defnydd A1) ynghyd â llain galed a man parcio, addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau a thirlunio cysylltiedig ar dir yn Neuadd, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. Cynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 20 Hydref 2021.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Bu i Mr Gareth Jones, yr ymgeisydd, annerch y Pwyllgor a chyfeiriodd at rai pryderon a oedd wedi codi ynghylch y datblygiad. Yn gyntaf, bod lleoliad y cwt wedi cael ei symud ers gwneud y cais gwreiddiol. Pan ddechreuwyd ar y gwaith cloddio, canfuwyd pibell dwy droedfedd o ddiamedr a oedd yn cario dŵr tir o’r gors yr ochr arall i’r lôn am gyfeiriad y môr. Felly, penderfynwyd troi’r cwt 90 gradd a’i symud ychydig am gyfeiriad top y cae ac felly’n glir o’r bibell. Yr ail bwynt oedd nad oedd y cwt wedi’i leoli ar fferm yr ymgeisydd; mae’r safle yn Neuadd yn llawer mwy canolog gan ei fod ger yr A5025, ac yn agos i lwybr cerdded, arhosfan bws a rhan o lwybr beicio cylchol. Dangosodd holiadur a rannwyd â’r gymuned leol ym mis Rhagfyr bod nifer yn bryderus ynghylch gyrru ar y lôn gul i Nant y Frân, a pha un bynnag, byddai traffig ychwanegol ar y lôn honno’n creu mwy o lygredd yn ogystal â chreu problemau pasio, gan fod y lôn mor gul. Ar ddiwedd y dydd, mae’r ymgeisydd yn dal tir gan deulu Neuadd, yn yr un ffordd ac y mae Nant y Frân yn ddarn o dir rhent yn ogystal â fferm Carrog Ganol, lle mae’r ymgeisydd a’i deulu’n byw. Ni fyddai sefydlu’r fenter fel siop yng Nghemaes wedi bod yn briodol oherwydd problemau parcio ar y stryd gan fod rhaid llwytho a dadlwytho cynnyrch sawl gwaith y dydd. Yn ogystal, mae cwsmeriaid wedi dweud yn gyson bod prynu llefrith yn syth o’r fferm yn rhan o’r profiad ac na fyddai prynu llefrith o siop yn creu’r un diddordeb na’r pleser o gefnogi’r fferm. Mae a wnelo’r pryder olaf â’r AHNE. Mae’r cwt wedi’i leoli dafliad carreg oddi wrth yr AHNE gerllaw’r A5025; prin y gellir gweld y cwt o unman ac mae wedi cael ei gysgodi o ochr y briffordd gan goed. Yr unig oleuadau ar y cwt yw dau olau stribyn ar y tu mewn.

 

Ers cychwyn y fenter, mae cefnogaeth y gymuned leol wedi bod yn anhygoel; ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad ac mae 3,300 o bobl wedi llofnodi deiseb o’i blaid ac mae sawl un arall wedi anfon llythyrau o gefnogaeth at y Cyngor. Bydd y fenter yn caniatáu i’r busnes wynebu’r heriau economaidd y mae ffermwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae’r fferm yn cynnal dau deulu ac yn cyflogi 7 person Cymraeg lleol, a’r gobaith yw y gellir cyflogi aelod arall o staff i helpu gyda’r busnes llefrith ffres. Mae’r arian a wariwyd ar y fenter wedi cefnogi nifer o fusnesau lleol.

 

Wrth ofyn cwestiynau i Mr Gareth Jones, gofynnodd y Pwyllgor pam fod y cwt wedi cael ei godi a’r fenter wedi cychwyn heb ganiatâd cynllunio, ac a oedd unrhyw fwriad neu gyfle i ehangu’r cwt. Gofynnwyd cwestiwn hefyd am basteureiddio’r llefrith a graddfeydd hylendid bwyd. Eglurodd Mr Gareth Jones, ar ôl cyflwyno cais ddechrau’r haf, nad oedd eisiau colli’r misoedd gorau ar gyfer gwerthu yn enwedig gan iddi fod yn flwyddyn mor anodd a’i fod yn awyddus i fanteisio ar yr haf a’r ymwelwyr yn yr ardal er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’r busnes lwyddo. Mewn perthynas ag ehangu, dywedodd Mr Jones ei fod yn fodlon â’r cwt ar ei ffurf bresennol ac na fyddai’n ychwanegu ato. Cadarnhaodd Mr Jones hefyd fod y llefrith yn cael ei basteureiddio ac y sefydlwyd llaethdy bach a chyfarpar ar y fferm i wneud hynny. Mae Iechyd yr Amgylchedd wedi archwilio’r cwt sawl gwaith a rhoddwyd gradd 5 seren iddo sy’n golygu bod safonau hylendid yn dda iawn.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais yn un ôl-weithredol, a bod y cwt wedi cael ei godi’n barod. Argymhelliad y Swyddog yw gwrthod y cais a’r rheswm am hynny yw mai cais i greu siop yng nghefn gwlad ydyw yn ei hanfod; nid yw wedi’i leoli ar y fferm ac felly nid ystyrir ei fod yn elfen is-raddol o fusnes sy’n bodoli’n barod, ac nid yw’n cael ei ystyried yn gynllun arallgyfeirio traddodiadol chwaith gan y disgwylir i gynllun o’r fath gael ei redeg o’r fferm ei hun. Deallir hefyd bod bwriad i werthu cynnyrch/nwyddau eraill o’r cwt ac felly mae Swyddogion yn pryderu ynghylch sut fyddai’r uned fanwerthu hon yn cael ei rheoli. Nid yw safle’r cais yn bell o Gemaes ac yn unol â pholisïau sy’n ceisio cynnal bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi, mae Swyddogion o’r farn y byddai’n fwy priodol lleoli’r cynnig yn y pentref. Mae effaith y datblygiad ar yr AHNE yn reswm dros argymell gwrthod y cais hefyd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol, o blaid y cais ar gyfer cadw cwt bach sydd wedi’i leoli’n daclus ac yn briodol yn ei leoliad. Mae’r fenter gan deulu lleol sy’n dymuno arallgyfeirio yn darparu gwasanaeth y mae digon o dystiolaeth bod angen amdano gan fod llawer iawn o gefnogaeth iddo’n lleol ac mae’n ymwneud â darparu llefrith o’r safon uchaf. Bydd y busnes yn helpu i gynnal y teulu a bydd yn creu swydd ychwanegol. Gofynnodd i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones nad oedd o’n bersonol yn credu y byddai’n cynnig yn gwneud niwed sylweddol i’r ardal, o ystyried ei leoliad a’i faint. Mewn perthynas â pholisi, roedd yn credu bod cyfiawnhad dros y datblygiad o dan baragraff 4 Polisi PS13 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) sy’n datgan y bydd Cynghorau’n hwyluso twf economaidd trwy “gefnogi ffyniant economaidd a chynaladwyedd cymunedau gwledig trwy hwyluso twf ar raddfa briodol mewn mentrau gwledig, ymestyn busnesau sy’n bodolio’n barod, ac arallgyfeirio... a thrwy annog darparu safleoedd a thir ac adeiladau mewn lleoliadau hygyrch priodol”, ac ar y sail honno cynigiodd bod y cais yn cael ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kenneth Hughes at y cyfeiriad yn adroddiad y Swyddog at ganllawiau LANDMAP sy’n manylu ar nodweddion y dirwedd yn yr ardal, gan gynnwys y nodweddion hynny sy’n amharu ar uniondeb y dirwedd, sef byngalos a llety gwyliau ym Mhorth Llechog, cwrs golff gerllaw, yn ogystal â chipolygon o orsaf bŵer Wylfa. Mae’r adroddiad yn datgan bod y safle, er gwaethaf ei agosatrwydd at yr A5025, yn arddangos nodweddion nodweddiadol y disgrifiad LANDMAP a chymeriad lleol yr AHNE. Dywedodd y Cynghorydd Hughes nad yw LANDMAP yn ddogfen statudol, ac oherwydd yr elfennau negyddol a restrwyd (a dywedodd ei fod o’r farn hefyd y dylid ychwanegu melinau gwynt at y rhestr hefyd), nid oedd yn credu y byddai cwt pren bychan yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl. Mae ei raddfa a’i ddyluniad yn briodol ar gyfer y lleoliad ac o’r herwydd nid yw’n cael effaith niweidiol ar edrychiad a chymeriad yr ardal. Dywedodd bod nifer y llythyrau a dderbyniwyd a nifer y llofnodion ar y ddeiseb yn dystiolaeth gref o’r angen am y datblygiad mewn lleoliad diogel, hawdd ei ddefnyddio nad yw’n cael unrhyw effaith ar fwynderau pobl eraill. Wrth eilio’r cynnig i ganiatáu’r cais, dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor gefnogi busnes lleol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith bod cynigion o’r fath, pan fyddant yn rhan o fusnes fferm sy’n bodoli’n barod, yn destun cytundeb cyfreithiol yn aml iawn; gan fod y cwt arfaethedig yn eiddo ar les, gofynnodd a fyddai’n bosib gwneud cytundeb cyfreithiol i sicrhau bod unrhyw ganiatâd cynllunio yn bodoli tra pery’r les yn unig.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol mewn perthynas â chytundeb Adran 106, y byddai’n rhaid i bob parti sydd â diddordeb cyfreithiol yn y tir, gan gynnwys y rhydd-ddeiliad, lofnodi’r cytundeb. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, efallai y byddai caniatâd personol yn ffordd well o ymateb i’r cwestiwn a godwyd, os yw’r Pwyllgor yn barnu bod hynny’n briodol. Wrth roi eglurhad pellach, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai’r caniatâd, o dan y fath amgylchiadau, yn cael ei roi i’r ymgeisydd, yn hytrach na’r tir, fel sy’n digwydd fel arfer, ac efallai y byddai hynny’n briodol os yw’r Pwyllgor yn penderfynu caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y byddai cyfyngu’r caniatâd yn y modd hwn yn rhoi sicrwydd i’r pwyllgor ac/neu’n sicrhau bod y datblygiad yn bodoli er budd yr ymgeisydd yn unig ac y byddai’n rhaid i unrhyw berson newydd a fyddai’n dymuno parhau â defnydd arfaethedig y cwt ailymgeisio am ganiatâd. Fel yr un a gynigiodd caniatáu’r cais, cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ei fod yn hapus i dderbyn y gwelliant.

 

Wrth ddangos eu cefnogaeth i’r cynnig a’r fenter, mynegodd rhai aelodau o’r Pwyllgor eu siom bod hwn yn enghraifft arall o gais ôl-weithredol a bod y cwt wedi cael ei godi heb dderbyn caniatâd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a ganlyn –

 

·         Fel menter wledig sy’n cyfrannu at ffyniant a hyfywedd economaidd y gymuned;

·         Gan nad ystyrir y bydd y datblygiad yn cael effaith rhy niweidiol ar yr AHNE;

·         Ar yr amod bod unrhyw ganiatâd a roddir yn cyfyngu defnydd o’r cwt i’r ymgeisydd yn unig.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a nodwyd dros gymeradwyo’r cais)

 

7.3 FPL/2021/108 – Cais llawn ar gyfer trosi adeilad allan yn annedd fforddiadwy ynghyd ag addasiadau ac estyniadau yn Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd y barnwyd ei fod yn cydymffurfio â Pholisi TAI7; ni ddangoswyd bod unrhyw ddefnydd cyflogaeth arall i’r adeilad ac oherwydd nad ystyriwyd bod yr addasiadau’n rhai helaeth.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan asiant yr ymgeisydd y bore hwnnw wedi cael ei rannu ag Aelodau. Mae’n parhau’r drafodaeth ynghylch sut y cafodd yr adeilad ei farchnata ar gyfer defnydd masnachol a maint yr addasiadau ac estyniadau arfaethedig, sef materion y cafwyd trafodaeth helaeth yn eu cylch yn ystod cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Digon yw dweud bod gwahaniaeth barn rhwng Swyddogion ac Aelodau ynghylch y pwyntiau hyn. Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i’r rhesymau a roddwyd gan y pwyllgor dros gymeradwyo’r cais ac, os cadarnheir y penderfyniad hwnnw, bydd angen mecanwaith i sicrhau bod yr annedd yn parhau’n annedd fforddiadwy am byth. Trafodwyd y mater hwn gydag asiant yr ymgeisydd y bore hwn ac mae’r ymgeisydd yn derbyn bod angen cytundeb cyfreithiol ar gyfer hynny. Felly, os yw’r Pwyllgor â’i fryd ar gadarnhau cymeradwyo’r cais, argymhellir bod hynny’n amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 i sicrhau bod yr annedd yn parhau’n annedd fforddiadwy am byth. Erys argymhelliad y Swyddog yn un o wrthod.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith ei fod yn barod i wrthod y cais yn y cyfarfod fis diwethaf oherwydd maint yr estyniadau gan y dywedwyd y byddent yn cynyddu arwynebedd llawr yr adeilad gan 74%. Ar ôl derbyn y diweddariad gan asiant yr ymgeisydd yn datgan bod y cynnydd yn yr arwynebedd llawr yn llawer llai, roedd yn dymuno cael gwybod a oedd Swyddogion yn dal o’r farn bod yr addasiadau a’r estyniadau’n ormodol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio bod mwy nag un ffordd o fesur arwynebedd llawr, yn dibynnu, er enghraifft, a roddir ystyriaeth i strwythurau sy’n bodoli’n barod ond a fydd yn cael eu dymchwel. Fodd bynnag, er nad yw’r polisi’n diffinio beth sy’n dderbyniol o ran maint, o ran egwyddor, barn y Swyddog yw bod yr estyniadau a’r addasiadau arfaethedig yn ormodol. Mae’n fater sy’n agored i ddehongliad ac mae gan asiant yr ymgeisydd farn wahanol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE, ei fod yn siomedig bod gwybodaeth ychwanegol wedi cael ei gyflwyno ychydig o oriau yn unig cyn i’r cyfarfod ddechrau.

 

Ategodd y Cynghorydd Margaret Roberts, Aelod Lleol, ei sylwadau i’r Pwyllgor wrth gefnogi’r cais fis diwethaf, sef bod yr ymgeisydd yn dymuno symud yn agosach at berthnasau er mwyn darparu cymorth a gofal i’w fam a dyma’r unig ffordd y gall wneud hynny gan nad yw tai marchnad agored yn yr ardal yn fforddiadwy. Dywedodd bod dyletswydd ar aelodau i gynorthwyo pobl leol ac na ddylai biwrocratiaeth atal cymorth rhag cael ei ddarparu lle mae angen amdano. Mae asiant yr ymgeisydd wedi darparu atebion ynghylch graddfa a maint y cynnig ac mae o wedi herio mesuriadau’r Swyddog. Roedd yn teimlo bod y penderfyniad cywir wedi cael ei wneud y mis diwethaf a gofynnodd i’r Pwyllgor lynu ato.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y Pwyllgor yn ail-gadarnhau ei benderfyniad i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar gytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr annedd yn parhau i fod yn eiddo fforddiadwy am byth.

 

Penderfynwyd ailgadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd ac i awdurdodi Swyddogion i osod amodau cynllunio priodol ar y caniatâd ac i gwblhau cytundeb adran 106 i sicrhau bod yr annedd yn parhau i fod yn eiddo fforddiadwy am byth.

 

Dogfennau ategol: